Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2017 Rhif 948 (Cy. 236) (C. 84)

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017

Gwnaed

26 Medi 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 a chyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 9) (Cymru) 2017.

(2Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.

Y diwrnod penodedig

2.  1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym o ran Cymru—

(a)adran 8(2) ac Atodlen 1 (plant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol: darpariaethau atodol a chanlyniadol) i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;

(b)adran 10(2) (swyddogion adolygu annibynnol);

(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—

(i)adran 59 o Ddeddf Plant 1989(2);

(ii)adran 105(1) o Ddeddf Plant 1989;

(iii)adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005(3);

(iv)adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006(4)(5).

Rebecca Evans

Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru

26 Medi 2017

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r nawfed Gorchymyn Cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (“y Ddeddf”), sy’n dwyn i rym ddarpariaethau penodedig yn y Ddeddf o ran Cymru.

Mae erthygl 2 yn darparu mai 1 Rhagfyr 2017 yw’r diwrnod penodedig i’r darpariaethau o’r Ddeddf a restrir isod ddod i rym o ran Cymru—

(a)adran 8(2) ac Atodlen 1 i’r graddau y maent yn ymwneud â pharagraff 19 o’r Atodlen honno;

(b)adran 10(2);

(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymiadau) i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu fel y’i pennir yn yr Atodlen honno ddarpariaethau yn—

(i)adrannau 59 a 105(1) o Ddeddf Plant 1989,

(ii)adran 806(5) o Ddeddf Treth Incwm (Incwm Masnachu ac Incwm Arall) 2005,

(iii)adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.

Mae paragraff 19 o Atodlen 1 yn gwneud diwygiadau i ystyr “childcare” yn adran 18(8)(a) o Ddeddf Gofal Plant 2006.

Mae adran 10(2) yn mewnosod adran 25C yn Neddf Plant 1989, sy’n cynnwys pŵer i wneud rheoliadau er mwyn i’r Arglwydd Ganghellor estyn swyddogaethau statudol Swyddogion Adolygu Annibynnol (sydd â swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol).

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 8(1) (yn rhannol)26 Ebrill 2010 2010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 8(1) (at y dibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20162016/452 (Cy. 143) (C. 22)
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraff 4 o Atodlen 126 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 8(2) (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 3(1), (2) a (3), 5, 6, 15, 16 i 18 ac 21 o Atodlen 16 Ebrill 20162016/452 (Cy. 143) (C. 22)
Adran 8(3) ac Atodlen 231 Mawrth 20102010/749 (Cy. 77) (C. 51)
Adran 10(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 10(1) (at y dibenion sy’n weddill), a 10(3)6 Ebrill 20162016/452 (Cy. 143) (C. 22)
Adran 15 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill)28 Mawrth 20112011/949 (Cy. 135) (C. 37)
Adran 16(1) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20162016/452 (Cy. 143) (C. 22)
Adran 1928 Mawrth 20112011/949 (Cy. 135) (C. 37)
Adran 20(3)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill)1 Medi 20112011/949 (Cy. 135) (C. 37)
Adran 21(2) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill)18 Mawrth 20112011/824 (Cy. 123) (C. 32)
Adran 22(3) a (5) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 22 (at y dibenion sy’n weddill)19 Mehefin 20122012/1553 (Cy. 206) (C. 58)
Adran 23(1)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill)19 Mehefin 20122012/1553 (Cy. 206) (C. 58)
Adran 2419 Mehefin 20122012/1553 (Cy. 206) (C. 58)
Adran 25(4) (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 25 (at y dibenion sy’n weddill)19 Mehefin 20122012/1553 (Cy. 206) (C. 58)
Adran 2726 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 2826 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 29 (yn rhannol)26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 29 (at y dibenion sy’n weddill)28 Mawrth 20112011/949 (Cy. 135) (C. 37)
Adran 306 Ebrill 20092009/728 (Cy. 64) (C. 47)
Adran 33 26 Ebrill 20102010/1319 (Cy. 112) (C. 81)
Adran 3431 Mawrth 20102010/749 (Cy. 77) (C. 51)
Adran 356 Ebrill 20092009/728 (Cy. 64) (C. 47)
Adran 361 Medi 20092009/1921 (Cy. 175) (C. 91)
Adran 371 Medi 20092009/1921 (Cy. 175) (C. 91)
Adran 381 Medi 20092009/1921 (Cy. 175) (C. 91)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 19896 Ebrill 20092009/728 (Cy. 64) (C. 47)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 12(5) a (6) a diddymu’n rhannol adran 91(1) o Ddeddf Plant 19891 Medi 20092009/1921 (Cy. 175) (C. 91)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200231 Mawrth 20102010/749 (Cy. 77) (C. 51)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 104 o Ddeddf Plant 1989 a diddymu’n rhannol adran 21 o Ddeddf Safonau Gofal 200028 Mawrth 20112011/949 (Cy. 135) (C. 37)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu’n rhannol adran 17(6), diddymu adran 23B(4) i (7) a diddymu’n rhannol baragraff 6(1) o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 198919 Mehefin 20122012/1553 (Cy. 206) (C. 58)
Adran 42 ac Atodlen 4 i’r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 26(2)(k) a (2A) i (2D) o Ddeddf Plant 19896 Ebrill 20162016/452(Cy. 143) (C. 22)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 171 Ebrill 20112010/2981 (C. 131)
Adran 18 (yn rhannol)1 Ionawr 20102009/3354 (C. 154)
Adran 18 (at y dibenion sy’n weddill)1 Ebrill 20112010/2981 (C. 131)
Adran 311 Ebrill 20092009/268 (C. 11)
Adran 321 Ebrill 20092009/268 (C. 11)

Mae amrywiol ddarpariaethau o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Lloegr drwy’r Gorchmynion Cychwyn a ganlyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Gweler hefyd adran 44(1) a (2) o’r Ddeddf am y darpariaethau a ddaeth i rym ar 13 Tachwedd 2008 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol).

Gweler hefyd adran 44(9) o’r Ddeddf sy’n darparu y daw paragraff 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym ar yr un diwrnod ag y daw adran 7(1) o Ddeddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) i rym at ddibenion mewnosod adran 17B yn Neddf Plant 1989(6).

(1)

2008 p. 23. Yn rhinwedd adran 44(6) o’r Ddeddf, mae’n ofynnol cael cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol i Orchymyn sy’n dwyn adran 10(2) i rym o ran Cymru.

(5)

Mae’r diddymiadau yn y darpariaethau a restrir yn erthygl 2(c)(i) i (iv) fel y’i pennir yn Atodlen 4 i’r Ddeddf eisoes wedi eu cychwyn o ran Lloegr gan O.S. 2010/2981.

(6)

Diddymwyd Deddf Gofalwyr a Phlant Anabl 2000 (p. 16) (yn ddarostyngedig i arbedion) gan O.S. 2016/413 (Cy. 131), rheoliad 77. Cychwynnwyd adran 7(1) o’r Ddeddf honno (a fewnosododd adran 17B yn Neddf Plant 1989 (“Deddf 1989”)) o ran Lloegr gan O.S. 2003/1183, erthygl 2 ac fe’i diwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2015/914, Atodlen 1, paragraff 47(2) fel nad oedd yn gymwys ond o ran Cymru. Diddymwyd adran 17B o Ddeddf 1989 gan O.S. 2016/413 (Cy. 131) heb iddi fod wedi cael ei chychwyn o ran Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill