Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1840 (Cy. 268)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015

Gwnaed

27 Hydref 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

3 Tachwedd 2015

Yn dod i rym

6 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 57 a 196(2)(c) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Dewis o Lety) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;

ystyr “llety cartref gofal” (“care home accommodation”) yw—

(a)

llety mewn cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home” gan adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) pan fo’r llety yng Nghymru neu Loegr;

(b)

llety mewn gwasanaeth cartref gofal o fewn yr ystyr a roddir i “care home service” gan baragraff 2 o Atodlen 12 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(3) pan fo’r llety yn yr Alban; neu

(c)

llety mewn cartref gofal preswyl o fewn yr ystyr a roddir i “residential care home” gan erthygl 10 o Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(4) pan fo’r llety yng Ngogledd Iwerddon;

ystyr “llety sy’n cael ei ffafrio” (“preferred accommodation”) yw’r llety y mae person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ei ffafrio yn unol â rheoliad 2(b).

Y dewis o lety

2.  Pan fo—

(a)awdurdod lleol(5) yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal yn y Deyrnas Unedig;

(b)y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo wedi mynegi ei fod yn ffafrio cartref gofal penodol; ac

(c)yr amodau yn rheoliad 3 wedi eu bodloni,

rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn unol â’r Rheoliadau hyn.

Amodau ar gyfer darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio

3.—(1Rhaid i’r amodau a ganlyn fod wedi eu bodloni ar gyfer darparu llety sy’n cael ei ffafrio o dan reoliad 2—

(a)bod y cynllun gofal a chymorth ar gyfer y person yn pennu y gellir diwallu anghenion y person drwy ddarparu llety cartref gofal;

(b)bod y llety sy’n cael ei ffafrio yn addas ar gyfer anghenion y person;

(c)bod y llety sy’n cael ei ffafrio ar gael; ac

(d)os nad yr awdurdod lleol sy’n darparu’r llety sy’n cael ei ffafrio, bod darparwr y llety yn cytuno i ddarparu’r llety i’r person ar delerau’r awdurdod lleol.

(2Os yw’r gost i’r awdurdod lleol am ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw, rhaid i’r amod cost ychwanegol yn rheoliad 4 hefyd gael ei fodloni(6).

Yr amod cost ychwanegol

4.—(1Mae’r amod cost ychwanegol wedi ei fodloni—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod y talwr yn alluog ac yn fodlon i dalu cost ychwanegol y llety sy’n cael ei ffafrio am y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn disgwyl diwallu anghenion y person drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw; a

(b)bod y talwr yn ymuno gyda’r awdurdod lleol mewn cytundeb ysgrifenedig, lle y mae’r talwr yn cytuno i dalu’r gost ychwanegol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu i’r talwr fynediad at wybodaeth a chyngor digonol i alluogi’r talwr i ddeall telerau’r cytundeb ysgrifenedig arfaethedig cyn ymuno yn y cytundeb hwnnw.

(3Rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys—

(a)y gost ychwanegol;

(b)y gost y byddai’r awdurdod lleol fel arfer yn disgwyl ei thynnu wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety cartref gofal i ddiwallu anghenion y person o dan sylw;

(c)amlder y taliadau;

(d)manylion y person y mae’r taliadau i’w gwneud iddo;

(e)darpariaeth ar gyfer adolygu’r cytundeb;

(f)darpariaethau ynghylch y materion a bennir ym mharagraff (4).

(4Y materion penodedig yw—

(a)canlyniadau peidio â gwneud taliadau;

(b)effaith codiadau mewn ffioedd a wneir gan ddarparwr y llety sy’n cael ei ffafrio; ac

(c)effaith newidiadau yn amgylchiadau ariannol y talwr.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y talwr” (“the payer”) yw—

(a)person ac eithrio’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo; neu

(b)mewn achos y mae paragraff (6) yn gymwys iddo, y person y mae’r llety i’w ddarparu iddo.

(6Caiff yr awdurdod lleol beidio â chytuno gyda’r person y mae’r llety i’w ddarparu iddo i’r person hwnnw dalu’r gost ychwanegol oni fydd—

(a)paragraff 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Gofal a Chymorth (Asesiad Ariannol) (Cymru) 2015(7) (cyfalaf sydd i’w ddiystyru yn y 12 wythnos gyntaf) yn gymwys i’r person hwnnw; neu

(b)y person a’r awdurdod lleol yn cytuno neu wedi cytuno i ymuno mewn cytundeb ar daliad gohiriedig yn unol ag adran 68 o’r Ddeddf.

(7At ddibenion y rheoliad hwn, caiff y gost ychwanegol sydd i’w thalu gan y talwr fod yn llai na swm llawn y gost ychwanegol y cyfeirir ati yn adran 57(3) o’r Ddeddf, os yw’r awdurdod lleol yn cytuno y dylid talu swm llai.

Gwrthod darparu llety sy’n cael ei ffafrio

5.  Pan fo awdurdod lleol yn gwrthod darparu neu drefnu i ddarparu llety sy’n cael ei ffafrio rhaid iddo ddarparu datganiad ysgrifenedig sy’n nodi pa un neu pa rai o’r amodau yn rheoliad 3(1) neu reoliad 4(1) nas bodlonwyd ac sy’n pennu’r rhesymau.

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Hydref 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

O dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) caiff awdurdod lleol ddiwallu anghenion person am ofal a chymorth drwy ddarparu llety. Caiff rheoliadau o dan adran 57 o’r Ddeddf ddarparu, pan fo awdurdod lleol yn mynd i ddiwallu anghenion o dan adrannau 35 i 38 o’r Ddeddf drwy ddarparu neu drefnu i ddarparu llety o fath penodedig ar gyfer person, a’r person o dan sylw wedi mynegi ei fod yn ffafrio llety penodol o’r math hwnnw, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu, neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i achosion pan fo awdurdod lleol yn diwallu anghenion gofal a chymorth oedolion a phlant drwy ddarparu llety cartref gofal.

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amgylchiadau y mae’r gofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn i’r awdurdod lleol fod o dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan y person.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r “amod cost ychwanegol”. Pan fo cost y llety sy’n cael ei ffafrio gan y person yn fwy na’r gost y byddai’r awdurdod lleol yn disgwyl ei thynnu fel arfer wrth ddarparu neu drefnu i ddarparu llety addas o’r math hwnnw er mwyn diwallu anghenion y person o dan sylw, nid yw’r awdurdod lleol dan ofyniad i ddarparu neu drefnu i ddarparu’r llety hwnnw oni chaiff yr amod cost ychwanegol ei fodloni.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol roi rhesymau mewn ysgrifen dros wrthod darparu neu drefnu i ddarparu’r llety sy’n cael ei ffafrio gan berson.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(2)

2000 p. 14. Diwygiwyd adran 3 gan adran 95 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) a pharagraff 4 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(5)

Gweler adran 197(1) o’r Ddeddf am ystyr “awdurdod lleol”; mae’r diffiniad wedi ei gyfyngu i awdurdodau lleol yng Nghymru.

(6)

Gweler adran 57(3) o’r Ddeddf am ystyr “cost ychwanegol”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill