Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1152 (Cy. 234)

Anifeiliaid, Cymru

Iechyd Anifeiliaid

Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018

Gwnaed

6 Tachwedd 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Tachwedd 20181 Rhagfyr 2018

Coming into force

1st December 2018

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli’r cyfeiriadau at ddarpariaethau offerynnau’r UE yn y Rheoliadau hyn fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2018.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Rhagfyr 2018.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Rheoliad Bridio Anifeiliaid” yw Rheoliad (EU) 2016/1012(4) Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb, ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 652/2014, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC a 90/425/EEC ac yn diddymu actau penodol ym maes bridio anifeiliaid.

(2Mae i ymadroddion nad ydynt wedi eu diffinio yn y Rheoliadau hyn ac y mae’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn digwydd yn y Rheoliad Bridio Anifeiliaid yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd gan yr ymadroddion Saesneg cyfatebol at ddibenion y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.

Yr awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys at ddibenion y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.

Gorfodi

4.  Gorfodir y Rheoliad Bridio Anifeiliaid gan yr awdurdod cymwys.

Hysbysiadau

5.—(1Caniateir i unrhyw hysbysiad sydd i’w gyflwyno o dan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid gael ei anfon at y gweithredwr—

(a)drwy’r post; neu

(b)yn electronig,

i’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad electronig a ddarperir gan y gweithredwr i’r awdurdod cymwys.

(2Os anfonir yr hysbysiad yn electronig at y gweithredwr, nid yw ond i’w drin fel pe bai wedi cael ei roi—

(a)os yw’r gweithredwr wedi mynegi i’r awdurdod cymwys ei barodrwydd i gael hysbysiad drwy gyfrwng electronig a’i fod wedi darparu cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw; a

(b)os anfonwyd yr hysbysiad i’r cyfeiriad hwnnw.

Rhwymedigaeth i hysbysu’r awdurdod cymwys am newid i fanylion cyswllt

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo manylion cyswllt gweithredwr yn newid.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r gweithredwr hysbysu’r awdurdod cymwys fod ei fanylion cyswllt wedi newid yn ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl y newid, a bydd y cyfnod hwnnw o 10 diwrnod yn dechrau â’r diwrnod y mae’r newid yn digwydd.

(3Rhaid i hysbysiad a roddir o dan y rheoliad hwn gael ei anfon i’r awdurdod cymwys yn y cyfeiriad penodedig.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfeiriad penodedig” yw’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad electronig a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion y rheoliad hwn.

Cosbau

7.  Pan fo gweithredwr yn torri rhwymedigaeth o dan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid neu o dan y Rheoliadau hyn, bydd yr awdurdod cymwys yn ymdrin â’r toriad hwnnw yn unol â’r darpariaethau yn Erthygl 47 o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid.

Adolygiad mewn cysylltiad â phenderfyniad a wnaed o dan Erthygl 47 o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid

8.—(1Pan fo’r awdurdod cymwys wedi rhoi hysbysiad i gymdeithas y brid neu weithrediad bridio o dan Erthygl 47(2)(a) o’r Rheoliad Bridio Anifeiliaid mewn cysylltiad â phenderfyniad i dynnu yn ôl gydnabyddiaeth cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio a roddwyd yn unol ag Erthygl 4(3) o’r Rheoliad hwnnw, caiff cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio hwnnw wneud cais i’r awdurdod cymwys ailystyried y penderfyniad a roddwyd yn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i gais o dan baragraff (1)—

(a)cael ei wneud gan gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad perthnasol; a

(b)nodi’r rhesymau dros wneud y cais a chael ei gyflwyno gyda’r dystiolaeth honno y mae cymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio yn credu ei bod yn ategu’r rhesymau hynny.

(3Caiff yr awdurdod cymwys ofyn am dystiolaeth gan gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio i ategu’r cais.

(4Rhaid i’r awdurdod cymwys, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—

(a)ystyried y cais a gwneud penderfyniad mewn cysylltiad ag ef;

(b)rhoi hysbysiad ysgrifenedig i gymdeithas y brid neu’r gweithrediad bridio yn nodi a yw’r penderfyniad wedi ei gadarnhau neu ei wrthdroi; ac

(c)os caiff y penderfyniad ei wrthdroi, cymryd y camau priodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad a gafodd ei wrthdroi.

(5Nid yw argaeledd adolygiad o dan y rheoliad hwn yn atal hysbysiad a ddisgrifir ym mharagraff (1) rhag cael effaith yn syth ar ôl ei gyflwyno.

Diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011

9.—(1Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 15(1) (gweithdrefn wrth fewnforio), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ch)y gwiriadau sy’n ofynnol gan Erthygl 37(1) o Reoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb, ac sy’n diwygio Rheoliad (EU) Rhif 652/2014, Cyfarwyddebau’r Cyngor 89/608/EEC a 90/425/EEC ac yn diddymu actau penodol ym maes bridio anifeiliaid.

(3Yn Atodlen 1 (Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd), ar y diwedd mewnosoder—

Rheoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 8 Mehefin 2016 ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r UndebAnifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol.

Dirymiadau

10.  Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006(6); a

(b)Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015(7).

Lesley Griffiths

Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

6 Tachwedd 2018

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu at Reoliad (EU) 2016/1012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar amodau sootechnegol ac achyddol ar gyfer bridio a masnachu anifeiliaid bridio o frid pur, moch bridio hybrid a’u cynhyrchion cenhedlol, a dod â hwy i’r Undeb, (“y Rheoliad Bridio Anifeiliaid”) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ei orfodi.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Ceffylau (Safonau Sootechnegol) (Cymru) 2006 a Rheoliadau Safonau Sootechnegol (Cymru) 2015. Maent hefyd yn diwygio Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 i wneud darpariaeth mewn cysylltiad â gwiriadau ffiniau o dan amgylchiadau penodol a ragwelir gan y Rheoliad Bridio Anifeiliaid.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(4)

OJ Rhif L 171, 29.06.2016, t. 66. Gweler hefyd Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/716 sy’n gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r ffurfiau enghreifftiol sydd i’w defnyddio ar gyfer yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y rhestrau o gymdeithasau brid cydnabyddedig a gweithrediadau bridio; Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/717 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) 2016/1012 o ran ffurfiau enghreifftiol tystysgrifau sootechnegol ar gyfer anifeiliaid bridio a’u cynhyrchion cenhedlol; a Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2017/1940 o ran cynnwys a ffurf tystysgrifau sootechnegol a ddyroddir ar gyfer anifeiliaid bridio o frid pur o’r rhywogaeth equine a gynhwysir mewn un ddogfen adnabod gydol oes ar gyfer equidae.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill