- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Creodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”) swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a diddymodd Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Roedd y Mesurhefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau Bwrdd yr Iaith Gymraeg i’r Comisiynydd.
Mae adran 154 (darpariaeth drosiannol a darpariaeth ganlyniadol etc) o’r Mesur yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru, drwy orchymyn, i wneud unrhyw ddarpariaeth drosiannol, ganlyniadol neu arall y maent yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol mewn cysylltiad â’r Mesur, neu er mwyn rhoi effaith lawn i’r Mesur. Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 154 o’r Mesur.
Mae erthygl 2(a) o’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 78 (y Gymraeg) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”). Mae adran 78 o Ddeddf 2006 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i fabwysiadu strategaeth ar gyfer y Gymraeg a chynllun iaith Gymraeg. Mae hefyd yn gosod dyletswyddau ar Weinidogion Cymru mewn perthynas ag adolygu a chyhoeddi’r strategaeth honno a’r cynllun hwnnw. Mae erthygl 2(b) yn diwygio paragraff 48 o Atodlen 11 er mwyn dileu cyfeiriad at y cynllun iaith Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd wedi rhoi hysbysiad cydymffurfio i Weinidogion Cymru yn unol â Phennod 6 o Ran 4 (hysbysiadau cydymffurfio) o’r Mesur. Mae Gweinidogion Cymru o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau a nodir yn yr hysbysiad cydymffurfio hwnnw (“y safonau”) ar ôl bodloni’r holl amodau yn adran 25 o’r Mesur. Felly, mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 78 o Ddeddf 2006 er mwyn hepgor cyfeiriadau at gynllun iaith Gymraeg Gweinidogion Cymru. Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â’r safonau o 31 Mawrth 2016 ymlaen, sef y dyddiad a nodwyd yn yr hysbysiad cydymffurfio, ac o ganlyniad, ystyriwyd nad yw’n briodol i Weinidogion Cymru barhau i fabwysiadu cynllun iaith Gymraeg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys