Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1192 (Cy. 243)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018

Gwnaed

15 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

20 Tachwedd 2018

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 143(1) a 146(6) o’r Ddeddf honno, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2018.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Rhagfyr 2018 ond mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2019.

(3Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Orchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017

2.  Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

3.  Yn lle erthygl 5 rhodder—

5.  At ddibenion adran 43(4B)(b)(i) o Ddeddf 1988, y swm a ragnodir ar gyfer hereditament yw—

(a)£12,000, neu

(b)£100,000 pan fodlonir yr amodau gofal plant yn erthygl 8.

4.  Yn erthygl 8(d), yn lle “£20,500” rhodder “£100,000”.

5.  Yn erthygl 11—

(a)ym mharagraff (2), yn lle’r tabl rhodder—

Tabl

(1)

Erthygl

(2)

Gwerth Ardrethol

(£)

(3)

Swm E

7 (gwerth ardrethol)0 i 6,0005,000,000
7 (gwerth ardrethol)6,001 i 12,000Cyfrifir yn unol â pharagraff (3) o’r erthygl hon
8 (gofal plant)0 i 100,0005,000,000
9 (swyddfa bost)0 i 9,0005,000,000
9 (swyddfa bost)9,001 i 12,0002

(b)hepgorer paragraff (4).

Mark Drakeford

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, un o Weinidogion Cymru

15 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n cael ei wneud o dan adrannau 43(4B)(b) a 44(9)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”), yn diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229 (Cy. 293)) (“Gorchymyn 2017”). Mae Gorchymyn 2017 yn darparu ar gyfer cynllun rhyddhad ardrethi annomestig (“y cynllun”) sy’n gymwys i gategorïau penodol o hereditamentau.

Effaith y diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau (“yr amodau gofal plant”) a nodir yn erthygl 8 o Orchymyn 2017 rhag talu ardrethi annomestig.

Caiff erthygl 5 o Orchymyn 2017 ei diwygio er mwyn cynyddu uchafswm y gwerth ardrethol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant i £100,000. Golyga hyn bod pob hereditament sydd â gwerth ardrethol o £100,000 neu lai, sy’n bodloni’r amodau gofal plant, yn gymwys ar gyfer rhyddhad o dan y cynllun. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn cadw uchafswm presennol y gwerth ardrethol (o £12,000) mewn perthynas â hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gwerth ardrethol yn erthygl 7 a’r amodau swyddfa bost yn erthygl 9.

Caiff Gweinidogion Cymru ragnodi E at ddibenion Deddf 1988. Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio E i 5,000,000 ar gyfer pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant. Effaith hyn, pan gaiff ei fewnosod yn y fformiwla o fewn adran 43(4A)(b) o Ddeddf 1988, yw eithrio pob hereditament sy’n bodloni’r amodau gofal plant rhag talu ardrethi annomestig. Mae erthygl 11(4) o Orchymyn 2017 wedi ei hepgor, sy’n cael yr effaith o ddileu’r cynllun rhyddhad wedi ei dapro blaenorol ar gyfer hereditamentau sy’n bodloni’r amodau gofal plant.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1988 p. 41. Mewnosodwyd is-adran (4B) o adran 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 61(1) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Mewnosodwyd is-adran (9)(b) o adran 44 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan adran 61(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672, erthygl 2, Atodlen 1). Breiniwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yng Ngweinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill