Datgelu dogfennau a deunydd arall
32.—(1) Caiff y Tribiwnlys—
(a)cyfarwyddo parti i gyflwyno i’r Tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y mae gofyn amdani neu amdano gan y Tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu’r parti hwnnw i’w chyflwyno neu gyflwyno,
(b)rhoi cyfarwyddyd ar—
(i)unrhyw fater y mae’n ofynnol datgelu tystiolaeth yn ei gylch,
(ii)natur a maint y datgeliad,
(iii)y modd y mae’r ddogfen neu dystiolaeth arall i’w darparu i’r Tribiwnlys, a
(iv)allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy’n amherthnasol, yn ddiangen neu a gafaelwyd yn amhriodol.
(2) Caiff y Tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall sy’n cael eu cyflenwi wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei roi o dan baragraff (1), bod rhaid i’r parti sy’n ei dderbyn defnyddio’r copi at ddibenion y cais yn unig.
(3) Caiff y Tribiwnlys, cyn cyflenwi copi, ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig y bydd y person sy’n rhoi’r ymrwymiad yn ufuddhau i’r amod sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (2).
(4) Caiff y Tribiwnlys ganiatáu i barti’r un fath o orchymyn ar gyfer datgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) ac y gellid ei ganiatáu o dan Reolau’r Weithdrefn Sifil 1998(1).
(5) Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys rhybudd y bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol, o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
O.S. 1998/3132 (fel y’i diwygiwyd).