- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
24 Medi 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Medi 2018
Yn dod i rym
19 Hydref 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw gyrff cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 28 (Cyfnewidfa Parc Tredegar), Casnewydd) (Terfyn Cyflymder 40 MYA) 2018 a deuant i rym ar 19 Hydref 2018.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” (“the M4 motorway”) yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
2. Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen.
3. Yn yr Atodlen i Reoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015(2), yn lle paragraff (r) rhodder—
“(r)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) o’r M4 o’r man y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt 85 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw.”
Ken Skates
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
24 Medi 2018
Rheoliad 2
Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 wrth gyffordd 28 (Cyfnewidfa Tredegar) yn Ninas Casnewydd—
(a)y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 85 o fetrau i’r de o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 355 o fetrau i’r de o’r pwynt hwnnw, am bellter o 270 o fetrau; a
(b)y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 155 o fetrau i’r gogledd o’i chyffordd â’r prif gerbytffordd hyd at bwynt 455 o fetrau i’r gogledd o’r pwynt hwnnw, am bellter o 300 metr.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015 (O.S. 2015/1018 (Cy. 72)). Effaith y diwygiad yw dileu darn bach o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o’r rhan o’r ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy. Mae terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr yn gymwys i’r darn hwnnw o’r ffordd ymadael o dan y Rheoliadau hyn.
Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn gan mai am resymau diogelwch ar y briffordd y’i gwneir ac ni fydd yn cael unrhyw effaith ar gostau busnes.
1984 p. 27. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraff 28(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), a pharagraff 25 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40), ac Atodlen 8 iddi. Mewnosodwyd adran 17(3ZAA) gan adran 26(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys