Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 996 (Cy. 254)

Caffael Tir, Cymru

Digolledu

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017

Gwnaed

16 Hydref 2017

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Hydref 2017

Yn dod i rym

4 Rhagfyr 2017

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Digollediad Tir 1973(1) ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy o ran Cymru(2):

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2017 a deuant i rym ar 4 Rhagfyr 2017.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973.

Diwygio symiau rhagnodedig y taliad colli cartref

2.  Pan fo dyddiad y dadleoli ar 4 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny—

(a)£57,500 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf;

(b)£5,750 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf; ac

(c)£5,750 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.

Dirymu ac arbed

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016(3) wedi eu dirymu.

(2Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 4 Rhagfyr 2017.

Carl Sargeant

Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru

16 Hydref 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau’r taliadau colli cartref sy’n daladwy o dan Ddeddf Digollediad Tir 1973 (“y Ddeddf”) i’r rhai sy’n meddiannu annedd sydd â buddiant perchennog. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy’n daladwy o dan y Ddeddf mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson a ddadleolir o annedd drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o’r Ddeddf i gael taliad colli cartref.

Mewn achosion pan fo gan berson sy’n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o’r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny’n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) o’r Ddeddf yn pennu swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o’r Rheoliadau hyn yn cynyddu’r uchafswm sy’n daladwy o dan adran 30(1) o’r Ddeddf o £55,000 i £57,500 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu’r isafswm o £5,500 i £5,750.

Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu’r taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall, o dan adran 30(2) o’r Ddeddf, o £5,500 i £5,750.

Mae’r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo’r dadleoli’n digwydd ar 4 Rhagfyr 2017 neu ar ôl hynny.

Mae rheoliad 3 yn dirymu, gydag arbedion, Reoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2016.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 26; amnewidiwyd adran 30 gan adran 68(3) o Ddeddf Cynllunio a Digolledu 1991 (p. 34) gydag effaith o 25 Medi 1991 (gweler erthygl 3 o O.S. 1991/2067).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 30, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 30 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill