Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2018

Chwythuʼr chwiban

40.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.

(2Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau syʼn ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau—

(a)yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).