xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 9Gofynion eraill ar ddarparwyr awdurdod lleol

Cofnodion mewn cysylltiad â gwasanaethau maethu

37.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gynnal y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 am 15 mlynedd.

(2Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)sicrhau bod y cofnodion a bennir yn Atodlen 2 yn gywir ac yn gyfredol,

(b)cadw’r cofnodion yn ddiogel,

(c)gwneud trefniadau addas er mwyn iʼr cofnodion barhau i gael eu cadwʼn ddiogel os bydd y gwasanaeth yn cau,

(d)rhoiʼr cofnodion ar gael i Weinidogion Cymru ar gais,

(e)sicrhau bod plant syʼn defnyddioʼr gwasanaeth—

(i)yn cael eu gwneud yn ymwybodol oʼu hawliau i gael mynediad iʼw cofnodion, a

(ii)yn cael mynediad iʼw cofnodion fel y mae’r gyfraith yn ei ganiatáu.

Gwrthdaro buddiannau

38.  Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael trefniadau effeithiol yn eu lle i nodi, cofnodi a rheoli achosion o wrthdaro buddiannau posibl.

Polisi a gweithdrefnau cwyno

39.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol gael polisi cwyno yn ei le a sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei weithredu yn unol âʼr polisi hwnnw.

(2Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran plant sydd wedi eu lleoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr,

(b)rhieni maeth, ac

(c)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(3Rhaid i’r polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir i’r darparwr awdurdod lleol gan neu ar ran unrhyw blant eraill y gall y lleoliad a wneir effeithio arnynt ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(4Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni maeth ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(5Rhaid iʼr polisi cwyno gynnwys gweithdrefnau ar gyfer ystyried cwynion a wneir iʼr darparwr awdurdod lleol gan rieni unrhyw blentyn sydd wedi ei leoli gan y darparwr ynghylch—

(a)y darparwr, a

(b)unrhyw fater arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn berthnasol.

(6Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol roi trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer ymdrin â chwynion gan gynnwys trefniadau ar gyfer—

(a)nodi cwynion ac ymchwilio iddynt,

(b)sicrhau bod camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)cadw cofnodion syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).

(7Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol ddarparu crynodeb o gwynion, ymatebion ac unrhyw gamau gweithredu dilynol a gymerir i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.

(8Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol—

(a)dadansoddi gwybodaeth syʼn ymwneud â chwynion a phryderon, a

(b)gan roi sylw iʼr dadansoddiad hwnnw, nodi unrhyw feysydd iʼw gwella.

Chwythuʼr chwiban

40.—(1Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod pob person syʼn gweithio yn y gwasanaeth (gan gynnwys unrhyw berson y caniateir iddo weithio fel gwirfoddolwr) yn gallu codi pryderon am y gwasanaeth.

(2Rhaid iʼr trefniadau hyn gynnwys—

(a)cael polisi chwythuʼr chwiban yn ei le a gweithredu yn unol âʼr polisi hwnnw, a

(b)sefydlu trefniadau i alluogi a chefnogi pobl syʼn gweithio yn y gwasanaeth i godi pryderon oʼr fath.

(3Rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau bod y trefniadau syʼn ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cael eu gweithreduʼn effeithiol.

(4Pan godir pryder, rhaid iʼr darparwr awdurdod lleol sicrhau—

(a)yr ymchwilir iʼr pryder,

(b)y cymerir camau priodol yn dilyn ymchwiliad, ac

(c)y cedwir cofnod syʼn ymwneud âʼr materion yn is-baragraffau (a) a (b).