xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN EPWERAU RHEOLI’R TRIBIWNLYS

Cyfarwyddiadau

26.—(1Caiff y Tribiwnlys, ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, roi pa bynnag gyfarwyddiadau i barti ar unrhyw fater sy’n codi mewn perthynas â’r cais ac sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys, gan gynnwys y math o gyfarwyddiadau sy’n cael eu darparu amdanynt yn rheolau 30, 31 a 32, i alluogi’r Tribiwnlys i benderfynu’r cais yn unol â’r amcan pennaf.

(2Rhaid i gais gan barti am gyfarwyddiadau, oni iddo gael ei wneud yn y gwrandawiad ar sylwedd y cais, gael ei wneud yn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.

(3Rhaid i barti sy’n cyflwyno cais am gyfarwyddiadau i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, oni fydd y cais yn cael ei gyflwyno ynghyd â chydsyniad ysgrifenedig y parti arall, gyflwyno copi o’r cais i’r parti arall.

(4Os bydd y parti arall yn gwrthwynebu’r cyfarwyddiadau sy’n cael eu ceisio, rhaid i’r Tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad, ac os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod angen hynny ar gyfer penderfynu’r cais, rhaid rhoi cyfle i’r partïon wneud sylwadau.

(5Os na fydd, ym marn y Tribiwnlys, amser rhesymol cyn gwrandawiad y mae hysbysiad ohono wedi cael ei roi o dan reol 36(1), i gydymffurfio â chyfarwyddyd y mae parti wedi gwneud cais amdano, caiff y Tribiwnlys—

(a)os yw o’r farn y gallai cydymffurfio â’r cyfarwyddyd gynorthwyo’r Tribiwnlys i benderfynu’r materion, ohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn o dan reol 43, neu

(b)gwrthod y cais.

(6Rhaid i gyfarwyddyd sy’n gorfodi parti i gymryd unrhyw gam ymarferol—

(a)gynnwys datganiad o’r canlyniadau posibl i’r cais, fel sy’n cael ei ddarparu gan reol 33, pe bai parti’n methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd o fewn yr amser sy’n cael ei ganiatáu gan y Tribiwnlys,

(b)oni fydd y person y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi cael cyfle i wrthwynebu’r cyfarwyddyd, neu wedi cydsynio iddo mewn ysgrifen, cynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y person hwnnw wneud cais i’r Tribiwnlys o dan reol 27 am amrywio’r cyfarwyddyd neu ei osod o’r neilltu.

(7Pan fo’n ymddangos i’r Tribiwnlys fod mater yn codi mewn perthynas â chais y mae’n rhaid ei benderfynu cyn y gwrandawiad ar sylwedd y cais, ac nad yw’n bosibl ei benderfynu’n briodol drwy roi cyfarwyddiadau heb wrandawiad, caiff y Tribiwnlys wysio’r partïon i ymddangos gerbron y Tribiwnlys at y diben hwnnw, a chaiff roi unrhyw gyfarwyddiadau angenrheidiol mewn perthynas â’u hymddangosiad.

Amrywio cyfarwyddiadau neu eu gosod o’r neilltu

27.—(1Pan na chafodd parti y mae cyfarwyddyd yn cael ei gyfeirio ato gyfle i wrthwynebu rhoi’r cyfarwyddyd hwnnw, ac nad oedd wedi cydsynio iddo mewn ysgrifen, caiff y parti hwnnw wneud cais i’r Tribiwnlys, ar unrhyw adeg, drwy hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, am i’r cyfarwyddyd gael ei amrywio neu ei osod o’r neilltu.

(2Rhaid i’r Tribiwnlys beidio ag amrywio’r cyfarwyddyd na’i osod o’r neilltu heb yn gyntaf hysbysu’r partïon ac ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud ganddynt.

Pŵer i ddileu’r cais

28.—(1Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam mewn perthynas â chais, ar gais y Comisiynydd neu os bydd y Tribiwnlys wedi cyfarwyddo felly, gyflwyno hysbysiad i’r ceisydd sy’n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.

(2Y seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) yw bod y cais—

(a)wedi ei wneud rywfodd ac eithrio’n unol â’r Rheolau hyn,

(b)heb fod o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw bellach o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys,

(c)heb ddatgelu seiliau rhesymol,

(d)yn wacsaw neu’n flinderus; neu,

(e)yn camddefnyddio, fel arall, proses y Tribiwnlys.

(3Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd y ceisydd i wneud sylwadau.

(4At ddibenion y rheol hon—

(a)rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r ceisydd y caiff y ceisydd, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant wedi eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(5Caiff y Tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau sydd wedi cael eu gwneud gan y ceisydd, orchymyn dileu’r cyfan neu ran o’r cais, ar un o’r seiliau sy’n cael eu pennu ym mharagraff (2) neu oherwydd methiant ar ran y ceisydd i symud ymlaen gyda’r achos.

(6Ceir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd y ceisydd yn gofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar.

(7Os bydd sylwadau llafar yn cael eu gwneud yn unol â pharagraff (6), caiff y Tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau’r gwrandawiad sy’n ymwneud â sylwedd y cais.

(8Os bydd y cyfan o’r cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (5), tybir bod y cais wedi ei derfynu.

Gorchymyn i ddiwygio datganiad achos

29.—(1Caiff y Tribiwnlys, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol, yn ystod unrhyw gam mewn perthynas â’r cais, orchymyn diwygio datganiad achos parti ar y sail nad yw, fel mae’n sefyll, yn datgelu seiliau rhesymol dros wneud y cais neu oherwydd ei fod yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.

(2Cyn y gall orchymyn gael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(3At ddibenion y rheol hon—

(a)rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant wedi cael eu gwneud o fewn y cyfnod sydd wedi cael ei bennu felly, a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod sydd wedi cael ei bennu felly.

Tystiolaeth a chyflwyniadau

30.—(1Caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau ar—

(a)y materion y mae’n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch,

(b)natur y dystiolaeth neu’r cyflwyniadau sy’n ofynnol,

(c)unrhyw gyfyngiadau ar dystiolaeth neu gyflwyniadau sy’n gyson â’r amcan pennaf,

(d)pa un a fydd y partïon yn cael caniatâd i ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio, neu a yw’n ofynnol iddynt wneud hynny, ac os felly, a oes raid i’r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o’r fath,

(e)y modd y gall unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau gael eu darparu, a chaiff hynny gynnwys cyfarwyddyd iddynt gael eu rhoi—

(i)ar lafar mewn gwrandawiad, neu

(ii)fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig, a

(f)yr amser erbyn pryd y bydd rhaid darparu unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau.

(2Caiff y Tribiwnlys ystyried bod methiant person, sy’n barti yn y cais, i gydymffurfio â gofyniad sy’n cael ei wneud o dan baragraff (1), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o’r fath, yn fethiant i gydweithredu â’r Tribiwnlys.

(3Caiff y Tribiwnlys—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b)(iii), dderbyn unrhyw dystiolaeth berthnasol, pa un a fyddai’r dystiolaeth honno’n dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr,

(b)allgáu tystiolaeth a fyddai, fel arall, yn dderbyniadwy—

(i)os na chafodd y dystiolaeth ei darparu o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd,

(ii)os darparwyd y dystiolaeth, rywfodd arall, mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd, neu

(iii)os byddai’n annheg, rywfodd arall, pe derbynnid y dystiolaeth.

Manylion a datganiadau atodol

31.  Caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau sy’n ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti yn darparu, naill ai yn natganiad achos y parti hwnnw neu ynghyd â’r datganiad achos, pa bynnag fanylion neu ddatganiadau atodol y mae gofyn rhesymol amdanynt ar gyfer penderfynu’r cais.

Datgelu dogfennau a deunydd arall

32.—(1Caiff y Tribiwnlys—

(a)cyfarwyddo parti i gyflwyno i’r Tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall y mae gofyn amdani neu amdano gan y Tribiwnlys, ac sydd o fewn gallu’r parti hwnnw i’w chyflwyno neu gyflwyno,

(b)rhoi cyfarwyddyd ar—

(i)unrhyw fater y mae’n ofynnol datgelu tystiolaeth yn ei gylch,

(ii)natur a maint y datgeliad,

(iii)y modd y mae’r ddogfen neu dystiolaeth arall i’w darparu i’r Tribiwnlys, a

(iv)allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy’n amherthnasol, yn ddiangen neu a gafaelwyd yn amhriodol.

(2Caiff y Tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall sy’n cael eu cyflenwi wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei roi o dan baragraff (1), bod rhaid i’r parti sy’n ei dderbyn defnyddio’r copi at ddibenion y cais yn unig.

(3Caiff y Tribiwnlys, cyn cyflenwi copi, ofyn am ymgymeriad ysgrifenedig y bydd y person sy’n rhoi’r ymrwymiad yn ufuddhau i’r amod sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (2).

(4Caiff y Tribiwnlys ganiatáu i barti’r un fath o orchymyn ar gyfer datgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) ac y gellid ei ganiatáu o dan Reolau’r Weithdrefn Sifil 1998(1).

(5Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys rhybudd y bydd unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynglŷn â datgelu neu archwilio dogfennau, yn atebol, o dan adran 126 o’r Mesur, o’i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddiadau

33.—(1Os na fydd parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheolau hyn o fewn yr amser sy’n cael ei bennu yn y cyfarwyddyd, caiff y Tribiwnlys—

(a)os y ceisydd yw’r parti diffygiol, wrthod y cais heb wrandawiad,

(b)os y Comisiynydd yw’r parti diffygiol, benderfynu’r cais heb wrandawiad,

(c)cynnal gwrandawiad—

(i)heb hysbysu’r parti diffygiol, lle na fydd y parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli, neu

(ii)pan fo’r partïon wedi eu hysbysu o’r gwrandawiad yn unol â rheol 36(1), gan roi cyfarwyddyd nad oes hawl gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson y bwriedir iddo gynrychioli’r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i gael ei glywed yn y gwrandawiad.

(2Yn y rheol hon ystyr “y parti diffygiol” (“the party in default”) yw’r parti a fethodd â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd.

Ceisiadau sydd, at ei gilydd, yn codi’r un cwestiwn

34.—(1Os oes mwy nag un cais yn galw am benderfyniad sydd, at ei gilydd, ar yr un cwestiwn, caiff y Tribiwnlys—

(a)orchymyn bod y ceisiadau hynny i’w clywed ar y cyd, neu

(b)dewis un neu ragor o’r ceisiadau hynny i fod yn gais arweiniol neu geisiadau arweiniol, gan atal y ceisiadau eraill nes y bydd y cais hwnnw, neu’r ceisiadau hynny, wedi’u penderfynu.

(2Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n amrywio neu’n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff y Tribiwnlys ddyroddi gorchymyn o dan y rheol hon ar gais ysgrifenedig gan y naill barti neu’r llall neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan.

(4Rhaid peidio â gwneud gorchymyn o dan y rheol hon onid yw’n ymddangos, ym marn y Tribiwnlys, yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o’r apeliadau yr effeithir arnynt, gael ei glywed.

Ychwanegu ac amnewid partïon

35.—(1Caiff person wneud cais am gael ei gysylltu fel parti i gais.

(2Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn i gysylltu person fel parti i gais—

(a)os bydd cais ysgrifenedig o dan baragraff (1) yn cael ei wneud, neu

(b)ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan, pan nad oes cais ysgrifenedig wedi ei wneud, ond mae’r person yn cydsynio i gael ei gysylltu fel parti i’r cais.

(3Caiff y Tribiwnlys wneud gorchymyn i amnewid parti—

(a)os yw person anghywir wedi ei enwi’n barti, neu

(b)os oes angen yr amnewid oherwydd newid yn yr amgylchiadau ers pan gychwynnwyd y cais.

(4Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (2) neu (3) caiff y Tribiwnlys wneud pa bynnag gyfarwyddiadau canlyniadol, neu ymholiadau o dan reol 24, sy’n cael eu hystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(5Oni fydd y Tribiwnlys yn cyfarwyddo’n wahanol, rhaid trin person sy’n cael ei gysylltu neu’n cael ei amnewid o dan y rheol hon fel parti at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Rheolau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfen i barti yn y cais.

(1)

O.S. 1998/3132 (fel y’i diwygiwyd).