- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Diwydiant Dŵr, Cymru
Gwnaed
10 Hydref 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
15 Hydref 2018
Yn dod i rym
7 Ionawr 2019
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 32 a 48(2) o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010(1), a pharagraffau 4(a) a 13 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 13(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, mewn perthynas â ffioedd am geisiadau am gymeradwyaeth, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i ba mor ddymunol fyddai sicrhau nad yw incwm y ffi yn sylweddol uwch na’r costau (uniongyrchol ac anuniongyrchol) y mae’r cyrff sy’n cymeradwyo(2) yn mynd iddynt mewn cysylltiad â chymeradwyo.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) (Cymru) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ionawr 2019.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Atodlen 3” (“Schedule 3”) yw Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010;
ystyr “cais” (“application”) yw cais am gymeradwyaeth a wneir i gorff cymeradwyo yn unol â pharagraff 9(2) neu 10(2) o Atodlen 3 ac mae cyfeiriadau at “ceisydd” (“applicant”) i’w dehongli yn unol â hynny;
ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 3;
ystyr “ffi am gais” (“application fee”) yw ffi sydd i’w chodi mewn perthynas â chais.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at “gwaith adeiladu”(3) i’w ddehongli fel cyfeiriad at waith adeiladu y mae iddo oblygiadau o ran draenio(4).
3.—(1) Caiff corff cymeradwyo godi ffi am gais ar geisydd.
(2) Rhaid pennu ffi am gais yn unol â’r Rheoliadau hyn.
4.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 5 i 9, pennir ffi am gais fel a ganlyn—
(a)£350 am bob cais, a
(b)swm ychwanegol hyd at uchafswm o £7,500 a gyfrifir drwy gyfeirio at faint yr ardal adeiladu fel a ganlyn—
(i)£70 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, am y 0.5 hectar cyntaf;
(ii)£50 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 0.5 hectar hyd at a chan gynnwys 1.0 hectar;
(iii)£20 am bob 0.1 hectar neu ffracsiwn o 0.1 hectar, o 1.0 hectar a hyd at a chan gynnwys 5.0 hectar;
(iv)£10 am bob 0.1 hectar ychwanegol neu ffracsiwn o 0.1 hectar sy’n fwy na 5.0 hectar.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal adeiladu” yw—
(a)yr ardal o dir a nodwyd ar blan sy’n mynd gyda’r cais am ganiatâd cynllunio(5), neu
(b)os nad oes cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud, yr ardal o dir y mae’r gwaith adeiladu wedi cychwyn arno, neu y bwriedir cychwyn gwaith adeiladu arno.
5.—(1) Os mai cyngor cymuned yw’r ceisydd, mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyngor cymuned” yw cyngor cymuned neu dref yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6).
6. Os caiff cais am gymeradwyaeth ei addasu drwy gytundeb rhwng y corff cymeradwyo a’r ceisydd cyn i’r corff cymeradwyo ddod i benderfyniad yn ei gylch, ni chaniateir i’r corff hwnnw godi ffi mewn perthynas â’r addasiad y cytunwyd arno.
7.—(1) Rhaid pennu ffi am gais yn unol â pharagraff (2) pan fo’r ceisydd—
(a)yn gwneud mwy nag un cais i gymeradwyo system ddraenio(7) ar gyfer gwaith adeiladu, a phob un yn amlinellu cynnig arall i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw, neu
(b)yn gwneud un cais i gymeradwyo system ddraenio ar gyfer gwaith adeiladu sy’n amlinellu mwy nag un o gynigion eraill i adeiladu system ddraenio ar gyfer y gwaith adeiladu hwnnw.
(2) Swm y ffi am gais yw—
(a)y ffi sydd i’w chodi am y cais neu (yn achos paragraff (1)(b)) y cynnig, a fyddai’n denu’r ffi uchaf yn unol â rheoliad 4, a
(b)hanner y swm o’r ffioedd a fyddai i’w codi oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4 mewn cysylltiad â phob un o’r ceisiadau neu’r cynigion sy’n weddill.
(3) At ddibenion rheoliadau 3(2) a 4 yn achos cais sydd o fewn paragraff (1)(b), mae pob cynnig i gael ei drin fel petai’n gais ar wahân.
8. Pan fo corff cymeradwyo yn rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod (ni waeth pa un a yw’r gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i unrhyw amodau eraill) bod un arolygiad neu ragor yn cael ei gynnal neu eu cynnal, caiff godi ffi o £168 am bob arolygiad.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo corff cymeradwyo wedi cymeradwyo cais yn flaenorol (“y cais blaenorol”) mewn perthynas â system ddraenio.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r ffi am gais hanner y swm a fyddai i’w godi, oni bai am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 4, os gwneir cais dilynol—
(a)o fewn 12 mis o ddyddiad cymeradwyo’r cais blaenorol, a
(b)sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â’r system ddraenio a oedd yn destun y cais blaenorol, gan gynnwys cynigion adeiladu ac amodau cymeradwyo’r cais blaenorol.
(3) Ni chaiff corff cymeradwyo godi ffi pan fo cais o dan baragraff (2) yn ymwneud ag amod yn unig, ac eithrio amod o dan baragraff 11(2)(a) o Atodlen 3, o gymeradwyo’r cais blaenorol.
10. Pan fo ffi am gais neu ran ohoni yn cael ei chodi mewn camgymeriad, rhaid i gorff cymeradwyo ad-dalu’r ffi honno neu ran ohoni cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl darganfod y camgymeriad hwnnw.
Hannah Blythyn
Gweinidog yr Amgylchedd, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
10 Hydref 2018
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i gorff cymeradwyo godi ffioedd mewn perthynas â cheisiadau i gymeradwyo systemau draenio cynaliadwy yn unol ag Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29).
Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff corff cymeradwyo godi ffi (“ffi am gais”) mewn perthynas â chais i gymeradwyo system ddraenio, a bod rhaid i ffioedd o’r fath gael eu pennu yn unol â’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 yn darparu’r dull o bennu’r ffioedd am gais, yn ddarostyngedig i reoliadau 5 i 9.
Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngol am gais mewn achosion lle gwneir cais gan gyngor cymuned.
Mae rheoliad 6 yn darparu pan fo achosion lle caiff cais ei addasu drwy gytundeb rhwng y corff cymeradwyo a’r ceisydd cyn ei benderfynu, ni fydd unrhyw ffi ychwanegol yn daladwy mewn cysylltiad â’r addasiad y cytunwyd arno.
Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngol mewn perthynas â cheisiadau sy’n cynnwys mwy nag un cynnig arall ar gyfer system ddraenio.
Mae rheoliad 8 yn darparu i ffioedd fod yn daladwy am arolygiadau, pan fo corff cymeradwyo yn rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amod bod un neu ragor o arolygiadau yn cael ei gynnal neu eu cynnal.
Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer ffi ostyngol am gais pan fo datblygwr yn gwneud cais dilynol am gymeradwyaeth sy’n ymwneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf â system ddraenio y cytunwyd arni yn flaenorol o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y cais dilynol.
Mae rheoliad 10 yn darparu i’r ffioedd am gais gael eu had-dalu mewn amgylchiadau penodol.
Lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol, o ran Cymru, o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2010 p. 29. Diwygiwyd Atodlen 3 gan adrannau 21(3), 88(a) ac 88(b) o Ddeddf Dŵr 2014 (p. 21) ac O.S. 2012/1659 a 2013/755 (Cy. 90).
Diffinnir “approving body” ym mharagraff 6 o Atodlen 3.
Diffinnir “construction work” ym mharagraff 7(2)(a) o Atodlen 3.
Diffinnir “drainage implications” ym mharagraff 7(2)(b) o Atodlen 3.
Diffinnir “planning permission” ym mharagraff 8(4) o Atodlen 3.
Diffinnir “drainage system” ym mharagraff 1 o Atodlen 3.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys