xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1988 (Cy. 298)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Plant A Phobl Ifanc, Cymru

Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015

Gwnaed

2 Rhagfyr 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 104(4)(c) o Ddeddf Plant 1989(1) a pharagraff 4(1) o Atodlen 4, paragraff 7 o Atodlen 5 a pharagraff 10 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno, adran 22(8)(b) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) ac adrannau 87, 119(2) a (7) a 196(2) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(3) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 196(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru oni ddynodir i’r gwrthwyneb;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “llety diogel” (“secure accommodation”) yw llety yng Nghymru a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid plant y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt;

ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw person a benodir gan awdurdod lleol o dan adran 98 o’r Ddeddf.

(5Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at gofrestru cartref plant, neu at berson a gofrestrir mewn perthynas â chartref plant, yn gyfeiriad at gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

Cyfnod Hwyaf heb Awdurdodiad Llys

Cyfnod hwyaf mewn llety diogel heb awdurdodiad llys

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), y cyfnod hwyaf, na chaiff awdurdod lleol gadw plentyn mewn llety diogel y tu hwnt iddo heb awdurdodiad y llys, yw cyfnod cyfanredol o 72 o oriau (pa un ai’n olynol neu beidio) mewn unrhyw gyfnod o 28 diwrnod.

(2Os—

(a)cedwir plentyn mewn llety diogel ar unrhyw adeg rhwng 12 canol dydd ar y diwrnod cyn gŵyl gyhoeddus neu ddydd Sul a 12 canol dydd ar y diwrnod ar ôl yr ŵyl gyhoeddus neu’r dydd Sul,

(b)yn ystod yr amser hwnnw, byddai’r cyfnod hwyaf o 72 awr yn dod i ben, ac

(c)yn ystod y 27 diwrnod cyn y diwrnod y dechreuodd y cyfnod diweddaraf mewn llety diogel, roedd y plentyn eisoes wedi ei gadw mewn llety diogel am gyfnod cyfanredol o fwy na 48 o oriau,

estynnir y cyfnod hwyaf tan 12 canol dydd ar y diwrnod cyntaf nad yw’n ŵyl gyhoeddus nac yn ddydd Sul.

(3Pan fo llys yn rhoi awdurdodiad i gadw plentyn mewn llety diogel, rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan gedwid y plentyn mewn llety diogel cyn cyfnod yr awdurdodiad hwnnw, wrth gyfrifo’r cyfnod hwyaf mewn perthynas ag unrhyw gyfnodau dilynol mewn llety diogel ar ôl i’r cyfnod a awdurdodwyd gan y llys ddod i ben.

Gofyniad pan fo plentyn dan gadwad heb awdurdodiad llys

3.—(1Cyn bo awdurdod lleol yn lleoli plentyn mewn llety diogel heb awdurdodiad llys, rhaid iddo yn gyntaf greu cofnod ysgrifenedig sy’n nodi—

(a)y rhesymau pam y mae’n credu bod y seiliau o dan adran 119(1) o’r Ddeddf wedi eu bodloni;

(b)diben y lleoliad; ac

(c)y rhesymau pam y mae’n credu bod y lleoliad yn angenrheidiol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r canlynol—

(a)y plentyn ac unrhyw berson sy’n darparu cynrychiolaeth gyfreithiol i’r plentyn;

(b)rhieni’r plentyn;

(c)unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

(d)ymwelydd annibynnol y plentyn os penodwyd un; ac

(e)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol y dylid ei hysbysu.

Awdurdodiad Llys

Ceisiadau i’r llys

4.—(1Yr awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr) sy’n gofalu am y plentyn, yn unig, a gaiff wneud ceisiadau i lys o dan adran 119 o’r Ddeddf (yn ddarostyngedig i’r pŵer sydd gan awdurdod lleol i drefnu ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau gan berson arall o dan adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4) neu adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(5)).

(2Ond pan fo rheoliad 16 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys ac yn addasu adran 119 o’r Ddeddf gan wneud yr adran honno’n gymwys i blant ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, caniateir ceisiadau i lys gan y Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG, neu awdurdod lleol sy’n arfer ei swyddogaethau addysg, sydd yn darparu llety i blentyn y mae adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddo.

Dyletswydd i hysbysu rhieni ac eraill ynghylch bwriad i leoli plentyn mewn llety diogel

5.  Pan fo awdurdod lleol yn bwriadu gwneud cais i lys er mwyn lleoli plentyn y mae’r awdurdod yn gofalu amdano mewn llety diogel, rhaid i’r awdurdod, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r canlynol cyn gynted ag y bo modd—

(a)rhieni’r plentyn;

(b)unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

(c)ymwelydd annibynnol y plentyn os penodwyd un; a

(d)unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod lleol y dylid ei hysbysu.

Cyfnodau hwyaf awdurdodiad gan y llys

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fo plentyn wedi ei wneud yn destun cais o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod cychwynnol hwyaf y caiff llys awdurdodi cadw plentyn mewn llety diogel yw tri mis.

(2Pan fo plentyn yn ddarostyngedig i gais i estyn y cyfnod mewn llety diogel o dan adran 119 o’r Ddeddf, y cyfnod pellach hwyaf y caiff llys ei awdurdodi ar unrhyw un adeg yw 6 mis.

Cyfnod hwyaf awdurdodiad ar gyfer plant sydd ar remánd

7.—(1Y cyfnod hwyaf y caiff llys, o bryd i’w gilydd, awdurdodi cadw plentyn, a roddwyd ar remánd i lety awdurdod lleol o dan adran 91(3) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (6), mewn llety diogel (pa un ai am gyfnod cyntaf ynteu cyfnod ychwanegol) yw cyfnod y remánd.

(2Mae’r cyfeiriad at “awdurdod lleol” ym mharagraff (1) yn cynnwys awdurdod lleol yn Lloegr.

Gofynion mewn perthynas â lleoliadau mewn llety diogel

Lleoliad mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru

8.  Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn mewn llety diogel ac eithrio mewn cartref sydd wedi ei gofrestru fel cartref plant sy’n darparu llety at y diben o gyfyngu ar ryddid(7).

Dyletswydd i roi gwybodaeth am leoliad mewn llety diogel

9.—(1Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant a ddarperir gan berson ac eithrio’r awdurdod lleol syn gofalu am y plentyn, rhaid i’r person cofrestredig mewn cysylltiad â’r cartref plant hwnnw roi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn, fod y plentyn wedi ei leoli yn y cartref, o fewn 12 awr ar ôl dechreuad y lleoliad.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn gadarnhau wedyn, wrth y person cofrestredig—

(a)ei awdurdodiad i gadw’r plentyn mewn llety diogel;

(b)cyfnod yr awdurdodiad; ac

(c)manylion unrhyw orchymyn gan lys sy’n awdurdodi’r lleoliad.

Penodi personau i adolygu lleoliadau

10.  Rhaid i awdurdod lleol sy’n penderfynu lleoli plentyn mewn llety diogel benodi o leiaf 3 pherson i adolygu’r penderfyniad o fewn 15 diwrnod ar ôl dechrau’r lleoliad, ac wedyn fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis tra bo’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau.

Adolygiadau o leoliad mewn llety diogel

11.—(1Rhaid i’r personau a benodir o dan reoliad 10 ystyried, gan roi sylw i les y plentyn a leolwyd, y materion canlynol—

(a)a yw’r criteria ar gyfer cadw’r plentyn mewn llety diogel yn parhau’n gymwys;

(b)a yw’r lleoliad mewn llety diogel yn parhau’n angenrheidiol, neu a fyddai llety o unrhyw ddisgrifiad arall yn diwallu anghenion y plentyn yn well.

(2Wrth gynnal adolygiad o’r lleoliad, rhaid i’r personau a benodir, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ganfod a chymryd i ystyriaeth ddymuniadau a theimladau—

(a)y plentyn;

(b)rhieni’r plentyn;

(c)unrhyw berson nad yw’n rhiant y plentyn ond sydd â chyfrifoldeb rhiant amdano;

(d)unrhyw berson arall a fu’n gofalu am y plentyn ac y tybia’r personau a benodwyd y dylid cymryd ei safbwyntiau i ystyriaeth;

(e)ymwelydd annibynnol y plentyn, os penodwyd un;

(f)y person sy’n rheoli’r llety diogel y lleolir y plentyn ynddo.

(3Rhaid i’r personau a benodir wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch a ddylai lleoliad y plentyn hwnnw mewn llety diogel barhau.

(4Rhaid i’r awdurdod lleol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob un o’r rhai y mae’n ofynnol cymryd eu safbwyntiau i ystyriaeth o dan baragraff (2) ynghylch yr argymhelliad a wnaed o ganlyniad i’r adolygiad, a’r camau, os oes rhai, y mae’r awdurdod yn bwriadu eu cymryd yng ngoleuni’r argymhelliad

Cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â phlentyn mewn llety diogel mewn cartref plant

12.  Pan leolir plentyn mewn llety diogel mewn cartref plant, rhaid i’r personau sydd wedi eu cofrestru mewn cysylltiad â’r cartref gynnal cofnod ar gyfer y plentyn hwnnw, sy’n cynnwys y canlynol—

(a)enw, dyddiad geni a rhyw y plentyn;

(b)manylion y gorchymyn gofal neu ddarpariaeth statudol arall, yn rhinwedd y cyfryw y lleolwyd y plentyn yn y cartref plant;

(c)manylion yr awdurdod lleol sy’n lleoli’r plentyn ac enw’r swyddog awdurdodi;

(d)dyddiad ac amser dechrau’r lleoliad mewn llety diogel;

(e)y rheswm am y lleoliad;

(f)cyfeiriad y man lle’r oedd y plentyn yn byw cyn y lleoliad;

(g)enwau a manylion perthnasol y personau a hysbyswyd ynghylch lleoliad y plentyn yn rhinwedd rheoliad 5;

(h)manylion unrhyw orchmynion llys a wnaed mewn perthynas â’r plentyn o dan adran119;

(i)manylion unrhyw adolygiadau a wnaed o dan reoliad 11;

(j)dyddiad ac amser unrhyw gyfnodau pan mae’r plentyn dan glo ar ei ben ei hun mewn unrhyw ystafell ac eithrio yn ei ystafell wely yn ystod amser gwely arferol, enw’r person sy’n awdurdodi gweithredu felly, y rheswm am wneud hynny, a’r dyddiad ac amser y mae’r plentyn yn peidio â bod dan glo yn yr ystafell honno; a

(k)dyddiad ac amser rhyddhau’r plentyn o lety diogel a chyfeiriad y plentyn ar ôl ei ryddhau o’r llety diogel.

Cymhwyso adran 119 i gategorïau penodol o blant

Lleoli plentyn sydd o dan 13 oed mewn llety diogel

13.—(1Ni chaiff awdurdod lleol leoli plentyn sydd o dan 13 mlwydd oed mewn llety diogel heb gael cymeradwyaeth ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru ar gyfer lleoli’r plentyn hwnnw.

(2Caiff Gweinidogion wneud y gymeradwyaeth yn ddarostyngedig i ba bynnag delerau ac amodau ag y tybiant yn briodol.

Plant nad yw adran 119 yn gymwys iddynt

14.  Nid yw adran 119 yn gymwys i blentyn—

(a)sydd dan gadwad o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983(8) neu y gwnaed gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan adran 90 neu 91 o Ddeddf Pwerau’r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(9) (cadw yn ôl ewyllys Ei Mawrhydi neu am gyfnod penodedig);

(b)sy’n destun gorchymyn asesu plentyn a wnaed o dan adran 43 o Ddeddf Plant 1989(10)ac a gedwir i ffwrdd o gartref yn unol â’r gorchymyn hwnnw;

(c)sydd yn 16 neu 17 oed ac a letyir o dan adran 76 o’r Ddeddf;

(d)sydd ar remánd i lety cadw ieuenctid ac a drinnir fel pe bai’n derbyn gofal yn rhinwedd adran 104(1) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012(11).

Plant dan gadwad y mae adran 119 yn gymwys iddynt gydag addasiadau: plant dan gadwad o dan Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984

15.—(1Mae adran 119 o’r Ddeddf yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (2) mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, sydd rhwng 12 ac 16 mlwydd oed ac sydd dan gadwad o dan adran 38(6) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(12) (plant dan gadwad).

(2Yr addasiad, ym mharagraff (1), yw y rhoddir, yn lle’r geiriau o “onid yw’n ymddangos” hyd at ddiwedd is-adran (1), y canlynol—

onid yw’n ymddangos bod unrhyw lety arall ac eithrio llety a ddarperir at y diben o gyfyngu ar ryddid yn amhriodol oherwydd—

(a)bod y plentyn yn debygol o ddianc o’r cyfryw lety arall, neu

(b)bod y plentyn yn debygol o anafu ei hun neu bersonau eraill os cedwir y plentyn mewn unrhyw gyfryw lety arall.

Plant y mae adran 119 yn cael effaith mewn perthynas â hwy yn ddarostyngedig i addasiadau

16.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 7 a pharagraffau (2) a (3) o’r rheoliad hwn mae adran 119 o’r Ddeddf, yn ogystal ag i blant sy’n derbyn gofal gan awdurdodau lleol (gan gynnwys awdurdodau lleol yn Lloegr), yn gymwys hefyd i’r canlynol —

(a)plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol (gan gynnwys awdurdod lleol yn Lloegr), a letyir gan—

(i)Byrddau Iechyd Lleol;

(ii)Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“Ymddiriedolaethau GIG”);

(iii)awdurdodau lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg;

(b)plant, ac eithrio rhai sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol, a letyir mewn cartrefi gofal neu ysbytai annibynnol.

(2Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(a), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”;

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan Fwrdd Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG neu awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau addysg”.

(3Mewn perthynas â’r plant a bennir ym mharagraff (1)(b), mae adran 119 yn cael effaith yn ddarostyngedig i addasiadau fel a ganlyn—

(a)yn is-adran (1) yn lle’r geiriau “sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol neu awdurdod lleol yn Lloegr” rhodder “y darperir llety iddo mewn cartref gofal neu mewn ysbyty annibynnol”; a

(b)yn is-adran (2)(c) yn lle’r geiriau “gan awdurdod lleol” rhodder “gan berson sy’n cynnal cartref gofal neu ysbyty annibynnol”.

Datgymhwyso Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 o ran Cymru

17.  Yn Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991(13) mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 1—

Disapplication to Wales

1A.(1) These Regulations do not apply—

(a)in relation to the placement of a looked after child by a Welsh local authority;

(b)in relation to the provider of a children’s home in Wales;

(c)in relation to an application to a court for authority to place a child in secure accommodation in Wales.

(2) In relation to cases to which paragraph (1) applies refer to adran 119 of the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014 and the Children (Secure Accommodation) (Wales) Regulations 2015.

Dirymiadau

18.  Mae’r Rheoliadau canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2006(14);

(b)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) (Cymru) 2013(15).

Datgymhwyso Rheoliadau o ran Cymru

19.  Mae’r Rheoliadau canlynol wedi eu datgymhwyso o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Rhif 2) 1991(16);

(b)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) 1992(17);

(c)Rheoliadau Plant (Llety Diogel) (Diwygio) 1995(18).

Mark Drakeford

Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod gofynion mewn perthynas â lleoli plant mewn llety diogel.

Mae rheoliad 2 yn nodi’r cyfnod hwyaf y caniateir i awdurdod lleol gadw plentyn mewn llety diogel heb awdurdodiad gan lys. Mae rheoliad 3 yn gosod gofynion gweithdrefnol ar yr awdurdod lleol mewn perthynas â threfniadau o’r fath.

Mae rheoliad 4 yn gosod cyfyngiadau ar bwy gaiff wneud cais i lys am awdurdodiad i gadw plentyn mewn llety diogel. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn hysbysu pobl benodol wrth wneud cais o’r fath, ac mae rheoliadau 6 a 7 yn nodi’r cyfnodau hwyaf y caiff llys eu hawdurdodi.

Mae rheoliad 8 yn atal awdurdod lleol rhag lleoli plentyn mewn llety diogel yn unman ac eithrio mewn cartref plant sydd wedi ei gofrestru at y diben hwnnw. Mae rheoliadau 9, 10 ac 11 yn ymdrin â’r gofynion i hysbysu ynghylch lleoliad o’r fath a’r gofynion ar awdurdodau lleol i wneud trefniadau i adolygu lleoliadau diogel. Rhaid i’r personau sy’n adolygu lleoliad wneud argymhelliad i’r awdurdod lleol ynghylch pa un a ddylai’r lleoliad barhau ai peidio. Mae rheoliad 12 yn nodi’r cofnodion y mae’n rhaid eu cynnal mewn perthynas â lleoliadau diogel.

Mae rheoliadau 13 i 16 yn ymdrin â’r modd y cymhwysir adran 119 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) i grwpiau penodol o blant. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru cyn lleoli plentyn sydd o dan 13 oed mewn llety diogel. Mae rheoliad 14 yn nodi categorïau penodol o blant nad yw adran 119 o’r Ddeddf yn gymwys iddynt a rheoliad 15 yn nodi rhai plant yr addesir ar eu cyfer y prawf a nodir yn adran 119. Mae rheoliad 16 yn darparu ar gyfer ceisiadau am gadw plentyn mewn llety diogel gan bersonau ac eithrio awdurdodau lleol sy’n gofalu am blant, ac ar gyfer addasu darpariaethau adran 119 i ffitio’r amgylchiadau hynny.

Mae rheoliadau 17, 18 ac 19 yn ymdrin â diwygiadau canlyniadol ac achlysurol i reoliadau sy’n gymwys o ran Cymru cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(7)

Gweler adran 4(8)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 sy’n pennu’r mathau o sefydliad y gwneir yn ofynnol eu bod yn cofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno.