xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Darpariaethau trosiannol

Personau sydd i gael eu trin fel rhai sydd wedi eu cydnabod o dan adran 8

4.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person, yn union cyn 21 Medi 2015, wedi ei gydnabod o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997(1) mewn cysylltiad â dyfarnu neu ddilysu cymhwyster perthnasol penodedig neu ddisgrifiad o gymhwyster perthnasol.

(2O 21 Medi 2015 ymlaen, mae’r person i gael ei drin fel un sydd wedi ei gydnabod o dan adran 8 (cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol) o’r Ddeddf.

(3Ond os yw’r person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig cyn y dyddiad hwnnw nad yw’r person yn dymuno cael ei gydnabod o dan adran 8 mewn cysylltiad â chymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster nad yw’r corff wedi ei gydnabod mewn cysylltiad ag ef o dan adran 30(1)(e) o Ddeddf 1997, mae’r person i gael ei drin fel pe bai wedi pennu’r cymhwyster hwnnw neu’r disgrifiad hwnnw o gymhwyster o dan adran 8(2) o’r Ddeddf.

(1)

Amnewidwyd adran 30(1) gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), Atodlen 12, paragraffau 12 a 15(1) a (2).