xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 2046 (Cy. 310) (C. 127)

Y Dreth Gyngor, Cymru

Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015

Gwnaed

15 Rhagfyr 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 145(3) a (4) o Ddeddf Tai (Cymru) 2014(1).

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai (Cymru) 2014 (Cychwyn Rhif 5) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Ddeddf” (“theAct”) yw Deddf Tai (Cymru) 2014;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(2).

Diwrnodau penodedig

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y diwrnod penodedig i’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf ddod i rym yw’r diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—

(a)adran 139 (swm y dreth sy’n daladwy ar gyfer mathau penodol o anheddau);

(b)Rhan 4 o Atodlen 3 (y dreth gyngor ar gyfer mathau penodol o anheddau).

(2At ddibenion adran 12A(12) o Ddeddf 1992, y diwrnod penodedig i adran 139 o’r Ddeddf ddod i rym i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 12A o Ddeddf 1992, yw 1 Ebrill 2016(3).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r pumed gorchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”).

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 139 o’r Ddeddf. Mae adran 139 yn diwygio Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”) drwy fewnosod adrannau 12A a 12B a gwneud diwygiadau canlyniadol eraill iddi.

Mae adran 12A newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a’r cynghorau bwrdeistref sirol) ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau gwag hirdymor yn eu hardaloedd. Mae adran 12B newydd o Ddeddf 1992 yn rhoi i awdurdodau bilio yng Nghymru ddisgresiwn i godi’r dreth gyngor sy’n daladwy ar anheddau sy’n cael eu meddiannu o bryd i’w gilydd yn eu hardaloedd (gelwir yr anheddau hyn yn aml yn “ail gartrefi”). Mae uchafswm y codiad yn 100% ychwanegol o ffi safonol y dreth gyngor.

Dygir adran 139 o’r Ddeddf i rym ar y diwrnod wedi’r diwrnod y gwneir y gorchymyn hwn (yn ddarostyngedig i erthygl 2(2)). Bydd awdurdodau bilio yn gallu gwneud penderfyniad i godi swm uwch o’r dreth gyngor o dan adran 12A a 12B o Ddeddf 1992 o’r dyddiad hwnnw ond dim ond mewn perthynas â blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Effaith erthygl 2(2) o’r Gorchymyn yw, wrth ddyfarnu a yw annedd yn annedd wag hirdymor o dan adran 12A(12) o Ddeddf 1992, rhaid peidio ag ystyried unrhyw gyfnod cyn 1af Ebrill 2016.

Rhaid i awdurdod bilio wneud ei ddyfarniad cyntaf o dan adran 12B o Ddeddf 1992 o leiaf blwyddyn cyn y flwyddyn ariannol y mae’n berthnasol iddi. Bydd awdurdodau bilio, felly, yn gallu penderfynu codi swm uwch o’r dreth gyngor mewn perthynas ag ail gartrefi o dan adran 12B o Ddeddf 1992 ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2017.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn galluogi i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan adran 12A(4) a 12B(5) o Ddeddf 1992 a dyroddi canllawiau o dan adran 12A(3) a 12B(4) o Ddeddf 1992. Mae hefyd yn dwyn i rym Rhan 4 o Atodlen 3 i’r Ddeddf sy’n gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1992.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau canlynol yn y Ddeddf wedi eu dwyn i rym o ran Cymru i’r graddau a nodir isod drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 123 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 2 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 3 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 3 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 5 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 6 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 7 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 8 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 10 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 12 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 14 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 14 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 15 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 15 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 16 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 16 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 1723 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 1823 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 19 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 19 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 20 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 20 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 21 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 21 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2223 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 23 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 23 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2423 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2523 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2623 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 2723 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 29 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 34 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 3623 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 3723 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 3823 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 3923 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 40 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 41 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 42 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 4523 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 46 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 4723 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 4823 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 49 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 49 (at y dibenion sy’n weddill)23 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Adran 50 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 50 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 51 i 5627 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 57 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 57 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 5827 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 59 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 59 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 60 i 6327 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 64 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 64 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 65 i 7127 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 72 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 72 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 88 and 7427 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 75(1), (2) and (4)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 76 and 7727 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 78 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 78(2) (yn rhannol)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 78 (at y dibenion sy’n weddill)1 Gorffennaf 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 7927 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 80 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 80 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 81 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 81 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 82 i 8527 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 86 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 86 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 87 i 9427 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 95 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 95 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 96 and 9727 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 98 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 98 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 99 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 99 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 10027 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Adran 10125 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10225 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10525 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 106 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 106 (at y dibenion sy’n weddill)25 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10725 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10825 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 10925 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 11025 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)
Adran 111 i 1281 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 130 a Rhan 3 o Atodlen 31 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 131(4)(c)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1371 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1401 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 141 a Rhan 5 o Atodlen 31 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Adran 1441 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Atodlen 123 Tachwedd 20152015/1826 (Cy. 266)
Paragraff 1 o Atodlen 2 (yn rhannol)1 Rhagfyr 20142014/3127 (Cy. 316)
Atodlen 2 (at y dibenion sy’n weddill)27 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Rhan 1 o Atodlen 327 Ebrill 20152015/1272 (Cy. 88)
Rhan 2 o Atodlen 325 Chwefror 20152015/380 (Cy. 39)

Gweler hefyd adran 145(1) o’r Ddeddf ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol ac adran 145(2) ar gyfer y darpariaethau hynny a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i’r Ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol.

(3)

Mewnosodwyd adran 12A(12) o Ddeddf 1992 gan adran 139 o’r Ddeddf.