Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 622 (Cy. 50)

Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus, Cymru

Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015

Gwnaed

9 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Mawrth 2015

Yn dod i rym

1 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1(1) a (2)(f)(1), 2(1), 3(1), (2), (3)(a) ac (c), 4(5) a (6), fel y’u darllenir ar y cyd ag adran 4(1)(2), 7(2), 8(1)(a)(3), 12(6) a (7), ac 18(5), (5A)(4), (6) a (7), o Ddeddf Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2013(5), a pharagraff 6(b) o Atodlen 2, Atodlen 3 a pharagraffau 20 a 21 o Atodlen 5, i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 21 o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y personau hynny y mae’n ymddangos yn debygol i Weinidogion Cymru yr effeithir arnynt gan y Rheoliadau hyn.

(1)

Gweler hefyd adran 1(3) ac Atodlen 1.

(2)

Yn dod i rym ar 1 Ebrill 2015.

(3)

Gweler hefyd adran 8(2)(a) a (4).

(4)

Mewnosodwyd is-adran (5A) gan Ddeddf Pensiynau 2014 (p. 19), adran 52.