xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN CCYCHWYN CEISIADAU

Cychwyn cais

10.  Rhaid gwneud cais i’r Tribiwnlys drwy gyflwyno i’r Tribiwnlys ddogfen ysgrifenedig, sy’n cael ei chyfeirio ati fel hysbysiad cais, yn unol â’r Rheolau hyn.

Cyfnod sy’n cael ei ganiatáu ar gyfer gwneud cais

11.—(1Rhaid i hysbysiad cais ddod i law’r Tribiwnlys ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau gyda’r dyddiad pan roddwyd i’r ceisydd yr hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad ar ran y Comisiynydd sy’n cael ei herio.

(2Yn ddarostyngedig i reol 14, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried cais oni chafodd ei gychwyn yn unol â pharagraff (1).

Hysbysiad cais

12.—(1Rhaid i’r hysbysiad cais ddatgan—

(a)enw a chyfeiriad y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,

(b)enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd sydd wedi ei benodi gan y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw,

(c)cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y ceisydd,

(d)y dyddiad y cafodd y ceisydd gadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,

(e)y rheswm neu’r rhesymau dros wneud y cais,

(f)y canlyniad mae’r ceisydd am gael, a

(g)yr iaith y mae’r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, os oes un, yn dymuno derbyn cyfathrebiadau oddi wrth y Tribiwnlys ynddi.

(2Rhaid cyflwyno’r hysbysiad cais ynghyd â chopi o hysbysiad o’r penderfyniad sy’n cael ei herio.

(3Rhaid i’r hysbysiad cais gael ei lofnodi gan y ceisydd, neu gan gynrychiolydd y person hwnnw, os oes un.

(4Os yw’r ceisydd yn dymuno gofyn i’r Tribiwnlys arfer y pŵer o dan reol 14 i ystyried y cais er iddo ddod i law’r Tribiwnlys ar ôl yr amser sy’n cael ei bennu gan reol 11(1), rhaid i’r hysbysiad cais—

(a)gwneud hynny’n glir, a

(b)cynnwys datganiad o’r rhesymau pam y dylai’r Tribiwnlys arfer y pŵer hwnnw.

Gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys

13.—(1Pan ddaw’r hysbysiad cais i law, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—

(a)cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr, a

(b)anfon at y ceisydd—

(i)cydnabyddiaeth o’i dderbyn a nodyn o rif yr achos sydd wedi cael ei gofnodi yn y Gofrestr,

(ii)nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,

(iii)hysbysiad bod modd cael cyngor ynghylch gweithdrefnau’r Tribiwnlys o swyddfa’r Tribiwnlys,

(iv)yn ddarostyngedig i reol 18(2) a (3), hysbysiad sy’n datgan yr amser sy’n cael ei ganiatáu o dan reol 18 ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth y ceisydd, a

(v)datganiad o’r canlyniadau posibl i’r cais os na fydd parti’n cydymffurfio â rheol 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu).

(2Yr un pryd ag y bydd yr hysbysiad sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (1)(b)(iv) yn cael ei anfon at y ceisydd, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon at y Comisiynydd—

(a)copi o’r hysbysiad cais ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig,

(b)nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,

(c)hysbysiad sy’n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd o dan reol 20(1), a’r canlyniadau os na fydd hynny’n cael ei wneud,

(d)datganiad o’r canlyniadau posibl i’r achos os nad yw parti’n cydymffurfio â rheol 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu), a

(e)yn achos apêl o dan adrannau 95(2) neu 99 o’r Mesur, cais i’r Comisiynydd ddatgelu i’r Tribiwnlys manylion cyswllt y person neu’r personau a wnaeth y cwyn perthnasol (yn achos apêl o dan adran 95(2)) neu rhai’r person y bu’r ymchwiliad yn ymwneud ag ef (yn achos apêl o dan adran 99).

(3Pan fo’r Tribiwnlys o’r farn, ar sail yr hysbysiad cais, bod y ceisydd yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i bwerau’r Tribiwnlys, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn hytrach na rhoi hysbysiad i’r ceisydd o dan baragraff (1), roi hysbysiad i’r ceisydd —

(a)sy’n datgan y rhesymau dros y farn honno, a

(b)sy’n rhoi gwybod i’r ceisydd—

(i)na fydd y cais yn cael ei gofnodi yn y Gofrestr oni fydd y ceisydd yn gwneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys am ganiatâd i fynd ymlaen â’r cais, a’r Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, a

(ii)y bydd yr hysbysiad cais yn cael ei ddileu oni fydd y ceisydd wedi gwneud cais, o fewn 3 mis iddo dderbyn hysbysiad o dan y paragraff hwn, am ganiatâd i fynd ymlaen â’r cais, neu os bydd cais felly wedi cael ei wrthod.

(4Caiff y Tribiwnlys, cyn penderfynu unrhyw gais o dan baragraff (3), wahodd sylwadau ysgrifenedig, neu sylwadau ysgrifenedig pellach, oddi wrth y ceisydd, y Comisiynydd, neu unrhyw berson arall sydd, ym marn y Tribiwnlys, â diddordeb digonol yn yr achos.

(5Os yw’r Tribiwnlys, ar ôl ystyried cais o dan baragraff (3), yn rhoi caniatâd i fynd ymlaen â’r cais rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys drin yr hysbysiad cais fel un sydd wedi ei gael at ddibenion paragraff (1), a’i gofnodi yn y Gofrestr yn unol â’r paragraff hwnnw.

(6Caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro unrhyw wall amlwg yn yr hysbysiad cais os yw’n ymddangos i’r Ysgrifennydd fod y gwall hwnnw wedi ei achosi gan lithriad neu hepgoriad damweiniol.

(7Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (6), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r ceisydd o’r cywiriad, a datgan effaith paragraff (8).

(8Rhaid trin yr hysbysiad cais fel y bydd wedi ei gywiro fel yr hysbysiad cais at ddibenion y Rheolau hyn, oni fydd y ceisydd yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ei fod yn gwrthwynebu’r cywiriad, o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi’r hysbysiad o dan baragraff (7).

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â’r cais at y ceisydd.

(10Mae’r paragraff hwn yn gymwys os bydd y ceisydd wedi hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynglŷn â’r cais at y cynrychiolydd yn hytrach nag at y ceisydd.

(11Os bydd paragraff (10) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheolau hyn (sut bynnag y maent yn cael eu mynegi) at anfon dogfennau at y ceisydd, neu roi hysbysiad i’r ceisydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu roi hysbysiad i’r cynrychiolydd.

(12Os daw manylion cyswllt person i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys mewn ymateb i gais i’r Comisiynydd o dan baragraff (2)(e), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, mor fuan â phosibl, anfon copi o’r hysbysiad cais i’r person o dan sylw a’i hysbysu o’r hawl i wneud cais i gael ei ychwanegu fel parti o dan reol 35.

Cais sy’n cael ei wneud y tu allan i’r amser

14.—(1Caiff y Tribiwnlys ystyried unrhyw gais sy’n dod i law’r Tribiwnlys ar ôl diwedd y cyfnod sy’n cael ei bennu gan reol 11(1) os yw’r Tribiwnlys wedi ei fodloni bod rheswm da—

(a)dros y methiant i wneud y cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw, a

(b)os oedd unrhyw oedi wedi bod cyn gofyn am ganiatâd i wneud cais ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, dros yr oedi hwnnw.

(2Caiff y Tribiwnlys geisio gwybodaeth bellach gan y ceisydd cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).

Digonolrwydd y rhesymau

15.—(1Os nad yw’r datganiad o’r rhesymau dros wneud y cais sy’n cael ei gynnwys yn yr hysbysiad cais, neu sy’n cael ei gyflwyno ynghyd â’r hysbysiad cais, yn ddigonol ym marn y Tribiwnlys i alluogi’r Comisiynydd i ymateb i’r cais, rhaid i’r Tribiwnlys gyfarwyddo’r ceisydd i anfon manylion, neu fanylion pellach, o’r rhesymau hynny at Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl rhoi’r cyfarwyddyd.

(2Mae rheol 33 yn gymwys i gyfarwyddyd o dan baragraff (1).

(3Mae unrhyw resymau sy’n cael eu hanfon mewn ymateb i gyfarwyddyd o dan baragraff (1) i’w trin fel pe baent yn rhan o’r hysbysiad cais.

Rhoi neu wrthod caniatâd i wneud cais am adolygiad o benderfyniad gan y Comisiynydd

16.—(1Os daw i law’r Tribiwnlys hysbysiad cais sy’n cynnwys cais am adolygiad, o dan adran 103 o’r Mesur, o benderfyniad gan y Comisiynydd, ni ystyrir, at bwrpas rheol 13, fod y cais hwnnw wedi dod i law hyd nes bydd y Tribiwnlys wedi penderfynu—

(a)bod disgwyliad rhesymol y bydd y cais yn llwyddo, neu

(b)bod rhyw reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed.

(2Os yw’r Tribiwnlys o’r farn fod paragraff (1)(a) neu (1)(b) yn gymwys, rhaid i’r Tribiwnlys roi caniatâd i’r cais gael ei wneud a rhaid iddo wedyn gael ei drin fel un a ddaeth i law, at bwrpas rheol 13, a rhaid iddo gael ei ystyried ymhellach yn unol â’r Rheolau hyn.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), os nad yw’r Tribiwnlys o’r farn fod naill ai paragraff 1(a) neu 1(b) yn gymwys, rhaid i’r Tribiwnlys wrthod caniatâd i’r cais gael ei wneud ac ni fydd y cais yn cael ei ystyried ymhellach.

(4Os yw’r cais wedi ei seilio ar fwy nac un sail, ac os yw’r Tribiwnlys yn penderfynu bod gofynion paragraff (2) wedi’u diwallu mewn perthynas ag un neu ragor o’r seiliau hynny, ond nid mewn perthynas â gweddill y seiliau, rhaid i’r Tribiwnlys roi caniatâd i’r cais gael ei wneud ar yr amod y bydd ystyriaeth bellach ohono’n cael ei chyfyngu i’r sail neu seiliau perthnasol.

(5Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, mor fuan ag sy’n ymarferol—

(a)hysbysu’r ceisydd a’r Comisiynydd o benderfyniad y Tribiwnlys o dan baragraff (1), a

(b)cofnodi’r penderfyniad hwnnw yn y Gofrestr.

(6Rhaid i hysbysiad sy’n cael ei roi o dan baragraff (5)—

(a)cynnwys rhesymau’r Tribiwnlys dros ddod i’w benderfyniad, a

(b)cynnwys canllawiau, mewn ffurf a gymeradwywyd gan y Llywydd, am—

(i)yr amgylchiadau sy’n rhoi hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, a

(ii)y weithdrefn mae’n rhaid ei dilyn.

(7Caiff swyddogaeth y Tribiwnlys o dan baragraff (1) ei harfer—

(a)gan y Llywydd, neu gan aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith, ac sydd wedi ei awdurdodi gan y Llywydd i arfer y swyddogaeth honno, a

(b)heb wrandawiad.

(8Os bydd caniatâd i’r cais gael ei wneud—

(a)wedi ei wrthod o dan baragraff (3), neu

(b)wedi ei roi’n amodol o dan baragraff (4),

caiff y ceisydd hawlio bod y penderfyniad hwnnw’n cael ei ail-ystyried gan banel tribiwnlys mewn gwrandawiad.

(9Rhaid i hawliad o dan baragraff (8) gael ei hysbysu mewn ysgrifen a dod i law’r Tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i’r diwrnod rhaid ystyried, yn unol â rheol 62, fod y ceisydd wedi cael yr hysbysiad arno o dan baragraff (5).

(10Mae paragraffau (1) i (4), a rheolau 36 (ac eithrio paragraff (4)(b)(ii)), 38, 39(1), (2) a (5), 43, 44, 45, 46 a 47 yn gymwys i wrandawiad o dan baragraff (8).

(11Os bydd panel tribiwnlys, ar ôl gwrandawiad o dan baragraff (8), o’r farn—

(a)nad oes disgwyliad rhesymol y byddai’r cais am adolygiad yn llwyddo, a

(b)nad oes unrhyw reswm cryf arall pam y dylai’r cais gael ei glywed,

rhaid i’r panel roi caniatâd ffurfiol i wneud y cais am adolygiad ond wedyn gwrthod y cais hwnnw.

Penodi cynrychiolwyr

17.—(1Heb ragfarnu rheol 12(1)(b), caiff unrhyw barti, trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—

(a)penodi cynrychiolydd,

(b)penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle’r cynrychiolydd a gafodd ei benodi yn flaenorol ac y mae ei benodiad yn cael ei ddiddymu gan y penodiad diweddarach,

(c)datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd y parti hwnnw, gan ddiddymu unrhyw benodiad blaenorol.

(2Pan fo penodiad yn cael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i’r parti perthnasol roi enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt y cynrychiolydd a benodwyd.