xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru
Gwnaed
9 Mawrth 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2015
Yn dod i rym
1 Ebrill 2015
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009(1), ac ar ôl ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori â hwy, o dan adran 8(3) o’r Mesur hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau tân ac achub Cymreig(2) a daw i rym ar 1 Ebrill 2015.
2.—(1) Pennir y dangosyddion perfformiad yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn at ddiben adran 8(1)(a) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(2) Mae’r dangosyddion perfformiad a bennir yn yr Atodlen yn gymwys i flynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2015 ac ar ôl hynny.
3. Mae Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011(3) wedi ei ddirymu.
Leighton Andrews
Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
9 Mawrth 2015
Erthgyl 2
Cyfeirnod | Dangosydd |
---|---|
FRS/RRC/S/001 | Cyfanswm: |
(i) y tanau yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth; | |
(ii) y galwadau ffug yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth; | |
(iii) y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth; | |
(iv) y digwyddiadau eraill yr aethpwyd iddynt am bob 10,000 o’r boblogaeth. | |
FRS/RRC/S/002 | Cyfanswm: |
(i) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o’r holl danau am bob 100,000 o’r boblogaeth; | |
(ii) y marwolaethau a’r anafiadau a ddeilliodd o danau damweiniol am bob 100,000 o’r boblogaeth. |
Cyfeirnod | Dangosydd |
---|---|
FRS/EFR/S/003 | (i) Canran y tanau mewn anheddau a gyfyngwyd o fewn yr ystafell lle cychwynnodd y tanau. |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Awdurdodau Tân ac Achub (Dangosyddion Perfformiad) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/558 (Cy. 80)) ac yn pennu, o ran Cymru, set newydd o ddangosyddion perfformiad statudol y bydd perfformiad awdurdodau tân ac achub, wrth iddynt arfer eu swyddogaethau, yn cael eu mesur yn eu herbyn. Bydd y Gorchymyn yn cael effaith o 1 Ebrill 2015.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn pennu bod y dangosyddion perfformiad wedi eu nodi yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
O dan adran 1 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, awdurdod tân ac achub Cymreig yw awdurdod yng Nghymru a gyfansoddwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasasnaethau Tân ac Achub 2004 (p. 21) neu gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo.