xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2018 Rhif 1064 (Cy. 223)

Iechyd Planhigion, Cymru

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018

Gwnaed

9 Hydref 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

11 Hydref 2018

Yn dod i rym

2 Tachwedd 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer—

(a)y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967(1), ac i’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan adran 4(1) o’r Ddeddf honno, a freinir bellach ynddynt hwy(2); a

(b)y pwerau a roddir gan baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(3).

Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(4). Ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i’r cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd y cyfeirir atynt yn erthygl 2(5) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a daw i rym ar 2 Tachwedd 2018.

Dehongli cyffredinol

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “ardal Ewrop a Môr y Canoldir” (“Euro-Mediterranean area”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ewrop, Algeria, yr Aifft, Israel, Gwlad yr Iorddonen, Libanus, Libya, Moroco, Syria, Tunisia a’r ardal o Dwrci i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i fod yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn;

ystyr “Atodiad II Rhan B” (“Annex II Part B”) yw Rhan B o Atodiad II i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan A” (“Annex IV Part A”) yw Rhan A o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Atodiad IV Rhan B” (“Annex IV Part B”) yw Rhan B o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Clefyd y ddafaden tatws” (“Potato wart disease”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y ffwng Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival neu’r ffwng hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr o fasnachwyr planhigion a gedwir o dan erthygl 25(1);

ystyr “cofrestredig” (“registered”) mewn perthynas â masnachwr planhigion, yw masnachwr y mae ei fanylion wedi eu rhestru yn y gofrestr, ac mae “cofrestru” (“registration”) i’w ddehongli yn unol â hynny:

ystyr “corff swyddogol cyfrifol” (“responsible official body”) yw naill ai’r corff a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu gorff a ddisgrifir ym mharagraff (ii) o Erthygl 2(1)(g) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “CRhWP” (“IPPC”) yw Confensiwn Rhyngwladol ar Warchod Planhigion 1951(5);

ystyr “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” (“Directive 93/85/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/85/EEC ynglŷn â rheoli pydredd cylch tatws(6);

ystyr “Cyfarwyddeb 98/57/EC” (“Directive 98/57/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC ynglŷn â rheoli Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.(7);

ystyr “Cyfarwyddeb 2000/29/EC” (“Directive 2000/29/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion i’r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned(8);

ystyr “Cyfarwyddeb 2007/33/EC” (“Directive 2007/33/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2007/33/EC ar reoli llyngyr tatws ac sy’n diddymu Cyfarwyddeb 69/465/EEC(9);

ystyr “Cyfarwyddeb 2008/61/EC” (“Directive 2008/61/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/61/EC sy’n pennu’r amodau lle caniateir i organeddau niweidiol, planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill penodol a restrir yn Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC gael eu cyflwyno i’r Gymuned neu eu symud o fewn y Gymuned neu barthau gwarchod penodol ohoni, at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol(10);

ystyr “cynhyrchydd” (“producer”), mewn perthynas â deunydd perthnasol, yw person sy’n tyfu neu’n gwneud y deunydd wrth fasnachu neu redeg busnes;

mae i “cynnyrch planhigion” yr un ystyr ag a roddir i “plant product” yn Erthygl 2(1)(b) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “cytundeb tramwy UE” (“EU transit agreement”) yw cytundeb o fewn ystyr erthygl 12(4) neu (5);

ystyr “datganiad swyddogol” (“official statement”) yw datganiad a ddyroddir gan swyddog awdurdodedig neu ddatganiad a gynhwysir mewn pasbort planhigion;

ystyr “De America” (“South America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Ariannin, Bolivia, Brasil, Chile, Colombia, Ecuador, Guyana Ffrengig, Guyana, Paraguay, Periw, Suriname, Uruguay a Venezuela;

ystyr “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yw unrhyw blanhigyn, unrhyw gynnyrch planhigyn, unrhyw bridd neu unrhyw gyfrwng tyfu;

ystyr “dogfen symud iechyd planhigion” (“plant health movement document”) yw dogfen sy’n bodloni’r gofynion yn Atodlen 12;

ystyr “dogfennaeth swyddogol” (“official documentation”) yw dogfennaeth a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y ddogfennaeth ynddi, neu gyda’i awdurdod;

ystyr “y Ddeddf Dollau” (“the Customs Act”) yw Deddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(11);

mae “Ewrop” (“Europe”) yn cynnwys Belarus, yr Ynysoedd Dedwydd, Georgia, Kazakhstan (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o afon Ural), Rwsia (ac eithrio rhanbarthau Tyumen, Chelyabinsk, Irkutsk, Kemerovo, Kurgan, Novossibirsk, Omsk, Sverdlovsk, Tomsk, Chita, Kamchatka, Magadan, Amur a Skhalin, tiriogaethau Krasnoyarsk, Altay, Khabarovsk a Primarie, a gweriniaethau Sakha, Tuva a Buryatia), Ukrain a Thwrci (ac eithrio’r ardal i’r dwyrain o Gulfor Bosphorus o’r enw Anatolia);

ystyr “ffrwythau” (“fruit”) yw ffrwythau yn yr ystyr botanegol ond nid yw’n cynnwys ffrwythau wedi eu sychu, eu dadhydradu, eu lacro neu eu dwys-rewi;

ystyr “ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu” (“citrus fruits for processing”) yw ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o drydedd wlad ac sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu prosesu’n ddiwydiannol yn sudd yn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “Gogledd America” (“North America”) yw’r ardal ddaearyddol sy’n cynnwys Canada, Mecsico ac UDA;

ystyr “gwiriad iechyd planhigion” (“plant health check”) yw archwiliad a gynhelir o dan erthygl 12(2);

ystyr “hadau” (“seed”) yw hadau yn yr ystyr botanegol ac eithrio hadau nas bwriedir ar gyfer eu plannu;

ystyr “label swyddogol” (“official label”) yw label sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y label swyddogol ynddi, neu gyda’i awdurdod;

mae i “llwyth” yr un ystyr ag a roddir i “consignment” yn Erthygl 2(1)(p) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC pan fo’r term hwnnw’n cael ei ddefnyddio yn Rhan 2 neu mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn y Rhan honno;

ystyr “Llyngyr tatws” (“Potato cyst nematode”) yw unrhyw lyngyr sy’n ffurfio systiau o’r rhywogaeth Globodera pallida (Stone) Behrens neu Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens sy’n heigio ac yn lluosogi ar datws ac unrhyw fathau neu bathofathau o lyngyr o’r fath;

ystyr “man cynhyrchu” (“place of production”) yw unrhyw fangre, a weithredir fel uned fel rheol, ynghyd ag unrhyw dir cyffiniol o dan yr un berchnogaeth neu feddiannaeth â’r fangre honno;

mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, cerbyd, llestr, awyren, hofranfad, cynhwysydd llwyth neu wagen reilffordd;

ystyr “masnachwr planhigion” (“plant trader”) yw—

(a)

mewnforiwr deunydd perthnasol;

(b)

cynhyrchydd deunydd perthnasol;

(c)

person sydd â gofal am fangre a ddefnyddir i storio, i gasglu ynghyd neu i anfon allan lwythi o ddeunydd perthnasol; neu

(d)

person sydd, wrth fasnachu neu redeg busnes, yn rhannu neu’n cyfuno llwythi o ddeunydd perthnasol;

ystyr “meithrinfa” (“nursery”) yw mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol i dyfu neu i gadw planhigion at ddiben eu trawsblannu neu eu symud i fangre arall;

mae “mewnforiwr” (“importer”), mewn perthynas ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar unrhyw adeg rhwng ei lanio o drydedd wlad a’r adeg y caiff ei ollwng gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn, yn cynnwys unrhyw berchennog neu berson arall sydd am y tro yn meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â buddiant llesiannol ynddo;

ystyr “nwyddau tramwy yr UE” (“EU transit goods”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol y deuir ag ef i Gymru o drydedd wlad drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;

ystyr “parth gwarchod” (“protected zone”) yw Aelod-wladwriaeth neu ardal o fewn Aelod-wladwriaeth a gydnabyddir fel parth gwarchod sy’n agored i risgiau iechyd planhigion neilltuol at ddibenion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, fel y’i rhestrir yn Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;

ystyr “pasbort planhigion” (“plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, sy’n bodloni’r gofynion perthnasol a nodir yn Rhan A neu B o Atodlen 9, a ddyroddir gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth y dyroddir y pasbort planhigion ynddi, neu gyda’i awdurdod, ac mae’n cynnwys pasbort planhigion amnewid;

ystyr “pasbort planhigion y Swistir” (“Swiss plant passport”) yw label a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen sy’n mynd gydag ef, a ddyroddir yn y Swistir yn unol â deddfwriaeth y Swistir ac sydd—

(a)

yn cynnwys gwybodaeth sy’n rhoi tystiolaeth y cydymffurfiwyd â deddfwriaeth yn y Swistir sy’n ymwneud â safonau iechyd planhigion a gofynion arbennig ar gyfer deunydd perthnasol sy’n symud i’r Swistir ac o fewn y Swistir; a

(b)

yn ymwneud â deunydd perthnasol a restrir yn Rhan A o Atodlen 8;

ystyr “Penderfyniad 2002/757/EC” (“Decision 2002/757/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2002/757/EC ar fesurau ffytoiechydol brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov(12);

ystyr “Penderfyniad 2004/416/EC” (“Decision 2004/416/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2004/416/EC ar fesurau brys dros dro mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy’n tarddu o Ariannin neu Frasil(13);

ystyr “Penderfyniad 2006/473/EC” (“Decision 2006/473/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2006/473/EC sy’n cydnabod bod trydydd gwledydd penodol ac ardaloedd penodol o drydydd gwledydd yn rhydd rhag Xanthomonas campestris (pob math sy’n bathogenig i Sitrws), Cercospora angolensis Carv et Mendes a Guignardia citricarpa Kiely (pob math sy’n bathogenig i Sitrws)(14);

ystyr “Penderfyniad 2007/365/EC” (“Decision 2007/365/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/365/EC ar fesurau brys i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)(15);

ystyr “Penderfyniad 2007/433/EC” (“Decision 2007/433/EC”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/433/EC ar fesurau brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Gibberella circinata Nirenberg ac O’Donnell(16);

ystyr “Penderfyniad 2012/138/EU” (“Decision 2012/138/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/138/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora chinensis (Forster)(17);

ystyr “Penderfyniad 2012/270/EU” (“Decision 2012/270/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner)(18);

ystyr “Penderfyniad 2012/697/EU” (“Decision 2012/697/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2012/697/EU o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb y genws Pomacea (Perry)(19);

ystyr “Penderfyniad 2014/422/EU” (“Decision 2014/422/EU”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/422/EU sy’n nodi mesurau mewn cysylltiad â ffrwythau sitrws penodol sy’n tarddu o Dde Affrica i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa(20);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2015/789” (“Decision (EU) 2015/789”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Xylella fastidiosa (Wells et al.)(21);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2015/893” (“Decision (EU) 2015/893”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora glabripennis (Motschulsky)(22);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2016/715” (“Decision (EU) 2016/715”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 sy’n nodi mesurau o ran ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb yr organedd niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa(23);

ystyr “Penderfyniad (EU) 2017/198” (“Decision (EU) 2017/198”) yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu a Goto(24);

ystyr “pla planhigion” (“plant pest”) yw unrhyw organedd byw, ac eithrio anifail ag asgwrn cefn, mewn unrhyw gam o’i fodolaeth, sy’n niweidiol neu’n debygol o fod yn niweidiol i unrhyw blanhigyn neu gynnyrch planhigion;

ystyr “planhigyn” (“plant”) yw planhigyn byw (gan gynnwys ffwng neu lwyn) neu ran fyw o blanhigyn (gan gynnwys rhan fyw o ffwng neu lwyn), ar unrhyw gam o’i dwf, ond heb gynnwys coed na llwyni coedwigoedd; ac mae rhannau byw o blanhigyn yn cynnwys—

(a)

ffrwythau;

(b)

hadau;

(c)

llysiau, ac eithrio’r rhai a gedwir drwy eu dwys-rewi;

(d)

cloron, cormau, bylbiau neu risomau;

(e)

blodau wedi eu torri;

(f)

canghennau gyda deiliant neu heb ddeiliant;

(g)

planhigyn neu lwyn sydd wedi ei dorri ac sydd ag unrhyw ddeiliant arno;

(h)

dail neu ddeiliant;

(i)

planhigyn neu lwyn mewn meithriniad meinwe;

(j)

paill byw;

(k)

pren blagur;

(l)

toriadau; ac

(m)

impynnau;

ystyr “planhigyn neu lwyn mewn meithriniad meinwe” (“plant or shrub in tissue culture”) yw planhigyn neu lwyn sy’n tyfu mewn cyfrwng meithrin aseptigol hylifol clir neu solet clir mewn cynhwysydd tryloyw caeedig;

mae i “plannu” yr un ystyr ag a roddir i “planting” yn Erthygl 2(1)(c) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “Pydredd coch tatws” (“Potato brown rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Pydredd cylch tatws” (“Potato ring rot”) yw naill ai’r clefyd tatws a achosir gan y bacteriwm Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. spp. Sependonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. neu’r bacteriwm hwnnw, fel y bo’r cyd-destun yn mynnu;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 690/2008” (“Regulation (EC) No 690/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 690/2008 sy’n cydnabod parthau gwarchod sy’n agored i beryglon iechyd planhigion neilltuol yn y Gymuned(25);

ystyr “Rheoliadau Tatws Hadyd” (“Seed Potatoes Regulations”) yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(26);

ystyr “sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol” (“national plant protection organisation”) yw’r gwasanaeth a sefydlwyd gan lywodraeth trydedd wlad i gyflawni’r swyddogaethau a bennir yn Erthygl IV(1)(a) o’r CRhWP, y mae manylion amdano wedi eu rhoi—

(a)

yn achos partïon contractiol i’r CRhWP, i Gyfarwyddwr Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig; ac

(b)

ym mhob achos arall, i’r Comisiwn Ewropeaidd;

ystyr “SRFFf Rhif 4” (“ISPM No. 4”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 4 dyddiedig mis Tachwedd 1995 ar y gofynion i sefydlu ardaloedd rhydd rhag plâu, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(27);

ystyr “SRFFf Rhif 10” (“ISPM No. 10”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 10 dyddiedig mis Hydref 1999 ar y gofynion i sefydlu mannau chynhyrchu rhydd rhag plâu a safleoedd cynhyrchu rhydd rhag plâu, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(28);

ystyr “SRFFf Rhif 31” (“ISPM No. 31”) yw Safon Ryngwladol ar Fesurau Ffytoiechydol Rhif 31 dyddiedig mis Ebrill 2008 ar fethodolegau ar gyfer samplu llwythi, a luniwyd gan Ysgrifenyddiaeth y CRhWP a sefydlwyd gan Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig(29);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), fel y bo’r cyd-destun yn mynnu, yw—

(a)

cynrychiolydd awdurdodedig o gorff swyddogol cyfrifol y wlad lle caiff pasbort planhigion ei ddyroddi, gwas cyhoeddus sy’n gweithio o dan awdurdod cynrychiolydd o’r fath neu asiant cymwysedig a gyflogir gan y corff swyddogol cyfrifol, y mae’n rhaid iddo fod â’r cymwysterau priodol ym mhob achos; neu

(b)

cynrychiolydd awdurdodedig o gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad y dyroddir ynddi dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu gyfieithiad o dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, neu swyddog cyhoeddus sy’n gweithredu o dan awdurdod cynrychiolydd o’r fath;

ystyr “swyddogol” (“official” ac “officially”) mewn perthynas ag unrhyw brofi neu weithdrefn arall y mae’n ofynnol ei gynnal neu ei chynnal o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd perthnasol, yw wedi ei gynnal neu ei chynnal gan gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad y cynhelir y profi neu’r weithdrefn arall ynddi, neu o dan ei wyliadwriaeth;

ystyr “taten” (“potato”) yw unrhyw gloronen neu hadau gwirioneddol o Solanum tuberosum L. neu unrhyw blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o’r genws Solanum L. sy’n ffurfio cloron;

ystyr “tatws cynnar” (“early potatoes”) yw tatws sy’n cael eu cynaeafu cyn iddynt aeddfedu’n llwyr, sy’n cael eu marchnata yn union ar ôl iddynt gael eu cynaeafu ac y gellir tynnu eu crwyn yn hawdd heb eu plicio;

ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn yr Undeb Ewropeaidd;

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol” (“phytosanitary certificate”) yw tystysgrif ar y ffurf a nodir yn Rhan A o Atodlen 10, sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn erthygl 15(1) a (2);

ystyr “tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio” (“phytosanitary certificate for re-export”) yw tystysgrif ar y ffurf a nodir yn Rhan B o Atodlen 10, sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn erthygl 15(1) a (2);

ystyr “UDA” (“the USA”) yw Unol Daleithiau America ac eithrio Hawaii;

ystyr “yr Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw tiriogaethau’r Aelod-wladwriaethau gan gynnwys Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel ond heb gynnwys yr Ynysoedd Dedwydd, Ceuta, Melilla na’r Gweinyddiaethau Tramor Ffrengig; ac

ystyr “wedi ei lanio” (“landed”) yw wedi ei gyflwyno i Gymru drwy unrhyw fodd, gan gynnwys drwy’r post, ac mae “glanio” (“land” a “landing”) i’w ddehongli yn unol â hynny.

(2Oni ddarperir yn benodol fel arall, mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at genws neu rywogaeth i’w ddehongli fel cyfeiriad at y genws hwnnw neu’r rhywogaeth honno neu at unrhyw un neu ragor o’i gymysgrywiau neu ei chymysgrywiau.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at yr Undeb Ewropeaidd, at Aelod-wladwriaeth neu at drydedd wlad yn cynnwys cyfeiriad at dalaith, gwlad, tywysogaeth, ardalaeth neu ranbarth o fewn yr Undeb Ewropeaidd, yr Aelod-wladwriaeth neu’r drydedd wlad, yn ôl y digwydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Gorchymyn hwn at erthygl â rhif neu Atodlen â rhif heb unrhyw gyfeiriad cyfatebol at offeryn penodol i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr erthygl neu’r Atodlen sydd â’r rhif hwnnw yn y Gorchymyn hwn.

(5Mae cyfeiriadau at yr offerynnau a ganlyn gan yr Undeb Ewropeaidd i’w dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd—

(a)Penderfyniad 2002/757/EC;

(b)Penderfyniad 2004/416/EC;

(c)Penderfyniad 2006/473/EC;

(d)Penderfyniad 2007/365/EC;

(e)Penderfyniad 2007/433/EC;

(f)Cyfarwyddeb 2008/61/EC;

(g)Rheoliad (EC) Rhif 690/2008;

(h)Penderfyniad 2012/138/EU;

(i)Penderfyniad 2012/270/EU;

(j)Penderfyniad 2012/697/EU;

(k)Penderfyniad 2014/422/EU;

(l)Penderfyniad (EU) 2015/789;

(m)Penderfyniad (EU) 2015/893;

(n)Penderfyniad (EU) 2016/715;

(o)Penderfyniad (EU) 2017/198.

RHAN 2Mewnforion o drydydd gwledydd

Dehongli Rhan 2

3.  Yn y Rhan hon—

ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion” (“area of plant health control”), mewn perthynas â deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wedi ei lanio, yw—

(a)

ei fan cyrraedd; neu

(b)

pan fo’r deunydd wedi ei symud o dan weithdrefnau tollau priodol i ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu fan arolygu cymeradwy, yr ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig neu’r man arolygu cymeradwy;

ystyr “ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig” (“designated area of plant health control”) yw man sy’n agos at fan cyrraedd sydd wedi ei ddynodi’n ardal rheolaeth iechyd planhigion gan Weinidogion Cymru a Chomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi;

ystyr “y Cod Tollau” (“the Customs Code”) yw Rheoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod Cod Tollau’r Undeb(30);

mae i “corff swyddogol y gyrchfan” yr un ystyr ag a roddir i “official body of destination” yn Erthygl 2(1)(l) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC;

ystyr “deunydd perthnasol hysbysadwy” (“notifiable relevant material”) yw unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)

o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 5; neu

(b)

o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 5; ac—

(i)

a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4;

(ii)

a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B; neu

(iii)

a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn Atodiad IV Rhan B;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”), mewn perthynas â’r gofynion hysbysu yn erthyglau 6(2)(c)(ii) ac 16(3) a’r cyfnod y caniateir cadw deunydd amdano o dan erthygl 14(1), yw cyfnod o bedair awr ar hugain nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc yng Nghymru o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(31);

ystyr “man arolygu cymeradwy” (“approved place of inspection”) yw man sydd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 17;

ystyr “man cyrraedd” (“point of entry”) yw—

(a)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd drwy hedfan, y maes awyr lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf;

(b)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar drafnidiaeth forol neu afonol, y porthladd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf; neu

(c)

yn achos deunydd perthnasol sy’n cyrraedd ar y rheilffordd, y derfynfa llwyth rheilffordd lle mae’r deunydd yn cyrraedd gyntaf.

Cymhwyso Rhan 2

4.  Mae’r Rhan hon—

(a)yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol a gyflwynir i Gymru o drydedd wlad, naill ai’n uniongyrchol neu drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd; a

(b)yn gymwys yn unig i nwyddau tramwy yr UE y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol am faterion penodol mewn cysylltiad â hwy yn rhinwedd cytundeb tramwy UE.

Gwaharddiadau a chyfyngiadau ar lanio plâu planhigion a deunydd perthnasol

5.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni chydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4; neu

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni chydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.

(2Nid yw’r gwaharddiad ym mharagraff (1)(d) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol a heb unrhyw newid mewn statws tollau; a

(b)sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol.

(3Nid yw paragraff (1)(e) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag ei lanio o dan baragraff (1)(d).

(4Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 8(1).

Hysbysu ymlaen llaw ynglŷn â glanio

6.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy, pan fo Cymru yn fan cyrraedd yr Undeb Ewropeaidd iddo, oni bai y rhoddir hysbysiad yn unol â’r erthygl hon.

(2Rhaid i hysbysiad—

(a)bod yn unol â gofynion Atodlen 11;

(b)cael ei roi i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig; ac

(c)cael ei roi mewn pryd er mwyn cyrraedd y cyfeiriad penodedig—

(i)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol y deuir ag ef drwy hedfan, o leiaf bedair awr waith cyn i’r deunydd perthnasol gael ei lanio; a

(ii)mewn unrhyw achos arall, o leiaf dri diwrnod gwaith cyn i’r deunydd perthnasol gael ei lanio.

(3Yn achos ffrwythau sitrws ar gyfer eu prosesu, rhaid cynnwys enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd y mae’r ffrwythau i’w prosesu ynddynt o dan eitem 13 o’r hysbysiad a nodir yn Atodlen 11.

(4Os gall person ddangos yn rhesymol nad oedd yn bosibl rhoi hysbysiad yn unol â pharagraff (2)(c) am nad oedd y person yn ymwybodol bod y deunydd wedi ei draddodi, caiff y person roi hysbysiad cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(5Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 8(1), 16 a 30(3).

(6Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion yr erthygl hon;

(b)ystyr “awr waith” (“working hour”) yw cyfnod o un awr yn ystod diwrnod gwaith.

Gofynion am dystysgrifau

7.—(1Ni chaiff unrhyw berson lanio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy oni bai bod tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn mynd gyda’r deunydd, fel a bennir ym mharagraffau (2) i (5).

(2Yn achos deunydd tramwy sydd wedi ei rannu, ei gyfuno â llwythi eraill neu ei ailbecynnu, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a ddyroddwyd yn y wlad dramwy fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(3Yn achos deunydd tramwy sydd, neu y gallai fod, wedi bod yn agored i’w heintio neu i’w halogi gan unrhyw bla planhigion, nad yw’r un deunydd ag a oedd yn y llwyth gwreiddiol neu sydd wedi ei brosesu er mwyn newid ei natur, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad dramwy fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(4Yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B, pan na ellir ond bodloni’r gofyniad neu’r gofynion a bennir mewn cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yn ail golofn Atodiad IV Rhan B yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’n tarddu ohoni fynd gyda’r deunydd perthnasol.

(5Mewn unrhyw achos arall, rhaid i dystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd yn y wlad y mae’r deunydd perthnasol yn tarddu ohoni neu y cafodd ei draddodi ohoni fynd gyda’r deunydd hwnnw.

(6Rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol fod y dystysgrif wreiddiol a rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio fod y dystysgrif wreiddiol neu gopi o’r dystysgrif wreiddiol a ardystiwyd gan swyddog awdurdodedig.

(7Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol neu sydd wedi ei draddodi i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd drwy drydedd wlad;

(b)nad oes unrhyw newid yn dod i’w ran o ran statws tollau; ac

(c)sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol.

(8Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthyglau 8(1) a 30(1) a (2).

(9Ym mharagraffau (2) a (3), ystyr “deunydd tramwy” (“transit material”) yw deunydd perthnasol a draddodir i Gymru drwy drydedd wlad ar ffurf tramwyad.

Eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol

8.—(1Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i unrhyw eitemau esempt a gyflwynir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall os yw’r eitemau’n bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—

(a)erthygl 5(1)(e) ac (f);

(b)erthygl 6(1);

(c)erthygl 7(1);

(d)erthygl 10(1).

(2Yr amodau yw—

(a)nad yw’r eitemau esempt yn arddangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;

(b)na fwriedir i’r eitemau esempt gael eu defnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac

(c)y bwriedir yr eitemau esempt at ddefnydd aelwydydd.

(3Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “eitemau esempt” (“exempt items”) yw—

(i)ffrwythau a llysiau amrwd (ac eithrio tatws), nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy na dau kg;

(ii)un tusw o flodau wedi eu torri (a gaiff gynnwys rhannau o blanhigion);

(iii)pecynnau o hadau, ac eithrio hadau tatws neu Fraxinus L., nad yw eu cyfanswm yn fwy na phum paced;

(iv)bylbiau, cormau, cloron, ac eithrio tatws, a risomau, a dyfwyd yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir ac a draddodwyd ohoni, ac nad yw cyfanswm eu pwysau yn fwy na dau kg; neu

(v)planhigion ar gyfer eu plannu, ac eithrio bylbiau, cormau, cloron neu risomau neu blanhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir ac a draddodwyd ohoni ac nad yw eu cyfanswm yn fwy na phump;

(b)ystyr “pecyn o hadau” (“packet of seeds”) yw pecyn o hadau o fath a werthir i’r defnyddiwr fel arfer ac eithrio i’w ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes neu becyn o hadau o faint tebyg.

Cyflwyno ac arddangos dogfennau

9.—(1Rhaid i’r mewnforiwr ddarparu i arolygydd, o fewn tri diwrnod i lwyth gael ei lanio, unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol o dan erthygl 7 iddi fynd gyda llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy.

(2Rhaid i fewnforiwr llwyth o ddeunydd perthnasol hysbysadwy gynnwys mewn dogfen dollau sy’n ymwneud â’r llwyth—

(a)datganiad sy’n dweud “this consignment contains produce of phytosanitary relevance”;

(b)cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r llwyth o dan erthygl 7; ac

(c)rhif cofrestru’r mewnforiwr.

(3Yn achos llwyth sy’n cynnwys deunydd perthnasol hysbysadwy ac sy’n cael ei fewnforio i Gymru drwy’r post, rhaid i’r mewnforiwr sicrhau bod unrhyw dystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r llwyth o dan erthygl 7 ynghlwm i du allan y pecyn o’r deunydd perthnasol.

(4Ond os oes mwy nag un pecyn o ddeunydd perthnasol hysbysadwy yn y llwyth, rhaid i’r mewnforiwr sicrhau bod y dystysgrif ynghlwm i du allan un o’r pecynnau o ddeunydd perthnasol hysbysadwy a bod copïau o’r dystysgrif ynghlwm i du allan pob un o’r pecynnau o ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n weddill yn y llwyth.

(5Ym mharagraff (2), ystyr “dogfen dollau” (“customs document”) yw dogfen sy’n ofynnol gan Gomisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar gyfer gosod deunydd perthnasol o dan un o’r gweithdrefnau a bennir yn Erthygl 5(16)(a) a (b) o’r Cod Tollau.

Gwaharddiad ar symud deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion

10.—(1Ni chaiff unrhyw berson symud unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy na pheri i unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy gael ei symud o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion oni bai bod arolygydd wedi gollwng y deunydd o dan erthygl 12 neu y caniateir symud y deunydd o dan Ran 6.

(2Rhaid i’r mewnforiwr storio unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n cael ei ddal mewn man cyrraedd neu ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig o dan baragraff (1), o dan oruchwyliaeth arolygydd ac yn unol â’i gyfarwyddiadau.

(3Mae’r mewnforiwr yn atebol am gostau storio’r deunydd perthnasol hysbysadwy cyn iddo gael ei ryddhau.

Eithriadau rhag y gwaharddiad ar symud deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion

11.  Nid yw erthygl 10(1) yn gymwys i—

(a)unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wrthi’n cael ei draddodi rhwng dwy drydedd wlad o dan weithdrefnau tollau priodol heb unrhyw newid mewn statws tollau ac sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n cael ei draddodi i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd drwy drydedd wlad heb unrhyw newid mewn statws tollau ac sy’n cael ei gludo mewn modd sy’n atal plâu planhigion rhag dianc yn ddamweiniol;

(c)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n ddarostyngedig i erthygl 8(1);

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n ddarostyngedig i erthygl 30(3).

Gollyngiad iechyd planhigion

12.—(1Caiff arolygydd ollwng deunydd perthnasol hysbysadwy o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion os yw’r arolygydd wedi ei fodloni—

(a)bod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)yn achos deunydd perthnasol sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod, fod y deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw bla planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r parth gwarchod hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad I i Reoliad (EC) Rhif 690/2008;

(c)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(d)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn ail golofn Atodiad II Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a restrir mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yng ngholofn gyntaf Atodiad II Rhan B, nad yw’r deunydd perthnasol yn cario neu wedi ei heintio â’r plâu planhigion;

(e)yn achos deunydd perthnasol a restrir yn Atodiad III Rhan B i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, nad yw’r deunydd perthnasol yn cael ei draddodi i barth gwarchod ar gyfer Erwinia amylovora (Burr) Winsl et al.;

(f)yn achos deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A neu C o Atodlen 4 a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;

(g)yn achos deunydd perthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf Atodiad IV Rhan B ac sydd wrthi’n cael ei draddodi i barth gwarchod a gydnabyddir fel parth gwarchod ar gyfer y plâu planhigion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r deunydd perthnasol hwnnw yn ail golofn Atodiad IV Rhan B, fod y deunydd perthnasol yn cydymffurfio â’r gofynion a restrir mewn cysylltiad â’r cofnodion hynny a, phan fo un neu ragor o ofynion eraill mewn unrhyw gofnod o’r fath, y gofyniad a ddatgenir yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio;

(h)bod y deunydd perthnasol yn cyfateb i’r disgrifiad a roddir iddo yn y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; ac

(i)bod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ofynnol o dan erthygl 7 a, phan fo hynny’n briodol, ddogfen symud iechyd planhigion, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(2Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (g), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol a’i ddeunydd pecynnu a, phan fo hynny’n angenrheidiol, y cerbyd sy’n cludo’r llwyth.

(3Caiff arolygydd, at ddiben cael ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(h), gynnal archwiliad o lwyth o ddeunydd perthnasol er mwyn penderfynu a yw’n cyfateb i’r disgrifiad ohono yn y dogfennau sy’n mynd gydag ef.

(4Yn achos deunydd perthnasol hysbysadwy sydd wrthi’n cael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y gyrchfan mewn perthynas â’i draddodi i’w gyrchfan derfynol, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(i) ac unrhyw faterion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.

(5Yn achos nwyddau tramwy yr UE sy’n ddarostyngedig i gytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y man cyrraedd ar gyfer y nwyddau hynny, nid oes ond angen i’r arolygydd fod wedi ei fodloni ynglŷn â’r materion hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (h) y mae Gweinidogion Cymru yn gyfrifol amdanynt o dan y cytundeb.

(6Pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni y caniateir gollwng y deunydd perthnasol o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion, rhaid i’r arolygydd—

(a)stampio’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n ymwneud â’r deunydd perthnasol â stamp swyddogol Gweinidogion Cymru a’r dyddiad y darparwyd y dystysgrif yn unol ag erthygl 9(1); a

(b)pan fo hynny’n gymwys, lenwi penawdau perthnasol y ddogfen symud iechyd planhigion.

(7Caiff arolygydd, at ddiben cynnal gwiriad iechyd planhigion, ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd, neu berson arall sydd â gofal am y fangre y mae’r gwiriad i’w gynnal ynddi, ddarparu—

(a)pan fo hynny’n briodol, ardaloedd arolygu addas;

(b)goleuo digonol; ac

(c)byrddau arolygu.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “archwilio” (“examination”), mewn perthynas â llwyth o ddeunydd perthnasol, yw archwilio’r llwyth yn ei gyfanrwydd neu ar sail un neu ragor o samplau cynrychioliadol o’r llwyth neu o bob lot sy’n ffurfio rhan o’r llwyth;

(b)mae i “lot” yr un ystyr ag a roddir i “lot” yn Erthygl 2(1)(o) o Gyfarwyddeb 2000/29/EC.

Gofyn i un o swyddogion Cyllid a Thollau i ddeunydd gael ei gadw

13.—(1Pan fo gan arolygydd sail resymol dros amau bod risg y gallai pla planhigion ledaenu o unrhyw ddeunydd perthnasol, caiff yr arolygydd ofyn i un o swyddogion Cyllid a Thollau arfer y pŵer yn erthygl 14(1) at ddiben galluogi’r arolygydd i orfodi unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn.

(2Mewn perthynas â chais o dan erthygl 13(1)—

(a)caiff adnabod y deunydd perthnasol mewn unrhyw ffordd; a

(b)rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig neu gael ei wneud ar lafar a’i gadarnhau yn ysgrifenedig.

(3Pan fo arolygydd yn dyroddi hysbysiad neu’n cymryd unrhyw gam arall o dan y Gorchymyn hwn mewn cysylltiad â deunydd perthnasol a gedwir gan un o swyddogion Cyllid a Thollau o dan erthygl 14(1), rhaid i’r arolygydd hysbysu’r swyddog am yr hysbysiad neu’r cam.

Pŵer un o swyddogion Cyllid a Thollau

14.—(1Caiff un o swyddogion Cyllid a Thollau, pan fo arolygydd yn gofyn iddo wneud hynny yn unol ag erthygl 13(1), gadw am ddim mwy na dau ddiwrnod gwaith unrhyw ddeunydd perthnasol neu unrhyw gynhwysydd, unrhyw becyn neu unrhyw gargo o unrhyw fath sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw neu y gallai fod wedi bod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw ac y cyfeirir ato yn y cais hwnnw, os yw’r deunydd, y cynhwysydd, y pecyn neu’r cargo o dan oruchwyliaeth tollau yn unol ag Erthygl 134 o’r Cod Tollau.

(2Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi roi cyfarwyddydau ynglŷn â sut i ymdrin ag unrhyw ddeunydd perthnasol a gedwir o dan baragraff (1) yn ystod y cyfnod pan gaiff ei gadw.

(3Mewnforiwr unrhyw ddeunydd perthnasol a gedwir o dan baragraff (1) sy’n gyfrifol am gostau storio’r deunydd yn ystod y cyfnod pan gaiff ei gadw.

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â thystysgrifau

15.—(1Mewn perthynas â thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda deunydd perthnasol hysbysadwy o dan erthygl 7—

(a)rhaid ei bod wedi ei llenwi ddim mwy na 14 o ddiwrnodau cyn dyddiad anfon y llwyth o ddeunydd perthnasol y mae’n mynd gydag ef;

(b)rhaid ei bod wedi ei dyroddi gan gorff swyddogol cyfrifol neu sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y wlad yr allforir neu yr ailallforir ohoni yn unol â darpariaethau Erthygl V(1) o’r CRhWP;

(c)rhaid ei bod wedi ei llenwi gan swyddog awdurdodedig;

(d)rhaid ei bod wedi ei dyroddi yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;

(e)pan fo wedi ei dyroddi mewn iaith ac eithrio Saesneg, rhaid iddi ymgorffori cyfieithiad i’r Saesneg, neu rhaid i gyfieithiad i’r Saesneg fynd gyda hi ac, os yw’r cyfieithiad yn ddogfen ar wahân i’r dystysgrif, rhaid ei bod wedi ei llenwi a’i llofnodi gan swyddog awdurdodedig;

(f)rhaid ei bod wedi ei chyfeirio at y “Plant Protection Organisations of the Member States of the European Union”; ac

(g)rhaid iddi gael ei llenwi mewn teipysgrif neu briflythrennau.

(2Pan fo, mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4, un neu ragor o ofynion eraill wedi eu pennu mewn cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A neu C o’r Atodlen honno, rhaid i’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio a ddyroddir mewn cysylltiad ag unrhyw ddeunydd perthnasol o’r disgrifiad hwnnw bennu, o dan y pennawd “Additional declaration”, ba ofyniad penodol y cydymffurfiwyd ag ef gan gyfeirio at y lleoliad perthnasol yn Adran I o Atodiad IV Rhan A neu Atodiad IV Rhan B.

Gofynion sydd i’w bodloni gan nwyddau tramwy yr UE neu ddeunydd perthnasol sydd wedi ei fwriadu ar gyfer man arolygu cymeradwy

16.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol hysbysadwy—

(a)sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(4);

(b)sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(5) ac nad yw wedi ei ollwng na’i ryddhau o’i ardal rheolaeth iechyd planhigion o dan erthygl 10(1); neu

(c)sydd wedi ei fwriadu ar gyfer man arolygu cymeradwy.

(2Ni chaniateir symud unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo o fewn Cymru neu, pan fo hynny’n gymwys, o Gymru i unrhyw fan arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai—

(a)bod ei ddeunydd pecynnu a’r cerbyd y mae’n cael ei gludo ynddo wedi eu selio yn y fath fodd fel nad oes unrhyw risg y gallai’r deunydd perthnasol achosi heigiad, heintiad neu halogiad neu fod newid yn digwydd o ran beth yw’r deunydd; neu

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi awdurdodi ei symud.

(3Rhaid i fewnforiwr unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r erthygl hon yn gymwys iddo, ac eithrio deunydd perthnasol y mae ei gyrchfan yn rhywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, hysbysu Gweinidogion Cymru am y manylion a ganlyn yn ddim hwyrach na phum diwrnod gwaith cyn i’r deunydd gael ei lanio—

(a)enw, cyfeiriad a lleoliad y man arolygu cymeradwy neu’r ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig a fydd yn gyrchfan i’r deunydd perthnasol neu, os nad man arolygu cymeradwy nac ardal rheolaeth iechyd planhigion ddynodedig yw’r gyrchfan, y man y bwriedir iddo gyrraedd Cymru;

(b)y dyddiad a’r amser y disgwylir y bydd y deunydd perthnasol yn cyrraedd y man y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);

(c)os yw ar gael, rif cyfresol unigol unrhyw ddogfen symud iechyd planhigion sy’n ofynnol gan erthygl 17(6)(a);

(d)os ydynt ar gael, y dyddiad a’r man y lluniwyd y ddogfen symud iechyd planhigion;

(e)enw, cyfeiriad a rhif cofrestru’r mewnforiwr; ac

(f)cyfeirnod y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio y mae’n ofynnol iddi fynd gyda’r deunydd perthnasol o dan erthygl 7.

(4Rhaid i’r mewnforiwr hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am unrhyw newidiadau i’r manylion y mae’r mewnforiwr wedi eu rhoi o dan baragraff (3).

(5Rhaid rhoi’r hysbysiad i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion yr erthygl hon.

Mannau arolygu cymeradwy a gofynion ar gyfer dogfennau symud iechyd planhigion

Mannau arolygu cymeradwy

17.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo man a all fod yn gyrchfan i ddeunydd perthnasol hysbysadwy fel man lle caiff arolygydd gynnal gwiriadau iechyd planhigion a gwiriadau adnabod mewn cysylltiad â’r deunydd hwnnw.

(2Caiff mewnforiwr neu berson arall sy’n gyfrifol am y man hwnnw wneud cais i Weinidogion Cymru am gymeradwyaeth o dan baragraff (1) ar y ffurf ac yn cynnwys yr wybodaeth a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Caniateir i gymeradwyaeth gael ei rhoi yn ddarostyngedig i amodau, gan gynnwys amodau sy’n ymwneud â storio’r deunydd perthnasol neu â nwyddau tramwy yr UE, a chaniateir ei thynnu yn ôl ar unrhyw adeg os nad yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bellach bod y man y mae’r gymeradwyaeth yn ymwneud ag ef yn addas at y diben y rhoddwyd y gymeradwyaeth.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo man fel man arolygu cymeradwy onid yw Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cymeradwyo’r man i’w ddefnyddio fel cyfleuster storio dros dro.

(5Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “cyfleuster storio dros dro” yw cyfleuster storio dros dro o fewn yr ystyr a roddir i “temporary storage facility” yn Erthygl 148 o’r Cod Tollau;

(b)ystyr “gwiriad adnabod” (“identity check”) yw archwiliad a gynhelir o dan erthygl 12(3).

Gofynion ar gyfer dogfennau symud iechyd planhigion

(6Ni chaiff unrhyw berson symud dim o’r deunydd perthnasol hysbysadwy a ganlyn oni bai bod dogfen symud iechyd planhigion yn mynd gydag ef—

(a)deunydd perthnasol hysbysadwy sy’n ddarostyngedig i gytundeb tramwy UE ac sy’n cael ei symud i’w ardal rheolaeth iechyd planhigion yng Nghymru;

(b)deunydd perthnasol hysbysadwy sy’n ddarostyngedig i gytundeb y cyfeirir ato yn erthygl 12(4) ac sy’n cael ei symud o fewn Cymru neu o Gymru i unrhyw fan arall o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

RHAN 3Rheolaethau mewnol yr UE ar symud

Gwaharddiadau ar gyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd

18.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno dim o’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol a ganlyn i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o drydedd wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 3;

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i’r plâu planhigion a’r deunydd perthnasol penodedig pa un a ydynt yn tarddu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydedd wlad.

(3Ond nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran A neu C o Atodlen 4 y mae Rhan 2 yn gymwys iddi.

(4Nid yw paragraff (1)(e) ac (f) yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol a waherddir rhag cael ei gyflwyno i Gymru o dan baragraff (1)(d).

(5Ni chaiff unrhyw berson ddod â dim o’r tatws a ganlyn i Gymru oni bai y darperir hysbysiad ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) i arolygydd o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd—

(a)tatws hadyd a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall neu yn y Swistir; neu

(b)tatws, ac eithrio tatws hadyd, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yng Ngwlad Pwyl, Portiwgal, Rwmania neu unrhyw ran o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

(6Y materion yw—

(a)yr amser a’r dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd;

(b)y defnydd arfaethedig ohonynt;

(c)eu cyrchfan arfaethedig;

(d)eu hamrywogaeth a’u nifer; ac

(e)rhif adnabod cynhyrchydd y tatws.

(7Yn achos ffrwythau sitrws hysbysadwy, rhaid i’r person sy’n cyflwyno’r ffrwythau i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ddarparu hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad penodedig, cyn iddynt gyrraedd y man cyrraedd hwnnw, am—

(a)y dyddiad y disgwylir iddynt gael eu cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd;

(b)eu man cyrraedd yn yr Undeb Ewropeaidd;

(c)eu cyfaint;

(d)rhifau adnabod eu cynwysyddion;

(e)enwau, cyfeiriadau a lleoliadau’r mangreoedd yng Nghymru y maent i’w prosesu ynddynt.

(8Mae paragraffau (1)(e), (f) ac (g) a (5) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(9Yn yr erthygl hon—

ystyr “cyfeiriad penodedig” (“specified address”) yw’r cyfeiriad a roddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd at ddibenion paragraff (7);

ystyr “ffrwythau sitrws hysbysadwy” (“notifiable citrus fruits”) yw ffrwythau sitrws i’w prosesu sydd i’w cyflwyno i’r Undeb Ewropeaidd drwy fan cyrraedd mewn Aelod-wladwriaeth arall a’u prosesu’n sudd yng Nghymru.

Hysbysu am lanio planhigion penodol ar gyfer eu plannu

19.—(1Rhaid i berson sy’n dod â’r planhigion a ganlyn i Gymru hysbysu arolygydd yn ysgrifenedig am y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) cyn y dyddiad y maent yn cyrraedd Cymru, neu’n ddim hwyrach na phedwar diwrnod ar ôl hynny—

(a)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu mewn Aelod-wladwriaeth arall; neu

(b)planhigion Castanea Mill., Fraxinus L., Pinus L., Platanus L., Prunus L., Quercus L. neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfwyd neu yr amheuir eu bod wedi eu tyfu yn y Swistir ac nad yw gofynion erthygl 6 yn gymwys iddynt.

(2Y materion yw—

(a)y dyddiad y bwriedir iddynt gyrraedd neu, os ydynt wedi cyrraedd Cymru, y dyddiad y gwnaethant gyrraedd Cymru gyntaf;

(b)eu cyrchfan arfaethedig, neu os ydynt wedi cyrraedd eu cyrchfan arfaethedig yng Nghymru, eu lleoliad presennol;

(c)eu genws, eu rhywogaeth a’u nifer;

(d)rhif adnabod cyflenwr y planhigion; ac

(e)y wlad y maent wedi eu traddodi ohoni, neu y maent i’w traddodi iddi.

(3Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

Atal plâu planhigion rhag lledaenu

20.—(1Ni chaiff unrhyw berson gadw, storio, plannu, gwerthu na symud y canlynol yn fwriadol, na pheri na chaniatáu yn fwriadol i’r canlynol gael eu cadw, eu storio, eu plannu, eu gwerthu na’u symud—

(a)unrhyw bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(b)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2 sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(c)unrhyw bla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 nac yng ngholofn 3 o Atodlen 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(d)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru gan dorri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g);

(e)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 4;

(f)unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Ran C o Atodlen 4 sy’n tarddu o Brydain Fawr, oni bai y cydymffurfir â’r gofynion a bennir yn y cofnodion mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o Ran C o Atodlen 4;

(g)unrhyw ddeunydd perthnasol a gyflwynwyd i Gymru o Loegr neu o’r Alban a fyddai, pe bai wedi ei gyflwyno o drydedd wlad neu o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, wedi torri erthygl 5(1)(d), (e) neu (f) neu erthygl 18(1)(d), (e), (f) neu (g).

(2Nid yw’r gwaharddiadau ym mharagraff (1) yn gymwys i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol ei gadw, ei storio neu ei symud gan gydymffurfio â gofyniad a osodir gan arolygydd o dan Ran 6 neu 7.

(3Mae paragraff (1)(e) ac (f) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(4Yn yr erthygl hon, mae “symud” (“move” a “moved”) yn golygu symud neu waredu fel arall.

Y gofynion am basbortau planhigion

21.—(1Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(2Ni chaiff unrhyw berson gyflwyno i Gymru, na symud o fewn Cymru, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 pan fo’n nwyddau tramwy yr UE neu’n tarddu o Gymru neu o rywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol ac, os yw’n tarddu o Gymru, ei fod wedi bod yn destun arolygiad boddhaol yn y man cynhyrchu.

(3Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gydag ef.

(4Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi ei ollwng o dan erthygl 12 ac sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer Cymru fel parth gwarchod yn mynd gydag ef.

(5Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(6Ni chaiff unrhyw berson draddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 7, oni bai bod pasbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw yn mynd gyda’r deunydd perthnasol.

(7Ni chaiff unrhyw berson symud o fewn Cymru na thraddodi o Gymru i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd a gydnabyddir fel parth gwarchod mewn perthynas â Thaumetopoea processionea L., unrhyw blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, a fwriedir ar gyfer eu plannu, oni bai bod dogfennaeth swyddogol sy’n cadarnhau eu bod yn rhydd rhag Thaumetopoea processionea L. yn mynd gyda hwy.

(8Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (1) a (2) yn gymwys mewn perthynas â chyflwyno i Gymru ddeunydd perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno, o dan gytundeb tramwy UE, i gynnal gwiriad iechyd planhigion mewn cysylltiad ag ef.

(9Mae paragraffau (1), (2), (5) a (6) yn ddarostyngedig i erthygl 22.

(10Mae paragraffau (2) a (4) yn ddarostyngedig i erthygl 23.

Eithriadau rhag gwaharddiadau a gofynion penodol

22.—(1Nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i symiau bach o ddeunydd perthnasol, ac eithrio deunydd eithriedig, os yw’r deunydd perthnasol yn bodloni’r amodau ym mharagraff (2)—

(a)erthygl 18(1)(e), (f) ac (g) a (5);

(b)erthygl 19(1);

(c)erthygl 20(1)(e) ac (f); a

(d)erthygl 21(1), (2), (5) a (6).

(2Yr amodau yw—

(a)nad yw’r deunydd perthnasol yn dangos unrhyw arwyddion bod pla planhigion yn bresennol;

(b)na fwriedir i’r deunydd perthnasol gael ei ddefnyddio wrth fasnachu neu redeg busnes; ac

(c)y bwriedir y deunydd perthnasol at ddefnydd aelwydydd.

(3Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(1) yn gymwys i blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU ac nad ydynt ond yn cael eu symud o fewn yr ardal honno.

(4Mae’r gofynion yn erthygl 21(1) a (5) a fyddai’n gymwys yn rhinwedd paragraffau 16 a 17 o Ran A o Atodlenni 6 a 7 i blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 ac i blanhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunydd cyn-sylfaenol y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(9) o’r Penderfyniad hwnnw yn anghymwys pan fo’r planhigion yn cael eu symud gan berson sy’n gweithredu at ddibenion y tu allan i fasnach, busnes neu broffesiwn y person, a’r person yn eu caffael at ddefnydd personol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru eithrio symud deunydd perthnasol sy’n tarddu o Brydain Fawr o’r gwaharddiad ar symud yn erthygl 21(1) neu (2) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y symudiad yn cael ei wneud yn lleol gan gynhyrchwyr neu broseswyr bach y bwriedir y broses gyfan o gynhyrchu a gwerthu deunydd o’r fath ar gyfer defnyddio’r deunydd yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud yn broffesiynol â chynhyrchu planhigion; a

(b)nad oes unrhyw risg y bydd y plâu planhigion yn lledaenu neu’n cael eu lledaenu o ganlyniad i’r symudiad hwnnw.

(6Ym mharagraff (1), ystyr “deunydd eithriedig” (“excluded material”) yw unrhyw un neu ragor o’r deunydd a ganlyn—

(a)planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(b)planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Dilysrwydd pasbortau planhigion ar gyfer Cymru

23.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B o Atodlen 6 a symudir o fan yng Nghymru, neu drwy Gymru, i leoliad y tu allan i Gymru.

(2Nid yw’r gofynion yn erthygl 21(2) a (4) yn gymwys os yw—

(a)y deunydd perthnasol yn tarddu o Brydain Fawr; neu

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach, sy’n ardystio bod y deunydd yn tarddu y tu allan i Gymru a’i fod yn tramwyo i gyrchfan derfynol y tu allan i Gymru a bod yr amodau ym mharagraff (3) wedi eu bodloni, yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wrth iddo dramwyo drwy Gymru.

(3Yr amodau yw—

(a)bod y deunydd pecynnu y caiff y deunydd perthnasol ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn rhydd rhag pridd a malurion planhigion ac unrhyw bla planhigion perthnasol y mae Cymru yn barth gwarchod mewn perthynas ag ef;

(b)y cafodd y deunydd ei selio yn union ar ôl ei becynnu neu, pan fo hynny’n briodol, ar ôl ei lwytho, a’i fod yn parhau i fod wedi ei selio wrth i’r deunydd dramwyo drwy Gymru; ac

(c)bod natur neu wneuthuriad y deunydd pecynnu y caiff y deunydd ei gludo ynddo ac unrhyw gerbyd a ddefnyddir i gludo’r deunydd yn ddigonol i sicrhau nad oes unrhyw risg bod unrhyw bla planhigion perthnasol a allai fod yn bresennol yn y deunydd perthnasol neu arno yn dianc.

Darpariaethau cyffredinol sy’n ymwneud â phasbortau planhigion

24.—(1Mae unrhyw newid neu ddilead mewn pasbort planhigion yn gwneud y pasbort planhigion yn annilys yn awtomatig, oni bai bod y newid neu’r dilead yn cael ei ardystio gan swyddog awdurdodedig neu’r masnachwr planhigion a awdurdodwyd o dan erthygl 29 i ddyroddi’r pasbort planhigion, yn y naill achos a’r llall drwy roi ei flaenlythrennau â llaw wrth y newid neu’r dilead.

(2Nid yw pasbort planhigion sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol ond i’w drin fel ei fod yn mynd gyda’r deunydd perthnasol os yw swyddog awdurdodedig, y masnachwr planhigion a awdurdodwyd i’w ddyroddi neu arolygydd yn rhoi’r pasbort planhigion ynghlwm wrth y deunydd perthnasol.

(3Pan fo pasbort planhigion ar ffurf label swyddogol a bod y masnachwr planhigion sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion i’w roi ynghlwm, rhaid i’r masnachwr planhigion ei roi ynghlwm mewn modd sy’n golygu na ellir ei ailddefnyddio.

(4Ni chaiff person ond dyroddi pasbort planhigion amnewid yn lle pasbort planhigion a ddyroddwyd mewn cysylltiad â llwyth os yw—

(a)y llwyth wedi ei rannu, y llwyth neu ran o’r llwyth wedi ei gyfuno â llwyth arall neu statws iechyd planhigion y llwyth wedi ei newid; a

(b)y person wedi ei fodloni y gellir adnabod y deunydd perthnasol y bydd y pasbort planhigion amnewid yn ymwneud ag ef a’i fod yn rhydd rhag unrhyw risg o heigiad gan bla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2.

(5Rhaid i basbort planhigion neu ddogfen swyddogol sy’n mynd gydag unrhyw ddeunydd perthnasol yn unol ag erthygl 21 gael ei gadw neu ei chadw gan y person sy’n ddefnyddiwr terfynol i’r deunydd perthnasol neu sy’n defnyddio’r deunydd perthnasol wrth fasnachu neu gynnal busnes.

RHAN 4Cofrestru masnachwyr planhigion ac awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion

Cofrestr o fasnachwyr planhigion

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr sy’n rhestru’r manylion a ganlyn mewn perthynas â phob masnachwr planhigion sy’n bodloni gofynion y Rhan hon—

(a)enw’r masnachwr planhigion;

(b)enw unrhyw berson arall sy’n gyfrifol am wneud y cais ar gyfer y masnachwr planhigion o dan erthygl 27;

(c)enw masnachu’r masnachwr planhigion, os yw’n wahanol i enw’r masnachwr planhigion;

(d)manylion y gweithgareddau y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt ac y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â hwy neu’n bwriadu ymgymryd â hwy;

(e)cyfeiriad pob mangre y mae’r masnachwr planhigion yn ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi neu’n bwriadu ymgymryd â’r gweithgareddau hynny ynddi; ac

(f)rhif cofrestru unigryw i’r masnachwr planhigion.

(2Rhaid i’r gofrestr fod yn agored i’w harolygu gan y Comisiwn Ewropeaidd.

Rhwymedigaeth i gofrestru

26.—(1Ni chaiff unrhyw fasnachwr planhigion ymgymryd ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo mewn unrhyw fangre oni bai bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â’r gweithgaredd yn y fangre honno.

(2Ond nid oes angen i fasnachwr planhigion fod yn gofrestredig mewn cysylltiad ag unrhyw weithgaredd y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo os yw—

(a)y masnachwr planhigion yn gynhyrchydd; a

(b)y cyfan o’r deunydd perthnasol y mae’r masnachwr planhigion yn ei gynhyrchu a’i werthu wedi ei fwriadu i’w ddefnyddio yn y pen draw gan bersonau yn y farchnad leol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes.

Gofynion cofrestru

27.—(1Rhaid i gais am gofrestriad—

(a)cael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru; a

(b)bod ar ffurf a chynnwys yr wybodaeth y caiff Gweinidogion Cymru eu gwneud yn rhesymol ofynnol at ddiben ystyried y cais.

(2Rhaid i fasnachwr planhigion hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ar unwaith os ceir—

(a)cyn bod y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru, unrhyw newid yn amgylchiadau’r masnachwr planhigion a gofnodir yng nghais y masnachwr planhigion am gofrestriad; neu

(b)unrhyw newid yn y manylion a restrir yn y gofrestr mewn perthynas â’r masnachwr planhigion.

(3Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond cofrestru masnachwr planhigion mewn cysylltiad â gweithgaredd neu fangre os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau yn erthygl 28(1) ac yn fodlon gwneud hynny.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu masnachwr planhigion pan fydd y masnachwr planhigion wedi ei gofrestru.

Amodau ar gyfer parhau i fod yn gofrestredig fel masnachwr planhigion ac amodau eraill sy’n gysylltiedig â masnach

28.—(1Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig—

(a)cadw cynllun cywir o bob un o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion;

(b)cadw cofnod o’r holl ddeunydd perthnasol—

(i)a brynir gan y masnachwr planhigion;

(ii)a ddygir i unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion at ddiben storio, plannu neu gynhyrchu’r deunydd yn y fangre honno; neu

(iii)a gynhyrchir yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion, neu a anfonir ohonynt;

(c)cadw pob dogfen y mae’r masnachwr planhigion wedi ei chreu neu wedi ei chael ac sy’n ymwneud â’r cofnodion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) am o leiaf un flwyddyn o’r dyddiad y creodd neu y cafodd y masnachwr planhigion hi;

(d)dynodi unigolyn (pa un ai’r masnachwr planhigion neu berson arall) sy’n dechnegol brofiadol mewn perthynas â’r gweithgareddau cofrestredig a’r materion iechyd planhigion cysylltiedig sy’n effeithio ar y fangre gofrestredig ac sydd ar gael i gydgysylltu â Gweinidogion Cymru mewn perthynas â materion sy’n codi o dan y Gorchymyn hwn;

(e)archwilio pob un o’r mangreoedd cofrestredig a’r deunydd perthnasol yn y mangreoedd hynny ar yr adegau ac yn y modd a bennir mewn unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd;

(f)gwneud datganiad bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau a bennir yn is-baragraffau (a) i (e) ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru ac yn fodlon gwneud hynny; ac

(g)cydymffurfio ag unrhyw amodau eraill a bennir gan Weinidogion Cymru y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben asesu presenoldeb neu ledaeniad unrhyw bla planhigion yn unrhyw un neu ragor o fangreoedd cofrestredig y masnachwr planhigion oherwydd cyflwr y fangre honno neu’r mangreoedd hynny.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir ym mharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru atal cofrestriad y masnachwr planhigion dros dro hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion yn gallu cydymffurfio â’r amodau hynny ac yn fodlon gwneud hynny.

(3Rhaid i weithredwr proffesiynol sy’n cyflenwi planhigion penodedig Xylella, neu y’u cyflenwir hwy iddo—

(a)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gyflenwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol y cyflenwyd y lot iddo am dair blynedd o’r dyddiad y’i cyflenwyd;

(b)cadw cofnod o bob lot o’r planhigion a gafwyd gan y gweithredwr proffesiynol ac enw’r gweithredwr proffesiynol a gyflenwodd y lot am dair blynedd o’r dyddiad y’i cafwyd; ac

(c)yn union ar ôl anfon neu gael unrhyw lot o’r fath, hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am y manylion a bennir yn Erthygl 10(4) o Benderfyniad (EU) 2015/789 mewn cysylltiad â’r lot honno.

(4Ym mharagraff (3)—

(a)mae i “gweithredwr proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional operator” yn Erthygl 1(d) o Benderfyniad (EU) 2015/789;

(b)ystyr “planhigion penodedig Xylella” (“Xylella specified plants”) yw—

(i)planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw, neu wedi eu symud drwy ardal o’r fath;

(ii)planhigion, ac eithrio hadau, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, a fwriedir ar gyfer eu plannu, nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789.

Awdurdod i ddyroddi pasbortau planhigion

29.—(1Rhaid i fasnachwr planhigion cofrestredig sy’n dymuno dyroddi pasbortau planhigion mewn perthynas â deunydd perthnasol sydd i’w symud o unrhyw fangre yng Nghymru wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru am yr awdurdod i wneud hynny.

(2Rhaid i’r ceisydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw fanylion sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru ynglŷn â’r deunydd perthnasol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gynnal unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre y mae’r deunydd i’w symud ohoni y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â’r cais.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond rhoi awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o’r deunydd perthnasol a’r fangre sy’n destun y cais, wedi eu bodloni—

(a)bod y fangre a’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a

(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.

(5Rhaid i awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion a roddir gan Weinidogion Cymru gael ei roi yn ysgrifenedig a chaniateir ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion perthnasol o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, gan gynnwys y tiriogaethau y bydd y pasbortau planhigion sydd i’w dyroddi yn ddilys ar eu cyfer.

(6Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbortau planhigion yn gyfan gwbl neu mewn perthynas â mangre benodedig neu ddeunydd perthnasol penodedig os nad yw Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi sylw i unrhyw archwiliad o fangre’r masnachwr planhigion cofrestredig ac unrhyw ddeunydd perthnasol yno, wedi eu bodloni—

(a)bod y fangre neu’r deunydd perthnasol yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion perthnasol; a

(b)pan bennir unrhyw ofynion o dan y Gorchymyn hwn mewn perthynas â’r deunydd perthnasol, y cydymffurfiwyd â’r gofynion hynny.

(7Caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro weithredu awdurdodiad i ddyroddi pasbort planhigion, neu amrywio awdurdodiad, i’r graddau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol, os ydynt wedi eu bodloni bod y masnachwr planhigion cofrestredig wedi methu ag—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru yn unol ag erthygl 27(2) am unrhyw newid yn y manylion a gofrestrwyd mewn perthynas â’r masnachwr planhigion;

(b)cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn erthygl 28(1);

(c)cydymffurfio ag unrhyw amodau yn yr awdurdodiad a roddwyd o dan baragraff (5); neu

(d)cydymffurfio â gofyniad mewn hysbysiad a gyflwynwyd i’r masnachwr planhigion o dan erthygl 32.

(8Yn yr erthygl hon ystyr “pla planhigion perthnasol” (“relevant plant pest”) yw—

(a)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1; neu

(b)mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 2, pla planhigion o ddisgrifiad a bennir mewn unrhyw gofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno sy’n bresennol ar y deunydd perthnasol.

RHAN 5Masnach â’r Swistir a phasbortau planhigion y Swistir

Eithriadau i’r gofynion yn erthyglau 6, 7 a 10

30.—(1Nid yw’r gofynion yn erthygl 7 i dystysgrif ffytoiechydol fynd gyda deunydd perthnasol penodol yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir.

(2Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei draddodi’n uniongyrchol o’r Swistir i Gymru, mae unrhyw ofynion yn erthygl 7 fod tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi eu bodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.

(3Nid yw’r gofynion yn erthyglau 6 a 10 yn gymwys i unrhyw ddeunydd perthnasol—

(a)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan B, ond nid yn Rhan A, o Atodlen 8 ac a gyflwynir i Gymru o’r Swistir; neu

(b)y mae pasbort planhigion y Swistir yn mynd gydag ef yn unol â pharagraff (2).

(4Yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol sydd o ddisgrifiad a bennir yn Rhan A o Atodlen 8 ac sy’n cael ei gyflwyno i Gymru o’r Swistir drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, mae unrhyw ofyniad yn Rhan 3 fod pasbort planhigion yn mynd gyda’r deunydd perthnasol wedi ei fodloni os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gyda’r deunydd.

RHAN 6Mesurau i reoli glanio deunydd perthnasol ac atal plâu planhigion rhag lledaenu

Archwilio, cymryd samplau a marcio

31.—(1Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre ar bob adeg resymol at ddiben—

(a)canfod presenoldeb neu ddosbarthiad pla planhigion yn y fangre;

(b)gwirio a gydymffurfiwyd ag unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn;

(c)cynnal archwiliad o fangre masnachwr planhigion (gan gynnwys deunydd perthnasol, dogfennau neu gofnodion yn y fangre) mewn cysylltiad ag awdurdodiad neu gais am awdurdodiad y masnachwr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion o dan erthygl 29;

(d)gorfodi darpariaethau’r Gorchymyn hwn fel arall.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd sy’n mynd i fangre at ddiben a bennir ym mharagraff (1) neu o dan warant a ddyroddir gan ynad heddwch—

(a)archwilio, marcio neu dynnu ffotograff o unrhyw ran o’r fangre neu unrhyw wrthrych yn y fangre;

(b)cymryd samplau o unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol, neu o unrhyw gynhwysydd neu becyn, neu o unrhyw ddeunydd sydd wedi bod, neu y gallai fod wedi bod, mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol;

(c)arolygu neu wneud copïau o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cânt eu dal) sy’n ymwneud â chynhyrchu neu fasnachu unrhyw ddeunydd perthnasol.

(6Caiff arolygydd, at ddiben arfer pŵer a roddir o dan baragraff (5), agor, neu awdurdodi unrhyw berson i agor ar ran yr arolygydd, unrhyw gynhwysydd neu becyn neu ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson sydd â gofal am unrhyw gynhwysydd neu becyn ei agor yn y modd a bennir gan yr arolygydd.

(7Caiff arolygydd wahardd symud, trin neu ddifa unrhyw bla planhigion, deunydd perthnasol, cynhwysydd neu becyn neu unrhyw ddeunydd a allai fod wedi bod mewn cysylltiad â phla planhigion neu ddeunydd perthnasol pan fo hynny’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r arolygydd i arfer y pwerau a roddir gan baragraff (5).

(8Pan gedwir unrhyw ddogfen y cyfeirir ati neu unrhyw gofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(c) ar gyfrifiadur, caiff arolygydd—

(a)mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â’r cofnod neu’r ddogfen, a’u harolygu a gwirio eu gweithrediad;

(b)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal am y cyfrifiadur, y cyfarpar neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu, roi i’r arolygydd unrhyw gymorth y bo’n rhesymol i’r arolygydd ei gwneud yn ofynnol.

(9Caiff arolygydd ddifa neu waredu fel arall unrhyw sampl a gymerir o dan baragraff (5)(b) pan na fo angen y sampl ar yr arolygydd mwyach o dan y Gorchymyn hwn.

(10Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(11Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.

(12Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (10), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

Camau y caiff arolygydd eu gwneud yn ofynnol

32.—(1Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol yn debygol o gael ei gyflwyno i Gymru, neu ei fod wedi ei gyflwyno i Gymru, yn groes i’r Gorchymyn hwn, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i berson priodol.

(2Person priodol yw—

(a)masnachwr planhigion neu berson arall sy’n meddu ar y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol neu sydd â’r hawl mewn unrhyw fodd i fod ag ef o dan ei ofal neu ei reolaeth; neu

(b)unrhyw berson sydd â gofal am y fangre y cedwir y pla planhigion neu’r deunydd perthnasol ynddi, neu y mae’n debygol o gael ei gadw ynddi, ar ôl cael ei lanio.

(3Caiff hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)gwahardd glanio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol;

(b)pennu ym mha fodd y mae unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol i’w lanio a’r rhagofalon sydd i’w cymryd wrth lanio ac ar ôl hynny;

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;

(d)gwahardd symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion;

(e)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(f)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion.

(4Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu unrhyw berson arall â gofal am y fangre neu’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol.

(5Caiff hysbysiad o dan baragraff (4)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig gael ei drin, ei ailallforio, ei ddifa neu ei waredu fel arall;

(b)gwahardd symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre am y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad a, phan fo hynny’n briodol, gosod unrhyw waharddiadau eraill y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir;

(c)ei gwneud yn ofynnol symud unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd gwaharddedig o’r fangre a bennir yn yr hysbysiad;

(d)ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gamau eraill, fel a bennir yn yr hysbysiad, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion a reolir.

(6Os oes gan arolygydd sail resymol dros gredu bod hynny’n angenrheidiol at ddiben atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu o’r fangre a grybwyllir ym mharagraff (4), neu sicrhau ei fod yn cael ei ddileu o’r fangre, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu i berson sydd â gofal am unrhyw fangre arall, yn gosod unrhyw waharddiad neu’n ei gwneud yn ofynnol cymryd unrhyw gam rhesymol at y diben hwnnw.

(7Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr; neu

(iii)pla planhigion nad yw’n bresennol mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd;

(b)ystyr “deunydd gwaharddedig” (“prohibited material”) yw—

(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu

(ii)deunydd perthnasol y gwaherddir ei lanio o dan erthygl 5 neu 18 neu y gwaherddir ei symud yng Nghymru o dan erthygl 20.

Camau y caiff arolygydd eu cymryd

33.—(1Os oes gan arolygydd sail resymol dros amau bod unrhyw bla planhigion a reolir neu ddeunydd heintiedig yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol mewn unrhyw fangre, caiff yr arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, fynd i’r fangre a chymryd camau yn y fangre neu yn rhywle arall i—

(a)difa unrhyw bla planhigion a reolir;

(b)atal unrhyw bla planhigion a reolir rhag lledaenu;

(c)difa unrhyw ddeunydd heintiedig; neu

(d)trin unrhyw ddeunydd heintiedig.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(6Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan arolygydd.

(7Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(8Yn yr erthygl hon—

(a)ystyr “pla planhigion a reolir” (“controlled plant pest”) yw—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2; neu

(ii)pla planhigion nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu ym Mhrydain Fawr;

(b)ystyr “deunydd heintiedig” (“infected material”) yw—

(i)deunydd perthnasol sy’n cario neu wedi ei heintio â phla planhigion a reolir, neu a allai fod yn cario neu fod wedi ei heintio â phla planhigion a reolir; neu

(ii)deunydd perthnasol nad yw’n cario nac wedi ei heintio â phla planhigion, ond y mae’r arolygydd yn ystyried, mewn cysylltiad ag ef, fod perygl ar ddyfod bod y pla planhigion yn lledaenu neu’n cael ei ledaenu.

Darpariaethau amrywiol ynglŷn â hysbysiadau

34.—(1Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) neu (4) o erthygl 32 bennu un gofyniad neu ragor, neu ofynion eraill.

(2Rhaid i unrhyw ofyniad a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1), (4) neu (6) o erthygl 32 gael ei gyflawni yn y modd ac o fewn unrhyw gyfnod rhesymol a bennir gan yr arolygydd yn yr hysbysiad.

(3Rhaid i unrhyw driniaeth, ailallforio, difa neu waredu sy’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 gael ei gynnal gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, neu rhaid i’r person hwnnw drefnu iddo gael ei gynnal, er boddhad arolygydd, o’r man neu yn y man a bennir yn yr hysbysiad.

(4Ni chaniateir i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’n ofynnol gan hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 iddo gael ei symud i fan a bennir yn yr hysbysiad gael ei symud i’r man dynodedig ac eithrio yn y modd a bennir yn yr hysbysiad.

(5Caiff arolygydd ddiwygio neu dynnu yn ôl hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd o dan y Gorchymyn hwn drwy hysbysiad pellach.

(6Caiff hysbysiad o dan baragraff (5) fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal cyflwyno neu ledaenu unrhyw bla planhigion neu ailheintio neu ailheigio gan y pla planhigion y mae’r hysbysiad gwreiddiol yn ymwneud ag ef.

(7Caiff unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Rhan hon ddiffinio drwy gyfeirio at fap neu gynllun neu fel arall hyd a lled y fangre y cyfeirir ati yn yr hysbysiad.

(8Caiff arolygydd, drwy hysbysiad, ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog neu unrhyw berson arall yr ymddengys ei fod â gofal am y fangre y mae hysbysiad a gyflwynir o dan erthygl 32 yn ymwneud â hi—

(a)hysbysu Gweinidogion Cymru am unrhyw newid ym meddiannaeth y fangre, a dyddiad y newid ac enw’r meddiannydd newydd; a

(b)rhoi gwybod i feddiannydd newydd y fangre am gynnwys yr hysbysiad.

Cyflwyno hysbysiadau

35.—(1Rhaid i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i fasnachwr planhigion cofrestredig gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei ddanfon yn bersonol; neu

(b)ei adael ar gyfer y masnachwr, neu ei anfon ato drwy’r post, yng nghyfeiriad mangre gofrestredig y masnachwr neu, os oes gan y masnachwr fwy nag un cyfeiriad yn y gofrestr, ym mhrif gyfeiriad y masnachwr yn y gofrestr.

(2Caniateir i hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn sydd i’w gyflwyno i unrhyw berson arall gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei ddanfon yn bersonol; neu

(b)ei adael ar ei gyfer, neu ei anfon ato drwy’r post, yn ei gartref neu ei fan gwaith hysbys diwethaf.

(3Os yw hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn i’w gyflwyno i’r meddiannydd neu i berson arall sydd â gofal am y fangre, ac na ellir dod o hyd i gartref neu gyfeiriad hysbys diwethaf y person hwnnw ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad i’r person hwnnw drwy ei gyfeirio at “y meddiannydd” a’i adael wedi ei osod yn weladwy ar wrthrych yn y fangre am gyfnod o saith niwrnod.

(4Caniateir cyflwyno hysbysiad o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn achos corff corfforaethol (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig), i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff hwnnw;

(b)yn achos partneriaeth (ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, ond gan gynnwys partneriaeth Albanaidd), i bartner neu berson sy’n llywio neu’n rheoli busnes y bartneriaeth yng nghyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth; neu

(c)yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i aelod o’r bartneriaeth yng nghyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth.

(5At ddibenion paragraff (4), prif swyddfa cwmni sy’n gofrestredig y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw ei brif swyddfa neu ei phrif swyddfa yn y Deyrnas Unedig.

Gwybodaeth ynglŷn â chydymffurfio â hysbysiadau

36.  Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo roi gwybod i’r arolygydd ar unwaith a gydymffurfiwyd â gofynion yr hysbysiad ac, os gwnaed hynny, ddarparu manylion y camau a gymerwyd i gydymffurfio â’r gofynion hynny i’r arolygydd.

Methu â chydymffurfio â hysbysiad

37.—(1Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw o dan y Gorchymyn hwn, caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre yr effeithir arni ar bob adeg resymol i gymryd unrhyw gamau, neu i beri cymryd unrhyw gamau, y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn sicrhau y cydymffurfir â’r hysbysiad neu i unioni canlyniadau’r methiant i’w cyflawni.

(2Rhaid i arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o’i awdurdod i weithredu, os gofynnir iddo wneud hynny.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf fel annedd breifat, oni bai bod rhybudd o 24 awr o’r bwriad i fynd i’r fangre wedi ei roi i’r meddiannydd.

(4Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar unrhyw hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch.

(5Caiff arolygydd sy’n gweithredu o dan baragraff (1) ddod ag unrhyw bersonau eraill, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd, gydag ef, a chaiff ddod ag unrhyw gyfarpar a cherbydau i’r fangre y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

(6Caiff person sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5)—

(a)aros yn y fangre ac o bryd i’w gilydd fynd i’r fangre eto heb yr arolygydd;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu gerbyd i’r fangre y mae’r person yn ystyried ei fod yn angenrheidiol;

(c)cyflawni gwaith yn y fangre yn y modd y’i cyfarwyddir gan yr arolygydd.

(7Rhaid i berson sy’n dod gydag arolygydd o dan baragraff (5), os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth o’i awdurdod a roddwyd yn y cyswllt hwnnw gan Weinidogion Cymru.

(8Pan fo arolygydd yn cymryd unrhyw gamau o dan baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru adennill, fel dyled gan y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo, yr holl gostau rhesymol yr aed iddynt wrth gymryd y camau hynny.

(9Yn yr erthygl hon, ystyr “mangre yr effeithir arni” (“affected premises”) yw unrhyw fangre y gall unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef fod yn bresennol ynddi neu arni.

Hawl mynediad a roddir drwy warant a ddyroddir gan ynad heddwch

38.—(1Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i arolygydd fynd i fangre o dan erthygl 31, 33 neu 37, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

(a)bod sail resymol dros fynd i’r fangre honno; a

(b)y bodlonir unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (2).

(2Yr amodau yw—

(a)bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

(b)y byddai gofyn am gael mynediad i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant, yn mynd yn groes i’r amcan o fynd i’r fangre;

(c)bod angen mynd i’r fangre ar fyrder;

(d)bod y fangre heb ei meddiannu neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

(3Mae gwarant yn ddilys am un mis.

(4Rhaid i arolygydd sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad heb awdurdod ag yr ydoedd cyn iddo fynd iddi.

RHAN 7Rhywogaethau mochlysaidd penodol: plannu a rheoli plâu planhigion perthnasol

Darpariaethau amrywiol ar gyfer rhywogaethau mochlysaidd penodol

39.—(1Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol unrhyw datws neu unrhyw datws a gynhyrchir o’r tatws hynny, sydd wedi eu tyfu mewn trydedd wlad, ac eithrio’r Swistir, na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws yn fwriadol na pheri neu ganiatáu yn fwriadol iddynt gael eu plannu oni bai—

(a)eu bod yn tarddu mewn llinell uniongyrchol o ddeunydd tatws sydd wedi ei gael o dan raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir;

(b)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd coch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 98/57/EC; ac

(c)y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Pydredd cylch tatws mewn profion swyddogol gan ddefnyddio’r dulliau a nodir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 93/85/EEC.

(3Mae’r canlynol yn cael effaith mewn perthynas â rheoli plâu planhigion penodol—

(a)Atodlen 13 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Clefyd y ddafaden tatws);

(b)Atodlen 14 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Llyngyr tatws);

(c)Atodlen 15 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws); a

(d)Atodlen 16 (mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws).

(4Pan gadarnheir bod Pydredd coch tatws yn bresennol ar sampl a gymerwyd yn unol ag Erthyglau 2 a 5 o Gyfarwyddeb 98/57/EC, caiff arolygydd ddarnodi parth yn unol ag Erthygl 5(1)(a)(iv) neu 5(1)(c)(iii) o’r Gyfarwyddeb honno er mwyn atal y pla planhigion hwnnw rhag lledaenu.

RHAN 8Trwyddedau

Trwyddedau i gyflawni gweithgareddau a waherddir gan y Gorchymyn hwn

40.—(1Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Gorchymyn hwn, caniateir cyflwyno unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol i Gymru, neu ei gadw, ei storio, ei blannu, ei symud neu ei waredu fel arall yng Nghymru, a chaniateir gwneud unrhyw beth arall a waherddir gan y Gorchymyn hwn o dan awdurdod trwydded a roddir gan Weinidogion Cymru—

(a)drwy arfer unrhyw randdirymiad a ganiateir gan Gyfarwyddeb 2000/29/EC; neu

(b)at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol, mewn perthynas â phla planhigion cwarantin domestig.

(2Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1)(b) fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddi gael ei rhoi—

(a)yn ddarostyngedig i amodau;

(b)am gyfnod amhenodol neu am gyfnod penodedig.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “pla planhigion cwarantin domestig” (“domestic quarantine plant pest”) yw pla planhigion nad yw o ddisgrifiad a restrir yn Atodiad I neu II i Gyfarwyddeb 2000/29/EC, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr.

Trwyddedau at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol neu ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol a ganiateir gan Gyfarwyddeb 2008/61/EC

41.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy drwydded, awdurdodi cyflwyno, symud neu gadw unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol ar gyfer unrhyw weithgaredd at ddibenion treialu neu ddibenion gwyddonol ac ar gyfer gwaith ar ddetholiadau amrywogaethol, pan fyddai cyflwyno, symud neu gadw’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol at unrhyw ddiben o’r fath wedi ei wahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall, os yw Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cael cais am drwydded sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC; a

(b)wedi eu bodloni bod yr amodau cyffredinol a nodir yn Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno yn cael eu bodloni mewn perthynas â’r cais.

(2Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig a rhaid iddi gynnwys—

(a)unrhyw amodau a osodir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC sy’n berthnasol i unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol sy’n destun y gweithgareddau y mae’r drwydded yn ymwneud â hwy; a

(b)unrhyw amodau eraill sy’n pennu mesurau cwarantin o dan baragraff 2(a) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno neu fesurau cwarantin pellach o dan baragraff 2(b) o Atodiad I i’r Gyfarwyddeb honno a bennir gan Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru ddirymu trwydded a roddir o dan baragraff (1) pan ganfyddir, er boddhad Gweinidogion Cymru, nad yw’r trwyddedai wedi bodloni neu gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded a osodir o dan baragraff (2)(b).

(4Ar ôl i unrhyw weithgareddau y mae’r drwydded a roddir o dan baragraff (1) yn ymwneud â hwy ddod i ben, rhaid i’r trwyddedai, oni bai bod Gweinidogion Cymru wedi ei awdurdodi fel arall o dan baragraff (5)—

(a)difa neu sterileiddio unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol a oedd yn destun y gweithgareddau ac unrhyw ddeunydd perthnasol arall sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol o’r fath, neu a allai fod wedi ei halogi ganddo; a

(b)sterileiddio neu lanhau mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, y fangre a’r cyfleusterau y cyflawnwyd y gweithgareddau ynddynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru awdurdodi’r trwyddedai i ymatal rhag difa unrhyw ddeunydd perthnasol o dan baragraff (4)(a) os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni ei fod wedi bod yn destun mesurau cwarantin priodol ac y canfuwyd, mewn unrhyw fodd a bennir gan Weinidogion Cymru, ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion a bennir yn Atodlen 1 ac yng ngholofn 3 o Atodlen 2 a rhag plâu planhigion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn peri risg.

(6At ddiben paragraff (2), mae cyfeiriadau at y “responsible official body” yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2008/61/EC, ac Atodiad I iddi, i’w cymryd fel pe baent yn cyfeirio at Weinidogion Cymru.

(7Yn yr erthygl hon, ystyr “mesurau cwarantin priodol” (“appropriate quarantine measures”) yw—

(a)yn achos deunydd perthnasol y mae mesurau cwarantin wedi eu pennu ar ei gyfer yn Rhan A o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2008/61/EC, y mesurau hynny; a

(b)yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol arall, unrhyw fesurau cwarantin, gan gynnwys profi, a bennir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 9Hysbysiadau, darparu a chyfnewid gwybodaeth

Hysbysu am bresenoldeb, neu achos o amau presenoldeb, plâu planhigion penodol

42.—(1Rhaid i’r meddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fangre sy’n dod yn ymwybodol neu’n amau bod unrhyw bla planhigion hysbysadwy yn bresennol yn y fangre, neu unrhyw berson arall sydd, wrth gyflawni ei ddyletswyddau neu ei fusnes, yn dod yn ymwybodol neu’n amau bod pla planhigion hysbysadwy yn bresennol mewn unrhyw fangre, hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd ar unwaith ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol.

(2Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi ar lafar yn gyntaf, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “pla planhigion hysbysadwy” (“notifiable plant pest”) yw—

(a)pla planhigion, ac eithrio pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sydd o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1;

(ii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2;

(iii)sydd o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 3 o Ran B o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran B o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath; neu

(iv)er nad yw o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(b)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 17—

(i)sy’n isrywogaeth neu’n fath sy’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd ym mangre masnachwr planhigion cofrestredig;

(ii)sy’n isrywogaeth neu’n fath nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac a ganfuwyd mewn unrhyw fangre; neu

(iii)a bennir hefyd yng ngholofn 3 o Ran A o Atodlen 2 ac sy’n bresennol ar ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r pla planhigion hwnnw yng ngholofn 2 o Ran A o Atodlen 2, neu yr ymddengys i arolygydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â deunydd perthnasol o’r fath.

(4Os yw Gweinidogion Cymru yn dod yn ymwybodol o bresenoldeb Xylella fastidiosa (Wells et al.) neu o amheuaeth ei fod yn bresennol, mewn unrhyw fan neu ardal yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw berson sydd â phlanhigion a allai fod wedi eu heintio â Xylella fastidiosa (Wells et al.) o dan ei reolaeth yn cael ei hysbysu ar unwaith—

(a)ei fod yn bresennol neu yr amheuir ei fod yn bresennol;

(b)am y canlyniadau posibl sy’n codi o’i bresenoldeb neu’r amheuaeth ei fod yn bresennol; ac

(c)am y mesurau sydd i’w cymryd o ganlyniad i hynny.

Hysbysu am y tebygolrwydd y bydd plâu planhigion neu ddeunydd perthnasol yn mynd i barth rhydd, neu eu bod yn bresennol yno

43.—(1Rhaid i’r awdurdod cyfrifol am barth rhydd yng Nghymru hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am unrhyw eitem hysbysadwy y mae’n gwybod neu’n amau—

(a)ei fod yn debygol o fynd i’r parth rhydd; neu

(b)ei fod yn bresennol yn y parth rhydd ac nad yw wedi ei glirio o ofal o dan y Ddeddf Dollau.

(2Caniateir i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi ar lafar yn gyntaf, ond rhaid iddo gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.

(3Yn yr erthygl hon—

(a)mae i “parth rhydd” yr un ystyr ag a roddir i “free zone” yn y Ddeddf Dollau;

(b)ystyr “eitem hysbysadwy” (“notifiable item”) yw—

(i)pla planhigion sydd o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr; neu

(iii)deunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 3 sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod mewn cysylltiad â’r disgrifiad hwnnw o ddeunydd perthnasol yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno;

(c)mae i “yr awdurdod cyfrifol” yr un ystyr ag a roddir i “the responsible authority” yn y Ddeddf Dollau.

Yr wybodaeth sydd i’w rhoi

44.—(1Caiff arolygydd neu unrhyw un arall o swyddogion Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i berson priodol roi i’r arolygydd neu’r swyddog, o fewn yr amser a bennir yn yr hysbysiad, unrhyw wybodaeth y gall y person feddu arni o ran—

(a)y planhigion a dyfwyd neu’r cynhyrchion a gafodd eu storio ar unrhyw adeg yn y fangre y mae hysbysiad wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â hi o dan y Gorchymyn hwn;

(b)unrhyw bla planhigion neu ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b); ac

(c)y personau sydd wedi bod, neu’n debygol o fod wedi bod, â’r pla planhigion neu’r deunydd perthnasol y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(b) yn eu meddiant neu o dan eu gofal.

(2Rhaid i’r amser y mae’n ofynnol i’r wybodaeth gael ei rhoi i’r arolygydd neu’r swyddog arall o’i fewn fod yn rhesymol.

(3Rhaid i berson priodol gyflwyno unrhyw drwydded, datganiad swyddogol, tystysgrif, pasbort planhigion, cofnod, anfoneb neu ddogfen arall sy’n ymwneud â phla planhigion neu unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn yr hysbysiad i’w archwilio gan yr arolygydd neu’r swyddog arall.

(4Yn yr erthygl hon, ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw—

(a)person sy’n berchen ar y fangre, meddiannydd y fangre neu berson arall sydd â gofal am y fangre y mae hysbysiad wedi ei gyflwyno mewn cysylltiad â hi o dan y Gorchymyn hwn;

(b)person sydd, neu sydd wedi bod, neu y mae gan yr arolygydd neu’r swyddog amheuaeth resymol ei fod, neu ei fod wedi bod, yn meddu ar y canlynol neu â gofal am y canlynol—

(i)pla planhigion o ddisgrifiad a bennir yn Atodlen 1 neu yng ngholofn 3 o Atodlen 2;

(ii)pla planhigion, er nad yw wedi ei bennu yn Atodlen 1 na 2, nad yw’n bresennol ym Mhrydain Fawr fel arfer ac sy’n debygol o fod yn niweidiol i blanhigion ym Mhrydain Fawr;

(iii)unrhyw ddeunydd perthnasol sy’n cario pla planhigion y cyfeirir ato ym mharagraff (i) neu (ii), neu sydd wedi ei heintio ag ef; neu

(iv)unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r arolygydd neu’r swyddog yn gwybod neu’n amau ei fod wedi ei lanio yng Nghymru neu ei allforio o Gymru; neu

(c)person sydd, fel arwerthwr, gwerthwr neu fel arall, wedi gwerthu, wedi cynnig ar gyfer ei werthu neu wedi gwaredu fel arall bla planhigion y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)(i) neu (ii).

Pŵer i rannu gwybodaeth at ddibenion y Gorchymyn

45.—(1Caiff Comisiynwyr Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddatgelu unrhyw wybodaeth y maent yn meddu arni i Weinidogion Cymru at ddibenion y Gorchymyn hwn.

(2Nid yw paragraff (1) yn rhagfarnu unrhyw bŵer arall sydd gan y Comisiynwyr i ddatgelu gwybodaeth.

(3Ni chaiff unrhyw berson, gan gynnwys un o weision y Goron, ddatgelu unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Comisiynwyr o dan baragraff (1)—

(a)os yw’r wybodaeth yn ymwneud â pherson y mae ei fanylion adnabod wedi eu pennu yn y datgeliad, neu y gellir eu casglu o’r datgeliad;

(b)os yw’r datgeliad at ddiben heblaw’r un a bennir ym mharagraff (1); ac

(c)os nad yw’r Comisiynwyr wedi rhoi eu cydsyniad i’r datgeliad ymlaen llaw.

RHAN 10Troseddau

Troseddau

46.—(1Mae person yn cyflawni trosedd os ydyw, heb esgus rhesymol, y mae’n rhaid i’r person ei brofi—

(a)yn torri neu’n methu â chydymffurfio ag—

(i)erthygl 6(1);

(ii)erthygl 9;

(iii)erthygl 10(1) neu (2);

(iv)erthygl 16(2), (3) neu (4);

(v)erthygl 17(6);

(vi)erthygl 19(1);

(vii)erthygl 20;

(viii)erthygl 21;

(ix)erthygl 24(3) neu (4);

(x)erthygl 26;

(xi)erthygl 27(2);

(xii)erthygl 28(1) neu (3);

(xiii)erthygl 39(1) neu (2);

(xiv)erthygl 41(4);

(xv)erthygl 42(1);

(xvi)erthygl 43(1);

(xvii)erthygl 45(3); neu

(xviii)paragraffau 5, 8, 9 neu 11 o Atodlen 14;

(b)yn torri neu’n methu â chydymffurfio â darpariaeth neu amod mewn hysbysiad a gyflwynir i’r person, neu mewn trwydded neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir, o dan y Gorchymyn hwn; neu

(c)yn fwriadol yn rhwystro arolygydd neu unrhyw berson a awdurdodir gan arolygydd wrth iddo arfer y pwerau a roddir i’r arolygydd gan y Gorchymyn hwn neu oddi tano.

(2Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person, at ddiben sicrhau y dyroddir pasbort planhigion, pasbort planhigion amnewid, tystysgrif ffytoiechydol, tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio neu drwydded o dan y Gorchymyn hwn—

(a)yn gwneud datganiad ffug yn fwriadol neu’n ddi-hid o ran manylyn perthnasol; neu

(b)yn fwriadol yn methu â datgelu unrhyw wybodaeth berthnasol.

(3Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person—

(a)yn dyroddi pasbort planhigion mewn modd anonest;

(b)yn newid pasbort planhigion mewn modd anonest; neu

(c)yn ailddefnyddio pasbort planhigion mewn modd anonest.

(4Mae’n amddiffyniad i berson a gyhuddir o drosedd o dan baragraff (1)(a)(xvii) brofi bod y person yn credu’n rhesymol—

(a)bod y datgeliad yn gyfreithlon; neu

(b)bod yr wybodaeth ar gael i’r cyhoedd eisoes a hynny mewn modd cyfreithlon.

(5Os profir bod trosedd o dan y Gorchymyn hwn wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg yn y corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), mae “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o’r corff corfforaethol.

(7Pan fo trosedd o dan y Gorchymyn hwn yn cael ei chyflawni gan bartneriaeth Albanaidd ac y profir ei bod wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae’r partner, yn ogystal â’r bartneriaeth, yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(8Pan fo unrhyw berson yn cyflawni trosedd o dan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i weithred neu anwaith rhyw berson arall, caniateir i’r person arall hwnnw gael ei gyhuddo a’i euogfarnu o’r drosedd honno yn rhinwedd y paragraff hwn pa un a ddygir achos am y drosedd yn erbyn y person a grybwyllir gyntaf ai peidio.

Cosbau

47.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan y Gorchymyn hwn (ac eithrio trosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii)) yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan erthygl 46(1)(a)(xvii) yn agored—

(a)o’i euogfarnu ar dditiad, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i’r ddau;

(b)o’i euogfarnu’n ddiannod, i gyfnod o garchar nad yw’n hwy na thri mis, i ddirwy nad yw’n uwch na’r uchafswm statudol neu i’r ddau.

RHAN 11Amrywiol

Y Ddeddf Dollau

48.  Mae darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys heb ragfarnu’r Ddeddf Dollau.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

49.—(1Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006(32) a’r Gorchmynion a bennir yn Atodlen 18 wedi eu dirymu.

(2Bydd unrhyw hysbysiad a ddyroddwyd, neu unrhyw drwydded, awdurdodiad neu gymeradwyaeth arall a roddwyd o dan Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 ac sy’n cael effaith pan ddaw’r Gorchymyn hwn i rym yn parhau mewn grym fel pe bai wedi ei ddyroddi neu ei rhoi neu ei roi o dan y Gorchymyn hwn.

(3Mae cofnodion sydd ar y gofrestr a gedwir o dan erthygl 25(1) o Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 yn union cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym i’w trin fel pe baent wedi eu cofnodi ar y gofrestr o dan erthygl 25(1) o’r Gorchymyn hwn.

Hannah Blythyn

Gweinidog yr Amgylchedd o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

9 Hydref 2018

Erthyglau 5(1), 12(1) 18(1), 20(1), 24(4), 29(8), 32(7) 33(8),42(3), 43(3) a 44(4)

ATODLEN 1Plâu planhigion na chaniateir dod â hwy i Gymru na’u lledaenu o fewn Cymru

RHAN APlâu planhigion na wyddys eu bod yn bresennol yn unrhyw ran o’r Undeb Ewropeaidd

Pryfed, gwiddon a nematodau

1.  Acleris spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

2.  Agrilus anxius Gory

3.  Agrilus planipennis Fairmaire

4.  Amauromyza maculosa (Malloch)

5.  Anomala orientalis Waterhouse

6.  Anoplophora chinensis (Forster)

7.  Anoplophora glabripennis (Motschulsky)

8.  Anthonomus eugenii Cano

9.  Arrhenodes minutus Drury

10.  Bactericera cockerelli (Sulc.)

11.  Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), fector firysau megis: Firws amryliw euraidd ffa, Firws brychni ysgafn pys y fuwch, Firws heintus melyn letys, Firws tigré ysgafn pupur, Firws deildro sgwosh, Firws amryliw fflamgoed neu Firws tomatos Fflorida

12.  Cicadellidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) y gwyddys eu bod yn fectorau clefyd Pierce (a achosir gan Xylella fastidiosa), megis: Carneocephala fulgida Nottingham, Draeculacephala minerva Ball neu Graphocephala atropunctata (Signoret)

13.  Choristoneura spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

14.  Conotrachelus nenuphar (Herbst)

15.  Dendrolimus sibiricus Tschetverikov

16.  Diabrotica barberi Smith a Lawrence

17.  Diabrotica undecimpunctata howardi Barber

18.  Diabrotica undecimpunctata undecimpunctata Mannerheim

19.  Diabrotica virgifera zeae Krysan a Smith

20.  Diaphorina citri Kuway

21.  Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa. sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner)

22.  Heliothis zea (Boddie)

23.  Hirschmanniella spp., ac eithrio Hirschmanniella gracilis (de Man) Luc a Goodey

24.  Keiferia lycopersicella (Walsingam)

25.  Liriomyza sativae Blanchard

26.  Longidorus diadecturus Eveleigh ac Allen

27.  Monochamus spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

28.  Myndus crudus Van Duzee

29.  Nacobbus aberrans (Thorne) Thorne ac Allen

30.  Naupactus leucoloma Boheman

31.  Premnotrypes spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

32.  Pseudopityophthorus minutissimus (Zimmermann)

33.  Pseudopityophthorus pruinosus (Eichhoff)

34.  Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)

35.  Rhynchophorus palmarum (L.)

36.  Saperda candida Fabricius

37.  Scaphoideus luteolus Van Duzee

38.  Spodoptera eridania (Cramer)

39.  Spodoptera frugiperda (J.E. Smith)

40.  Spodoptera litura (Fabricus)

41.  Thrips palmi Karny

42.  Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) megis: Anastrepha fraterculus (Wiedemann), Anastrepha ludens (Loew), Anastrepha obliqua Macquart, Anastrepha suspensa (Loew), Dacus ciliatus Loew, Dacus curcurbitae Coquillet, Dacus dorsalis Hendel, Dacus tryoni (Froggatt), Dacus tsuneonis Miyake, Dacus zonatus Saund., Epochra canadensis (Loew), Pardalaspis cyanescens Bezzi, Pardalaspis quinaria Bezzi, Pterandrus rosa (Karsch), Rhacochlaena japonica Ito, Rhagoletis cingulata (Loew), Rhagoletis completa Cresson, Rhagoletis fausta (Osten-Sacken), Rhagoletis indifferens Curran, Rhagoletis mendax Curran, Rhagoletis pomonella Walsh, Rhagoletis ribicola Doane neu Rhagoletis suavis (Loew)

43.  Thaumatotibia leucotreta (Meyrick)

44.  Xiphinema americanum Cobb sensu lato (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd)

45.  Xiphinema californicum Lamberti a Bleve-Zacheo

Bacteria

1.  Candidatus Liberibacter spp., cyfrwng achosol clefyd Huanglongbing ffrwythau sitrws/gwyrddu ffrwythau sitrws

2.  Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu a Goto

3.  Xanthomonas citri pv. aurantifolii

4.  Xanthomonas citri pv. citri

Ffyngau

1.  Ceratocystis fagacearum (Bretz) Hunt

2.  Chrysomyxa arctostaphyli Dietel

3.  Cronartium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

4.  Endocronartium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

5.  Gibberella circinata Nirenberg ac O’Donnell

6.  Guignardia laricina (Saw.) Yamamoto ac Ito

7.  Gymnosporangium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

8.  Inonotus weirii (Murril) Kotlaba a Pouzar

9.  Melampsora farlowii (Arthur) Davis

10.  Mycosphaerella larici-leptolepsis Ito et al.

11.  Mycosphaerella populorum G.E. Thompson

12.  Phoma andina Turkensteen

13.  Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa

14.  Phyllosticta solitaria Ellis ac Everhart.

15.  Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov.

16.  Septoria lycopersici Speg. var malagutii Ciccarone a Boerema

17.  Thecaphora solani Barrus

18.  Tilletia indica Mitra

19.  Trechispora brinkmannii (Bresad.) Rogers

Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau

1.  Firysau tatws neu organeddau sy’n debyg i firysau megis: Firws cudd tatws Andeaidd, Firws brychni tatws Andeaidd, Firws Arracacha B math oca, Firws crwn du tatws, Firws tatws T neu arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd firysau tatws A, M, S, V, X ac Y (gan gynnwys Yo, Yn ac Yc) a firws crychni dail tatws

2.  Firws crwn tybaco

3.  Firws crwn tomatos

4.  Firysau neu organeddau sy’n debyg i firysau Cydonia Mill., Fragaria L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L., Ribes L., Rubus L. neu Vitis L., megis: Firws brychni dail llus America, Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd), Firws amryliw eirin gwlanog (Americanaidd), Rickettsia ffug eirin gwlanog, Firws roséd amryliw eirin gwlanog, Mycoplasm roséd eirin gwlanog, Mycoplasm clefyd-X eirin gwlanog, Mycoplasm melynu eirin gwlanog, Firws patrwm llinellog eirin (Americanaidd), Firws deildro mafon (Americanaidd), Firws “C” cudd mefus, Firws bandio gwythiennau mefus, Mycoplasm ysgub y gwrachod mefus neu firysau heb fod yn rhai Ewropeaidd neu organeddau sy’n debyg i firysau heb fod yn rhai Ewropeaidd Cydonia Mill., Fragaria L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L., Ribes L., Rubus L. neu Vitis L.

5.  Firysau a drosglwyddir gan Bemisia tabaci Genn., megis: Firws amryliw euraidd ffa, Firws brychni ysgafn pys y fuwch, Firws heintus melyn letys, Firws tigré ysgafn pupur, Firws deildro sgwosh, Firws amryliw fflamgoed neu Firws tomatos Fflorida

Planhigion parasitig

1.  Arceuthobium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)

Molysgiaid

1.  Pomacea Perry

RHAN BPlâu planhigion y gwyddys eu bod yn bresennol yn yr Undeb Ewropeaidd

Pryfed, gwiddon a nematodau

1.  Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd)

2.  Bursaphelenchus xylophilus (Steiner a Bührer) Nickle et al.

3.  Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu

4.  Globodera pallida (Stone) Behrens

5.  Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens

6.  Leptinotarsa decemlineata Say

7.  Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth)

8.  Meloidogyne fallax Karssen

9.  Opogona sacchari (Bojer)

10.  Popillia japonica Newman

11.  Rhizoecus hibisci Kawai a Takagi

12.  Spodoptera littoralis (Boisduval)

13.  Thaumetopoea processionea L

14.  Trioza erytreae Del Guercio

Bacteria

1.  Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al. ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al.

2.  Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.

3.  Xylella fastidiosa (Wells et al.)

Ffyngau

1.  Chalara fraxinea T. Kowalski, gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus

2.  Melampsora medusae Thümen

3.  Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival

Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau

1.  Mycoplasm ymlediad afalau

2.  Mycoplasma crychni’r dail clorotig bricyll

3.  Candidatus Phytoplasma ulmi

4.  Mycoplasm dirywiad gellyg

Erthyglau 5(1), 12(1), 18(1), 20(1), 24(4), 29(8), 32(7) 33(8), 42(3), 43(3) a 44(4)

ATODLEN 2Deunydd perthnasol na chaniateir dod ag ef i Gymru na’i symud o fewn Cymru os yw’r deunydd hwnnw’n cario plâu planhigion neu wedi ei heintio â phlâu planhigion

RHAN APlâu planhigion na wyddys eu bod yn bresennol yn yr Undeb Ewropeaidd

Pryfed, gwiddon a nematodau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Fuchsia L., a fwriedir ar gyfer eu plannuAculops fuchsiae Keifer
2.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Aleurocanthus spp.
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuAnthonomus bisignifer (Schenkling)
4.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuAnthonomus signatus (Say)
5.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Aonidiella citrina Coquillett
6.Hadau Oryza spp.Aphelenchoides besseyi Christie
7.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Juniperus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropAschistonyx eppoi Inouye
8.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropCarposina niponensis Walsingham
9.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Rosa L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropEnarmonia packardi (Zeller)
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Crataegus L., Malus Mill., Photinia LdL., Prunus L. neu Rosa L., neu ffrwythau Malus Mill. neu Prunus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropEnarmonia prunivora Walsh
11.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Eotetranychus lewisi (McGregor)
12.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropGrapholita inopinata Heinrich
13.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Hishomonus phycitis (Distant)
14.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Leucaspis japonica Ckll.
15.Hadau Cruciferae, Gramineae neu Trifolium spp., sy’n tarddu o’r Ariannin, Awstralia, Bolifia, Chile, Seland Newydd neu UruguayListronotus bonariensis (Kuschel)
16.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.

Margarodes, rhywogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd, megis:

(a)

Margarodes vitis (Philippi)

(b)

Margarodes vredendalensis de Klerk

(c)

Margarodes prieskaensis Jakubski

17.Planhigion, ac eithrio hadau, Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropNumonia pyrivorella (Matsumura)
18.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Juniperus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropOligonychus perditus Pritchard a Baker
19.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, coed conwydd (Coniferales), sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropPissodes spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)
20.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.; neu blanhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, yn unrhyw achos sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfuRadopholus citrophilus Huettel Dickson a Kaplan
21.Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Scirtothrips aurantii Faure
22.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Scirtothrips dorsalis Hood
23.Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Scirtothrips citri (Moultex)
24.Cloron Solanum tuberosum L.Scrobipalpopsis solanivora Povolny
25.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropTachypterellus quadrigibbus Say
26.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Toxoptera citricida (Kirk.)
27.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Unaspis citri Comstock

Bacteria

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Clorosis brith planhigion sitrws
2.Hadau Zea mays L.Erwinia stewartii (Smith) Dye
3.Hadau Oryza spp.Xanthomonas campestris pv. Oryzae (Ishiyama) Dye a pv. oryzicola (Fang. et al.) Dye

Ffyngau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropAlternaria alternata (Fr.) Keissler (arunigion pathogenig heb fod yn rhai Ewropeaidd)
2.Planhigion, ac eithrio hadau, Corylus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDAAnisogramma anomala (Peck) E. Müller
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuApiosporina morbosa (Schwein.) v. Arx
4.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuAtropellis spp.
5.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Acer saccharum Marsh., sy’n tarddu o Ganada neu UDACeratocystis virescens (Davidson) Moreau
6.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L.Cercoseptoria pini-densiflorae (Hori a Nambu) Deighton
7.Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Cercospora angolensis Carv. a Mendes
8.Planhigion, ac eithrio hadau, Vaccinium spp., a fwriedir ar gyfer eu plannuDiaporthe vaccinii Shaer
9.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.; neu blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau (ac eithrio ffrwythau Citrus reticulata Blanco a Citrus sinensis (L.) Osbeck) Citrus L., yn unrhyw achos, sy’n tarddu o unrhyw wlad yn Ne AmericaElsinoe spp. Bitanc. a Jenk. Mendes
10.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Phoenix spp.Fusarium oxysporum f. sp. Albedinis (Kilian a Maire) Gordon
11.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropGuignardia piricola (Nosa) Yamamoto
12.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, SolanaceaePuccinia pittieriana Hennings
13.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L.Scirrhia acicola (Dearn.) Siggers
14.Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L. neu Zelkova L., a fwriedir ar gyfer eu plannuStegophora ulmea (Schweintz: Fries) Sydow a Sydow
15.Planhigion, ac eithrio hadau, Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropVenturia nashicola Tanaka ac Yamamoto

Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crych betys (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd)
2.Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws cudd mafon duon
3.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Malltod neu bla sy’n debyg i falltod
4.

Planhigion, ac eithrio hadau, Palmae,

a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop

Firoid Cadang-Cadang
5.Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crychni’r dail ceirios
6.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul. neu Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws necrosis coesynnau ffarwelau haf
7.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Firws amryliw sitrws
8.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Firws tristesa sitrws (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd)
9.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Leprosis
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus cerasus L., Prunus avium L., Prunus incisa Thunb., Prunus sargentii Rehd., Prunus serrula Franch., Prunus serrulata Lindl., Prunus speciosa (Koidz.) Ingram, Prunus subhirtella Miq. neu Prunus yedoensis Matsum., neu eu cyltifarau, a fwriedir ar gyfer eu plannuPathogen ceirios bychain (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd)
11.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Psorosis sy’n lledaenu’n naturiol
12.Planhigion, ac eithrio hadau, Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropMycoplasm melynu marwol palmwydd
13.Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crwn necrotig eirinwydd
14.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Firws corachaidd satsumas
15.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Firws dail carpiog
16.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Ysgub y gwrachod (MLO)

RHAN BPlâu planhigion y gwyddys eu bod yn bresennol yn yr Undeb Ewropeaidd

Pryfed, gwiddon a nematodau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuAphelenchoides besseyi Christie
2.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.Daktulosphaira vitifoliae (Fitch)
3.Blodau, bylbiau neu gormau Crocus L., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. gan gynnwys Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort., Gladiolus tubergenii hort., Hyacinthus L., Iris L., Trigridia Juss. neu Tulipa L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu gloron (Solanum tuberosum L.), a fwriedir ar gyfer eu plannuDitylenchus destructor Thorne
4.Hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; bylbiau neu gormau Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne, Hyacinthus L., Ismene Herbert, Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L. neu Tulipa L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L.Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev
5.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Circulifer haematoceps (Mulsant a Rey)
6.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Circulifer tenellus (Baker)
7.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Eutetranychus orientalis Klein
8.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Pelargonium L’Hérit ex Ait. neu’r teulu Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannuHelicoverpa armigera (Hübner)
9.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Parasaissetia nigra (Nietner)
10.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth., Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans,. Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.Paysandisia archon (Burmeister)
11.Planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp., neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfuRadopholus similis (Cobb) Thorne
12.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendle., Borassus flabellifer L., Brahea armata S. Watson, Brahea edulis H. Wendl., Butia capitata (Mart.) Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. Ex Mart., Chamaerops humilis L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubaea chilensis (Molina) Baill., Livistona australis C. Martius, Livistona decora (W. Bull) Dowe, Livistona rotundifolia (Lam.) Mart., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix canariensis Chabaud, Phoenix dactylifera L., Phoenix reclinata Jacq., Phoenix roebelenii O’Brien, Phoenix sylvestris (L.) Roxb., Phoenix theophrasti Greuter, Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal palmetto (Walter) Lodd. ex Schult. a Schult. f., Syagrus roman-zoffiana (Cham.) Glassman, Trachycarpus fortunei (Hook.) H. Wendl. neu Washingtonia Raf.Rhynchophorus ferrugineus (Olivier)
13.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuThaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller
14.

Blodau wedi eu torri neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu blanhigion rhywogaethau llysieuol, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau, neu

  • hadau

Liriomyza huidobrensis (Blanchard)
15.

Blodau wedi eu torri neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu blanhigion rhywogaethau llysieuol, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau, neu

  • hadau

Liriomyza trifolii (Burgess)

Bacteria

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Hadau Medicago sativa L.Clavibacter michiganensis ssp. Insidiosus (McCulloch) Davis et al.
2.Planhigion Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannuClavibacter michiganensis ssp. michiganensis (Smith) Davis et al.
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuErwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al.
4.Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuErwinia chrysanthemi pv. Dianthicola (Hellmers) Dickey
5.Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuPseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder
6.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus persica (L.) Batsch neu Prunus persica var. nectarina (Ait.) Maxim, a fwriedir ar gyfer eu plannuPseudomonas syringae pv. Persicae (Prunier et al.) Young et al.
7.Hadau Phaseolus L.Xanthomonas campestris pv. Phaseoli (Smith) Dye
8.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuXanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al.
9.Planhigion Solanum lycopersicum L. neu Capsicum spp., a fwriedir ar gyfer eu plannuXanthomonas campestris pv. Vesticatoria (Doidge) Dye
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuXanthomonas fragariae Kennedy a King
11.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.Xylophilus ampelinus (Panagopoulos) Willems et al.

Ffyngau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuCeratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.
2.Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuChalara fraxinea T. Kowalski, gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus
3.Planhigion Castanea Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu blanhigion, ac eithrio hadau, Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuCryphonectria parasitica (Murrill) Barr
4.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannuDidymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx
5.Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuPhialophora cinerescens (Wollenweber) van Beyma
6.Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili
7.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuPhytophthora fragariae Hickman var. Fragariae
8.Hadau Helianthus annuus L.Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni
9.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannuPuccinia horiana Hennings
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuScirrhia pini Funk a Parker
11.Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuVerticillium albo-atrum Reinke a Berthold
12.Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuVerticillium dahliae Klebahn

Firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Pla planhigion

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws amryliw Arabis
2.Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws deildro betys
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuCandidatus Phytoplasma ulmi
4.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannuFiroid arafu twf ffarwelau haf
5.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Firws tristesa sitrws (arunigion Ewropeaidd)
6.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.Flavescence dorée MLO gwinwydd
7.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws brech eirin
8.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannuMycoplasm stolbur tatws
9.Planhigion Solanum lycopersicum L., Capsicum annuum L. neu Capsicum frutescens L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu blanhigion Solanum tuberosum LFiroid y gloronen bigfain
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crwn mafon
11.Planhigion, ac eithrio hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Spiroplasma citri Saglio et al.
12.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crych mefus
13.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crwn cudd mefus
14.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws minfelyn ysgafn mefus
15.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws crwn du tomatos
16.Planhigion, ac eithrio hadau, Apium graveolens L., Capsicum annuum L., Cucumis melo L., Dendranthema (DC.) Des Moul., unrhyw amrywogaeth o hybridau Guinea Newydd o Impatiens, Lactuca sativa L., Solanum lycopersicum L. neu Nicotiana tabacum L. a rhaid bod tystiolaeth y’u bwriedir ar gyfer eu gwerthu i gynhyrchwyr tybaco proffesiynol, Solanum melongena L. neu Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws gwywo brith tomatos
17.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannuFirws deildro melyn tomatos

Erthyglau 5(1), 18(1) a 43(3)

ATODLEN 3Deunydd perthnasol na chaniateir dod ag ef i Gymru os yw’r deunydd hwnnw’n tarddu o drydydd gwledydd penodol

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Gwledydd tarddiad

1.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Abies Mill., Cedrus Trew, Chamaecyparis Spach, Juniperus L., Larix Mill., Picae A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr.Unrhyw wlad y tu allan i Ewrop
2.Planhigion deiliog, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Castanea Mill, neu Quercus L.Unrhyw wlad y tu allan i Ewrop
3.Planhigion deiliog, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Populus L.Unrhyw wlad yng Ngogledd America
4.Planhigion, ac eithrio planhigion cwsg sydd heb ddail, blodau a ffrwythau, Chaenomeles Lindl., Cydonia Mill., Crataegus L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L. neu Rosa L., a fwriedir ar gyfer eu plannuUnrhyw wlad y tu allan i Ewrop
5.Planhigion, ac eithrio planhigion cwsg sydd heb ddail, blodau a ffrwythau, Photinia Lindl., a fwriedir ar gyfer eu plannuUDA, Tsieina, Japan, Gweriniaeth Korea neu Weriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea
6.Cloron Solanum tuberosum L. i’w plannuUnrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir
7.Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum L. a bennir yn eitem 6Unrhyw drydedd wlad
8.Cloron rhywogaethau Solanum L., ac eithrio’r rheini a bennir yn eitemau 6 a 7Unrhyw drydedd wlad ac eithrio Algeria, Bosnia a Herzegovina, yr Aifft, Israel, Libya, Moroco, Serbia, y Swistir, Syria, Tunisia neu Dwrci
9.Planhigion Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau neu ddeunydd perthnasol a bennir yn eitemau 6 i 8Unrhyw drydedd wlad ac eithrio unrhyw wlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir
10.Pridd neu gyfrwng tyfu sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, pridd neu sylweddau organig solet megis rhannau o blanhigion neu hwmws (gan gynnwys mawn neu risgl), ac eithrio cyfrwng tyfu sydd ar ffurf mawn yn gyfan gwblBelarws, Moldofa, Rwsia, Twrci, yr Ukrain ac unrhyw drydedd wlad nad yw ar dir mawr Ewrop, ac eithrio’r Aifft, Israel, Libya, Moroco neu Tunisia
11.Planhigion, ac eithrio ffrwythau, Vitis L.Unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir
12.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Unrhyw drydedd wlad
13.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Phoenix spp.Algeria neu Moroco
14.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L. neu Pyrus L. neu Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannuUnrhyw drydedd wlad, ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir, Awstralia, Seland Newydd, Canada neu daleithiau cyfandirol UDA
15.Planhigion, ac eithrio hadau, o’r teulu Gramineae, ac eithrio planhigion glaswelltoedd lluosflwydd addurniadol o’r is-deuluoedd Bambusoideae, Panicoideae neu o’r genera Buchloe, Bouteloua Lag., Calamagrostis, Cortaderia Stapf., Glyceria R. Br., Hakonechloa Mak. ex. Honda, Hystrix, Molinia, Phalaris L., Shibataea, Spartina Schreb., Stipa L. neu Uniola L., a fwriedir ar gyfer eu plannuUnrhyw drydedd wlad, ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir
16.Planhigion, ac eithrio hadau, Coffea, a fwriedir ar gyfer eu plannuCosta Rica neu Honduras
17.Planhigion, ac eithrio hadau, Capsicum L., Lagenaria Ser., Luffa Mill., Momordica L. neu Solanum L., ac eithrio Solanum lycopersicum L.Ghana

Erthyglau 3, 5(1), 12(1), 15(2), 18(1), 18(3) ac 20(1)

ATODLEN 4Cyfyngiadau ar ddod â deunydd perthnasol i Gymru a’i symud o fewn Cymru

RHAN ADeunydd perthnasol, sy’n tarddu o drydydd gwledydd, na chaniateir ei lanio oni chydymffurfir â gofynion arbennig

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Gofynion glanio

1.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, coed conwydd (Coniferales), sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfa, a bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Pissodes spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)
2.Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Scirrhia acicola (Dearn.) Siggers neu Scirrhia pini Funk a Parker yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
4.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Quercus L. sy’n tarddu o UDARhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ceratocystis fagacearum (Bretz) Hunt.
5.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Castanea Mill. neu Quercus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i EwropRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw arwyddion Cronartium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
6.Planhigion, ac eithrio hadau, Castanea Mill, neu Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

7.Planhigion, ac eithrio hadau, Corylus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac:

(a)

yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu

(b)

yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller o gynnal arolygiadau swyddogol yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” a datganiad ei fod yn rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller

8.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri, gyda deiliach neu hebddo, Fraxinus L., Juglans ailantifolia Carr., Juglans mandshurica Maxim., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya rhoifolia Siebold a Zucc., sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDARhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Agrilus planipennis Fairmaire at ddibenion pwynt 11.4 o Adran I o Atodiad IV Rhan A, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio
9.Planhigion Betula L., ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri Betula L., gyda deiliach neu hebddo, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Agrilus anxius Gory
10.Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Armenia, y Swistir neu UDARhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
11.Planhigion, ac eithrio hadau, Populus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
12.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Populus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir AmericaRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycosphaerella populorum G.E. Thompson yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf.
13.Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad yng Ngogledd AmericaRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Candidatus Phytoplasma ulmi yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
14.Planhigion, ac eithrio impynnau, toriadau, planhigion mewn meithriniad meinwe, paill neu hadau, Amelanchier Medik., Aronia Medik., Cotoneaster Medik., Crataegus L., Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L., Pyracantha M. Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohono yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu

(b)

eu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius yn unol ag ISPM Rhif 10:

(i)

sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

a fu’n destun dau arolygiad swyddogol bob blwyddyn ar gyfer unrhyw arwyddion Saperda candida Fabricius a gynhaliwyd ar adegau priodol;

(iii)

lle mae’r planhigion wedi eu tyfu mewn safle sydd wedi ei ddiogelu’n llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Saperda candida Fabricius neu drwy gymhwyso triniaethau ataliol priodol ac a amgylchynir gan barth clustogi sydd o leiaf 500 m o led lle y cadarnhawyd nad yw Saperda candida Fabricius yn bresennol gan arolygon swyddogol a gynhelir yn flynyddol ar adegau priodol; a

(iv)

yn union cyn eu hallforio, bod y planhigion, ac yn enwedig eu coesynnau, wedi bod yn destun arolygiad manwl ar gyfer presenoldeb Saperda candida Fabricius, a oedd yn cynnwys samplu dinistriol, pan fo’n briodol

15.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r ffrwythau fod yn rhydd rhag pedynclau a dail, a rhaid i’r deunydd pecynnu, unrhyw label a osodir ar y deunydd pecynnu neu unrhyw ddogfen a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n dod gyda’r llwyth ddwyn nod tarddiad priodol (caiff y nod hwnnw fod yn gyfeiriad at enw’r wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni)
16.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(c)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn fan sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(d)

eu bod:

(i)

wedi eu trin â sodiwm orthoffenylffenad neu unrhyw driniaeth effeithiol arall yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(ii)

yn tarddu o safle cynhyrchu sy’n ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii; a

(iii)

yn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolli, fel y dangosir o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol cyn allforio; a

(iv)

sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu

(e)

yn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd:

(i)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn ystod arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd cyn eu hallforio;

(ii)

eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii;

(iii)

eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru;

(iv)

eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau yn cael eu hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; a

(v)

sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd

17.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu

(c)

na welwyd unrhyw symptomau Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn y safle cynhyrchu nac yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y safle cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliad swyddogol priodol, symptomau o’r pla planhigion hwn

18.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(c)

eu bod:

(i)

yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; a

(ii)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;

(d)

eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu fu’n destun:

(i)

triniaethau a mesurau meithrin priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa; a

(ii)

cynhaliwyd arolygiadau swyddogol yn y safle cynhyrchu yn ystod y tymor tyfu ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf, ac ni chanfuwyd unrhyw symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn y ffrwythau; a

(iii)

y canfuwyd bod y ffrwythau a gynaeafwyd o’r safle cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn ystod arolygiad swyddogol, cyn allforio, o sampl gynrychioliadol, a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; a

(iv)

sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu

(e)

yn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd:

(i)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa cyn eu hallforio yn ystod arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;

(ii)

eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn destun triniaethau priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa ar adegau priodol ac a grybwyllwyd ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(iii)

eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru;

(iv)

eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau i’w hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; a

(v)

sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd

19.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac nad ydynt i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig

Rhaid i’r ffrwythau:

(a)

dod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;

(b)

yn achos ffrwythau sy’n tarddu o Frasil, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional Declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 4 a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715;

(c)

yn achos ffrwythau sy’n tarddu o Dde Affrica neu Uruguay, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5 a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715;

(d)

yn achos ffrwythau sy’n tarddu o’r Ariannin, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional Declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5a a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715

20.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig

Rhaid i’r ffrwythau:

(a)

dod gyda datganiad swyddogol:

(i)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu

(ii)

eu bod:

(aa)

yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; a

(bb)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;

(b)

yn achos ffrwythau a gyflwynir i’r Undeb Ewropeaidd o dan y rhanddirymiad a bennir yn Erthygl 8 o Benderfyniad (EU) 2016/715, rhaid iddynt:

(i)

dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthyglau 9(1) a 10 o Benderfyniad (EU) 2016/715 a’r wybodaeth a bennir yn Erthygl 9(2) o’r Penderfyniad hwnnw;

(ii)

bod wedi eu pecynnu a’u labelu yn unol ag Erthygl 17 o’r Penderfyniad hwnnw; a

(iii)

bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru

21.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn bresennol ar y ffrwythau hynny

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu, ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y man cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliad swyddogol priodol, arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd);

(c)

y dangoswyd eu bod, mewn archwiliad swyddogol priodol o samplau cynrychioliadol, yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) ym mhob cam o’u datblygiad; neu

(d)

y bu’r ffrwythau yn destun triniaeth briodol, unrhyw driniaeth gwres anwedd, triniaeth oer, neu driniaeth rhewi’n gyflym sy’n dderbyniol ac y dangoswyd ei bod yn effeithiol yn erbyn Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) heb niweidio’r ffrwythau, neu, pan na fo ar gael, triniaeth gemegol i’r graddau y bo’n dderbyniol o dan ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd

22.Ffrwythau Capsicum (L.) Citrus L., ac eithrio Citrus limon (L.) Osbeck, neu Citrus aurantii-folia (Christm.) Swingle, Prunus persica (L.) Batsch neu Punica granatum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir Affrica, Cape Verde, Saint Helena, Madagasgar, La Reunion, Mauritius neu Israel

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(c)

eu bod:

(aa)

yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol ag ISPM Rhif 10; a

(bb)

yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau,

ac sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neu

(d)

yn achos ffrwythau fu’n destun triniaeth oer effeithiol neu unrhyw driniaeth effeithiol arall i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol, y buont yn destun triniaeth o’r fath, ac sy’n cynnwys data’r driniaeth

23.Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion yn y cae cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. wedi eu symud ymaith
24.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., neu blanhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne; neu

(b)

y bu samplau cynrychioliadol o bridd a gwreiddiau o’r man cynhyrchu yn destun, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, brofion nematolegol swyddogol ar gyfer o leiaf Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny

25.Planhigion, ac eithrio ffrwythau ond gan gynnwys hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Burkillanthus Swingle, Calodendrum Thunb., Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Limonia L., Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Triphasia Lour. neu Vepris Comm., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad; neu hadau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Candidatus Liberibacter spp., sef cyfrwng achosol clefyd Huanglongbing ffrwythau sitrws/ gwyrddu ffrwythau sitrws
26.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau Casimiroa La Llave, Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm, Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad lle y gwyddys nad yw Trioza erytreae Del Guercio yn bresennol;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Trioza erytreae Del Guercio, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu

(c)

eu bod wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Trioza erytreae Del Guercio; a

(iii)

lle y cynhaliwyd dau arolygiad swyddogol ar adegau priodol yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf cyn eu symud o’r safle, ac na welwyd unrhyw arwyddion o’r pla planhigion hwnnw yn y safle hwnnw neu yn yr ardal oddi amgylch hyd at o leiaf 200m o led

27.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Amyris P. Browne, Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Choisya Kunth, Citropsis Swingle a Kellermen, Clausena Burm. f., Eremocitrus Swingle, Esenbeckia Kunth., Glycosmis Corrêa, Limonia L., Merrillia Swingle, Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Naringi Adans., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Tetradium Lour., Toddalia Juss., Triphasia Lour, Vepris Comm. neu Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o:

(a)

gwlad lle y gwyddys nad yw Diaphorina citri Kuway yn bresennol; neu

(b)

ardal sy’n rhydd rhag Diaphorina citri Kuway, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”

28.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Microcitrus Swingle, Naringi Adans. neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neu

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol

29.Planhigion, ac eithrio hadau, Crataegus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. Yn bresennolRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
30.

Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Fragaria L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L., Ribes L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar y genera a ganlyn:

  • ar Fragaria L.:

  • Phytophthora fragariae Hickman, var. fragariae,

  • Firws amryliw Arabis,

  • Firws crwn mafon,

  • Firws crych mefus,

  • Firws crwn cudd mefus,

  • Firws minfelyn ysgafn mefus,

  • Firws crwn du tomatos, neu

  • Xanthomonas fragariae Kennedy a King;

  • ar Malus Mill.:

  • Phyllosticta solitaria Ell. Ac Ev.;

  • ar Prunus L.:

  • Mycoplasm crychni’r dail clorotig bricyll, neu

  • Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al;

  • ar Prunus persica (L.) Batsch:

  • Pseudomonas syringae pv. persicae (Prunier et al.) Young et al.;

  • ar Pyrus L.:

  • Phyllosticta solitaria Ell. Ac Ev.;

  • ar Rubus L.:

  • Firws amryliw berwr,

  • Firws crwn mafon,

  • Firws crwn cudd mefus, neu

  • Firws crwn du tomatos; neu

  • pob rhywogaeth:

  • firysau heb fod yn rhai Ewropeaidd neu organeddau sy’n debyg i firysau

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
31.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycolpasma dirywiad gellyg yn bresennolRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod planhigion yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan Fycoplasma dirywiad gellyg wedi eu clirio o’r man hwnnw o fewn y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
32.

Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:

  • Firws “C” cudd mefus,

  • Firws bandio gwythiennau mefus, neu

  • Mycoplasm ysgub y gwrachod mefus

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

bod y planhigion, ac eithrio’r rhai a dyfwyd o hadau:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

33.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Aphelenchoides besseyi Christie yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

na welwyd unrhyw symptomau Aphelenchoides besseyi Christie ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(b)

yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion a oedd yn cydymffurfio â pharagraff (a) neu fod profion swyddogol wedi eu cynnal arnynt drwy ddulliau nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie

34.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Anthonomus signatus Say ac Anthonomus bisignifer (Schenkling)
35.

Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar Malus Mill.:

  • Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd), neu

  • Firws crwn tomatos

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

36.Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm ymlediad afalau yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm ymlediad afalau; neu

(b)

ac eithrio planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y chwe chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd, yn y profion hynny, ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; a

(iii)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan Fycoplasma ymlediad afalau ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

37.

Planhigion, ac eithrio hadau, o’r rhywogaethau Prunus L. a ganlyn, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws brech eirin yn bresennol:

  • Prunus amygdalus Batsch,

  • Prunus armeniaca L.,

  • Prunus blireiana Andre,

  • Prunus brigantina Vill.,

  • Prunus cerasifera Ehrh.,

  • Prunus cistena Hansen,

  • Prunus curdica Fenzl a Fritsch.,

  • Prunus domestica spp. domestica L.,

  • Prunus domestica spp. Insititia (L.) C.K. Schneid.,

  • Prunus domestica spp. Italica (Borkh.) Hegi.,

  • Prunus glandulosa Thunb.,

  • Prunus holosericea Batal.,

  • Prunus hortulana Bailey,

  • Prunus japonica Thunb.,

  • Prunus mandshurica (Maxim.) Koehne,

  • Prunus maritima Marsh.,

  • Prunus mume Sieb a Zucc.,

  • Prunus nigra Ait.,

  • Prunus persica (L.) Batsch,

  • Prunus salicina L.,

  • Prunus sibirica L.,

  • Prunus simonii Carr.,

  • Prunus spinosa L.,

  • Prunus tomentosa Thunb.,

  • Prunus triloba Lindl., neu

    rhywogaethau eraill Prunus L. sy’n dueddol o gael Firws brech eirin

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan Firws brech eirin ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(c)

bod planhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau clefydau a achosir gan firysau eraill neu bathogenau sy’n debyg i firysau wedi eu clirio

38.

Planhigion Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:

  • sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol ar Prunus L.;

  • ac eithrio hadau, sy’n tarddu o

  • unrhyw drydedd wlad lle y

  • gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:

  • Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd),

  • Firws amryliw eirin gwlanog (Americanaidd),

  • Rickettsia ffug eirin gwlanog,

  • Mycoplasm roséd eirin gwlanog,

  • Mycoplasm melynu eirin gwlanog,

  • Firws patrwm llinellog eirin (Americanaidd), neu

  • Mycoplasm clefyd-X eirin gwlanog;

  • ac eithrio hadau, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop lle y gwyddys bod pathogen Ceirios bychan yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

39.

Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:

  • sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar Rubus L.:

  • Firws crwn tomatos,

  • Firws cudd mafon duon,

  • Firws crychni dail ceirios, neu

  • Firws crwn necrotig eirinwydd

  • ac eithrio hadau, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:

  • Firws deildro mafon (Americanaidd), neu

  • Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd)

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neu

(b)

eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; ac

(c)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

40.Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn bresennolRhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival (pob hil ac eithrio Hil 1, sef yr hil Ewropeaidd gyffredin) ac na welwyd unrhyw symptomau Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau cyfnod digonol
41.Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al.
42.Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio tatws cynnar, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennolRhaid i’r gyneddf egino fod wedi ei hatal yn y cloron
43.Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens a Globodera pallida (Stone) Behrens;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol; ac

(c)

eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol; neu

(d)

mewn ardaloedd lle y gwyddys bod Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol:

(i)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn seiliedig ar arolwg blynyddol o’r cnydau cynhaliol drwy gynnal arolygiad gweledol o’r planhigion cynhaliol ar adegau priodol a thrwy arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron ar ôl eu cynaeafu o gnydau tatws a dyfwyd yn y man cynhyrchu; neu

(ii)

bod y cloron, ar ôl cynaeafu, wedi eu hapsamplu a, naill ai wedi eu gwirio am bresenoldeb symptomau ar ôl defnyddio dull priodol i achosi symptomau, neu wedi bod yn destun profion labordy, yn ogystal ag arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron, ar adegau priodol ac ym mhob achos ar adeg selio’r pecynnau neu’r cynwysyddion cyn eu marchnata yn unol â’r darpariaethau ynghylch selio yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd, ac na chanfuwyd unrhyw symptomau Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen

44.Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rhai a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol
45.Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o:

(a)

gwlad lle y gwyddys nad yw Scrobipalpopsis solanivora Povolny yn bresennol; neu

(b)

ardal sy’n rhydd rhag Scrobipalpopsis solanivora Povolny, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4

46.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm stolbur tatws yn bresennolRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm stolbur tatws ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
47.Planhigion Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum L. neu hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennolRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firoid y gloronen bigfain ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
48.Planhigion, ac eithrio hadau, Capsicum annuum L., Solanum lycopersicum L., Musa L., Nicotiana L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y canfuwyd ei bod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

49.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”

50.Ffrwythau Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu

(c)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd yn ystod y tri mis diwethaf cyn eu hallforio, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”

51.

Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd

wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Verticillium alboatrum Reinke a Berthold neu Verticillium dahliae Klebahn ar hopys yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
52.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Helicoverpa armigera (Hübner) a Spodoptera littoralis (Boisd.), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad cenedlaethol diogelu planhigion yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Helicoverpa armigera (Hübner) neu Spodoptera littoralis (Boisd.) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(c)

y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny

53.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith a Spodoptera litura (Fabricius), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith neu Spodoptera litura (Fabricius) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(c)

y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny

54.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn stoc o’r drydedd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o ddeunydd y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod profion firolegol, neu eu bod yn deillio yn uniongyrchol o ddeunydd y canfuwyd bod sampl gynrychioliadol o 10% ohono o leiaf yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf o gynnal arolygiad swyddogol yn ystod y cyfnod blodeuo;

(b)

bod y planhigion neu’r toriadau:

(i)

wedi dod o fangreoedd sydd wedi eu harolygu yn swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn eu hanfon, ac na welwyd unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings yn ystod y cyfnod hwnnw, ac na wyddys fod unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings wedi digwydd yn y cyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn eu hallforio; neu

(ii)

y buont yn destun triniaeth briodol i atal Puccinia horiana Hennings; ac

(c)

yn achos toriadau heb wreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y planhigion yr oedd y toriadau yn deillio ohonynt, neu, yn achos toriadau â gwreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y gwely gwreiddio

55.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul. neu Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad sy’n allforio yn ardal sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf ac y gwiriwyd hynny drwy arolygiadau swyddogol a, phan fo hynny’n briodol, drwy brofion

56.Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia chrysanthemi pv. dianthicola (Hellmers) Dickey, Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder a Phialophora cinerescens (Wollenw.) Van Beyma o ganlyniad i brofion a gymeradwyir yn swyddogol, a gynhaliwyd o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion hynny ar y planhigion

57.Bylbiau Tulipa L. neu Narcissus L. ac eithrio’r rhai y ceir tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynol, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r bylbiau ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
58.

Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:

  • lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol, a

  • lle y gwyddys nad yw Xiphinema americanum Cobb sensu lato (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill Firws crwn tomatos yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos; neu

(b)

eu bod yn stoc o’r bedwaredd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol

59.

Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:

  • lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol, a

  • lle y gwyddys nad yw Xiphinema americanum Cobb sensu lato (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill Firws crwn tomatos yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos yn y pridd neu’r planhigion; neu

(b)

eu bod yn stoc o’r ail genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol

60.

Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau,

  • hadau, neu

  • cloron,

a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa a’u bod:

(a)

yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(b)

yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio;

(c)

yn union cyn eu hallforio, wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) ac wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch). Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu

(d)

yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

61.Blodau Dendranthema wedi eu torri (DC.) Des Moul., Dianthus L., Gypsophila L., Solidago L. neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu Ocimum L, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r llysiau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch); neu

(b)

yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch)

62.

Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu Gramineae,

  • rhisomau,

  • hadau, neu

  • cloron,

a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) yn y man cynhyrchu, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu;

(c)

yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); neu

(d)

eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

63.Planhigion â gwreiddiau, a blannwyd neu a fwriedir ar gyfer eu plannu, sydd wedi eu tyfu yn yr awyr agored, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

y gwyddys bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. a Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival; a

(b)

bod y planhigion yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens

64.

Pridd neu gyfrwng tyfu:

  • sy’n gysylltiedig â phlanhigion, neu’n mynd gyda phlanhigion at ddibenion cynnal bywiogrwydd y planhigion hynny,

  • sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, pridd neu unrhyw sylwedd organig solet megis rhannau o blanhigion neu hwmws (gan gynnwys mawn neu risgl), neu ar ffurf unrhyw sylwedd anorganig solet yn rhannol, ac

  • sy’n tarddu o Belarws, Georgia, Moldofa, Rwsia, Twrci, yr Ukrain neu unrhyw wlad y tu allan i Ewrop, ac eithrio Algeria, yr Aifft, Israel, Libya, Moroco neu Tunisia

Rhaid i’r cyfrwng tyfu ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

ar adeg plannu:

(i)

ei fod yn rhydd rhag pridd a deunydd organig;

(ii)

y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag pryfed a nematodau niweidiol ac y bu’n destun archwiliad priodol neu driniaeth â gwres neu fygdarthu i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion eraill; neu

(iii)

y bu’n destun triniaeth briodol â gwres neu fygdarthu i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion; a

(b)

ers plannu:

(i)

y cymerwyd camau priodol i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion; neu

(ii)

o fewn dwy wythnos cyn eu hanfon, y cafodd y planhigion eu hysgwyd er mwyn cael gwared ar y deunydd, gan adael y swm lleiaf sy’n angenrheidiol i gynnal bywiogrwydd wrth gludo, ac, os caiff y planhigion eu hailblannu, bod y cyfrwng tyfu a ddefnyddir at y diben hwnnw yn bodloni’r gofynion ym mharagraff (a)

65.Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd) ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
66.Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro betys yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

y gwyddys nad yw Firws deildro betys yn bresennol yn yr ardal gynhyrchu; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

67.

Planhigion, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • rhisomau,

  • hadau, neu

  • cloron,

a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(b)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio;

(c)

yn union cyn eu hallforio, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Thrips palmi Karny, a’u bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu

(d)

eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, eu bod wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Thrips palmi Karny a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

68.Blodau Orchidaceae wedi eu torri neu ffrwythau Momordica L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny; neu

(b)

yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny

69.Ffrwythau Capsicum L., sy’n tarddu o Belize, Costa Rica, y Weriniaeth Ddomenicaidd, El Salvador, Guatemala, Honduras, Jamaica, Mecsico, Nicaragua, Panama, Puerto Rico, UDA neu Polynesia Ffrengig lle y gwyddys bod Anthonomus eugenii Cano yn bresennol

Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neu

(b)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y ddau fis cyn eu hallforio yn y man cynhyrchu ac yn ei gyffiniau agos

70.Planhigion, ac eithrio hadau, Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm melynu marwol palmwydd a Firoid Cadang-Cadang, ac na welwyd unrhyw symptomau yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf;

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm melynu marwol palmwydd neu Firoid Cadang-Cadang ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, a bod unrhyw blanhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan y clefydau hynny wedi eu clirio o’r man hwnnw, ac y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i gael gwared ar Myndus crudus Van Duzee; neu

(c)

yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion sydd wedi bodloni’r gofynion ym mharagraffau (a) neu (b)

71.

Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn:

  • Brahea Mart,

  • Butia Becc.,

  • Chamaerops L.,

  • Jubaea Kunth,

  • Livistona R. Br.,

  • Phoenix L.,

  • Sabal Adans.,

  • Syagrus Mart.,

  • Trachycarpus H. Wendl.,

  • Trithrinax Mart.,

  • Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(c)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle mae’r planhigion wedi eu gosod mewn safle a oedd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister) neu drwy gymhwyso triniaethau atal priodol; a

(iii)

lle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn allforio

72.Planhigion, ac eithrio hadau, Fuchsia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o UDA neu FrasilRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Aculops fuchsiae Keifer yn y man cynhyrchu, a bod y planhigion wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aculops fuchsiae Keifer
73.Coed neu lwyni, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir

Rhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;

(b)

eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac

(c)

eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau, ac organeddau sy’n debyg i firysau, a naill ai y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath

74.Coed neu lwyni collddail, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y CanoldirRhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn blanhigion cwsg ac yn rhydd rhag dail
75.Planhigion unflwydd neu eilflwydd, ac eithrio planhigion Gramineae neu hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;

(b)

eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac

(c)

eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; ac

(i)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a

(ii)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath

76.Planhigion, ac eithrio hadau, o’r teulu Gramineae, glaswelltoedd lluosflwydd addurniadol o’r is-deuluoedd Bambusoideae, Panicoideae neu o’r genera Buchloe, Bouteloua Lag., Calamagrostis, Cortaderia Stapf., Glyceria R. Br., Hakonechloa Mak. ex. Honda, Hystrix, Molinia, Phalaris L. Shibataea, Spartina Schreb., Stipa L. neu Uniola L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;

(b)

eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau;

(c)

eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; ac

(i)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a

(ii)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath

77.Planhigion sydd wedi eu corachu yn naturiol neu’n artiffisial, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad y tu allan i Ewrop

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

bod y planhigion, gan gynnwys y rheini a gasglwyd yn uniongyrchol o gynefinoedd naturiol, wedi eu tyfu, eu cadw a’u hyfforddi am ddwy flynedd yn olynol o leiaf cyn eu hanfon mewn meithrinfa a gofrestrwyd yn swyddogol sy’n ddarostyngedig i gyfundrefn reoli a oruchwylir yn swyddogol; a

(b)

yn ystod y cyfnod hwnnw bod y planhigion wedi, o leiaf:

(i)

eu plannu mewn potiau sydd wedi eu gosod ar silffoedd sydd o leiaf 50 cm uwchben lefel y ddaear;

(ii)

bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhydni heb fod yn Ewropeaidd (a rhaid crybwyll cynhwysyn gweithredol a chrynodiad y triniaethau hyn, a’r dyddiadau y’u defnyddiwyd, ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”);

(iii)

cael eu harolygu yn swyddogol o leiaf chwe gwaith y flwyddyn ar adegau priodol ar gyfer presenoldeb y plâu planhigion a grybwyllir yn yr Atodlenni i’r Gorchymyn hwn, ynghyd â’r planhigion yng nghyffiniau agos y feithrinfa, drwy archwiliad gweledol o bob rhes yn y cae neu’r feithrinfa a phob rhan o’r planhigion uwchben y cyfrwng tyfu, gan ddefnyddio hapsampl o 300 o blanhigion o leiaf o genws penodol lle nad oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw, neu 10% o’r planhigion os oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw;

(iv)

eu canfod, yn yr arolygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (iii), yn rhydd rhag y plâu planhigion perthnasol, neu pan fo heigiad, eu bod wedi eu symud ymaith, a bod y planhigion sy’n weddill wedi eu trin yn effeithiol, eu cadw am gyfnod priodol a’u harolygu i sicrhau eu bod yn rhydd rhag plâu planhigion o’r fath;

(v)

eu plannu mewn cyfrwng tyfu artiffisial sydd heb ei ddefnyddio neu mewn cyfrwng tyfu naturiol sydd wedi ei drin â mygdarthiad neu wedi ei drin yn briodol â gwres, a bod archwiliad ar ôl hynny wedi canfod eu bod yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion; a

(vi)

eu cadw o dan amodau sy’n sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion ac o fewn dwy wythnos cyn eu hanfon, eu bod:

(aa)

wedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol a chadw’r gwreiddiau yn noeth; neu

(bb)

wedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol ac wedi eu hailblannu mewn cyfrwng tyfu sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (v); neu

(cc)

wedi bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau bod y cyfrwng tyfu yn rhydd rhag plâu planhigion (a rhaid crybwyll y cynhwysyn gweithredol, y crynodiad a’r dyddiad y cymhwyswyd y triniaethau hyn ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”); ac

(c)

bod y planhigion wedi eu pecynnu mewn cynwysyddion caeedig sydd wedi eu selio yn swyddogol ac sy’n dwyn rhif cofrestru’r feithrinfa gofrestredig, a rhaid nodi’r rhif cofrestru ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” at ddibenion adnabod

78.Planhigion llysieuol lluosflwydd, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r teuluoedd Caryophyllaceae (ac eithrio Dianthus L.), Compositae (ac eithrio Dendranthema (DC.) Des Moul., Cruciferae, Leguminosae neu Rosaceae (ac eithrio Fragaria L.), sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio unrhyw wlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;

(b)

eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; ac

(c)

eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag:

(i)

symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; a

(ii)

arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu eu bod wedi bod yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath

79.Planhigion, ac eithrio bylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron, rhywogaethau llysieuol neu blanhigion Ficus L. neu Hibiscus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;

(b)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn allforio;

(c)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, eu bod yn cael eu cadw neu eu cynhyrchu yn y man cynhyrchu hwnnw ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac wedi hynny canfuwyd bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y naw wythnos cyn allforio ac yn y gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neu

(d)

eu bod y tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

80.Blodau wedi eu torri Aster spp., Eryngium L., Gypsophila L., Hypericum L., Lisianthus L., Rosa L., Solidago L. neu Trachelium L. neu lysiau deiliog Ocimum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop

Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r blodau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd); neu

(b)

yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd)

81.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos yn bresennol ac y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. yn bresennolRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion
82.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos a Bemisia tabaci Genn. yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion; a

(i)

bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.; neu

(ii)

y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos yn y man cynhyrchu, ac y bu’r man cynhyrchu yn destun triniaeth a chyfundrefn fonitro briodol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.

83.

Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:

  • Firws amryliw euraidd ffa,

  • Firws brychni ysgafn pys y fuwch,

  • Firws heintus melyn letys,

  • Firws tigré ysgafn pupurau,

  • Firws deildro sgwosh, neu

  • firysau eraill a drosglwyddir gan

Bemisia tabaci Genn., a lle y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill y plâu planhigion perthnasol yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn
84.

Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:

  • Firws amryliw euraidd ffa,

  • Firws brychni ysgafn pys y fuwch,

  • Firws heintus melyn letys,

  • Firws tigré ysgafn pupurau,

  • Firws deildro sgwosh, neu

  • firysau eraill a drosglwyddir gan Bemisia tabaci Genn., a lle y gwyddys bod Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill y plâu planhigion perthnasol yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod cyfnod digonol, ac:

(a)

bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion;

(b)

y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol;

(c)

bod y planhigion wedi bod yn destun triniaeth briodol gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn.; neu

(d)

bod y planhigion yn deillio o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), eu bod yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

85.Hadau Helianthus annuus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni; neu

(b)

ac eithrio’r rheini a gynhyrchwyd ar amrywogaethau sydd ag ymwrthedd i bob hil Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni sy’n bresennol yn yr ardal gynhyrchu, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni

86.Hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Clavibacter michiganensis ssp. michiganesnsis (Smith) Davis et al., Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Doidge) Dye neu Firoid y gloronen bigfain yn bresennol;

(b)

na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan y plâu planhigion hynny ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu

(c)

y bu’r hadau yn destun profion swyddogol ar gyfer y plâu planhigion hynny o leiaf, sef profion ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny

87.Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, ac na amlygwyd Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev gan brofion labordy ar sampl gynrychioliadol;

(b)

bod yr hadau wedi eu mygdarthu cyn eu hallforio; neu

(c)

y bu’r hadau yn destun triniaeth ffisegol briodol i atal Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar ôl cynnal profion labordy ar sampl gynrychioliadol

88.Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

y gwyddys na fu Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol ar y fferm neu yn ei chyffiniau agos ers dechrau’r 10 mlynedd ddiwethaf;

(b)

naill ai:

(i)

bod y cnwd yn perthyn i amrywogaeth y cydnabyddir ei bod ag ymwrthedd uchel i Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.;

(ii)

nad oedd wedi dechrau ei bedwerydd cylch llystyfiant cyflawn ers hau pan gafodd yr hadau eu cynaeafu, ac na fu mwy nag un cynhaeaf hadau blaenorol o’r cnwd; neu

(iii)

nad yw cynnwys y deunydd anadweithiol a bennwyd yn unol â’r rheolau sy’n gymwys ar gyfer ardystio hadau a farchnetir yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na 0.1% o ran pwysau;

(c)

na welwyd unrhyw symptomau Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn y man cynhyrchu, neu ar unrhyw gnwd Medicago sativa L. cyfagos, yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf neu, pan fo’n briodol, yn ystod y ddau gylch llystyfiant diweddaraf; a

(d)

y tyfwyd y cnwd ar dir lle na fu unrhyw gnwd Medicago sativa L. blaenorol yn bresennol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cyn hau

89.Hadau Oryza sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu profi yn swyddogol gan brofion nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie; neu

(b)

y buont yn destun triniaeth briodol â dŵr poeth neu driniaeth briodol arall i atal Aphelenchoides besseyi Christie

90.Hadau Phaseolus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye; neu

(b)

y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye

91.Hadau Zea mays L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye; neu

(b)

y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye

92.Hadau o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennolRhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio
93.Grawn o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennol

Rhaid i’r grawn ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

ei fod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “place of origin”; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Tilletia indica Mitra ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac y cymerwyd samplau cynrychioliadol o’r grawn ar adeg cynaeafu a chyn eu hanfon, a chynhaliwyd profion ar y samplau hynny a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Tilletia indica Mitra, a rhaid dangos tystiolaeth o hynny drwy nodi’r datganiad “tested and found free from Tilletia indica Mitra” ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “name of produce”

94.Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:

(a)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”:

(i)

eu bod yn bodloni’r gofynion ym mhwynt 1a(a) neu 1a(b) o Atodiad I i Benderfyniad 2002/757/EC; a

(ii)

y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov.; a

(b)

pan fo pwynt 1a(a) o’r Atodiad hwnnw yn gymwys, enw’r ardal y maent yn tarddu ohoni o dan y pennawd “place of origin”

95.Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” fod y planhigion, gan gynnwys y rheini a gasglwyd o gynefinoedd naturiol, yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(a), (b) neu (c) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/365/EC
96.Planhigion penodedig o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”:

(a)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; a

(b)

eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(a), (b) neu (c) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/433/EC

97.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o Tsieina

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:

(a)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(B) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; a

(b)

pan fo pwynt 1(b) o’r Adran honno yn gymwys, rhaid i fan cynhyrchu’r planhigion fodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 1(c) o Benderfyniad 2012/138/EU

98.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol, ac eithrio Tsieina

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:

(a)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(A) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; a

(b)

pan fo pwynt 1(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin”

99.Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennolRhaid i’r cloron ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran 1 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/270/EU
100.Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, ac sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad 2012/697/EU
101.Paill byw Actinidia Lindl. neu blanhigion, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r paill byw neu’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad (EU) 2017/198
102.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio trydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol

Rhaid i’r planhigion:

(a)

tarddu o drydedd wlad yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 16(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789; a

(b)

dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”;

(i)

yn unol ag Erthygl 16(b) o’r Penderfyniad hwnnw; neu

(ii)

yn achos planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, yn unol ag Erthygl 16(b) a’r ail is-baragraff o Erthygl 16 o’r Penderfyniad hwnnw

103.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys:

(a)

yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd fel ardal sy’n rhydd rhag Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn unol ag ISPM Rhif 4 ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 17(2)(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789, enw’r ardal o dan y pennawd “place of origin”;

(b)

yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a phan na fo’r planhigion wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan:

(i)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3) o’r Penderfyniad hwnnw; a

(ii)

enw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin”;

(c)

yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a’u bod wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan:

(i)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3a) o’r Penderfyniad hwnnw; a

(ii)

enw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin”

104.Planhigion, ac eithrio hadau, Mangifera L. sy’n tarddu o IndiaRhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” sy’n disgrifio’r mesurau priodol a gymerwyd i sicrhau eu bod yn rhydd rhag organeddau niweidiol
105.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol

Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys—

(a)

datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a), (b) neu (c) o Adran 1(A) o Atodiad II i Benderfyniad (EU) 2015/893; a

(b)

pan fo pwynt (1)(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin”

106.Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu sy’n tarddu o unrhyw drydedd wladRhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni ac sy’n cynnwys datganiad swyddogol, o dan y pennawd “Additional declaration”, bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd, ac y cedwir yn rhydd, rhag Chalara fraxinea T. Kowalski (gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus) yn unol ag ISPM Rhif 4

RHAN BDeunydd perthnasol, o’r Undeb Ewropeaidd, na chaniateir dod ag ef i Gymru na’i symud o fewn Cymru oni chydymffurfir â gofynion arbennig

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Gofynion o ran cyflwyno

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Scirrhia pini Funk a Parker yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
2.Planhigion, ac eithrio hadau, Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr., a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
3.Planhigion, ac eithrio hadau, Populus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
4.Planhigion, ac eithrio hadau, Castanea Mill, neu Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

5.Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

6.Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Candidatus Phytoplasma ulmi yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
7.Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenonmeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o barth y cydnabyddir ei fod yn rhydd rhag Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al.; neu

(b)

bod y planhigion yn y cae cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. wedi eu clirio

8.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili a Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd);

(b)

bod y planhigion yn deillio o gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd sydd wedi ei gadw o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion unigol swyddogol ar gyfer, o leiaf, Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd), gan ddefnyddio profion neu ddulliau priodol yn unol â safonau rhyngwladol, a’u bod wedi bod yn tyfu yn barhaol mewn tŷ gwydr neu gaets arunig sy’n ddiogel rhag pryfed lle na welwyd unrhyw symptomau Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili neu Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd); neu

(c)

eu bod:

(i)

wedi deillio o gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeilio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd sydd wedi ei gadw o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion unigol swyddogol ar gyfer, o leiaf, Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd), gan ddefnyddio profion neu ddulliau priodol yn unol â safonau rhyngwladol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) ac ardystiwyd eu bod yn rhydd rhag o leiaf Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) mewn profion unigol swyddogol a gynhaliwyd yn unol â’r dulliau a grybwyllir yn y paragraff hwn; a

(ii)

wedi eu harolygu ac na welwyd unrhyw symptomau Spiroplasma citri Saglio et al., Phoma tracheiphila (Petri) Kanchaveli a Gikashvili neu Firws Citrus tristeza (mathau Ewropeaidd) ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

9.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., neu Zanthoxylum L.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Trioza erytreae Del Guercio, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

eu bod wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan yr awdurdod cymwys perthnasol yn yr Aelod-wladwriaeth y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Trioza erytreae Del Guercio; a

(iii)

lle y cynhaliwyd dau arolygiad swyddogol ar adegau priodol yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf cyn eu symud o’r safle, ac na welwyd unrhyw arwyddion o’r pla planhigion hwnnw yn y safle hwnnw neu yn yr ardal oddi amgylch hyd at o leiaf 200m o led

10.Planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

na welwyd unrhyw halogi gan Radopholus similis (Cobb) Thorne yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(b)

y bu pridd a gwreiddiau o’r planhigion a amheuir yn destun, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, i brofion nematolegol swyddogol ar gyfer o leiaf Radopholus similis (Cobb) Thorne ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw

11.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., Prunus L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(c)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag y plâu planhigion a ganlyn:

(i)

yn achos Fragaria L.:

  • Phytophthora fragariae Hickman var. fragariae,

  • Firws amryliw Arabis,

  • Firws crwn mafon,

  • Firws crych mefus,

  • Firws crwn cudd mefus,

  • Firws minfelyn ysgafn mefus,

  • Firws crwn du tomatos,

  • Xanthomonas fragariae Kennedy a King;

(ii)

yn achos Prunus L.:

  • Mycoplasm crychni dail clorotig bricyll,

  • Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al;

(iii)

yn achos Prunus persica (L.) Batsch:

  • Pseudomonas syringae pv. persicae (Prunier et al.) Young et al.; a

(iv)

yn achos Rubus L.:

  • Firws amryliw Arabis,

  • Firws crwn mafon,

  • Firws crwn cudd mefus,

  • Firws crwn du tomatos; neu

(d)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion ym mharagraff (a) ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

12.Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm dirywiad gellyg; neu

(b)

bod planhigion yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon o halogi gan Fycoplasma dirywiad gellyg wedi eu clirio o’r man hwnnw o fewn y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

13.Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie;

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Aphelenchoides besseyi Christie ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(c)

yn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion sy’n cydymffurfio â pharagraff (b) neu wedi eu profi yn swyddogol drwy ddulliau nematolegol priodol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie

14.Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm ymlediad afalau; neu

(b)

ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y chwe chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ac

(c)

na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan Fycoplasma ymlediad afalau ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu yn ei gyffiniau agos ar blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

15.

Planhigion, ac eithrio hadau, y rhywogaethau Prunus L. a ganlyn a fwriedir ar gyfer eu plannu:

  • Prunus amygdalus Batsch,

  • Prunus armeniaca L.,

  • Prunus blireiana Andre,

  • Prunus brigantina Vill.,

  • Prunus cerasifera Ehrh.,

  • Prunus cistena Hansen,

  • Prunus curdica Fenzl a Fritsch.,

  • Prunus domestica spp.domestica L.,

  • Prunus domestica spp. insititia (L.) C.K. Schneid.,

  • Prunus domestica spp. italica (Borkh.) Hegi.,

  • Prunus glandulosa Thunb.,

  • Prunus holosericea Batal.,

  • Prunus hortulana Bailey,

  • Prunus japonica Thunb.,

  • Prunus mandshurica (Maxim.) Koehne,

  • Prunus maritima Marsh.,

  • Prunus mume Sieb. a Zucc.,

  • Prunus nigra Ait.,

  • Prunus persica (L.) Batsch.,

  • Prunus salicina L.,

  • Prunus sibirica L.,

  • Prunus simonii Carr.,

  • Prunus spinosa L.,

  • Prunus tomentosa Thunb.,

  • Prunus triloba Lindl., neu

  • rhywogaethau eraill Prunus L. sy’n dueddol o gael Firws brech eirin

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws brech eirin;

(b)

ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:

(i)

wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neu

(ii)

yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ac

(c)

na welwyd unrhyw symptomau’r clefyd a achosir gan Firws brech eirin ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; a

(d)

bod planhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau clefydau a achosir gan firysau eraill neu bathogenau sy’n debyg i firysau wedi eu clirio

16.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Vitis L.Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Flavescence dorée MLO gwinwydd neu Xylophilus ampelinus (Panagopoulos) Willems et al. ar y planhigion tarddiol yn y man cynhyrchu ers dechrau’r ddau gylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
17.Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival;

(b)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al. neu y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus(Spieckermann a Kottoff) Davis et al.;

(c)

eu bod yn tarddu o ardal:

(i)

lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol; neu

(ii)

lle y gwyddys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol, a bod y cloron yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al., neu yr ystyrir ei fod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ganlyniad i roi gweithdrefn briodol ar waith gyda’r nod o ddileu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.; a

(d)

eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) na Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol neu ardal lle y gwyddys bod Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol a:

(i)

eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn seiliedig ar arolwg blynyddol o’r cnydau cynhaliol drwy gynnal arolygiad gweledol o’r planhigion cynhaliol ar adegau priodol a thrwy arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron ar ôl eu cynaeafu o gnydau tatws a dyfwyd yn y man cynhyrchu; neu

(ii)

bod y cloron, ar ôl cynaeafu, wedi eu hapsamplu a’u gwirio am bresenoldeb symptomau ar ôl defnyddio dull priodol i achosi symptomau, neu wedi bod yn destun profion labordy, yn ogystal ag arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron, ar adegau priodol ac ym mhob achos ar adeg selio’r pecynnau neu’r cynwysyddion cyn eu marchnata yn unol â’r darpariaethau ynghylch selio yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(33), ac na chanfuwyd unrhyw symptomau Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen

18.Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r rheini sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4(4)(b) o Gyfarwyddeb 2007/33/ECRhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens
19.Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron y rhywogaethau hynny a dderbynnir mewn un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/53/EC ar y catalog cyffredin o amrywogaethau rhywogaethau planhigion amaethyddol(34)

Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod:

(a)

yn perthyn i ddetholiadau datblygedig, gyda datganiad o’r fath wedi ei nodi mewn ffordd briodol ar y ddogfen sy’n mynd gyda’r cloron;

(b)

wedi eu cynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd;

(c)

wedi deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion cwarantin swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd yn unol â dulliau priodol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag plâu planhigion

20.Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r cloron Solanum tuberosum L. hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 17 i 19, gyda deunydd cynnal meithriniad yn cael ei gadw mewn cronfeydd genynnau neu gasgliadau o stoc genetig neu hadau Solanum tuberosum L., a bennir yng ngholofn 2 o eitem 21

Rhaid i’r planhigion fod wedi eu cadw o dan amodau cwarantin a:

(a)

rhaid eu bod wedi eu canfod yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion mewn profion cwarantin a oedd:

(i)

wedi eu goruchwylio gan gorff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth dan sylw ac wedi eu cynnal gan staff y sefydliad hwnnw sydd wedi cael hyfforddiant gwyddonol, neu gan staff unrhyw gorff a gymeradwyir yn swyddogol sydd wedi cael hyfforddiant o’r fath;

(ii)

wedi eu cynnal ar safle sydd â chyfleusterau priodol sy’n ddigonol i atal plâu planhigion a chadw’r deunydd, gan gynnwys planhigion dangosol, mewn modd sy’n atal unrhyw risg o ledaenu plâu planhigion;

(iii)

wedi eu cynnal ar bob uned o’r deunydd:

(aa)

drwy gynnal archwiliadau gweledol ar adegau rheolaidd yn ystod hyd cyfan o leiaf un cylch llystyfiant, gan roi sylw i’r math o ddeunydd a’i gam datblygu yn ystod y rhaglen brofi, ar gyfer symptomau a achosir gan blâu planhigion; a

(bb)

drwy gynnal profion:

  • yn achos pob deunydd tatws ar gyfer o leiaf:

  • Firws cudd tatws Andeaidd,

  • Firws Arracacha B. math oca,

  • Firws crwn du tatws,

  • Firoid y gloronen bigfain,

  • Firws tatws T,

  • Firws brychni tatws Andeaidd

  • firysau cyffredin tatws A, M, S, V, X ac Y (gan gynnwys Y°, Yn ac Yc) a Firws crychni dail tatws,

  • Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al.

  • Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.;

  • yn achos hadau Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rheini a bennir yng ngholofn 2 o eitem 21, ar gyfer y firysau a’r firoid a restrir uchod o leiaf; a

(iv)

wedi cynnwys profion priodol ar unrhyw symptom arall a welwyd yn yr archwiliad gweledol er mwyn adnabod y plâu planhigion sydd wedi achosi symptomau o’r fath;

(b)

rhaid i unrhyw ddeunydd y canfuwyd nad oedd yn rhydd, o dan y profion y cyfeirir atynt ym mharagraff (a), rhag plâu planhigion a bennir yn y paragraff hwnnw fod wedi ei ddifa ar unwaith neu fod yn destun gweithdrefnau sy’n dileu’r plâu planhigion; ac

(c)

rhaid i bob sefydliad neu gorff ymchwil sy’n cadw’r deunydd hwn hysbysu Sefydliad Diogelu Planhigion swyddogol ei Aelod-wladwriaeth ynghylch y deunydd a gedwir

21.Hadau Solanum tuberosum L, ac eithrio’r rheini a bennir yng ngholofn 2 o eitem 22

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod:

(i)

yn deillio o blanhigion sy’n cydymffurfio â’r gofynion a bennir yng ngholofn 3 o eitemau 17 i 20; a

(ii)

yn tarddu o ardaloedd y gwyddys eu bod yn rhydd rhag Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival, Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al., Ralstonia solanancearum (Smith) Yabuuchi et al. a Firoid y gloronen bigfain; neu

(b)

eu bod wedi eu cynhyrchu mewn safle lle na welwyd unrhyw symptomau o’r clefyd a achosir gan y plâu planhigion hynny ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf a phan fo’r camau a ganlyn wedi eu cymryd:

(i)

bod y safle wedi ei wahanu oddi wrth blanhigion mochlysaidd eraill a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain;

(ii)

bod staff ac eitemau eraill, megis offer, peiriannau, cerbydau, llestri a deunydd pecynnu, o safleoedd eraill sy’n cynhyrchu planhigion mochlysaidd a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain, wedi eu hatal rhag dod i gysylltiad â’r safle neu y cymerwyd mesurau hylendid priodol eraill i atal heintio gan staff sy’n gweithio, neu eitemau a ddefnyddiwyd, ar safleoedd eraill sy’n cynhyrchu planhigion mochlysaidd a phlanhigion eraill sy’n cynnal Firoid y gloronen bigfain;

(iii)

mai dim ond dŵr sy’n rhydd rhag y plâu planhigion hynny a ddefnyddiwyd

22.Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n cael eu storio mewn cronfeydd genynnau neu gasgliadau stoc genetigRhaid i bob sefydliad neu gorff ymchwil sy’n cadw deunydd o’r fath hysbysu Sefydliad Diogelu Planhigion swyddogol ei Aelod-wladwriaeth am y deunydd a gedwir
23.Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rheini a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 18 i 22

Rhaid bod tystiolaeth ar ffurf rhif cofrestru a roddir ar y deunydd pecynnu, neu yn achos tatws rhydd a gludir mewn swmp, ar y cerbyd sy’n cludo’r tatws, bod y tatws wedi eu tyfu gan gynhyrchwr sydd wedi ei gofrestru yn swyddogol, neu’n tarddu o ganolfannau storio neu anfon ar y cyd sydd wedi eu cofrestru yn swyddogol sydd wedi eu lleoli yn yr ardal gynhyrchu, yn nodi bod y cloron yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ac y cydymffurfiwyd â’r darpariaethau a ganlyn:

(a)

darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival;

(b)

pan fo’n briodol, darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al.; ac

(c)

darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens

24.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio planhigion a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 22 a 23

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm stolbur tatws; neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm stolbur tatws ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

25.Planhigion gyda gwreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r rheini sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4(4)(a) o Gyfarwyddeb 2007/33/ECRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol y cydymffurfiwyd â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens
26.Planhigion gyda gwreiddiau Capsicum spp., Solanum lycopersicum L., Musa L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. neu

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

27.Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Verticillium albo-atrum Reinke a Berthold neu Verticillium dahliae Klebahn ar hopys yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
28.

Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn:

  • Brahea Mart.,

  • Butia Becc.,

  • Chamaerops L.,

  • Jubaea Kunth,

  • Livistona R. Br.,

  • Phoenix L.,

  • Sabal Adans.,

  • Syagrus Mart.,

  • Trachycarpus H. Wendl.,

  • Trithrinax Mart.,

  • Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle yr oedd y planhigion wedi eu gosod mewn safle a oedd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister) neu drwy gymhwyso triniaethau ataliol priodol; a

(iii)

lle na welwyd, yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister)

29.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Helicoverpa armigera (Hübner) a Spodoptera littoralis (Boisd.), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad cenedlaethol diogelu planhigion yn unol ag ISPM Rhif 4;

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Helicoverpa armigera (Hübner) neu Spodoptera littoralis (Boisd.) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(c)

y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny

30.Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn stoc o’r drydedd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o ddeunydd y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod profion firolegol, neu eu bod yn deillio yn uniongyrchol o ddeunydd y canfuwyd bod sampl gynrychioliadol o 10% ohono o leiaf yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod arolygiad swyddogol a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod blodeuo;

(b)

bod y planhigion neu’r toriadau:

(i)

wedi dod o fangre sydd wedi ei harolygu yn swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn eu hanfon, ac na welwyd unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings yno yn ystod y cyfnod hwnnw, a gwyddys nad oes unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings wedi bod yn bresennol yn y cyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn eu marchnata; neu

(ii)

y buont yn destun triniaeth briodol i atal Puccinia horiana Hennings; ac

(c)

yn achos toriadau heb wreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx ar y toriadau neu’r planhigion yr oedd y toriadau yn deillio ohonynt neu, yn achos toriadau â gwreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y gwely gwreiddio

31.Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia chrysanthemi pv. Dianthicola (Hellmers) Dickey, Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder a Phialophora cinerescens (Wollenw.) Van Beyma drwy brofion a gymeradwyir yn swyddogol, a gynhaliwyd o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; a

(b)

na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion hyn ar y planhigion

32.Bylbiau Tulipa L. neu Narcissus L. ac eithrio’r rheini y mae tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynolRhaid i’r bylbiau ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Fililjev ar y bylbiau ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
33.

Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio:

  • bylbiau,

  • cormau,

  • planhigion o’r teulu

Gramineae,

  • rhisomau,

  • hadau, neu

  • cloron,

a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu;

(c)

yn union cyn eu marchnata, bod y planhigion wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) ac y buont yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); neu

(d)

eu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess), eu bod wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd

34.Planhigion â gwreiddiau, a blannwyd neu a fwriedir ar gyfer eu plannu, a dyfir yn yr awyr agoredRhaid bod tystiolaeth y gwyddys bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. a Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival
35.Y planhigion â gwreiddiau a ganlyn a dyfir yn yr awyr agored, Allium porrum L., Asparagus officinalis L., Beta vulgaris L., Brassica spp. neu Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio’r planhigion hynny sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4.4(a) neu (c) o Gyfarwyddeb 2007/33/ECRhaid bod tystiolaeth y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens
36.Bylbiau, cloron neu risomau, a dyfir yn yr awyr agored, Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Dahlia spp., Gladiolus Tourn. ex L., Hyacinthus spp., Iris spp., Lilium spp., Narcissus L. neu Tulipa L., ac eithrio’r bylbiau, y cloron neu’r rhisomau hynny sydd i’w plannu yn unol ag Erthygl 4.4(a) neu (c) o Gyfarwyddeb 2007/33/ECRhaid bod tystiolaeth y cydymffurfir â darpariaethau’r Undeb Ewropeaidd i atal Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens
37.Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws deildro betys; neu

(b)

y gwyddys nad yw Firws deildro betys yn bresennol yn yr ardal gynhyrchu, ac na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

38.Hadau Helianthus annuus L.

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni; neu

(b)

ac eithrio’r rheini a gynhyrchwyd ar amrywogaethau sydd ag ymwrthedd i bob hil Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni sy’n bresennol yn yr ardal gynhyrchu, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni

39.Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Firws deildro melyn tomatos;

(b)

na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion; a

(i)

bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.; neu

(ii)

y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neu

(c)

na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos yn y man cynhyrchu, ac y bu’r man cynhyrchu yn destun triniaeth a chyfundrefn fonitro briodol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.

40.Hadau Solanum lycopersicum L.

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Clavibacter michiganensis ssp. michiganesnsis (Smith) Davis et al., neu Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Doidge) Dye yn bresennol;

(b)

na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan y plâu planhigion hynny ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neu

(c)

y bu’r hadau yn destun profion swyddogol ar gyfer y plâu planhigion hynny o leiaf, ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny

41.Hadau Medicago sativa L.

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, ac na amlygwyd Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev gan brofion labordy ar sampl gynrychioliadol;

(b)

bod mygdarthu wedi digwydd cyn eu marchnata; neu

(c)

y bu’r hadau yn destun triniaeth ffisegol briodol i atal Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar ôl cynnal profion labordy ar sampl gynrychioliadol

42.Hadau Medicago sativa L.

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.; neu

(b)

y gwyddys nad oedd Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol ar y fferm neu yn ei chyffiniau agos ers dechrau’r 10 mlynedd diweddaraf; a

(i)

bod y cnwd yn perthyn i amrywogaeth y cydnabyddir ei bod ag ymwrthedd uchel i Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.;

(ii)

nad oedd wedi dechrau ei bedwerydd cylch llystyfiant cyflawn ers hau pan gafodd yr hadau eu cynaeafu, ac na fu mwy nag un cynhaeaf hadau blaenorol o’r cnwd; neu

(iii)

nad yw cynnwys y deunydd anadweithiol a bennwyd yn unol â’r rheolau sy’n gymwys ar gyfer ardystio hadau a farchnetir yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na 0.1% o ran pwysau;

(c)

na welwyd unrhyw symptomau Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn y man cynhyrchu, neu ar unrhyw gnwd Medicago sativa L. cyfagos, yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf neu, pan fo’n briodol, yn ystod y ddau gylch llystyfiant diweddaraf; a

(d)

bod y cnwd wedi ei dyfu ar dir lle nad oes unrhyw gnwd Medicago sativa L. blaenorol wedi bod yn bresennol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cyn hau

43.Hadau Phaseolus L.

Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye; neu

(b)

y profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye

44.Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.Rhaid i’r deunydd pecynnu, unrhyw label sydd ynghlwm wrth y deunydd pecynnu neu unrhyw ddogfen a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n dod gyda’r llwyth ddwyn nod tarddiad priodol (caiff y nod hwnnw fod yn gyfeiriad at enw’r wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni)
45.Planhigion, ac eithrio hadau, Viburnum spp. L., Camellia spp. neu Rhododendron spp. L., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 3 o Atodiad I i Benderfyniad 2002/757/EC
46.Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/ECRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu yn unol â’r gofynion a bennir ym mhwynt 2(a), (b), (c) neu (d) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/365/EC
47.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/ECRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Adran II o Atodiad I i Benderfyniad 2007/433/EC
48.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnwRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1 o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU
49.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU nad ydynt yn tarddu o fan cynhyrchu sydd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw ond a gyflwynwyd i fan cynhyrchu o’r fathRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y man cynhyrchu y cyflwynwyd y planhigion iddo yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(iii) o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU
50.Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU, ac eithrio’r rheini sy’n tarddu o Gymru ac sydd ond yn cael eu symud o fewn ardal o’r fathRhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a) i (c) o Adran 2 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/270/EU
51.Paill byw Actinidia Lindl. neu blanhigion, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl. a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r paill a’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r un o’r gofynion a bennir ym mhwynt (2) a, phan fo’n briodol, un o’r gofynion ym mhwynt (3) o Atodiad II i Benderfyniad 2017/198/EU
52.Planhigion cynhaliol o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2015/789 nad ydynt erioed wedi eu tyfu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(8)(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789; neu

(b)

yn achos planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn ail is-baragraff Erthygl 9(8) o’r Penderfyniad hwnnw

53.

Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/90EC:

  • sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P armeniaca L., P avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley,

  • sydd wedi eu tyfu y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789, ac

  • sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(9)(a) a (b) o Benderfyniad (EU) 2015/789
54.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789, ac eithrio’r rheini sy’n perthyn i’r amrywogaethau a bennir yn Atodiad III i’r Penderfyniad hwnnw, sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw

Rhaid i’r planhigion:

(a)

yn achos planhigion nad ydynt wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyflawn:

(i)

dod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(2) i (4) a (5) o Benderfyniad (EU) 2015/789; neu

(ii)

yn achos planhigion cwsg, ac eithrio hadau, Vitis a fwriedir ar gyfer eu plannu, ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9(4a) a (5) o’r Penderfyniad hwnnw;

(b)

yn achos planhigion sydd wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyflawn, ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 9a(2) a (3) o’r Penderfyniad hwnnw, a chael eu cludo yn y dull a bennir yn Erthygl 9a(4) o’r Penderfyniad hwnnw

55.Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i fan cynhyrchu mewn ardal o’r fath

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o Benderfyniad (EU) 2015/893, eu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu symud, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu sy’n bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a) a (b) o Adran 2(A) o Atodiad II i’r Penderfyniad hwnnw; a

(b)

eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(c) o’r Adran honno

56.

Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka sydd:

  • yn tarddu o Frasil, De Affrica neu Uruguay;

  • yn cael eu hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig; ac

  • wedi eu cyflwyno i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthyglau 9 i 13 o Benderfyniad (EU) 2016/715

Rhaid i’r ffrwythau fod:

(a)

wedi eu pecynnu a’u labelu yn unol ag Erthygl 17 o’r Penderfyniad hwnnw; a

(b)

yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu cyflwyno i Gymru, eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru.

57.

Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans. neu Swinglea Merr. sydd:

  • yn tarddu o unrhyw drydedd wlad;

  • i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol; ac

  • wedi eu cyflwyno i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd yn unol ag Erthygl 3 o Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2374

Rhaid i’r ffrwythau fod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu cyflwyno i Gymru, eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru
58.Planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannuRhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd, ac a gedwir yn rhydd, rhag Chalara fraxinea T. Kowalski (gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus) yn unol ag ISPM Rhif 4
59.Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rheini a grybwyllir yng ngholofn 2 o eitemau 19 i 22, sy’n tarddu o Wlad PwylRhaid i’r cloron ddod gyda thystysgrif a ddyroddir gan gorff cyfrifol swyddogol Gwlad Pwyl yn cadarnhau y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. mewn profion labordy swyddogol
60.Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw ardal o Sbaen sydd o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ac eithrio’r rheini sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU neu Ynysoedd BalearesRhaid i’r cloron fod wedi eu golchi fel nad oes mwy na 0.1% o bridd yn weddill

RHAN CDeunydd perthnasol na chaniateir ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru (fel parth gwarchod) oni chydymffurfir â gofynion arbennig

(1)

Eitem

(2)

Disgrifiad o’r deunydd perthnasol

(3)

Gofynion glanio

1.Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu Armenia, y Swistir neu UDA

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

(a)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(b)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.

2.Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle na wyddys bod Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(c)

eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfeydd y canfuwyd eu bod, ynghyd â’u cyffiniau, yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ar sail arolygiadau swyddogol ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd ar adegau priodol; neu

(d)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller ac a arolygwyd ar adegau priodol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Thaumetopoea pityocampa Denis a Schiffermüller

3.Planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

(a)

mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn bresennol;

(b)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr

4.Planhigion, ac eithrio hadau, Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al., sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;

(c)

eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol nad ydynt wedi dangos unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac na welwyd unrhyw symptomau’r pla planhigion hwnnw ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neu

(d)

yn achos planhigion Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L. y ceir tystiolaeth amdanynt o’u deunydd pecynnu neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, na welwyd unrhyw symptomau Xanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r tymor tyfu cyflawn diweddaraf

5.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart., neu Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister); a

(iii)

lle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu

6.Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendle., Borassus flabellifer L., Brahea armata S. Watson, Brahea edulis H. Wendl., Butia capitata (Mart.) Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops humilis L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae chilensis (Molina) Baill., Livistona australis C. Martius, Livistona decora (W. Bull) Dowe, Livistona rotundifolia (Lam.) Mart., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix canariensis Chabaud, Phoenix dactylifera L., Phoenix reclinata Jacq., Phoenix roebelenii O’Brien, Phoenix sylvestris (L.) Roxb., Phoenix theophrasti Greuter, Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal palmetto (Walter) Lodd. ex Schult. a Schult. F., Syagrus roman-zoffiana (Cham.) Glassman, Trachycarpus fortunei (Hook.) H. Wendl. neu Washingtonia Raf.

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn mannau cynhyrchu mewn gwledydd lle y gwyddys nad yw Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn bresennol;

(b)

eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Rhynchophorus ferrugineus (Olivier), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(c)

eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio neu eu symud, mewn man cynhyrchu:

(i)

sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;

(ii)

lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Rhynchophorus ferrugineus (Olivier); a

(iii)

lle na welwyd unrhyw arwyddion Rhynchophorus ferrugineus (Olivier) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn eu symud o’r man cynhyrchu

7.Toriadau Euphorbia pulcherrima Willd. a ddiwreiddiwyd, a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar y toriadau nac ar y planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn yn y man cynhyrchu; neu

(c)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y toriadau a’r planhigion y mae’r toriadau yn deillio ohonynt ac a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud

8.

Planhigion Euphorbia pulcherrima Willd., a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio:

  • hadau,

  • y planhigion hynny y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau (neu eu bractau) neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, neu

  • y rheini a bennir yn eitem 7

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata; neu

(c)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwn yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu hwn, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud; a

(d)

bod tystiolaeth ar gael eu bod wedi eu cynhyrchu o doriadau sydd:

(i)

yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(ii)

wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu lle na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod cyfnod cynhyrchu cyfan y planhigion hyn; neu

(iii)

mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, wedi eu tyfu ar blanhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu sydd wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid i’r arolygiad olaf o’r arolygiadau wythnosol fod wedi ei gynnal yn union cyn eu symud

9.

Planhigion, ac eithrio hadau, cloron neu gormau, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu blanhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander

L., a fwriedir ar gyfer eu plannu

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:

(a)

eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd);

(b)

na welwyd unrhyw arwyddion Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ar blanhigion yn y man cynhyrchu o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn marchnata;

(c)

pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, bod y planhigion a gedwir neu a gynhyrchir yn y man cynhyrchu wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) ac y canfuwyd wedi hynny bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd), mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y tair wythnos cyn eu symud o’r man cynhyrchu, ac mewn gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod dan sylw; neu

(d)

yn achos planhigion y ceir tystiolaeth o’u deunydd pecynnu neu o ddatblygiad eu blodau neu drwy ddulliau eraill eu bod wedi eu bwriadu ar gyfer eu gwerthu yn uniongyrchol i gwsmeriaid terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu planhigion yn broffesiynol, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau Ewropeaidd) yn union cyn eu symud

10.Planhigion Castanea Mill., ac eithrio planhigion mewn meithriniad meinwe, ffrwythau neu hadau

Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd:

mewn man cynhyrchu mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu yn bresennol;

(a)

mewn ardal sy’n rhydd rhag Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4; neu

(b)

mewn parth gwarchod a gydnabyddir yn barth gwarchod ar gyfer Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu

Erthygl 3

ATODLEN 5Deunydd perthnasol o drydedd wlad y gallai tystysgrif ffytoiechydol fod yn ofynnol ar ei gyfer

RHAN ADeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei lanio onid yw tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

2.  Hadau—

(a)Cruciferae, Gramineae neu Trifolium spp., sy’n tarddu o’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Chile, Seland Newydd neu Uruguay;

(b)y genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Iran, Iraq, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA; neu

(c)Solanaceae, Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Capsicum spp., Helianthus annuus L., Solanum lycopersicum L., Medicago sativa L., Prunus L., Rubus L., Oryza spp., Zea mays L., Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Allium porrum L., Allium schoenoprasum L. neu Phaseolus L.

3.  Rhannau o blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau—

(a)Castanea Mill., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Gypsophilia L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Phoenix spp., Populus L., Quercus L., Solidago L. neu flodau Orchidaceae wedi eu torri;

(b)coed conwydd (Coniferales);

(c)Acer saccharum Marsh, sy’n tarddu o UDA neu Ganada;

(d)Prunus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop;

(e)blodau Aster spp. wedi eu torri, Eryngium L., Hypericum L., Lisianthus L., Rosa L. neu Trachelium L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop;

(f)llysiau deiliog Apium graveolens L., Ocimum L., Limnophila L. neu Eryngium L.;

(g)dail Manihot esculenta Crantz;

(h)canghennau Betula L. wedi eu torri, gyda deiliant neu heb ddeiliant;

(i)canghennau wedi eu torri Fraxinus L., Juglans ailantifolia Carr., Juglans mandshurica Maxim., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya rhoifolia Siebold a Zucc., gyda deiliant neu heb ddeiliant, sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDA; neu

(j)Amyris P. Browne, Casimiroa La Llave, Citropsis Swingle a Kellerman, Eremocitrus Swingle, Esenbeckia Kunth., Glycosmis Corrêa, Merrillia Swingle, Naringi Adans., Tetradium Lour., Toddalia Juss. neu Zanthoxylum L.

4.  Rhannau o blanhigion, ac eithrio ffrwythau ond gan gynnwys hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Burkillanthus Swingle, Calodendrum Thunb., Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Limonia L., Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Triphasia Lour neu Vepris Comm.

5.  Ffrwythau—

(a)Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., Swinglea Merr., Momordica L., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L.;

(b)Annona L., Cydonia Mill., Diospyros L., Malus Mill., Mangifera L., Passiflora L., Prunus L., Psidium L., Pyrus L., Ribes L., Syzygium Gaertn. neu Vaccinium L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop;

(c)Capsicum L.;

(d)Punica granatum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir Affrica, Cape Verde, Saint Helena, Madagasgar, La Reunion, Mauritius neu Israel.

6.  Cloron Solanum tuberosum L.

7.  Pridd neu gyfrwng tyfu sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, pridd neu sylweddau organig solet megis rhannau o blanhigion neu hwmws, gan gynnwys mawn neu risgl, ac eithrio cyfrwng tyfu sydd ar ffurf mawn yn gyfan gwbl.

8.  Pridd neu gyfrwng tyfu sy’n gysylltiedig â phlanhigion, neu yr ymddengys iddo fod mewn cysylltiad â phlanhigion, sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, deunydd a bennir ym mharagraff 7 neu sydd ar ffurf, yn rhannol, unrhyw sylweddau anorganig solet, a fwriedir i gynnal bywiogrwydd planhigion, sy’n tarddu o—

(a)Belarws, Georgia, Moldofa, Rwsia, Twrci neu’r Ukrain; neu

(b)unrhyw wlad y tu allan i Ewrop, ac eithrio Algeria, yr Aifft, Israel, Libya, Moroco neu Tunisia.

9.  Grawn o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale sy’n tarddu o Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA.

10.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA.

11.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC.

12.  Hadau neu gonau, y bwriedir eu defnyddio ar gyfer lluosogi, o’r genera neu rywogaethau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC.

13.  Paill byw Actinidia Lindl.

14.  Planhigion, ac eithrio hadau, Mangifera L. sy’n tarddu o India.

15.  Rhannau o blanhigion, gan gynnwys hadau, Fraxinus L.

RHAN BDeunydd perthnasol, os bwriedir iddo fynd i barthau gwarchod penodol, na chaniateir iddo gael ei lanio onid yw tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gydag ef

16.  Planhigion Beta vulgaris L. y bwriedir eu defnyddio ar gyfer prosesu diwydiannol.

17.  Pridd o fetys neu wastraff heb ei sterileiddio o fetys (Beta vulgaris L.).

18.  Paill byw ar gyfer peillio Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L.

19.  Rhannau o blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L.

20.  Hadau Castanea Mill., Dolichos Jacq., Magnifera spp., Beta vulgaris L. neu Phaseolus vulgaris L.

21.  Hadau neu ffrwythau (hadlestri) Gossypium spp. neu gotwm heb ei heislanu.

22.  Ffrwythau Vitis L.

23.  Rhannau o blanhigion Eucalyptus L’Hérit.

Erthyglau 21(1) i (4) a 23(1)

ATODLEN 6Gwaharddiadau ar gyflwyno deunydd perthnasol i Gymru neu ei symud o fewn Cymru heb basbort planhigion

RHAN ADeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Prunus L., ac eithrio Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L., Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

2.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L. neu Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

3.  Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

4.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., Zanthoxylum L. neu Vitis L.

5.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L.

6.  Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., gyda dail a phedynclau.

7.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—

(a)planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r genera Abies Mill., Apium graveolens L. Argyranthemum spp., Asparagus officinalis L., Aster spp., Brassica spp., Castanea Mill., Cucumis spp., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Exacum spp., Fragaria L., Gerbera Cass., Gypsophilia L, pob rhywogaeth o hybridau Guinea Newydd o Impatiens L., Lactuca spp., Larix Mill., Leucanthemum L., Lupinus L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Picea A. Dietr., Pinus L., Platanus L., Populus L., Prunus laurocerasus L., Prunus lusitanica L., Pseudotsuga Carr., Quercus L., Rubus L., Spinacia L., Tanacetum L., Tsuga Carr., Ulmus L., Verbena L. neu blanhigion eraill rhywogaethau llysieuol, ac eithrio planhigion o’r teulu Gramineae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu fylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron;

(b)planhigion Solanaceae, ac eithrio hadau neu’r rheini a bennir ym mharagraff 3, a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu;

(d)planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart, Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syragrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.;

(e)hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L., Helianthus annuus L, Solanum lycopersicum L. neu Phaseolus L.;

(f)bylbiau, cormau, cloron neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Dahlia spp., Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. (megis Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort. neu Gladiolus tubergenii hort.), Hyacinthus L., Iris L., Ismene Herbert, Lilium spp., Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L., Tigridia Juss. neu Tulipa L.

8.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA.

9.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Viburnum spp., Camellia spp., Rhododendron spp., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio UDA, neu o’r Undeb Ewropeaidd.

10.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC.

11.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC.

12.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.

13.  Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol neu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU.

14.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol ac sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU.

15.  Paill byw neu blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl.

16.  Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 200/90EC—

(a)sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P. armeniaca L., P. avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley:

(b)a dyfwyd y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789; ac

(c)sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed.

17.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw neu blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o’r Penderfyniad hwnnw nad ydynt erioed wedi cael eu tyfu mewn ardal o’r fath.

18.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol neu sy’n tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i fan cynhyrchu o’r fath.

19.  Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

RHAN BDeunydd perthnasol na chaniateir ei lanio yng Nghymru na’i symud o fewn Cymru onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef sy’n ddilys i Gymru fel parth gwarchod

20.  Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., Prunus L., Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

21.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau, Castanea Mill.

22.  Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendl., Borassus flabellifer L., Brahea Mart., Butia Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae Kunth, Livistona R. Br., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix L., Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.

23.  Planhigion Pinus L.

24.  Hadau Castanea Mill.

25.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—

(a)planhigion, ac eithrio cormau, hadau neu gloron, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu

(b)planhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Euphorbia pulcherrima Willd., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Erthygl 21(5) a (6)

ATODLEN 7Gwaharddiadau ar draddodi deunydd perthnasol i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd heb basbort planhigion

RHAN ADeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd onid yw pasbort planhigion yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Prunus L., ac eithrio Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L., Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

2.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L. neu Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

3.  Planhigion o rywogaethau Solanum L., sy’n ffurfio stolon neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

4.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Choisya Kunth, Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm., Zanthoxylum L. neu Vitis L.

5.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L.

6.  Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., gyda dail a phedynclau.

7.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill o dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—

(a)planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r genera Abies Mill., Apium graveolens L. Argyranthemum spp., Asparagus officinalis L., Aster spp., Brassica spp., Castanea Mill., Cucumis spp., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Exacum spp., Fragaria L., Gerbera Cass., Gypsophilia L, pob rhywogaeth o hybridau Guinea Newydd Impatiens L., Lactuca spp., Larix Mill., Leucanthemum L., Lupinus L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Picea A. Dietr., Pinus L., Platanus L., Populus L., Prunus laurocerasus L., Prunus lusitanica L., Pseudotsuga Carr., Quercus L., Rubus L., Spinacia L., Tanacetum L., Tsuga Carr., Ulmus L., Verbena L. neu blanhigion eraill rhywogaethau llysieuol, ac eithrio planhigion o’r teulu Gramineae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, neu fylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron;

(b)planhigion Solanaceae, ac eithrio hadau neu’r rheini a bennir ym mharagraff 3, a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu;

(d)planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart, Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syragrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.;

(e)hadau neu fylbiau Allium ascalonicum L., Allium cepa L. neu Allium schoenoprasum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; planhigion Allium porrum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu hadau Medicago sativa L., Helianthus annuus L, Solanum lycopersicum L. neu Phaseolus L.; neu

(f)bylbiau, cormau, cloron neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Dahlia spp., Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. (megis Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort. neu Gladiolus tubergenii hort.), Hyacinthus L., Iris L., Ismene Herbert, Lilium spp., Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L., Tigridia Juss. neu Tulipa L.

8.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA.

9.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Viburnum spp., Camellia spp., Rhododendron spp., ac eithrio Rhododendron simsii Planch, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio UDA, neu o’r Undeb Ewropeaidd.

10.  Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad 2007/365/EC.

11.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC.

12.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 6 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.

13.  Cloron Solanum tuberosum L., gan gynnwys y rheini a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol neu mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/270/EU.

14.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, ac sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 5 o Benderfyniad 2012/697/EU.

15.  Paill byw neu blanhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl.

16.  Planhigion tarddiol cyn-sylfaenol fel y’u diffinnir yn Erthygl 1(3) o Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn 2014/98/EU neu ddeunydd cyn-sylfaenol fel y’i diffinnir yn Erthygl 2(5) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC—

(a)sy’n perthyn i’r rhywogaethau Juglans regia L., Olea europaea L., Prunus amygdalus Batsch, P. amygdalus x P. persica, P. armeniaca L., P. avium (L.) L., P. cerasus L., P. domestica L., P. domestica x P. salicina, P. dulcis (Mill.) D.A. Webb, P. persica (L.) Batsch, neu P. salicina Lindley:

(b)a dyfwyd y tu allan i ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o Benderfyniad (EU) 2015/789; ac

(c)sydd wedi treulio o leiaf ran o’u bywyd y tu allan i gyfleusterau sy’n ddiogel rhag pryfed.

17.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 4 o’r Penderfyniad hwnnw neu blanhigion cynhaliol Xylella o fewn ystyr Erthygl 1(b) o’r Penderfyniad hwnnw nad ydynt erioed wedi cael eu tyfu mewn ardal o’r fath.

18.  Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol neu sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd yn unol ag Erthygl 7 o’r Penderfyniad hwnnw, neu a gyflwynwyd i ardal o’r fath.

19.  Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

RHAN BDeunydd perthnasol na chaniateir iddo gael ei draddodi i barth gwarchod mewn rhan arall o’r Undeb Ewropeaidd ond gan basbort planhigion sy’n ddilys ar gyfer y parth gwarchod hwnnw

20.  Planhigion Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L. neu Pseudotsuga Carr.

21.  Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., Platanus L., Populus L., Prunus L., Quercus spp., ac eithrio Quercus suber, neu Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

22.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Amelanchier Med., Castanea Mill., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Eucalyptus L’Hérit, Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L., Sorbus L. neu Vitis L.

23.  Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r tacsonau a ganlyn: Areca catechu L., Arenga pinnata (Wurmb) Merr., Bismarckia Hildebr. a H. Wendl., Borassus flabellifer L., Brahea Mart., Butia Becc., Calamus merrillii Becc., Caryota maxima Blume, Caryota cumingii Lodd. ex Mart., Chamaerops L., Cocos nucifera L., Copernicia Mart., Corypha utan Lam., Elaeis guineenis Jacq., Howea forsteriana Becc., Jubae Kunth, Livistona R. Br., Metroxylon sagu Rottb., Phoenix L., Pritchardia Seem. a H. Wendl., Ravenea rivularis Jum. a H. Perrier, Roystonea regia (Kunth) O.F. Cook, Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.

24.  Paill byw ar gyfer peillio Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L.

25.  Cloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu.

26.  Planhigion Beta vulgaris L. y bwriedir eu defnyddio ar gyfer prosesu diwydiannol.

27.  Pridd o fetys neu wastraff heb ei sterileiddio o fetys (Beta vulgaris L.).

28.  Hadau Beta vulgaris L., Castanea Mill., Dolichos Jacq., Gossypium spp. neu Phaseolus vulgaris L.

29.  Ffrwythau (hadlestri) Gossypium spp. neu gotwm heb ei heislanu neu ffrwythau Vitis L.

30.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac a gynhyrchwyd ar wahân i gynhyrchion eraill dan oruchwyliaeth corff cyfrifol swyddogol y wlad sy’n traddodi—

(a)planhigion, ac eithrio cormau, hadau neu gloron, Begonia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu

(b)planhigion, ac eithrio hadau, Dipladenia A.DC., Euphorbia pulcherrima Willd., Ficus L., Hibiscus L., Mandevilla Lindl. neu Nerium oleander L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

Erthyglau 2(1) a 30

ATODLEN 8Pasbortau planhigion y Swistir

RHAN ADeunydd perthnasol sy’n tarddu o’r Swistir y caniateir ei lanio yng Nghymru neu ei symud o fewn Cymru os yw pasbort planhigion y Swistir yn mynd gydag ef

1.  Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Beta vulgaris L., Chaenomeles Lindl., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Humulus lupulus L., Malus Mill., Mespilus L., Prunus L., ac eithrio Prunus laurocerasus L. neu Prunus lusitanica L., Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu.

2.  Planhigion o rywogaethau stolonog neu glorog Solanum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu.

3.  Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Casimiroa La Llave, Clausena Burm.f., Vepris Comm., Zanthoxylum L. neu Vitis L.

4.  Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., gyda dail a phedynclau.

5.  Y planhigion a ganlyn a gynhyrchwyd gan gynhyrchwyr y mae cynhyrchu a gwerthu’r planhigion hynny wedi eu hawdurdodi i bersonau sy’n ymwneud â chynhyrchu planhigion wrth fasnachu neu gynnal busnes, ac eithrio planhigion a baratowyd ac sy’n barod i’w gwerthu i’r defnyddiwr terfynol, ac y mae’n amlwg eu bod wedi eu cynhyrchu ar wahân i gynhyrchion eraill, fel a warentir gan berson a awdurdodir gan ddeddfwriaeth y Swistir i roi gwarant o’r fath—

(a)planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r genera Abies Mill., Apium graveolens L., Argyanthemum spp., Asparagus officinalis L., Aster spp., Brassica spp., Castanea Mill., Cucumis spp., Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Exacum spp., Fragaria L., Gerbera Cass., Gypsophilia L, pob rhywogaeth o hybridau Guinea Newydd Impatiens L., Lactuca spp., Larix Mill., Leucanthemum L., Lupinus L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Picea A. Dietr., Pinus L., Platanus L., Populus L., Prunus laurocerasus L., Prunus lusitanica L., Pseudotsuga Carr., Quercus L., Rubus L., Spinacia L., Tanacetum L., Tsuga Carr., Verbena L. neu blanhigion eraill rhywogaethau llysieuol, ac eithrio planhigion o’r teulu Gramineae neu fylbiau, cormau, rhisomau, neu gloron;

(b)planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, ac eithrio’r planhigion hynny y cyfeirir atynt ym mharagraff 2, a fwriedir ar gyfer eu plannu;

(c)planhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu;

(d)planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera neu’r rhywogaethau a ganlyn: Brahea Mart., Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth., Livistona R.Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syragrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart. neu Washingtonia Raf.;

(e)hadau neu fylbiau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Allium schoenoprasum L., Helianthus annuus L., Medicago sativa L., Solanum lycopersicum L. neu Phaseolus L.;

(f)planhigion Allium porrum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu; neu

(g)bylbiau, cormau, cloron neu risomau a fwriedir ar gyfer eu plannu, Camassia Lindl., Chionodoxa Boiss., Crocus flavus Weston “Golden Yellow”, Dahlia spp., Galanthus L., Galtonia candicans (Baker) Decne., cyltifarau bychain y genws Gladiolus Tourn. ex. L. (megis Gladiolus callianthus Marais, Gladiolus colvillei Sweet, Gladiolus nanus hort., Gladiolus ramosus hort. neu Gladiolus tubergenii hort.), Hyacinthus L., Iris L., Ismene Herbert, Lilium spp., Muscari Miller, Narcissus L., Ornithogalum L., Puschkinia Adams, Scilla L., Tigridia Juss. neu Tulipa L.

RHAN BDeunydd perthnasol a gafodd ei fewnforio i’r Swistir o drydedd wlad arall, pe bai caniatâd i’w lanio yng Nghymru fel arfer pe bai tystysgrif ffytoiechydol yn mynd gydag ef, y caniateir i basbort planhigion y Swistir fynd gydag ef neu y caniateir ei lanio heb ddogfennaeth ffytoiechydol

6.  Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu.

7.  Hadau Cruciferae, Gramineae neu Trifolium spp. sy’n tarddu o’r Ariannin, Awstralia, Bolivia, Chile, Seland Newydd neu Uruguay.

8.  Hadau Allium ascalonicum L., Allium cepa L., Allium porrum L., Allium schoenoprasum L., Capsicum spp., Helianthus annuus L., Solanum lycopersicum L., Medicago sativa L., Phaseolus L., Prunus L., Rubus L., Oryza spp. neu Zea mays L.

9.  Hadau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf.

10.  Hadau Triticum, Secale neu X Triticosecale, sy’n tarddu o Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA.

11.  Rhannau o blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau—

(a)llysiau deiliog Apium graveolens L., Eryngium L., Limnophila L. neu Ocimum L.;

(b)blodau Aster spp. wedi eu torri, Eryngium L., Hypericum L., Lisianthus L., Rosa L. neu Trachelium L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop, neu flodau Orchidaceae wedi eu torri;

(c)Acer saccharum Marsh, sy’n tarddu o Ganada neu UDA;

(d)Castanea Mill., coed conwydd (Coniferales), Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L., Gypsophila L., Pelargonium L’Hérit. ex Ait., Phoenix spp., Populus L., Quercus L. neu Solidago L.

(e)Prunus L. sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop;

(f)dail Manihot esculenta Crantz;

(g)canghennau Betula L. wedi eu torri, gyda deiliant neu heb ddeiliant;

(h)canghennau Fraxinus L. wedi eu torri, Juglans ailantifolia Carr., Juglans mandshurica Maxim., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya rhoifolia Siebold a Zucc., gyda deiliant neu heb ddeiliant, sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDA;

(i)Amiris P. Browne, Casimiroa La Llave, Citropsis Swingle a Kellerman, Eremocitrus Swingle, Esenbeckia Kunth., Glycosmis Corrêa, Merrillia Swingle, Naringi Adans., Tetradium Lour., Toddalia Juss. neu Zanthoxylum L.

12.  Rhannau o blanhigion, ac eithrio ffrwythau ond gan gynnwys hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Burkillanthus Swingle, Calodendrum Thunb., Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Limonia L., Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Triphasia Lour. neu Vepris Comm.

13.  Ffrwythau—

(a)Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Momordica L. neu Solanum melongena L.;

(b)Annona L., Cydonia Mill., Diospyros L., Malus Mill., Mangifera L., Passiflora L., Prunus L., Psidium L., Pyrus L., Ribes L., Syzygium Gaertn., neu Vaccinium L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad y tu allan i Ewrop;

(c)Capsicum L.

14.  Cloron Solanum tuberosum L.

15.  Pridd neu gyfrwng tyfu sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, pridd neu sylweddau organig solet megis rhannau o blanhigion neu hwmws, gan gynnwys mawn neu risgl, ac eithrio cyfrwng tyfu sydd ar ffurf mawn yn gyfan gwbl.

16.  Pridd neu gyfrwng tyfu sy’n gysylltiedig â phlanhigion, neu yr ymddengys iddo fod mewn cysylltiad â phlanhigion, sydd ar ffurf, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, deunydd a bennir ym mharagraff 15 neu sydd ar ffurf, yn rhannol, unrhyw sylweddau anorganig solet, a fwriedir i gynnal bywiogrwydd planhigion, sy’n tarddu o—

(a)Belarws, Georgia, Moldofa, Rwsia, Twrci neu’r Ukrain; neu

(b)unrhyw wlad y tu allan i Ewrop, ac eithrio Algeria, yr Aifft, Israel, Libya, Moroco neu Tunisia.

17.  Grawn o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale, sy’n tarddu o Affganistan, India, Iran, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA.

Erthygl 2(1)

ATODLEN 9Y gofynion o ran pasbortau planhigion

RHAN AY gofynion o ran pasbortau planhigion ar gyfer unrhyw ddeunydd perthnasol yn Atodlen 6 neu 7

1.  Caniateir ond dyrannu pasbort planhigion mewn cysylltiad â deunydd perthnasol a fu’n destun arolygiad boddhaol yn y man y’i cynhyrchwyd.

2.  Rhaid i basbort planhigion fod ar ffurf—

(a)label swyddogol sy’n cynnwys o leiaf fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4(a) i (e); a

(b)dogfen o fath a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n cynnwys holl fanylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4.

3.  Ond pan fo’r pasbort planhigion yn ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol y cyfeirir ato yn Rhan B, caiff y pasbort planhigion fod ar ffurf label swyddogol sy’n cynnwys manylion y pasbort planhigion a bennir ym mharagraff 4 ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol o dan Ran B.

4.  Mae manylion y pasbort planhigion fel a ganlyn—

(a)y teitl “EU-plant passport”;

(b)y cod ar gyfer yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(c)enw neu god corff swyddogol cyfrifol yr Aelod-wladwriaeth lle y dyroddwyd y pasbort planhigion;

(d)rhif cofrestru’r cynhyrchydd, y mewnforiwr neu berson arall sydd wedi ei awdurdodi i ddyroddi’r pasbort planhigion neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(e)rhif wythnos y dyddiad yr atodwyd y pasbort planhigion i’r deunydd perthnasol, neu rif cyfresol neu rif swp sy’n fodd o adnabod y deunydd hwnnw;

(f)enw botanegol Lladin y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud ag ef;

(g)nifer y deunydd perthnasol y mae’r pasbort planhigion yn ymwneud â hwy (nifer y planhigion, y cynhyrchion planhigion, cyfaint neu bwysau);

(h)pan fo’r deunydd perthnasol yn bodloni’r gofynion ar gyfer parth gwarchod, y nod “ZP” a’r cod ar gyfer y parth gwarchod;

(i)yn achos pasbort planhigion amnewid, y nod “RP” a, phan fo’n briodol, god ar gyfer y cynhyrchydd neu’r mewnforiwr a awdurdodwyd i ddyroddi’r pasbort planhigion gwreiddiol neu’r sawl y dyroddwyd y pasbort planhigion iddynt;

(j)yn achos deunydd perthnasol sy’n tarddu o drydedd wlad, enw’r wlad y mae’r deunydd yn tarddu ohoni neu (os yw’n briodol), y wlad y traddodwyd y deunydd ohoni i Gymru.

5.  O ran label swyddogol—

(a)ni chaiff fod wedi ei ddefnyddio’n flaenorol;

(b)rhaid iddo fod wedi ei wneud o ddeunydd sy’n addas at ei ddiben; ac

(c)yn achos label gludiog, rhaid iddo fod ar ffurf a gymeradwyir at ddefnydd fel label swyddogol gan—

(i)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir yng Nghymru, Gweinidogion Cymru;

(ii)yn achos pasbortau planhigion a ddyroddir mewn mannau eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, y corff swyddogol cyfrifol sydd â chyfrifoldeb mewn perthynas â dyroddi pasbortau planhigion yn y rhan berthnasol o’r Undeb Ewropeaidd.

6.—(1Rhaid i’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys mewn pasbort planhigion—

(a)bod mewn o leiaf un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd;

(b)bod wedi ei hargraffu, ac eithrio pan na fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.

(2Pan fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei hargraffu mewn priflythrennau.

(3Pan na fo’r wybodaeth wedi ei hargraffu, rhaid iddi fod wedi ei nodi mewn teipysgrif neu ei hysgrifennu mewn priflythrennau.

7.  Caiff dogfen ychwanegol o fath y cyfeirir ato ym mharagraff 2(b) gynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir ym mharagraff 8 ar yr amod ei fod yn amlwg ar wahân i fanylion y pasbort planhigion sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen.

8.  Yr wybodaeth ychwanegol yw unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol at ddiben labelu’r deunydd perthnasol y mae’n ymwneud ag ef ac a nodir yn—

(a)Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/66/EC sy’n nodi’r gofynion o ran y label neu ddogfen arall a gaiff ei llunio gan y cyflenwr yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 98/56/EC(35);

(b)Erthygl 8(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/48/EEC sy’n nodi’r atodlen sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni gan ddeunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu ffrwythau, yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/34/EEC(36); neu

(c)Erthygl 6(1) o Gyfarwyddeb y Comisiwn 93/61/EEC sy’n nodi’r atodlenni sy’n nodi’r amodau sydd i’w bodloni gan ddeunydd lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau, yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 92/33/EEC(37).

RHAN BY gofynion o ran pasbortau planhigion a ganiateir ar gyfer deunydd perthnasol penodol yn Atodlen 6 neu 7

9.  Rhaid i label swyddogol sy’n basbort planhigion neu’n rhan o basbort planhigion ac sy’n ymwneud ag unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y Rhan hon gydymffurfio â’r gofynion a ganlyn mewn perthynas â’r deunydd hwnnw.

10.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â chloron Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 13(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd(38);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir y cloron ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 18.1 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

11.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Helianthus annuus L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 12(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffibr(39);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; a

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 26 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

12.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Solanum lycopersicum L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 28(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau(40);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitem 27 neu 29 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

13.  Rhaid i label swyddogol mewn cysylltiad â hadau Medicago sativa L.—

(a)cydymffurfio â gofynion Erthygl 10(1)(a) o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant(41);

(b)cynnwys y teitl “EU-plant passport”; ac

(c)pan fwriedir yr hadau ar gyfer eu traddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd, ddarparu tystiolaeth eu bod wedi eu harchwilio yn swyddogol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion yn eitemau 28.1 a 28.2 o Adran II o Atodiad IV Rhan A.

Erthygl 2(1)

ATODLEN 10Ffurf tystysgrif ffytoiechydol a ffurf tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio

RHAN AFfurf tystysgrif ffytoiechydol

RHAN BFfurf tystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio

Erthygl 6(2)

ATODLEN 11Hysbysiad glanio

Erthygl 2(1)

ATODLEN 12Dogfen symud iechyd planhigion

RHAN A

1.  Rhaid i’r ddogfen symud iechyd planhigion sy’n ofynnol o dan erthygl 17(6) fod ar y ffurf a nodir yn Rhan B.

2.  Rhaid i’r wybodaeth a gynhwysir mewn dogfen symud iechyd planhigion fod wedi ei nodi yn o leiaf un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd a rhaid iddi gael ei llenwi—

(a)mewn teipysgrif neu drwy ysgrifennu mewn priflythrennau; neu

(b)gyda chytundeb Gweinidogion Cymru a chorff swyddogol y gyrchfan neu fan cyrraedd, drwy ddulliau electronig.

3.  Yn Rhan B, mae i “approved place of inspection” yr un ystyr ag a roddir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2004/103/EC ar wiriadau adnabod planhigion ac iechyd planhigion, cynnyrch planhigion neu wrthrychau eraill, a restrir yn Rhan B o Atodiad V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC, y caniateir eu cyflawni mewn man ac eithrio man cyrraedd y Gymuned neu mewn man gerllaw, ac yn pennu’r amodau sy’n ymwneud â’r gwiriadau hynny(42).

RHAN B

Erthygl 39(3)

ATODLEN 13Mesurau arbennig ar gyfer rheoli Clefyd y ddafaden tatws

1.  Mae llain i’w hystyried yn halogedig at ddibenion yr Atodlen hon os cadarnheir bod Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol ar o leiaf un planhigyn o’r llain o ganlyniad i brawf swyddogol.

2.  Rhaid i arolygydd ddarnodi llain halogedig a pharth diogelwch o amgylch y llain honno sy’n ddigon mawr i sicrhau diogelwch yr ardaloedd oddi amgylch.

3.  Caiff hysbysiad o dan erthygl 32 ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gloron neu wlydd sy’n bresennol ar lain halogedig neu sydd wedi dod o lain o’r fath gael eu trin mewn modd sy’n sicrhau bod Clefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol arnynt yn cael ei ddinistrio.

4.  Pan fo arolygydd wedi ei fodloni bod unrhyw gloron neu wlydd wedi eu halogi â Chlefyd y ddafaden tatws ac na all yr arolygydd ganfod pa un a fu’r cloron neu’r gwlydd hynny yn bresennol ar lain halogedig, caiff yr arolygydd gyflwyno hysbysiad o dan erthygl 32 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r swp cyfan sy’n cynnwys y cloron neu’r gwlydd a effeithiwyd gael ei drin mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Clefyd y ddafaden tatws.

5.  Pan fo llain halogedig wedi ei darnodi o dan baragraff 2—

(a)ni chaniateir tyfu unrhyw datws arni; a

(b)ni chaniateir tyfu na storio unrhyw blanhigion y bwriedir eu trawsblannu ar y llain honno, na symud planhigion o’r fath ar y llain honno.

6.  Ni chaniateir tyfu unrhyw datws mewn parth diogelwch a ddarnodwyd o dan baragraff 2 oni bai bod arolygydd wedi ei fodloni eu bod o rywogaeth sydd ag ymwrthedd i hiliau o Glefyd y ddafaden tatws sy’n bresennol ar y llain halogedig y mae’r parth diogelwch yn ymwneud â hi.

7.  Mae amrywogaeth datws i’w hystyried yn un sydd ag ymwrthedd i hil benodol o Glefyd y ddafaden tatws at ddibenion paragraff 6 pan fo’r amrywogaeth honno yn ymateb i halogi gan asiant pathogenig o’r hil honno mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw berygl o sgil-heintio.

8.  Pan fo arolygydd wedi ei fodloni nad yw Clefyd y ddafaden tatws yn bresennol mwyach ar lain a ddarnodwyd o dan baragraff 2 neu ar ei pharth diogelwch cysylltiedig, rhaid i’r arolygydd ddirymu’r darnodiad hwnnw.

Erthygl 39(3)

ATODLEN 14Mesurau arbennig ar gyfer rheoli poblogaethau Ewropeaidd o Lyngyr tatws

Dehongli a chymhwyso Atodlen 14

1.  Mae’r Atodlen hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, yn dilyn ymchwiliad arbennig at ddibenion Erthygl 4 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC neu arolwg swyddogol at ddibenion Erthygl 6 o’r Gyfarwyddeb honno, yn cadarnhau bod cae wedi ei heigio â phoblogaeth Ewropeaidd o Lyngyr tatws.

2.  Yn yr Atodlen hon, ystyr “cae sydd wedi ei ddarnodi” (“demarcated field”) yw cae y mae hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 3 mewn grym mewn cysylltiad ag ef.

Darnodi’r cae

3.  Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu berson arall â gofal am y cae sydd—

(a)yn pennu’r cae y mae’r hysbysiad yn gymwys iddo; a

(b)yn darnodi ffiniau’r cae hwnnw.

4.  Ni chaniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl hyd nes caiff ei gadarnhau, yn unol â’r mesurau ail-samplu a phrofi a nodir yn Adran III(C) o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2007/33/EC, nad yw Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae mwyach.

Gwaharddiad ar blannu tatws

5.  Oni chaiff ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd, ni chaiff unrhyw berson—

(a)plannu mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw datws y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu tatws hadyd; neu

(b)plannu neu storio mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw blanhigyn a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC a fwriedir ar gyfer ei blannu.

6.  Caiff arolygydd awdurdodi plannu mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw blanhigyn a restrir ym mhwynt 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC.

7.  Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff 6 fod drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau a nodir yn Adran III(A) o Atodiad III i Gyfarwyddeb 2007/33/EC.

Atal Llyngyr tatws

8.  Ni chaiff unrhyw berson blannu mewn cae sydd wedi ei ddarnodi unrhyw datws nad ydynt wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd oni bai bod y person hwnnw wedi cymryd pob cam rhesymol i atal Llyngyr tatws yn y cae hwnnw.

Rheolaethau ar datws hadyd halogedig etc.

9.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw datws hadyd nac unrhyw blanhigion a restrir ym mhwynt 1 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC sy’n dod o gae sydd wedi ei ddarnodi, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd o gae sydd wedi ei ddarnodi, oni bai bod ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

10.  Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff 9 fod drwy hysbysiad a rhaid iddo gynnwys y mesurau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i ddadhalogi’r tatws hadyd hynny neu’r planhigion hynny.

Rheolaethau ar fylbiau halogedig etc.

11.  Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw blanhigion a restrir ym mhwynt 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb 2007/33/EC sy’n dod o gae sydd wedi ei ddarnodi, neu sydd wedi bod mewn cysylltiad â phridd o gae sydd wedi ei ddarnodi, oni bai ei fod wedi ei awdurdodi i wneud hynny gan arolygydd.

12.  Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff 11 fod drwy hysbysiad, a rhaid iddo gynnwys y mesurau a nodir yn Adran III(A) o Atodiad III i’r Gyfarwyddeb honno.

Erthygl 39(3)

ATODLEN 15Mesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd cylch tatws

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw cloron neu blanhigion Solanum tuberosum L;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd cylch tatws

2.  Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu

(b)unrhyw ddeunydd halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

3.  Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei waredu drwy ei ddinistrio neu drwy unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(b)bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 93/85/EEC;

(c)bod gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—

(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws.

4.  Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 93/85/EEC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

5.  Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig—

(a)yn achos cae halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

6.  Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf dair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(iii)cnydau lle ceir risg bod Pydredd cylch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu; a

(d)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod y tymor cnydio tatws nesaf yn dilyn cylch cylchdroi priodol (rhaid i’r cylch hwnnw fod o leiaf ddwy flynedd pan fo’r tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd).

7.  Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws;

(b)gofyniad bod y cae yn cael ei gadw, yn ystod y cyfnod hwnnw, yn fraenar neu’n dir pori parhaol, gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu.

8.  Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws; a

(iii)tatws hadyd ardystiedig, oni bai eu bod ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta yn unig, a bod arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws wedi ei dileu;

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ganlynol—

(i)tatws hadyd ardystiedig; a

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd cylch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n fan cynhyrchu halogedig;

(c)gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn ystod o leiaf y drydedd flwyddyn dyfu; a

(d)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y drydedd flwyddyn dyfu er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd cylch tatws.

9.  Caniateir i hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig bennu bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio fel nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws drwy gydol y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

10.  Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag uned gynhyrchu cnwd dan orchudd

11.  Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron tatws, planhigion tatws na gwir hadau tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.

12.  Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd cylch tatws a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac

(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd cylch tatws a bod yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol wedi ei symud ymaith.

13.  Pan roddir awdurdodiad o dan baragraff 11, caiff yr awdurdodiad bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig, cloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu.

Erthygl 39(3)

ATODLEN 16Pydredd coch tatws

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu yn halogedig at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron), ac eithrio gwir hadau, Solanum tuberosum L. neu blanhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

ystyr “hysbysiad” (“notice”), yn Rhan A, yw hysbysiad o dan erthygl 32;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig fel y’u diffinir gan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

RHAN AMesurau arbennig ar gyfer rheoli Pydredd coch tatws

Deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatws

2.  Ni chaiff unrhyw berson blannu yn fwriadol, neu beri neu ganiatáu yn fwriadol i gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau; neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

3.  Caiff hysbysiad ei gwneud yn ofynnol—

(a)bod deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn destun unrhyw fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)bod deunydd sy’n halogedig o bosibl sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn cael ei ddefnyddio neu ei waredu yn unol â phwynt 2 o Atodiad VI i Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(c)bod gwrthrych halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl yn cael ei—

(i)gwaredu drwy ei ddinistrio; neu

(ii)glanhau a’i ddiheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws.

4.  Ni chaniateir trin unrhyw beth a lanheir ac a ddiheintir yn unol â pharagraff 3(c)(ii) yn halogedig mwyach at ddibenion Cyfarwyddeb 98/57/EC.

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig

5.  Caiff arolygydd gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd o dan erthygl 39(4)—

(a)yn achos cae halogedig neu uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, hysbysiad sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad sy’n cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)yn achos cae nad yw’n halogedig a, phan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad sy’n cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

6.  Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, ar yr amod y canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu; a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu hadau.

7.  Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum mlynedd dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws;

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, bod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar;

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes unrhyw risg o ledaenu Pydredd coch tatws;

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych; neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned; a

(iii)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw.

8.  Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC, ar gyfer cynhyrchu ffrwythau;

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf os yw planhigion tomatos i’w plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig;

(d)yn achos tatws, gofyniad mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta;

(e)yn achos tomatos, gofyniad mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol ar gyfer cynhyrchu planhigion neu ffrwythau; ac

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, ac unrhyw blanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

9.  Caiff hysbysiad mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol, am gyfnod penodedig, bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws neu domatos gael eu glanhau a, phan fo’n briodol, eu diheintio er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws;

(b)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

10.  Caiff y mesurau y caniateir eu pennu mewn hysbysiad o dan baragraff 5 neu 9 gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

Mesurau ychwanegol sy’n gymwys mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchudd

11.  Pan fo’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu mewn uned gynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig, ni chaiff unrhyw berson blannu yn yr uned unrhyw gloron, planhigion tatws na gwir hadau tatws, planhigion tomatos na hadau tomatos na phlanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd.

12.  Ni chaiff arolygydd roi awdurdodiad o dan baragraff 11 oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli;

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr; ac

(c)bod yr uned a’r holl gyfarpar a ddefnyddir yn yr uned wedi eu glanhau a’u diheintio i ddileu Pydredd coch tatws a symud ymaith yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol.

13.  Caiff awdurdodiad o dan baragraff 11—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

RHAN BDarnodi parthau rheoli Pydredd coch tatws

14.  Mae’r Rhan hon yn gymwys pan fo arolygydd wedi darnodi parth mewn perthynas ag achos o gadarnhau bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan erthygl 39(4).

15.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu, drwy hysbysiad—

(a)am ba mor hir y mae’r parth i barhau i fod wedi ei ddarnodi;

(b)y mesurau sy’n gymwys yn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

16.  Mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff 15—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(c)rhaid iddo bennu, mewn perthynas â phob mesur, pa un a yw’n gymwys yn gyffredinol neu i grynhofa dŵr wyneb yn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(d)rhaid iddo bennu’r dyddiad y mae pob mesur yn cael effaith;

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn dull sy’n briodol i’w ddwyn i sylw’r cyhoedd; ac

(f)caniateir ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad pellach.

17.  Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth sydd wedi ei ddarnodi ac yn rhannol y tu allan i barth sydd wedi ei ddarnodi fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion yr Atodlen hon, ac eithrio pan na fo’r rhan sydd y tu allan i’r parth sydd wedi ei ddarnodi yng Nghymru.

18.  Mae hysbysiad a gyhoeddir yn unol â pharagraff 16 i’w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno i—

(a)unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi;

(b)unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig;

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi y mae’r person yn ei meddiannu neu â gofal amdani; ac

(c)unrhyw berson sy’n gweithredu peiriannau neu’n cyflawni unrhyw weithgarwch arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi.

19.  Caiff Gweinidogion Cymru bennu mewn hysbysiad o dan baragraff 15—

(a)bod rhaid glanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu storfeydd mewn mangre o fewn y parth sydd wedi ei ddarnodi a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drafod cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(c)bod rhaid trafod tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, phan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trafod tatws hadyd a thatws bwyta;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfir o hadau sy’n bodloni gofynion Cyfarwyddeb 2000/29/EC neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfir o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu;

(e)ni chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, phan fo’n berthnasol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd;

(f)os yw gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol yn y parth sy’n trafod deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd.

20.  Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond pennu—

(a)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(a) i (d) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC;

(b)y mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraff 19(e) ac (f) pan fo’r parth wedi ei ddarnodi at ddibenion Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC.

Erthygl 42(3)

ATODLEN 17Gofynion hysbysu

Organeddau byw byd yr anifeiliaid

1.  Ditylenchus destructor Thorne – Llynghyren cloron tatws.

2.  Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev – Llynghyren coesynnau.

3.  Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens a Globodera pallida (Stone) Behrens – Llyngyr tatws.

Bacteria

4.  Clavibacter michiganensis isrywogaethau insidiosum (McCulloch) Davis et al. (syn. Corynebacterium insidiosum (McCulloch) Jensen) – Clefyd gwywo bacterol Maglys rhuddlas.

5.  Clavibacter michiganensis isrywogaethau michiganensis (Smith) Davis et al. (syn. Corynebacterium michiganse (Smith) Jensen pv. michiganse Dye a Kemp) – Cancr bacterol tomatos.

6.  Erwinia amylovora (Burr.) Winslow et al., sy’n achosi Malltod tân Roseaceae, mewn ardaloedd a ddynodir yn glustogfeydd sy’n rhydd rhag malltod tân.

7.  Erwinia chrysanthemi pv. dianthicola (Hellmers) Dickey – Clefyd gwywo araf penigan.

8.  Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Diodge) Dye – Brychni bacterol tomatos.

Cyptogramau

9.  Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) V. Arx. (syn. Mycosphaerella ligulicola Baker et al.) – Malltod ffarwelau haf.

10.  Phialophora cinerescens (Wollenweber) Van Beyma – Clefyd gwywo penigan.

11.  Puccinia horiana P. Henn. – Rhwd gwyn ffarwelau haf.

12.  Verticillium albo-atrum Reinke a Berth – Clefyd gwywo Verticillium.

13.  Verticillium dahliae Klebahn – Clefyd gwywo Verticillium hopys.

Firysau a phathogenau sy’n debyg i firysau

14.  Firws amryliw Arabis.

15.  Firoid arafu twf ffarwelau haf.

16.  Firws brech eirin.

17.  Firws crwn mafon.

18.  Firws crych mefus.

19.  Firws crwn cudd mefus.

20.  Firws minfelyn ysgafn mefus.

21.  Firws crwn du tomatos.

22.  Firws gwywo brith tomatos.

Erthygl 49(1)

ATODLEN 18Dirymu Gorchmynion

GorchymynCyfeirnod
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006O.S. 2006/1344 (Cy. 134)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) (Diwygio) 2007O.S. 2007/2715 (Cy. 228)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2007O.S. 2007/2716 (Cy. 229)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007O.S. 2007/3305 (Cy. 292)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2008O.S. 2008/2781 (Cy. 248)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008O.S. 2008/2913 (Cy. 257)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2009O.S. 2009/1376 (Cy. 137)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2010O.S. 2010/1795 (Cy.171)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2010O.S. 2010/2976 (Cy. 247)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2012O.S. 2012/3143 (Cy. 315)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2013O.S. 2013/888 (Cy. 100)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2013O.S. 2013/2939 (Cy. 287)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) 2014O.S. 2014/521 (Cy. 62)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2014O.S. 2014/1186 (Cy. 115)
Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2014O.S. 2014/2368 (Cy. 231)

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn disodli Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy. 158)) a Gorchymyn Iechyd Planhigion (Phytophthora ramorum) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1344 (Cy. 134)).

Mae’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1) a deddfwriaeth gysylltiedig yr Undeb Ewropeaidd ar iechyd planhigion. Mae hefyd yn gweithredu offerynnau sy’n cynnwys:

(a)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/690/EU sy’n diddymu Penderfyniad 2006/464/EC ar fesurau brys dros dro i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Dryocosmus kuriphilus Yasumatsu (OJ Rhif L 288, 2.10.2014, t. 5);

(b)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/749 sy’n diddymu Penderfyniad 2007/410/EC ar fesurau i atal cyflwyno i’r Gymuned a lledaenu o fewn y Gymuned Firoid y gloronen bigfain (OJ Rhif L 119, 12.5.2015, t. 25);

(c)Penderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/789, (EU) 2016/764 ac (EU) 2017/2352 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Xylella fastidiosa (Wells et al.) (OJ Rhif L 125, 21.5.2015, t. 36), (OJ Rhif L 126, 14.5.2016, t. 77) ac (OJ Rhif L 336, 16.12.2017, t. 31);

(d)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/893 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Anoplophora glabripennis (Motschulsky) (OJ Rhif 146, 11.6.2015, t. 16);

(e)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1199 sy’n cydnabod bod Bosnia a Herzegovina yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckerman a Kotthof) Davis et al. (OJ Rhif L 194, 22.7.2015, t. 42);

(f)Penderfyniadau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/715 ac (EU) 2017/801 sy’n nodi mesurau mewn cysylltiad â ffrwythau penodol sy’n tarddu o drydydd gwledydd penodol i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb yr organedd niweidiol Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa (OJ Rhif L 125, 13.5.2016, t. 16) ac (OJ Rhif L 120, 11.5.2017, t. 26);

(g)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1359 sy’n diwygio Penderfyniad Gweithredu 2012/270/EU o ran mesurau brys i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix similaris (Gentner), Epitrix subcrinata (Lec.) ac Epitrix tuberis (Gentner) (OJ Rhif L 215, 10.8.2016, t. 29);

(h)Penderfyniad Rhif 1/2015 y Cyd-bwyllgor ar Amaethyddiaeth ynglŷn â diwygio Ychwanegiadau 1, 2 a 4 i Atodiad 4 i’r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a Chydffederasiwn y Swistir ar fasnachu cynhyrchion amaethyddol (OJ Rhif L 27, 1.2.2017, t. 155);

(i)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/198 o ran mesurau i atal cyflwyno i’r Undeb a lledaenu o fewn yr Undeb Pseudomonas syringae pv. actinidiae Takikawa, Serizawa, Ichikawa, Tsuyumu a Goto (OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29);

(j)Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/2374 sy’n nodi amodau ar gyfer symud, storio a phrosesu ffrwythau penodol a’u cymysgrywiau sy’n tarddu o drydydd gwledydd i atal cyflwyno i’r Undeb organeddau niweidiol penodol (OJ Rhif L 337, 19.12.2017, t. 60); a

(k)Cyfarwyddebau Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1279 ac (EU) 2017/1920 sy’n diwygio Atodiadau I i V i Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno i’r Gymuned organeddau sy’n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 184, 15.7.2017, t. 33) ac (OJ Rhif L 271, 20.10.2017, t. 34).

Cyflwyniad yw Rhan 1 ac mae’n cynnwys diffiniadau. Mae erthygl 2(5) yn darparu bod cyfeiriadau at offerynnau’r Undeb Ewropeaidd a restrir yn y ddarpariaeth honno i’w darllen fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y’u diwygir o bryd i’w gilydd.

Mae Rhan 2 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol sy’n dod o wledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys deunydd perthnasol o drydydd gwledydd sy’n dod drwy ran arall o’r Undeb Ewropeaidd pan fo Gweinidogion Cymru wedi cytuno i gynnal gwiriadau penodol ar y deunydd hwnnw. Diffinnir “deunydd perthnasol” yn erthygl 2(1).

Mae erthygl 5 yn gwahardd glanio plâu planhigion a deunydd perthnasol penodol yng Nghymru ac yn gosod cyfyngiadau ar ddeunydd perthnasol arall y caniateir iddo gael ei fewnforio i Gymru o drydydd gwledydd. Mae erthygl 6 yn ei gwneud yn ofynnol i fewnforwyr mewnforion deunydd perthnasol a reolir hysbysu Gweinidogion Cymru ymlaen llaw y byddant yn cael eu glanio ac mae erthygl 7 yn ei gwneud yn ofynnol i’r dystysgrif ffytoiechydol briodol fynd gyda’r mewnforion hynny. Mae erthyglau 10 i 12 yn gwahardd symud y deunydd perthnasol hwn o ardal rheolaeth iechyd planhigion hyd nes y bydd arolygydd wedi arolygu’r deunydd ac wedi ei fodloni y gellir gollwng y deunydd.

Mae erthygl 8 yn eithrio deunydd perthnasol penodol a ddygir i Gymru ym mhaciau person rhag y gofynion yn erthygl 5 a gofynion cysylltiedig eraill.

Mae Rhan 3 yn gymwys i blâu planhigion a deunydd perthnasol o’r Undeb Ewropeaidd (pa un a yw’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu o drydydd gwledydd). Mae erthyglau 18 i 20 yn gwahardd cyflwyno plâu planhigion a deunydd perthnasol penodol i Gymru o ran arall o’r Undeb Ewropeaidd ac yn cynnwys gwaharddiadau a chyfyngiadau ar symud plâu planhigion a deunydd perthnasol a gweithgareddau eraill yng Nghymru. Mae erthygl 21 yn ei gwneud yn ofynnol i basbort planhigion fynd gyda deunydd perthnasol penodol pan fo’n cael ei symud o fewn Cymru neu’n cael ei draddodi i ran arall o’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Rhan 4 yn gosod gofyniad ar fasnachwyr planhigion i fod yn gofrestredig o ran unrhyw weithgaredd y maent yn ymgymryd ag ef ac sy’n cael ei reoleiddio gan y Gorchymyn (erthyglau 25 i 28) ac yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru awdurdodi masnachwyr planhigion i ddyroddi pasbortau planhigion (erthygl 29).

Mae Rhan 5 yn cynnwys trefniadau arbennig sy’n llywodraethu deunydd perthnasol o’r Swistir.

Mae Rhan 6 yn cynnwys pwerau gorfodi cyffredinol a roddir i arolygwyr iechyd planhigion.

Mae Rhan 7 yn gosod gofynion ychwanegol mewn perthynas â rhywogaethau mochlysaidd penodol (tatws a thomatos).

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi trwyddedau sy’n awdurdodi gweithgareddau a fyddai’n cael eu gwahardd gan y Gorchymyn hwn fel arall.

Mae Rhan 9 yn ei gwneud yn ofynnol hysbysu Gweinidogion Cymru neu arolygydd am blâu planhigion penodol sy’n bresennol neu yr amheuir eu bod yn bresennol yng Nghymru ac yn gwneud darpariaeth i arolygwyr ofyn am wybodaeth ynglŷn â materion iechyd planhigion penodol.

Mae Rhan 10 y cynnwys troseddau o beidio â chydymffurfio â’r Gorchymyn ac â’r gofynion a osodir o dan erthygl 46. Mae erthygl 47 yn nodi’r cosbau am y troseddau. (Mae torri unrhyw waharddiad ar lanio a osodir gan y Gorchymyn hwn yn drosedd o dan Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2)).

Mae Rhan 11 yn ymdrin â dirymiadau a darpariaethau trosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

(1)

1967 p. 8; diwygiwyd adran 2 gan baragraff 8(2)(a) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68), Rhan 1 o’r tabl ym mharagraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979 (p. 2), O.S. 1990/2371 ac O.S. 2011/1043. Diwygiwyd adran 3(1) gan baragraff 8(2)(a) a (b) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac O.S. 2011/1043. Amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48) ac fe’i diwygiwyd gan Ran 14 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50). Diwygiwyd adran 4(1) gan baragraff 8(3) o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae’r pwerau a roddir gan adrannau 2 a 3 yn cael eu rhoi i “competent authority” (“awdurdod cymwys”) a ddiffinnir yn adran 1(2). Diwygiwyd adran 1(2) gan baragraff 43 o Atodlen 2 i O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae adran 1(2), fel y’i diwygiwyd, yn darparu mai’r awdurdod cymwys ar gyfer Cymru yw Gweinidogion Cymru.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol gan erthygl 2 o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny o’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

1972 p. 68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

(4)

Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 a Rhan 1 o’r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7).

(5)

Mabwysiadwyd ym 1951 (Cyfres Cytuniadau Rhif 16 (1954), Cmd 9077) ac fe’i diwygiwyd ddiwethaf ym 1997 (Cyfres Amrywiol Rhif 15 (2003), Cmd 5945).

(6)

OJ Rhif L 259, 18.10.1993, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/56/EC (OJ Rhif L 182, 4.7.2006, t. 1).

(7)

OJ Rhif L 235, 21.8.1998, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/63/CE (OJ Rhif L 206, 27.7.2006, t. 36).

(8)

OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/1279 (OJ Rhif L 184, 15.7.2017, t. 33).

(9)

OJ Rhif L 156, 16.6.2007, t. 12.

(10)

OJ Rhif L 158, 18.6.2008, t. 41.

(11)

1979 p. 2, fel y’i diwygiwyd gan Rannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid 1984 (p. 43); mae diwygiadau eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(12)

OJ Rhif L 252, 20.9.2002, t. 37, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/782/EU (OJ Rhif L 346, 20.12.2013, t. 69).

(13)

OJ Rhif L 151, 30.4.2004, t. 76, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2013/67/EU (OJ Rhif L 31, 31.1.2013, t. 75).

(14)

OJ Rhif L 187, 8.7.2006, t. 35, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/1175 (OJ Rhif L 189, 17.7.2015, t. 39).

(15)

OJ Rhif L 139, 31.5.2007, t. 24, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2010/467/EU (OJ Rhif L 226, 28.8.2010, t. 42).

(16)

OJ Rhif L 161, 22.6.2007, t. 66.

(17)

OJ Rhif L 64, 3.3.2012, t. 38, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/356/EU (OJ Rhif L 175, 14.6.2014, t. 38).

(18)

OJ Rhif L 132, 23.5.2012, t. 18, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2014/679/EU (OJ Rhif L 283, 27.9.2014, t. 61).

(19)

OJ Rhif L 311, 10.11.2012, t. 14.

(20)

OJ Rhif L 196, 3.7.2014, t. 21.

(21)

OJ Rhif L 125, 21.5.2015, t. 36, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/764 (OJ Rhif L 126, 14.5.2016, t. 77).

(22)

OJ Rhif L 146, 11.6.2015, t. 16.

(23)

OJ Rhif L 125, 13.5.2016, t. 16, fel y’i diwygiwyd gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/801 (OJ Rhif L 120, 11.5.2017, t. 26).

(24)

OJ Rhif L 31, 4.2.2017, t. 29.

(25)

OJ Rhif L 193, 22.7.2008, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 707/2014 (OJ Rhif L 186, 26.6.2014, t. 56).

(27)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y CRhWP, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, AGDI, Viale delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/en/core-activities/standards-setting/ ispms/.

(28)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y CRhWP, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, AGDI, Viale delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/en/core-activities/standards-setting/ ispms/.

(29)

Ar gael oddi wrth Ysgrifenyddiaeth y CRhWP, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, AGDI, Viale delle Terme di Caracalla, 00153, Rhufain, yr Eidal ac yn https://www.ippc.int/en/core-activities/standards-setting/ ispms/.

(30)

OJ Rhif L 269, 10.10.2013, t. 1, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/2339 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 354, 23.12.2016, t. 32).

(31)

1971 p. 80, y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(33)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(34)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. l, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1).

(35)

OJ Rhif L 164, 30.6.1999, t. 76.

(36)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 1.

(37)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 19.

(38)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(39)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2002/68/EU (OJ Rhif L 195, 24.7.2002, t. 32); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

(40)

OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Gorchymyn hwn.

(41)

OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/72/EC (OJ Rhif L 304, 27.11.1996, t. 10); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw yr un ohonynt yn berthnasol.

(42)

OJ Rhif L 313, 12.10.2004, t. 16.