Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yn llawn ar 21 Medi 2015 holl ddarpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn, neu nad ydynt ond wedi eu cychwyn yn rhannol (erthygl 2).

Cychwynnwyd y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol ar 6 Awst 2015.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n weddill, y mae llawer ohonynt yn rhoi swyddogaethau i Gymwysterau Cymru mewn perthynas â rheoleiddio cymwysterau penodol a ddyfernir yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n diddymu swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) a darpariaethau sy’n ymwneud â chyllido’n gyhoeddus gyrsiau penodol sy’n arwain at gymwysterau.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â chychwyn y darpariaethau hyn. Yn gyffredinol, mae’r darpariaethau trosiannol yn galluogi Cymwysterau Cymru i gymryd drosodd y gwaith o reoleiddio dyfarnu cymwysterau yng Nghymru oddi wrth Weinidogion Cymru, a oedd yn arfer swyddogaethau rheoleiddiol tebyg o dan Ddeddf 1997.

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth gyffredinol i gael parhad fel y caniateir i swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 ac sy’n cyfateb i swyddogaeth newydd sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar y dyddiad hwnnw, fod yn arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl y dyddiad hwnnw. Er mwyn osgoi amheuaeth mae paragraff (4) o erthygl 3 yn darparu nad yw’r swyddogaeth o osod cosb ariannol yn un sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar 21 Medi 2015; y rheswm dros hyn yw oherwydd ar 21 Medi 2015 nid yw’r pŵer o dan adran 38(3) o’r Ddeddf i wneud rheoliadau sy’n delio â swm cosb ariannol wedi cael ei arfer. Mae erthygl 3 yn ddarostyngedig i’r erthyglau dilynol, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer parhad mewn cysylltiad â materion penodol.

Mae erthyglau 4 i 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol benodol mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu. Mae erthygl 4 yn darparu i bersonau penodol gael eu trin fel pe baent wedi eu cydnabod gan Gymwysterau Cymru o dan adran 8 o’r Ddeddf. Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer y meini prawf sydd i gael eu cymhwyso i gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 5 o’r Ddeddf. Mae erthygl 6 yn darparu i geisiadau i Weinidogion Cymru am gydnabyddiaeth o dan adran 30 o Ddeddf 1997, sydd wedi eu gwneud ond nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn eu cylch cyn 21 Medi 2015, gael eu trin fel ceisiadau i Gymwysterau Cymru am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf. Mae erthygl 7 yn darparu ar gyfer yr amodau cydnabod safonol (o dan baragraff 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf) sy’n gymwys i gyrff dyfarnu cydnabyddedig o 21 Medi 2015 ymlaen. Mae erthygl 8 yn darparu i hysbysiadau penodol gan bersonau sy’n dymuno ildio eu cydnabyddiaeth i ryw raddau gael eu trin fel hysbysiadau ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Mae erthygl 9 yn darparu i’r ffurfiau ar gymhwyster a nodir yn yr Atodlen gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 10 yn darparu i gymwysterau penodol gael eu trin fel rhai sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 o’r Ddeddf. Mae erthygl 11 yn darparu i achosion penodol o gyflwyno ffurfiau ar gymwysterau i Weinidogion Cymru i’w hachredu nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn eu cylch cyn 21 Medi 2015 gael eu trin fel ceisiadau i Gymwysterau Cymru iddynt gael eu dynodi o dan adran 29 o’r Ddeddf.

Mae’r holl ffurfiau ar gymhwyster sydd i gael eu trin fel pe baent naill ai wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi yn ffurfiau sydd wedi eu hachredu o dan adran 30(1)(h) o Ddeddf 1997.

Mae erthygl 12 yn darparu i gwynion penodol i Weinidogion Cymru gael eu trin fel cwynion at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 13 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â chymwysterau sydd wedi eu hachredu gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 1997 at ddibenion diffiniad yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015.