Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1931 (Cy. 289)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) 2015

Gwnaed

23 Tachwedd 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

24 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

1 Ionawr 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 21(6) a 62 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy.

Yn unol ag adran 21(5) o’r Ddeddf honno mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag awdurdodau tân ac achub neu bersonau yr ystyrir eu bod yn eu cynrychioli hwy, personau yr ystyrir eu bod yn cynrychioli cyflogeion awdurdodau tân ac achub ac unrhyw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwasanaethau Tân ac Achub (Fframwaith Cenedlaethol) (Cymru) (Adolygu) 2015 a daw i rym ar 1 Ionawr 2016.

(2Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub

2.  Bydd y Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, a luniwyd gan Weinidogion Cymru, sy’n dwyn yr enw “Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016” ac a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar 25 Tachwedd 2015, yn cael effaith fel adolygiad, sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru yn arwyddocaol, o Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012(2).

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

23 Tachwedd 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae adran 21 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub, y mae’n rhaid iddo osod blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer awdurdodau tân ac achub yng Nghymru ac y caiff ddarparu canllawiau i awdurdodau tân ac achub o ran cyflawni unrhyw un neu ragor o’u swyddogaethau. Rhaid i’r awdurdodau tân ac achub roi sylw i’r fframwaith wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn rhoi Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2016 (“y Fframwaith”) yn lle Fframwaith Cenedlaethol Tân ac Achub Cymru 2012.

Y prif wahaniaethau yw bod y Fframwaith yn pennu blaenoriaethau diwygiedig ar gyfer awdurdodau tân ac achub o dan chwe amcan allweddol, sef y dylai awdurdodau tân ac achub—

(1mynd ati’n barhaus ac yn gynaliadwy i leihau risg a gwella diogelwch dinasyddion a chymunedau;

(2ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i ddigwyddiadau;

(3bod yn atebol yn glir ac yn gyhoeddus am gyflawni a chyllido, gan ddangos y safonau llywodraethu uchaf;

(4parhau i geisio lleihau costau ac achub ar bob cyfle i wneud arbedion effeithlonrwydd;

(5cydweithio’n effeithiol â phartneriaid i wella effeithlonrwydd a gwella lles dinasyddion a chymunedau;

(6gwerthfawrogi’r gweithlu a’i ddatblygu i’r safonau uchaf.

Mae’r Fframwaith yn cael effaith o 1 Ionawr 2016 ac yn para am gyfnod penagored. Gellir cael copïau o’r Fframwaith oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ. Fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru ar 25 Tachwedd 2015.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi gan y Gangen Gwasanaethau Tân, Llywodraeth Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 0300 062 8226.

(1)

2004 p. 21. Mae’r swyddogaethau o dan adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill