xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Darpariaethau trosiannol

Ceisiadau i ildio cydnabyddiaeth

8.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys—

(a)pan fo person sydd wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997 wedi rhoi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 32C(1) (ildio cydnabyddiaeth) o’r Ddeddf honno(1) cyn 21 Medi 2015 ac nad yw’r hysbysiad hwnnw wedi ei dynnu’n ôl, a

(b)pan na fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad o dan adran 32C(2) cyn 21 Medi 2015 am y dyddiad y mae’r person hwnnw i beidio â chael ei gydnabod yn y cyswllt o dan sylw.

(2Os yw’r person hwnnw wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi rhoi hysbysiad ildio o dan baragraff 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf—

(a)a geir ar y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru neu Gymwysterau Cymru yn cael yr hysbysiad o fewn paragraff (4),

(b)sydd mewn cysylltiad â’r un cymwysterau â’r hysbysiad a roddir o dan adran 32C(1) o Ddeddf 1997, ac

(c)sy’n pennu’r dyddiad a roddir yn yr hysbysiad o fewn paragraff (4) fel y dyddiad at ddibenion paragraff 17(2) o’r Atodlen honno.

(3Os nad yw’r person, cyn 21 Medi 2015, wedi rhoi hysbysiad sydd o fewn paragraff (4), rhaid i Gymwysterau Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r person bod rhaid iddo roi hysbysiad i Gymwysterau Cymru sydd o fewn paragraff (4) cyn y gall Cymwysterau Cymru benderfynu pa bryd y mae’r gydnabyddiaeth yn y cyswllt o dan sylw i beidio â chael effaith.

(4Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n hysbysiad ysgrifenedig oddi wrth y person sy’n datgan y dyddiad y mae’r person yn dymuno peidio â chael ei gydnabod pan ddaw’r dyddiad hwnnw i ben ac os rhoddir yr hysbysiad—

(a)cyn 21 Medi 2015, fe’i rhoddir i Weinidogion Cymru, neu

(b)ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, fe’i rhoddir i Gymwysterau Cymru.

(1)

Mewnosodwyd adran 32C gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), Atodlen 12, paragraffau 12 a 19.