xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1687 (Cy. 219) (C. 98)

Addysg, Cymru

Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015

Gwnaed

16 Medi 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 60(2) a (3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

RHAN 1Enwi a dehongli

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

mae i “cymhwyster perthnasol” yr un ystyr ag a roddir i “relevant qualification” yn adran 30 o Ddeddf 1997(2) fel y mae’r adran honno mewn grym yn union cyn 21 Medi 2015;

ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997(3);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cymwysterau Cymru 2015;

ystyr “y Gronfa Ddata” (“the Database”) yw’r gronfa ddata a gyhoeddir ar-lein(4) o’r enw “y Gronfa Ddata Cymwysterau Cymeradwy yng Nghymru” ac a elwir hefyd yn “DAQW”.

RHAN 2Cychwyn

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 21 Medi 2015

2.  Mae darpariaethau’r Ddeddf, i’r graddau nad ydynt wedi eu cychwyn eto, yn dod i rym ar 21 Medi 2015.

RHAN 3Darpariaethau trosiannol

Parhad: cyffredinol

3.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i’r graddau y mae swyddogaeth, sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen (“y swyddogaeth newydd”) yn cyfateb i swyddogaeth a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf 1997 cyn y dyddiad hwnnw (“yr hen swyddogaeth”).

(2Mae unrhyw beth sydd wedi ei wneud, neu sydd heb ei wneud, cyn 21 Medi 2015 gan neu mewn perthynas â Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel pe bai wedi ei wneud, neu i gael ei barhau, neu heb ei wneud, gan neu mewn perthynas â Chymwysterau Cymru mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd.

(3O 21 Medi 2015 ymlaen, caiff Cymwysterau Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r swyddogaeth newydd sy’n ymwneud ag amgylchiadau sy’n digwydd cyn y dyddiad hwnnw fel pe bai’r swyddogaeth newydd wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd yr amgylchiadau a arweiniodd at ei harfer ac felly, o’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni chaiff Gweinidogion Cymru gymryd camau mewn cysylltiad â’r hen swyddogaeth.

(4Yn unol â hynny, i’r graddau y bo’n angenrheidiol i roi effaith i baragraffau (1) i (3), mae cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen sy’n ymwneud â’r hen swyddogaeth, a chyfeiriadau sy’n cymryd effaith fel cyfeiriadau at Weinidogion Cymru neu Lywodraeth Cymru (ym mha fodd bynnag y’u disgrifir) a’r hen swyddogaeth mewn dogfen o’r fath i gael eu darllen, o 21 Medi 2015 ymlaen, fel cyfeiriadau at Gymwysterau Cymru a’r swyddogaeth newydd.

(5Mae paragraffau (1) i (4) yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yn y Gorchymyn hwn.

(6At ddibenion paragraff (1), nid yw gosod cosb ariannol o dan adran 38(1) neu (2) o’r Ddeddf yn swyddogaeth sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru o 21 Medi 2015 ymlaen.

Personau sydd i gael eu trin fel rhai sydd wedi eu cydnabod o dan adran 8

4.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn 21 Medi 2015, wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997(5) mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster perthnasol penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r person i gael ei drin fel un sydd wedi ei gydnabod o dan adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol) o’r Ddeddf.

(3Ond os yw’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y dyddiad hwnnw nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod o dan adran 8 mewn cysylltiad â chymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster hwnnw neu’r disgrifiad hwnnw o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.

Meini prawf cydnabod cyffredinol

5.—(1O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel y meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu gosod a’u cyhoeddi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 5 o’r Ddeddf.

(2Y ddogfen yw’r un â’r rhif ISBN 978 0 7504 7250 2, o’r enw “Criteria for Recognition March 2012” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0001(6).

(3Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to Criteria for Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0002(7).

Ceisiadau am gydnabyddiaeth

6.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 am gydnabyddiaeth o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 nad yw wedi ei dynnu’n ôl gan y person ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu yn ei gylch, cyn y dyddiad hwnnw.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r cais i gael ei drin fel cais i Gymwysterau Cymru gan y person am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf.

(3Caiff y person, ar neu ar ôl 21 Medi 2015 ond cyn i Gymwysterau Cymru benderfynu pa un ai i gydnabod y person ai peidio, bennu’n ysgrifenedig i Gymwysterau Cymru gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod mewn cysylltiad â’i ddyfarnu ac mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster neu’r disgrifiad o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.

Amodau cydnabod

7.—(1O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

(2Y ddogfen yw’r un o’r enw “General conditions of Recognition March 2015” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015(8) ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0003(9).

(3Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0004(10).

(4O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0005(11).

(5O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0006(12).

Ceisiadau i ildio cydnabyddiaeth

8.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys—

(a)pan fo person sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 32C(1) (ildio cydnabyddiaeth) o’r Ddeddf honno(13) cyn 21 Medi 2015 ac nad yw’r hysbysiad hwnnw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 32C(2) cyn 21 Medi 2015 am y dyddiad y mae’r person hwnnw i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw.

(2Os yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf—

(a)a geir ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru neu Gymwysterau Cymru yn cael yr hysbysiad o fewn paragraff (4),

(b)sydd mewn cysylltiad â’r un cymwysterau â’r hysbysiad a roddir o dan adran 32C(1) o Ddeddf 1997, ac

(c)sy’n pennu’r dyddiad a roddir yn yr hysbysiad o fewn paragraff (4) fel y dyddiad at ddibenion paragraff 17(2) o’r Atodlen honno.

(3Os nad yw’r person, cyn 21 Medi 2015, wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), rhaid i Gymwysterau Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r person bod rhaid iddo roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru sydd o fewn paragraff (4) cyn y gall Cymwysterau Cymru benderfynu pa bryd y mae’r gydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw i beidio â chael effaith.

(4Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sy’n datgan y dyddiad y mae’r person yn dymuno peidio â chael ei gydnabod pan ddaw’r dyddiad hwnnw i ben ac os rhoddir yr hysbysiad—

(a)cyn 21 Medi 2015, fe’i rhoddir i Weinidogion Cymru, neu

(b)ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, fe’i rhoddir i Gymwysterau Cymru.

Cymeradwyo cymwysterau ac ildio cymeradwyaeth

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.

(3Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.

(4Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(5Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(6Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 1997(14).

Dynodi cymwysterau

10.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â’r ffurfiau ar gymhwyster sydd, ar 21 Medi 2015, wedi eu rhestru yn y Gronfa Ddata fel “live” (yn y maes “Statws”) ac eithrio’r rhai sydd wedi eu rhestru yn yr Atodlen.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu dynodi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 29 o’r Ddeddf.

(3Mae pob dynodiad adran 29 yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei drin fel pe bai Cymwysterau Cymru o dan adran 30(1) wedi pennu—

(a)21 Medi 2015 fel y dyddiad y mae’r dynodiad i gael effaith ohono, a

(b)y cynharaf o’r dyddiadau a ganlyn fel y dyddiad y mae’r dynodiad yn peidio â chael effaith pan ddaw’r dyddiad i ben—

(i)y dyddiad adolygu a nodir ar gyfer y ffurf ar gymhwyster ar y Gronfa Ddata ar 21 Medi 2015;

(ii)31 Awst 2018.

Ceisiadau i ddynodi cymwysterau

11.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys—

(a)pan fo person, cyn 21 Medi 2015, wedi cyflwyno ffurf ar gymhwyster perthnasol i Weinidogion Cymru, y mae’r person wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, i gael ei hachredu o dan adran 30(1)(h) o’r Ddeddf honno ac nad yw wedi tynnu’r cyflwyno yn ôl,

(b)pan nododd y person, wrth gyflwyno’r ffurf ar gymhwyster, cyn 21 Medi 2015, i gael ei hachredu, ddymuniad i’r ffurf ar gymhwyster gael ei chyllido yng Nghymru, ac

(c)pan na fo Gweinidogion Cymru, cyn 21 Medi 2015, wedi penderfynu pa un ai i achredu’r ffurf ar gymhwyster ai peidio.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae cyflwyno’r ffurf ar gymhwyster i gael ei drin fel cais gan y person o dan adran 29(2) o’r Ddeddf i Gymwysterau Cymru i’r ffurf ar gymhwyster gael ei dynodi o dan yr adran honno.

Cwynion

12.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo cwyn wedi ei gwneud, cyn 21 Medi 2015, i Weinidogion Cymru mewn perthynas â mater a ddisgrifir ym mharagraff (2) ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi cwblhau’r gwaith o’i hystyried.

(2Y materion yw fel a ganlyn—

(a)dyfarnu neu ddilysu ffurf ar gymhwyster gan berson sydd wedi ei gydnabod mewn cysylltiad â hi o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997;

(b)unrhyw weithgareddau eraill gan berson sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r gydnabyddiaeth honno.

(3O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r gŵyn i gael ei thrin at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf fel cwyn a wneir i Gymwysterau Cymru.

RHAN 4Darpariaeth arbed

Cymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015

13.  Er gwaethaf diddymu adran 30 o Ddeddf 1997 gan y Ddeddf, mae cymhwyster sydd wedi ei achredu gan Weinidogion Cymru yn unol â’r adran honno i barhau i gael ei drin fel cymhwyster sydd wedi ei achredu at ddibenion y diffiniad o “further education course” yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015(15).

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

16 Medi 2015

erthygl 9

YR ATODLENFfurfiau ar gymhwyster sydd i gael eu trin fel rhai a gymeradwyir o dan adran 19 o’r Ddeddf

Tabl 1

Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (“TGAU”)

EnwTitleRhif / Number
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Cymraeg IaithWJEC Level 1/2 GCSE in Cymraeg Iaith601/4944/9
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn DaearyddiaethWJEC Level 1/2 GCSE in Geography601/7663/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth GymraegWJEC Level 1/2 GCSE in Llenyddiaeth Gymraeg601/4914/0
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Llenyddiaeth SaesnegWJEC Level 1/2 GCSE in English Literature601/4942/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn MathemategWJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics601/4907/3
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Mathemateg - RhifeddWJEC Level 1/2 GCSE in Mathematics – Numeracy601/4908/5
TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Saesneg IaithWJEC Level 1/2 GCSE in English Language601/4943/7

Tabl 2

Tystysgrif Addysg Gyffredinol (“TAG”) Uwch Gyfrannol

EnwTitleRhif / Number
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn BiolegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Biology601/5864/5
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn BusnesWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Business601/5260/6
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Celf a DylunioWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Art and Design601/5347/7
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn CemegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Chemistry601/5866/9
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn CyfrifiaduregWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Computer Science601/5391/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn CymdeithasegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Sociology601/5258/8
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith GyntafWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf601/5403/2
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn EconomegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Economics601/5228/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn FfisegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Physics601/5867/0
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn HanesWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in History601/5830/X
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth SaesnegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language and Literature601/5404/4
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth SaesnegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Literature601/5405/6
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn Saesneg IaithWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in English Language601/5390/8
TAG Uwch Gyfrannol Lefel 3 CBAC mewn SeicolegWJEC Level 3 Advanced Subsidiary GCE in Psychology601/5759/8

Tabl 3

Tystysgrif Addysg Gyffredinol (“TAG”) Safon Uwch

EnwTitleRhif / Number
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn BiolegWJEC Level 3 Advanced GCE in Biology601/5846/3
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn BusnesWJEC Level 3 Advanced GCE in Business601/5238/2
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Celf a DylunioWJEC Level 3 Advanced GCE in Art and Design601/5290/4
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn CemegWJEC Level 3 Advanced GCE in Chemistry601/5847/5
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn CyfrifiaduregWJEC Level 3 Advanced GCE in Computer Science601/5345/3
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn CymdeithasegWJEC Level 3 Advanced GCE in Sociology601/5237/0
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Cymraeg Iaith GyntafWJEC Level 3 Advanced GCE in Cymraeg Iaith Gyntaf601/5392/1
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn EconomegWJEC Level 3 Advanced GCE in Economics601/5034/8
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn FfisegWJEC Level 3 Advanced GCE in Physics601/5848/7
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn HanesWJEC Level 3 Advanced GCE in History601/5817/7
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth SaesnegWJEC Level 3 Advanced GCE in English Language and Literature601/5388/X
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Llenyddiaeth SaesnegWJEC Level 3 Advanced GCE in English Literature601/5389/1
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn Saesneg IaithWJEC Level 3 Advanced GCE in English Language601/5346/5
TAG Safon Uwch Lefel 3 CBAC mewn SeicolegWJEC Level 3 Advanced GCE in Psychology601/5719/7

Tabl 4

Bagloriaeth Cymru

EnwTitleRhif / Number
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol / Sylfaen CBACWJEC National / Foundation Skills Challenge Certificate601/4915/2
Tystysgrif Her Sgiliau Sylfaen (ôl-16) CBACWJEC Foundation (post-16) Skills Challenge Certificate601/4941/3
Tystysgrif Her Sgiliau Genedlaethol (ôl-16) CBACWJEC National (post-16) Skills Challenge Certificate601/4916/4
Tystysgrif Her Sgiliau Uwch CBACWJEC Advanced Skills Challenge Certificate601/4917/6
Bagloriaeth Genedlaethol / Sylfaen Cymru CBACWJEC National / Foundation Welsh Baccalaureate601/4918/8
Bagloriaeth Sylfaen (ôl-16) Cymru CBACWJEC Foundation (post-16) Welsh Baccalaureate601/4920/6
Bagloriaeth Genedlaethol (ôl-16) Cymru CBACWJEC National (post-16) Welsh Baccalaureate601/4919/X
Bagloriaeth Uwch Cymru CBACWJEC Advanced Welsh Baccalaureate601/4921/8

Tabl 5

Sgiliau Hanfodol Cymru

EnwTitleRhif / Number
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 Agored CymruAgored Cymru Level 1 Essential Communication Skills601/6825/0
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 Agored CymruAgored Cymru Level 2 Essential Communication Skills601/6828/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 Agored CymruAgored Cymru Level 3 Essential Communication Skills601/6829/8
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3)Agored Cymru Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3)601/6866/3
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 Agored CymruAgored Cymru Level 1 Essential Employability Skills601/6924/2
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 Agored CymruAgored Cymru Level 2 Essential Employability Skills601/6864/X
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 Agored CymruAgored Cymru Level 3 Essential Employability Skills601/6865/1
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 Agored CymruAgored Cymru Level 1 Essential Application of Number Skills601/6846/8
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 Agored CymruAgored Cymru Level 2 Essential Application of Number Skills601/6847/X
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 Agored CymruAgored Cymru Level 3 Essential Application of Number Skills601/6863/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 1)Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1)601/6873/0
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 2)Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2)601/6874/2
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad Agored Cymru (Mynediad 3)Agored Cymru Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3)601/6876/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 Agored CymruAgored Cymru Level 1 Essential Digital Literacy Skills601/6868/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 Agored CymruAgored Cymru Level 2 Essential Digital Literacy Skills601/6870/5
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 Agored CymruAgored Cymru Level 3 Essential Digital Literacy Skills601/6872/9
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 CBACWJEC Level 1 Essential Communication Skills601/6859/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 CBACWJEC Level 2 Essential Communication Skills601/6860/2
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 CBACWJEC Level 3 Essential Communication Skills601/6861/4
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3)WJEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3)601/6867/5
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 CBACWJEC Level 1 Essential Employability Skills601/6869/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 CBACWJEC Level 2 Essential Employability Skills601/6871/7
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 CBACWJEC Level 3 Essential Employability Skills601/6875/4
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 CBACWJEC Level 1 Essential Application of Number Skills601/6852/3
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 CBACWJEC Level 2 Essential Application of Number Skills601/6857/2
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 CBACWJEC Level 3 Essential Application of Number Skills601/6858/4
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 1)WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1)601/6797/X
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 2)WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2)601/6798/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad CBAC (Mynediad 3)WJEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3)601/6799/3
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 CBACWJEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills601/6850/X
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 CBACWJEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills601/6851/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 CBACWJEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills601/6862/6
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 City and GuildsCity and Guilds Level 1 Essential Communication Skills601/6805/5
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 City and GuildsCity and Guilds Level 2 Essential Communication Skills601/6809/2
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 City and GuildsCity and Guilds Level 3 Essential Communication Skills601/6813/4
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3)City and Guilds Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3)601/6804/3
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 City and GuildsCity and Guilds Level 1 Essential Employability Skills601/6807/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 City and GuildsCity and Guilds Level 2 Essential Employability Skills601/6811/0
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 City and GuildsCity and Guilds Level 3 Essential Employability Skills601/6814/6
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 City and GuildsCity and Guilds Level 1 Essential Application of Number Skills601/6802/X
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 City and GuildsCity and Guilds Level 2 Essential Application of Number Skills601/6808/0
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 City and GuildsCity and Guilds Level 3 Essential Application of Number Skills601/6812/2
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 1)City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1)601/6800/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 2)City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2)601/6803/1
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad City and Guilds (Mynediad 3)City and Guilds Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3)601/6801/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 City and GuildsCity and Guilds Level 1 Essential Digital Literacy Skills601/6806/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 City and GuildsCity and Guilds Level 2 Essential Digital Literacy Skills601/6810/9
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 City and GuildsCity and Guilds Level 3 Essential Digital Literacy Skills601/6820/1
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 1 BTEC PearsonPearson BTEC Level 1 Essential Communication Skills601/6835/3
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2 BTEC PearsonPearson BTEC Level 2 Essential Communication Skills601/6839/0
Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 3 BTEC PearsonPearson BTEC Level 3 Essential Communication Skills601/6843/2
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3)Pearson BTEC Entry Level Essential Employability Skills (Entry 3)601/6833/X
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 1 BTEC PearsonPearson BTEC Level 1 Essential Employability Skills601/6837/7
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 2 BTEC PearsonPearson BTEC Level 2 Essential Employability Skills601/6841/9
Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol Lefel 3 BTEC PearsonPearson BTEC Level 3 Essential Employability Skills601/6845/6
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 1 BTEC PearsonPearson BTEC Level 1 Essential Application of Number Skills601/6834/1
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 2 BTEC PearsonPearson BTEC Level 2 Essential Application of Number Skills601/6838/9
Sgiliau Cymhwyso Rhif Hanfodol Lefel 3 BTEC PearsonPearson BTEC Level 3 Essential Application of Number Skills601/6842/0
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 1)Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 1)601/6830/4
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 2)Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 2)601/6831/6
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel Mynediad BTEC Pearson (Mynediad 3)Pearson BTEC Entry Level Essential Digital Literacy Skills (Entry 3)601/6832/8
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 1 BTEC PearsonPearson BTEC Level 1 Essential Digital Literacy Skills601/6836/5
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 2 BTEC PearsonPearson BTEC Level 2 Essential Digital Literacy Skills601/6840/7
Sgiliau Llythrennedd Digidol Hanfodol Lefel 3 BTEC PearsonPearson BTEC Level 3 Essential Digital Literacy Skills601/6844/4

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yn llawn ar 21 Medi 2015 holl ddarpariaethau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (“y Ddeddf”) nad ydynt eisoes wedi eu cychwyn, neu nad ydynt ond wedi eu cychwyn yn rhannol (erthygl 2).

Cychwynnwyd y darpariaethau yn y Ddeddf sy’n ymwneud â sefydlu Cymwysterau Cymru fel corff corfforaethol ar 6 Awst 2015.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau’r Ddeddf sy’n weddill, y mae llawer ohonynt yn rhoi swyddogaethau i Gymwysterau Cymru mewn perthynas â rheoleiddio cymwysterau penodol a ddyfernir yng Nghymru. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n diddymu swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan Ran 5 o Ddeddf Addysg 1997 (“Deddf 1997”) a darpariaethau sy’n ymwneud â chyllido’n gyhoeddus gyrsiau penodol sy’n arwain at gymwysterau.

Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â chychwyn y darpariaethau hyn. Yn gyffredinol, mae’r darpariaethau trosiannol yn galluogi Cymwysterau Cymru i gymryd drosodd y gwaith o reoleiddio dyfarnu cymwysterau yng Nghymru oddi wrth Weinidogion Cymru, a oedd yn arfer swyddogaethau rheoleiddiol tebyg o dan Ddeddf 1997.

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaeth gyffredinol i gael parhad fel y caniateir i swyddogaethau a oedd yn arferadwy gan Weinidogion Cymru cyn 21 Medi 2015 ac sy’n cyfateb i swyddogaeth newydd sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar y dyddiad hwnnw, fod yn arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar y dyddiad hwnnw ac ar ôl y dyddiad hwnnw. Er mwyn osgoi amheuaeth mae paragraff (4) o erthygl 3 yn darparu nad yw’r swyddogaeth o osod cosb ariannol yn un sy’n arferadwy gan Gymwysterau Cymru ar 21 Medi 2015; y rheswm dros hyn yw oherwydd ar 21 Medi 2015 nid yw’r pŵer o dan adran 38(3) o’r Ddeddf i wneud rheoliadau sy’n delio â swm cosb ariannol wedi cael ei arfer. Mae erthygl 3 yn ddarostyngedig i’r erthyglau dilynol, sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer parhad mewn cysylltiad â materion penodol.

Mae erthyglau 4 i 8 yn gwneud darpariaeth drosiannol benodol mewn perthynas â chydnabod cyrff dyfarnu. Mae erthygl 4 yn darparu i bersonau penodol gael eu trin fel pe baent wedi eu cydnabod gan Gymwysterau Cymru o dan adran 8 o’r Ddeddf. Mae erthygl 5 yn darparu ar gyfer y meini prawf sydd i gael eu cymhwyso i gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 5 o’r Ddeddf. Mae erthygl 6 yn darparu i geisiadau i Weinidogion Cymru am gydnabyddiaeth o dan adran 30 o Ddeddf 1997, sydd wedi eu gwneud ond nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn eu cylch cyn 21 Medi 2015, gael eu trin fel ceisiadau i Gymwysterau Cymru am gydnabyddiaeth gyffredinol o dan adran 8 o’r Ddeddf. Mae erthygl 7 yn darparu ar gyfer yr amodau cydnabod safonol (o dan baragraff 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf) sy’n gymwys i gyrff dyfarnu cydnabyddedig o 21 Medi 2015 ymlaen. Mae erthygl 8 yn darparu i hysbysiadau penodol gan bersonau sy’n dymuno ildio eu cydnabyddiaeth i ryw raddau gael eu trin fel hysbysiadau ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

Mae erthygl 9 yn darparu i’r ffurfiau ar gymhwyster a nodir yn yr Atodlen gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 10 yn darparu i gymwysterau penodol gael eu trin fel rhai sydd wedi eu dynodi o dan adran 29 o’r Ddeddf. Mae erthygl 11 yn darparu i achosion penodol o gyflwyno ffurfiau ar gymwysterau i Weinidogion Cymru i’w hachredu nad oes penderfyniad wedi ei wneud yn eu cylch cyn 21 Medi 2015 gael eu trin fel ceisiadau i Gymwysterau Cymru iddynt gael eu dynodi o dan adran 29 o’r Ddeddf.

Mae’r holl ffurfiau ar gymhwyster sydd i gael eu trin fel pe baent naill ai wedi eu cymeradwyo neu eu dynodi yn ffurfiau sydd wedi eu hachredu o dan adran 30(1)(h) o Ddeddf 1997.

Mae erthygl 12 yn darparu i gwynion penodol i Weinidogion Cymru gael eu trin fel cwynion at ddibenion adran 48 o’r Ddeddf.

Mae erthygl 13 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â chymwysterau sydd wedi eu hachredu gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf 1997 at ddibenion diffiniad yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 2(1)6 Awst 20152015/1591 (Cy. 191) (C. 92)
Adran 2(2) (yn rhannol)6 Awst 20152015/1591 (Cy. 191) (C. 92)
Atodlen 1, Rhan 1, (paragraffau 1 – 35)6 Awst 20152015/1591 (Cy. 191) (C. 92)
Atodlen 1, paragraff 376 Awst 2015O.S. 2015/1591 (Cy. 191) (C. 92)
(2)

Gwneir diwygiadau i adran 30 o Ddeddf 1997 sy’n berthnasol i’r Gorchymyn hwn gan: Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 103(1) a (4)(c) ac Atodlen 11; Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239) (Cy. 244), Atodlen 1, paragraffau 6, 14, a 15(b) ac (ch); a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), Atodlen 12, paragraffau 12 a 15 ac Atodlen 16, Rhan 4.

(3)

1997 p. 44. Mae llawer o ddiwygiadau i Ran 5 o’r Ddeddf hon.

(4)

Ar 21 Medi 2015, mae’r gronfa ddata hon i’w gweld yn www.daqw.org.uk.

(5)

Amnewidwyd adran 30(1) gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), Atodlen 12, paragraffau 12 a 15(1) a (2).

(6)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(7)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(8)

Ym mis Mawrth 2015, anfonodd Gweinidogion Cymru gopïau o’r ddogfen hon at swyddogion cyfrifol personau a oedd wedi eu cydnabod bryd hynny o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.

(9)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(10)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(11)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(12)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(13)

Mewnosodwyd adran 32C gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), Atodlen 12, paragraffau 12 a 19.

(14)

Mewnosodwyd adran 32(3A) gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 17, paragraff 7(1) a (3) ac fe’i diwygiwyd gan: Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239) (Cy. 244), Atodlen 1, paragraffau 6 a 18(ch); a Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25), adran 162(1), (6) ac (8).

(15)

O.S. 2015/621. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.