- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Landlord A Thenant, Cymru
Gwnaed
2 Rhagfyr 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
8 Rhagfyr 2015
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2015
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 3) 2015, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 30 Rhagfyr 2015.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw tir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(3);
ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw’r ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno’n uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn ystyr “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir dan sylw, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored, neu ffrwythau fel y crybwyllir yn unrhyw un o’r cofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan ffermir ef dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2014 (gweler cofnod 4 yng ngholofn 1), yna—
(a)yr uned gynhyrchu a ragnodir o ran y defnydd hwnnw o’r tir fydd yr uned yn y cofnod yng ngholofn 2 o’r Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw, a
(b)y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis yn dechrau ar 12 Medi 2015, yn incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw fydd y swm yn y cofnod yng ngholofn 3 yn yr Atodlen honno gyferbyn â’r cofnod hwnnw.
3.—(1) Mae Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) (Rhif 2) 2015(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y diffiniad o “mapiau dynodedig” yn lle “1999” rhodder “1991”.
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
2 Rhagfyr 2015
Erthygl 2
Colofn 1 Defnydd ffermio | Colofn 2 Uned gynhyrchu | Colofn 3 Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£) | |
|---|---|---|---|
(1) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. | |||
(2) Dyma’r ffigur ar gyfer anifeiliaid (faint bynnag fo’u hoed) a gedwir am 12 mis. Yn achos anifeiliaid a gedwir am lai na 12 mis rhaid gwneud addasiad pro rata o’r ffigur hwn. | |||
| 1. Da byw | |||
| Buchod godro | buwch | 450 | |
| Buchod bridio cig eidion: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | buwch | –172 |
| ar dir arall | buwch | –189 | |
| Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) | y pen | -116(1) | |
| Buchod llaeth i lenwi bylchau | y pen | 109(2) | |
| Mamogiaid: | ar dir mewn ardal lai ffafriol | mamog | –32 |
| ar dir arall | mamog | –16 | |
| Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) | y pen | 5 | |
| Moch: | hychod a banwesod torrog | hwch neu fanwes | 250 |
| moch porc | y pen | 13.40 | |
| moch torri | y pen | 17 | |
| moch bacwn | y pen | 20.40 | |
| Dofednod: | ieir dodwy | aderyn | 4.40 |
| brwyliaid | aderyn | 0.80 | |
| cywennod ar ddodwy | aderyn | 0.40 | |
| Tyrcwn Nadolig | aderyn | 6.20 | |
| 2. Cnydau âr fferm | |||
| Haidd | hectar | -69 | |
| Ffa | hectar | 28 | |
| Rêp had olew | hectar | -58 | |
| Pys sych | hectar | 70 | |
| Tatws: | cynnar cyntaf | hectar | 2,540 |
| prif gnwd (gan gynnwys hadyd) | hectar | 1,550 | |
| Betys siwgr | hectar | 540 | |
| Gwenith | hectar | 90 | |
| 3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau | |||
| Ffrwythau’r berllan | hectar | 2,870 | |
| Ffrwythau meddal | hectar | 9,040 | |
| 4. Hectarau cymwys | |||
| Tir a oedd, yn 2014, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 | tir dan anfantais ddifrifol | hectar | 65.38 |
| tir dan anfantais | hectar | 90.61 | |
| pob tir arall | hectar | 36.93 | |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn rhagnodi unedau cynhyrchu ar gyfer asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol a leolir yng Nghymru ac yn nodi’r swm sydd i’w ystyried yn incwm blynyddol net o bob uned o’r fath am y flwyddyn o 12 Medi 2015 i 11 Medi 2016, at ddibenion penodol yn Neddf Daliadau Amaethyddol 1986 (“Deddf 1986”).
Mae’n ofynnol asesu gallu cynhyrchiol tir amaethyddol er mwyn penderfynu pa un a yw’r tir dan sylw yn “uned fasnachol o dir amaethyddol” ai peidio at ddibenion y darpariaethau olynu yn Neddf 1986: gweler yn benodol adrannau 36(3) a 50(2). Ystyr “uned fasnachol o dir amaethyddol” yw uned o dir amaethyddol sydd, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn gallu cynhyrchu incwm blynyddol net nad yw’n llai na chyfanred enillion blynyddol cyfartalog dau weithiwr amaethyddol gwrywaidd llawnamser sy’n 20 mlwydd oed neu drosodd (paragraff 3 o Atodlen 6 i Ddeddf 1986). Wrth benderfynu’r ffigur incwm blynyddol hwn, pa bryd bynnag y bydd math penodol o ddefnydd ffermio a grybwyllir yng ngholofn 1 o’r Atodlen yn berthnasol i’r asesiad o allu cynhyrchiol y tir dan sylw, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn darparu mai’r unedau cynhyrchu a’r incwm blynyddol net a bennir yng ngholofnau 2 a 3, yn eu trefn, fydd sail yr asesiad hwnnw.
Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys ffigurau incwm blynyddol net ar gyfer tir a oedd, yn 2014, yn hectar cymwys o fewn ystyr Erthygl 32(2) o Reoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin (OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608). Rhoddir ffigurau ar wahân yn yr Atodlen ar gyfer tir dan anfantais ddifrifol, tir dan anfantais, tir mewn ardal lai ffafriol a thir arall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
1986 p. 5; diffinnir “the Minister” yn adran 96(1) o’r Ddeddf honno.
Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986 (p. 5) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwnnw. Mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.
OJ Rhif L 347, 20.12.2013, t. 608, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 2015/851 (OJ Rhif L 135, 2.6.2015, t. 8).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys