xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (2), yn ddarostyngedig i’r diwygiadau iddynt y darperir ar eu cyfer yn y ddogfen a ddisgrifir ym mharagraff (3), i gael eu trin fel y meini prawf cydnabod cyffredinol sydd wedi eu gosod a’u cyhoeddi gan Gymwysterau Cymru o dan adran 5 o’r Ddeddf.
(2) Y ddogfen yw’r un â’r rhif ISBN 978 0 7504 7250 2, o’r enw “Criteria for Recognition March 2012” a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012 ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0001(1).
(3) Y ddogfen yw’r un o’r enw “Amendments to Criteria for Recognition” ac a gyhoeddir ar-lein ym mis Medi 2015 a’i enw’n cynnwys y cyfeirnod QWRD0002(2).
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.
Ar 21 Medi 2015, mae’r ddogfen hon ar gael yn www.cymwysteraucymru.org.