Chwilio Deddfwriaeth

Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN DPARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD

Cyfnod datganiad achos y ceisydd

18.—(1Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y ceisydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd hysbysiad, a roddwyd o dan reol 13(1)(b)(iv), yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 63.

(2Os yw’r Tribiwnlys yn gwneud cyfarwyddyd mewn perthynas â chais yn unol â rheol 15, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd rhesymau wedi’u cael mewn ymateb i’r cyfarwyddyd.

(3Heb ragfarnu paragraff (2), os yw’r cais yn un am adolygiad gan y Tribiwnlys, o dan adran 103 o’r Mesur, o benderfyniad, neu fethiant i wneud penderfyniad, gan y Comisiynydd, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, o dan reol 16, i’r cais gael ei wneud.

Datganiad achos a thystiolaeth y ceisydd

19.—(1Rhaid i’r ceisydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)datganiad achos, a

(b)pob tystiolaeth arall y mae’r ceisydd yn bwriadu dibynnu arni ac na chafodd ei chyflwyno eisoes.

(2Os bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, caiff y ceisydd —

(a)diwygio’r hysbysiad cais,

(b)cyflwyno datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais,

(c)diwygio datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais,

(d)cyflwyno datganiad achos atodol,

(e)diwygio datganiad achos atodol.

(3Rhaid i’r ceisydd gyflwyno copi i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o bob diwygiad a datganiad atodol y bydd caniatâd wedi ei roi ar ei gyfer o dan baragraff (2), o fewn y cyfnod o amser sydd wedi cael ei ganiatáu.

(4Pan fo caniatâd o dan baragraff (2) yn cael ei roi, caiff y Tribiwnlys, os bydd angen, estyn y cyfnod datganiad achos, o dan reol 53 neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag gyfnod pellach sy’n cael ei ystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(5Os yw’r Comisiynydd, pan fydd caniatâd o dan baragraff (2) yn cael ei roi, wedi colli’r hawl i fod yn bresennol neu gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad, yn unol â rheolau 23, 25 neu 33, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer yr hawl honno ac, os bydd angen, gall y gwrandawiad, neu weddill y gwrandawiad, gael ei ohirio neu ei oedi, fel sy’n briodol er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer y Comisiynydd.

Datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd

20.—(1Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y Comisiynydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y ceisydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r Comisiynydd, yn unol â rheol 63.

(2Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)copi o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,

(b)datganiad achos, a

(c)pob tystiolaeth arall y mae’r Comisiynydd yn bwriadu dibynnu arni ac na chafodd ei chyflwyno eisoes.

(3Rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd gael ei lofnodi gan berson a awdurdodwyd i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran y Comisiynydd, a rhaid i’r datganiad achos hwnnw ddatgan a yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais ai peidio.

(4Os yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais, rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd ddatgan—

(a)ar ba seiliau y mae’r Comisiynydd yn gwrthwynebu’r cais, neu unrhyw ran o’r cais,

(b)enw a chyfeiriad cynrychiolydd y Comisiynydd ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd,

(c)y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer y Comisiynydd,

(d)crynodeb o’r ffeithiau mewn perthynas â’r penderfyniad sy’n cael ei herio, a

(e)y rheswm neu’r rhesymau dros y penderfyniad sy’n cael eu herio os nad yw’r rheswm neu’r rhesymau’n gynwysedig yn yr hysbysiad o’r penderfyniad.

(5Caiff y Comisiynydd ddiwygio datganiad achos y Comisiynydd, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd.

(6Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y bydd caniatâd wedi ei roi ar ei gyfer o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod o amser sydd wedi cael ei ganiatáu.

(7Os bydd caniatâd wedi cael ei roi o dan baragraff (5), caiff y Tribiwnlys estyn y cyfnod datganiad achos o dan reol 53, neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag gyfnod pellach sy’n cael ei ystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(8Os yw’r ceisydd, pan fydd caniatâd yn cael ei roi o dan baragraff (5), wedi colli’r hawl i fod yn bresennol neu gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad yn unol â rheol 25, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer yr hawl honno ac, os bydd angen, gall gwrandawiad, neu weddill y gwrandawiad, gael ei ohirio neu ei oedi, fel sy’n briodol, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer y ceisydd.

Datganiad achos y ceisydd mewn ymateb

21.—(1Caiff y ceisydd, cyn diwedd y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (2), gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos sy’n ymateb i’r hwnnw sy’n eiddo i’r Comisiynydd.

(2Y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (1) yw 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y Comisiynydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 62.

Copïau o ddogfennau i’r partïon

22.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)anfon copi at y Comisiynydd o unrhyw ddiwygiad i’r hysbysiad cais a ddaw i law yn ystod y cyfnod datganiad achos,

(b)anfon copi o ddatganiad achos a thystiolaeth ysgrifenedig y naill barti at y llall, a

(c)anfon ar unwaith at y parti arall gopïau o unrhyw ddiwygiadau neu ddatganiadau atodol, sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfennau eraill a ddaw i law o barti ar ôl diwedd y cyfnod datganiad achos.

(2Os bydd hysbysiad cais, datganiad achos, diwygiad, datganiad atodol, sylw ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall yn cael eu cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ôl yr amser sy’n cael ei ragnodi gan y Rheolau hyn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon copi o’r hyn sydd wedi ei gyflwyno felly at y parti arall, oni fydd y terfyn amser wedi ei estyn gan y Tribiwnlys o dan reol 53.

(3Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn anfon unrhyw gopïau o ddogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) at barti sydd eisoes wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys, wrth ymateb i ymholiadau a wnaed o dan reol 24(a)(i) a (ii), nad yw’r parti’n dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ofyn a yw’r parti’n dymuno newid yr ymateb hwnnw ar sail y dogfennau hynny.

Methiant ar ran y Comisiynydd i gyflwyno datganiad achos neu absenoldeb gwrthwynebiad

23.—(1Caiff y Tribiwnlys benderfynu’r cais, heb wrandawiad neu drwy gynnal gwrandawiad—

(a)os na fydd Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi cael datganiad achos gan y Comisiynydd o fewn y cyfnod datganiad achos,

(b)os yw’r Comisiynydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw am wrthwynebu’r cais, neu

(c)os yw’r Comisiynydd yn tynnu’n ôl gwrthwynebiad i’r cais.

(2Pan fo’r Tribiwnlys yn penderfynu’r cais heb wrandawiad, rhaid iddo wneud hynny ar sail yr hysbysiad cais ac unrhyw ddogfennau eraill a ddaeth i law.

(3Os yw’r Tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn unol â pharagraff (1), caiff ddyroddi cyfarwyddyd sy’n gwahardd y Comisiynydd rhag bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael cynrychiolaeth yn y gwrandawiad.

Ymholiadau gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

24.  Caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg ar ôl cael yr hysbysiad cais—

(a)gofyn i bob parti—

(i)pa un ai yw’r parti’n bwriadu bod yn bresennol yn y gwrandawiad ai peidio,

(ii)a yw’r parti’n dymuno cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheol 45 ac os felly, enw’r cynrychiolydd,

(iii)a yw’r parti’n bwriadu galw tystion ac os felly, enwau’r tystion arfaethedig, ac a oes arbenigwr yn eu plith,

(iv)a oes ar y parti, neu dyst, angen cymorth oherwydd nam cyfathrebu, ac os felly, manylion y math o gymorth cyfathrebu sy’n ofynnol, a

(v)a oes gan y parti, neu dyst sy’n bwriadu cael ei alw, unrhyw anableddau a allai olygu y byddai’n ofynnol gwneud addasiadau rhesymol ac, os felly, manylion y math o addasiadau sy’n ofynnol,

(b)rhoi gwybod i bob parti bod rhaid, os digwydd i ateb i unrhyw un o’r ymholiadau o dan is-baragraff (a) newid ar ôl i barti ymateb i’r ymholiadau hynny, i’r parti dan sylw roi gwybod ar unwaith i Ysgrifennydd y Tribiwnlys mewn ysgrifen.

Methiant i ymateb i ymholiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

25.—(1Caiff y Tribiwnlys orchymyn—

(a)bod yr hysbysiad cais yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant y ceisydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu, neu’n oedi, gwrandawiad teg o’r cais,

(b)na chaiff y Comisiynydd gymryd unrhyw gam pellach mewn perthynas â’r cais, na bod yn bresennol yn y gwrandawiad, na chael cynrychiolaeth yno, ar y sail bod methiant y Comisiynydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu neu’n oedi gwrandawiad teg o’r cais.

(2Cyn y gall orchymyn gael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(3At ddibenion y rheol hon—

(a)rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

(ii)yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(4Os bydd hysbysiad cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (1)(a), tybir bod y cais wedi ei derfynu.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill