xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2016 Rhif 1221 (Cy. 292)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

Gwnaed

14 Rhagfyr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Rhagfyr 2016

Yn dod i rym

9 Ionawr 2017

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 47, 80, 83 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), ac adrannau 77 a 90 o Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008(2), a pharagraff 3 o Atodlen 6 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Radiograffydd Therapiwtig-Ragnodydd Annibynnol a Deietegydd-Ragnodydd Atodol) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016 a deuant i rym ar 9 Ionawr 2017.

(2Maeʼr Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(3);

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(4);

ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010(5); ac

ystyr “Rheoliadau 2013” (“the 2013 Regulations”) yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013(6).

Diwygio Rheoliadau 2004

3.—(1Mae Rheoliadau 2004 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

“the Health and Care Professions Council register” means the register established and maintained by the Health and Care Professions Council under article 5 of the Health and Social Work Professions Order 2001(7);;

“registered radiographer” means a person registered in Part 11 of the Health and Care Professions Council register;;

“therapeutic radiographer independent prescriber” means a person —

(a)

who is a registered radiographer; and

(b)

against whose name is recorded in the relevant register

(i)

an entitlement to use the title “therapeutic radiographer”; and

(ii)

an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a therapeutic radiographer independent prescriber;.

(3Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y diffiniad o “prescriber”—

(i)yn is-baragraff (f) hepgorer “and”;

(ii)yn is-baragraff (g) ar ôl “prescriber;” mewnosoder “and”;

(iii)ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(h)a therapeutic radiographer independent prescriber,;

(b)yn y diffiniad o “supplementary prescriber” ar ôl is-baragraff (b)(iv)(cc) mewnosoder —

(dd)dietitians, or; ac

(c)yn y diffiniad o “relevant register” ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder —

(ia)dietitians;.

(4Ym mharagraff 49(3) a (4) o Atodlen 6 (telerau sy’n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.

(5Ym mharagraff 64(1) a (2) o Atodlen 6 (sy’n ymwneud â nyrsys sy’n rhagnodi’n annibynnol, nyrsys-ragnodwyr annibynnol, fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol, ffisiotherapyddion-ragnodwyr annibynnol, podiatryddion-ragnodwyr neu giropodyddion-ragnodwyr annibynnol a rhagnodwyr atodol) ar ôl “chiropodist independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a therapeutic radiographer independent prescriber”.

(6Ym mhennawd paragraff 64 o Atodlen 6, ar ôl “chiropodist independent prescriber” mewnosoder “, therapeutic radiographer independent prescriber”.

Diwygio Rheoliadau 2007

4.—(1Mae Rheoliadau 2007 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlwyd ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;;

ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;;

ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n radiograffydd cofrestredig, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol—

(i)

hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a

(ii)

nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;.

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”)—

(i)yn is-baragraff (dd) hepgorer “ac”;

(ii)yn is-baragraff (e) yn lle “rhagnodydd annibynnol.” mewnosoder “rhagnodydd annibynnol; ac”;

(iii)ar ôl is-baragraff (e) mewnosoder—

(f)radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol,;

(b)yn y diffiniad o “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) ar ôl is-baragraff (c)(i) mewnosoder—

(ia)deietegwyr;;

(c)yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”)—

(i)ar ôl “diagnostig neu therapiwtig,”, hepgorer “neu”; a

(ii)ar ôl is-baragraff (a)(iv)(cc) mewnosoder—

(chch)deietegwyr, neu.

Diwygio Rheoliadau 2010

5.—(1Mae Rheoliadau 2010 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff 1(2)(a) o Atodlen 1 (Esemptiadau), ar ôl “podiatrydd-ragnodydd neu giropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”.

(3Ym mharagraff 1(3) o Atodlen 1 yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—

mae i “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;

Diwygio Rheoliadau 2013

6.—(1Mae Rheoliadau 2013 wedi eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

ystyr “cofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal” (“the Health and Care Professions Council register”) yw’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001;;

ystyr “radiograffydd cofrestredig” (“registered radiographer”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;;

ystyr “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” (“therapeutic radiographer independent prescriber”) yw person—

(a)

sy’n radiograffydd cofrestredig, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn Rhan 11 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal —

(i)

hawl i ddefnyddio’r teitl “radiograffydd therapiwtig”; a

(ii)

nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol;.

(3Yn rheoliad 2(1) —

(a)yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”) ar ôl “ciropodydd-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol”; a

(b)yn is-baragraff (c)(i) o ddiffiniad “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) ar ôl “chiropodyddion a phodiatryddion,” mewnosoder “ deietegwyr,”.

Vaughan Gething

Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon, un o Weinidogion Cymru.

14th December 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 drwy estyn y diffiniad o ragnodydd drwy fewnosod categori ychwanegol o ragnodydd annibynnol: radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol a thrwy estyn y diffiniad o ragnodydd atodol i gynnwys deietegwyr.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 drwy estyn yr esemptiad i’r gofyniad i godi tâl am fagiau siopa untro.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad

(3)

O.S. 2004/478 (Cy. 48). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2007/205 (Cy. 19) ac O.S. 2014/2291 (Cy. 226).

(4)

O.S. 2007/121 (Cy. 11). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2014/2291 (Cy. 226).

(5)

O.S. 2010/2880 (Cy. 238). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2014/2291 (Cy. 226).

(6)

O.S. 2013/898 (Cy. 102). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2014/2291 (Cy. 226).