xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Darpariaethau trosiannol

Amodau cydnabod

7.—(1O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r amodau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel yr amodau cydnabod safonol a lunnir ac a gyhoeddir gan Gymwysterau Cymru o dan baragraff 2(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.

(2Y ddogfen yw’r un o’r enw “General conditions of Recognition March 2015” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2015(1) ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0003(2).

(3Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to General Conditions of Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0004(3).

(4O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y dogfennau a ddisgrifir ym mharagraffau (2) a (3) at “regulatory documents” yw’r dogfennau a restrir yn y ddogfen o’r enw “Qualifications Wales Regulatory Documents List” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0005(4).

(5O 21 Medi 2015 ymlaen, ystyr cyfeiriadau yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2) at “certificate requirements” yw’r gofynion a nodir yn y ddogfen o’r enw “Additional Certificate Requirements” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0006(5).

(1)

Ym mis Mawrth 2015, anfonodd Gweinidogion Cymru gopïau o’r ddogfen hon at swyddogion cyfrifol personau a oedd wedi eu cydnabod bryd hynny o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997.

(2)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(3)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(4)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.

(5)

Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.