Gorchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015

Cymeradwyo cymwysterau ac ildio cymeradwyaeth

9.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys mewn perthynas â’r ffurfiau ar gymhwyster a restrir yn yr Atodlen.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r ffurfiau ar gymhwyster i gael eu trin fel pe baent wedi eu cymeradwyo o dan adran 19 o’r Ddeddf i’w dyfarnu yng Nghymru gan y corff dyfarnu a nodir yn enw’r ffurf ar gymhwyster o dan sylw.

(3Mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 22(3) o’r Ddeddf, ddyrannu’r rhif yn y cofnod cyfatebol ar gyfer y ffurf ar gymhwyster yn y golofn “Rhif / Number”.

(4Ac eithrio mewn perthynas â’r cymhwyster y cyfeirir ato ym mharagraff (5), mae pob cymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 21 Medi 2015 hyd ddiwedd 31 Awst 2020 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(5Mae’r gymeradwyaeth yn rhinwedd paragraff (2) i’r cymhwyster y dyrennir y rhif 601/7663/5 iddo (TGAU Lefel 1/2 CBAC mewn Daearyddiaeth) i gael ei thrin fel pe bai Cymwysterau Cymru wedi, o dan adran 23(2) o’r Ddeddf, bennu’r cyfnod o 1 Medi 2016 hyd ddiwedd 31 Awst 2021 fel y cyfnod y mae’r gymeradwyaeth yn cael effaith.

(6Mae unrhyw hysbysiad o fewn paragraff (7) a roddir cyn 21 Medi 2015 i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â ffurf ar gymhwyster gan y corff dyfarnu o dan sylw ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl cyn y dyddiad hwnnw, i gael ei drin, o’r dyddiad hwnnw, fel hysbysiad ildio o dan adran 25 o’r Ddeddf.Mae’r hysbysiad yn hysbysiad ynghylch y disgwyliad y bydd y corff dyfarnu yn tynnu’r ffurf ar gymhwyster yn ôl o dan amod D7.3 o’r amodau cydnabod a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(3A) o Ddeddf 1997(1).

(1)

Mewnosodwyd adran 32(3A) gan Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 17, paragraff 7(1) a (3) ac fe’i diwygiwyd gan: Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu’r Awdurdod) 2005 (O.S. 2005/3239) (Cy. 244), Atodlen 1, paragraffau 6 a 18(ch); a Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (p. 25), adran 162(1), (6) ac (8).