Offerynnau Statudol Cymru
2017 Rhif 714 (Cy. 171)
Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017
Gwnaed
27 Mehefin 2017
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(3)(d) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016(1).
Enwi a dehongli
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 3) 2017.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 14 Gorffennaf 2017
2. Y diwrnod penodedig i adran 81 (sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol) o’r Ddeddf ddod i rym yw 14 Gorffennaf 2017.
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2017
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Gorchymyn hwn yw’r trydydd gorchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 81 (sefydlu Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol) o’r Ddeddf i rym ar 14 Gorffennaf 2017.
NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 76 | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |
Adrannau 77 i 79 i’r graddau sy’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau | 24 Chwefror 2017 | O.S. 2017/152 (Cy. 44) |
Adrannau 77 i 79 ac eithrio at ddiben gwneud rheoliadau | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |
Adran 80 | 1 Ebrill 2017 | O.S. 2017/504 (Cy. 104) |