xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
18 Hydref 2016
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 145(3) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 7) 2016.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014.
2.—(1) Y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw 23 Tachwedd 2016.
(2) Yn Rhan 1 (Rheoleiddio tai rhent preifat)—
(a)adran 4 (gofyniad i landlord fod yn gofrestredig);
(b)adran 5 (eithriadau i’r gofyniad i landlord fod yn gofrestredig) at bob diben sy’n weddill;
(c)adran 6 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau gosod) at bob diben sy’n weddill;
(d)adran 7 (gofyniad i landlord fod yn drwyddedig i ymgymryd â gweithgareddau rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(e)adran 8 (eithriadau i ofynion i landlord fod yn drwyddedig) at bob diben sy’n weddill;
(f)adran 9 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith gosod);
(g)adran 10 (ystyr gwaith gosod) at bob diben sy’n weddill;
(h)adran 11 (gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo);
(i)adran 12 (ystyr gwaith rheoli eiddo) at bob diben sy’n weddill;
(j)adran 13 (y drosedd o benodi asiant heb drwydded);
(k)adran 28 (erlyniad gan awdurdod trwyddedu neu awdurdod tai lleol);
(l)adran 29 (hysbysiadau cosbau penodedig) at bob diben sy’n weddill;
(m)adran 30 (gorchmynion atal rhent);
(n)adran 31 (dirymu gorchmynion atal rhent);
(o)adran 32 (gorchmynion ad-dalu rhent);
(p)adran 33 (gorchmynion ad-dalu rhent: darpariaeth bellach);
(q)adran 34 (pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn perthynas ag adrannau 32 a 33) at bob diben sy’n weddill;
(r)adran 35 (troseddau gan gyrff corfforaethol);
(s)adran 40 (cod ymarfer) at bob diben sy’n weddill;
(t)adran 41 (canllawiau) at bob diben sy’n weddill;
(u)adran 42 (cyfarwyddiadau) at bob diben sy’n weddill;
(v)adran 43 (gweithgaredd sy’n groes i’r Rhan hon: effaith ar gytundebau tenantiaeth);
(w)adran 44 (cyfyngiad ar derfynu tenantiaethau); ac
(x)adran 46 (rheoliadau ar ffioedd) at bob diben sy’n weddill.
(3) Yn Rhan 2 o’r Ddeddf (Digartrefedd), adran 75(3) (dyletswydd i sicrhau llety ar gyfer ceiswyr mewn angen blaenoriaethol pan fo’r ddyletswydd yn adran 73 yn dod i ben).
(4) Yn Rhan 4 o’r Ddeddf (Safonau ar gyfer tai cymdeithasol), adran 129 (cymhwyso dyletswyddau sy’n ymwneud â ffioedd gwasanaeth i denantiaethau awdurdod lleol).
(5) Yn Rhan 5 o’r Ddeddf (Cyllid tai), adran 131(1), (2), (3), (4)(a) a (b) (diddymu cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai).
(6) Yn Rhan 6 o’r Ddeddf (Caniatáu i gymdeithasau tai cwbl gydfuddiannol roi tenantiaethau sicr), adran 138 (diwygio Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988).
Carl Sargeant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, un o Weinidogion Cymru
18 Hydref 2016
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Hwn yw’r seithfed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau hynny a restrir yn erthygl 2 i rym ar 23 Tachwedd 2016.
Mae erthygl 2(2) yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ran 1 y Ddeddf i rym: adrannau 4, 9, 11, 13, 28, 30 i 33, 35, 43 a 44 a’r darpariaethau a ganlyn at bob diben sy’n weddill: adrannau 5 i 8, 10, 12, 29, 34, 40 i 42 a 46.
Mae paragraff (3) o erthygl 2 yn dwyn adran 75(3) o Ran 2 o’r Ddeddf i rym. Mae paragraff (4) yn dwyn adran 129 o Ran 4 o’r Ddeddf i rym. Mae paragraff (5) yn dwyn adran 131(1), (2), (3) a (4)(a) a (b) o Ran 5 o’r Ddeddf i rym ac mae paragraff (6) yn dwyn adran 138 o Ran 6 o’r Ddeddf i rym.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym, i’r graddau a nodir isod, drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 1 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 2 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 3 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 3 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 5 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 7 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 8 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 10 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 12 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 14 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 14 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 15 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 16 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adrannau 17 a 18 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 19 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 19 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 20 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 21 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 22 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 23 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adrannau 24 i 27 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 29 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 34 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adrannau 36 i 39 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 40 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 41 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 42 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 45 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 46 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adrannau 47 ac 48 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 49 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 49 (at y dibenion sy’n weddill) | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Adran 50 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 51 i 56 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 57 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 58 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 60 i 63 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 64 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 65 i 71 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 72 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 73 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 74 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 75(1), (2) a (4) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 76 a 77 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 78 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 78(2) (yn rhannol) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 78 (at y dibenion sy’n weddill) | 1 Gorffennaf 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 79 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272(Cy. 88) |
Adran 80 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 81 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 82 i 85 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 86 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 87 i 94 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 95 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 95 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 96 a 97 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 98 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 99 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adran 100 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Adrannau 101 a 102 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Adrannau 103 a 104 | 16 Mawrth 2016 | 2016/266 (Cy. 99) |
Adran 105 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Adran 106 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill) | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Adrannau 107 i 110 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Adrannau 111 i 128 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 130 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 131(4)(c) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 137 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 139 | 16 Rhagfyr 2015 | 2015/2046 (Cy. 310) |
Adrannau 140 a 141 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Adran 144 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Atodlen 1 | 23 Tachwedd 2015 | 2015/1826 (Cy. 266) |
Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol) | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill) | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Rhan 1 o Atodlen 3 | 27 Ebrill 2015 | 2015/1272 (Cy. 88) |
Rhan 2 o Atodlen 3 | 25 Chwefror 2015 | 2015/380 (Cy. 39) |
Rhan 3 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Rhan 4 o Atodlen 3 | 16 Rhagfyr 2015 | 2015/2046 (Cy. 310) |
Rhan 5 o Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2014 | 2014/3127 (Cy. 316) |
Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.