- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Archwilio Cyhoeddus, Cymru
Gwnaed
14 Ionawr 2014
Yn dod i rym
1 Ebrill 2014
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 30(2) a 33(2) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 30(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (Diwygiadau Canlyniadol) 2014 a daw i rym ar 1 Ebrill 2014.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn adran 145B(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2), yn lle paragraff (b) rhodder—
“(b)audit their accounts for a financial year. ”
3.—(1) Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 68(1), yn lle “Auditor General for Wales” rhodder “Wales Audit Office”.
(3) Yn unol â hynny, mae pennawd adran 68 yn newid i “Transfer of property etc to Wales Audit Office”.
(4) Yn Atodlen 3, yn lle “Auditor General for Wales” ym mhob man lle y mae’n digwydd, rhodder “Wales Audit Office”.
Jane Hutt
Y Gweinidog Cyllid, un o Weinidogion Cymru
14 Ionawr 2014
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ddileu’r cyfeiriad at aelodau staff Archwilydd Cyffredinol Cymru (“ACC”).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diwygio adran 68 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004, ac Atodlen 3 iddi, i roi cyfeiriadau at Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”) yn lle cyfeiriadau at ACC.
Mae’r diwygiadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”) sy’n gwneud darpariaeth i ddiwygio trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn rhagnodi bod swyddfa ACC i barhau, ond ar delerau penodedig, ac yn creu corff corfforaethol newydd, SAC, y mae’n rhoi swyddogaethau iddi. Mae hefyd yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff ACC i SAC.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys