xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2014 Rhif 3256 (Cy. 331)

Gwasanaethau Tân Ac Achub, Cymru

Pensiynau, Cymru

Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014

Gwnaed

8 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

10 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2014

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer pwerau a roddir gan adrannau 34, 60 a 62(1) o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004(2).

Yn unol ag adran 34(5) o’r Ddeddf honno, ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â’r personau hynny a oedd yn briodol, yn eu barn hwy, cyn gwneud y Gorchymyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Rhagfyr 2014 ond yn ddarostyngedig i baragraff (3) mae’n cael effaith o 1 Ebrill 2014.

(3Mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 a’r darpariaethau a ganlyn o’r Atodlen yn cael effaith o 1 Ebrill 2006—

(a)paragraff 1(2), (3), (4)(a), (b)(ii), (iii) a (iv), (5)(a)(ii) a (6);

(b)paragraff 2(2)(a) ac (c);

(c)paragraffau 3, 4 a 5;

(d)paragraff 7(2)(b) a (3);

(e)paragraffau 8, 9, 10 ac 11;

(f)paragraffau 1(1), 2(1) a 7(1) i’r graddau y mae’n angenrheidiol at ddibenion is-baragraffau (a) i (e).

(4Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Cynllun Digolledu” (“the Compensation Scheme”) yw’r Cynllun a nodir yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(3);

mae i “diffoddwr tân wrth gefn” yr ystyr a roddir i “retained firefighter” yn y Cynllun Digolledu (fel y’i diwygiwyd gan y Gorchymyn hwn).

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 wedi ei diwygio’n unol â’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

Darpariaethau trosiannol

3.—(1Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 a pharagraffau 6 (dyfarndaliad ar gyfer neu mewn perthynas â diffoddwr tân wrth gefn neu wirfoddol) a 7 (atal dyblygu) o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn i gael effaith mewn perthynas â pherson y mae dyfarniad neu benderfyniad perthnasol wedi ei wneud mewn cysylltiad ag ef cyn 1 Ebrill 2014 o ran a yw anaf cymwys (gan ddod o fewn ystyr rheol 7 o Ran 1 o’r Cynllun Digolledu) wedi peri marwolaeth neu anabledd parhaol.

(2Nid yw’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 a pharagraffau 6 a 7 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn i gael effaith mewn perthynas â pherson sydd wedi bod mewn cyflogaeth barhaus fel diffoddwr tân wrth gefn er 5 Ebrill 2006 ac sydd wedi dioddef anaf wrth gyflawni dyletswyddau’r person fel diffoddwr tân cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i rym, pan ddyfernir wedi hynny fod yr anaf yn anaf cymwys (gan ddod o fewn ystyr rheol 7 o Ran 1 o’r Cynllun Digolledu) a bod y person yn dioddef o anabledd parhaol o ganlyniad i’r anaf hwnnw.

(3Mewn achos y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo ac mewn perthynas â’r darpariaethau a grybwyllir yn y paragraff dan sylw, mae darpariaethau’r Cynllun Digolledu, ar y ffurf yr oeddent yn bodoli yn union cyn 1 Ebrill 2014, i barhau i gael effaith mewn perthynas â pherson o’r fath.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

8 Rhagfyr 2014

Erthygl 2

YR ATODLENDiwygiadau i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

Diwygiadau i Ran 1 (darpariaethau cyffredinol)

1.—(1Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 2(1) (dehongli)—

(a)yn lle’r diffiniad o “pensionable pay” rhodder—

“pensionable pay”—

(a)

in relation to a person who is a member of the 1992 Scheme, is to be construed in accordance with rule G1 of that Scheme;

(b)

in relation to a person who is a member of the 2007 Scheme, is to be construed in accordance with rule 1 of Part 11 of that Scheme; and

(c)

in the case of a person who is not a member of either scheme, is to be construed in accordance with rule 11 of this Part;;

(b)yn y man priodol mewnosoder—

“relevant service”, except in rule 1 of Part 7 (servicemen) and rule 1 of Part 7A (reservists), means service which either was, or would, but for an election under rule G3 of the 1992 Scheme or rule 5 of Part 2 of the 2007 Scheme or a failure to elect under rule G2A of the 1992 Scheme or rule 4 of Part 11 of the 2007 Scheme, have been reckonable as pensionable service;;

(c)yn lle’r diffiniadau o “retained firefighter” a “retained or volunteer firefighter” rhodder—

“retained firefighter” means a person who is employed by an authority—

(a)

as a retained firefighter, but not as a regular firefighter or a volunteer firefighter,

(b)

on terms under which the person is, or may be, required to engage in fire-fighting or, without a break in continuity of such employment, may be required to perform other duties appropriate to their role as a firefighter (whether instead of, or in addition to, engaging in fire-fighting),

(c)

otherwise than in a temporary capacity, and

(d)

who is obliged to attend at such times as the officer in charge considers necessary, and in accordance with the orders that the person receives;;

(d)yn y man priodol mewnosoder—

“volunteer firefighter” means a person who is employed by an authority—

(a)

as a volunteer firefighter but not as a regular firefighter or a retained firefighter,

(b)

on terms under which the person is, or may be, required to engage in fire-fighting or may be required to perform other duties appropriate to their role as a firefighter (whether instead of, or in addition to, engaging in fire-fighting),

(c)

otherwise than in a temporary capacity, and

(d)

who is obliged to attend at such times as the officer in charge considers necessary, and in accordance with the orders that the person receives; .

(3Yn rheol 3—

(a)yn lle’r pennawd rhodder—

Exclusive application to regular and retained firefighters;

(b)ym mharagraff (1) yn lle “regular firefighters” rhodder “regular and retained firefighters”;

(c)ym mharagraff (2) yn lle “regular firefighter” rhodder “regular or retained firefighter”.

(4Yn rheol 6 (cyfrif gwasanaeth at ddiben dyfarnu)—

(a)ym mharagraff (2) yn lle “regular firefighter” rhodder “regular or retained firefighter”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)yn lle “retained or volunteer firefighter” rhodder “volunteer firefighter”;

(ii)hepgorer “and Part 2 of Schedule 2”;

(iii)ar ôl “any period of service” mewnosoder “as a retained firefighter or”; a

(iv)yn lle “pensionable service” rhodder “relevant service”.

(5Yn rheol 7 (anaf cymwys)

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (b) hepgorer “retained or”; a

(ii)yn lle “regular firefighter” rhodder “regular or retained firefighter”;

(b)ym mharagraff (3) hepgorer y geiriau—

(i)“and paragraph (4) of rule 3 of Part 10”; a

(ii)“retained or”.

(6Ar ôl rheol 10 (dyddiad effeithiol yr ymddeoliad), mewnosoder—

Determining pensionable pay in certain cases

11.(1) Where an award is to be calculated in respect of a person who is not, or was not, a member of the 1992 Scheme or the 2007 Scheme, the definition of “pensionable pay” is to be construed in accordance with—

(a)rule G1 of the 1992 Scheme in the case of a person who elected not to pay pension contributions under rule G3 of that Scheme;

(b)rule 1 of Part 11 of the 2007 Scheme in the case of a person who elected not to pay pension contributions under rule 5 of Part 2 of that Scheme; and

(c)rule 1 of Part 11 of the 2007 Scheme where an election had been made at different times under both schemes.

(2) Where, in accordance with paragraph (1), the definition of pensionable pay is to be construed in the case of a person in accordance with the 1992 Scheme, the award must be calculated on the basis of the pay which would have been the person’s average pensionable pay if the person had not made an election.

(3) Where, in accordance with paragraph (1), the definition of pensionable pay is to be construed in the case of a person in accordance with the 2007 Scheme, the award must be calculated on the basis of the pay which would have been the person’s final pensionable pay if the person had not made an election.

(4) For the purposes of calculating a retained firefighter’s pensionable pay (whether or note that person is or was a member of the 2007 Scheme), a fire and rescue authority must determine the period of the person’s service from their records.

(5) Where an authority are not able to determine the period of the person’s service from their records, the person, or any other person entitled to an award under this Scheme, may provide the authority with documents to assist them to determine the person’s period of service.

(6) Where an authority are not able to determine the period of the person’s service and the authority do not hold records of that person’s pay for that period, and the necessary documents cannot be provided in accordance with paragraph (5), the authority may estimate the person’s pensionable pay for that period from the records which they hold and may in particular make the estimate on the basis of the average of recent pay data for retained firefighters at the same station or stations as that at which the person was based for the relevant period.

Diwygiadau i Ran 2 (dyfarndaliadau anafiadau a digolledu mewn perthynas â dyletswydd)

2.—(1Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 2 (diffoddwyr tân rhan-amser, wrth gefn a gwirfoddol)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle “this Part” rhodder “rule 1” a hepgorer “by virtue of which his pensionable service is reckonable”;

(b)ym mharagraff (2)(a) hepgorer “retained or”;

(c)ym mharagraff (2)(b) yn lle “this Part” rhodder “rule 1”; a

(d)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

(3) Where a person—

(a)is employed as a retained firefighter; and

(b)is entitled to an award under rule 1,

the award must be calculated in accordance with Part 3 of Schedule 1.

Diwygiadau i Ran 3 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: priodau a phartneriaid sifil)

3.—(1Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 1 (dyfarndaliad arbennig ar gyfer priod neu bartner sifil), ym mharagraff (1) a pharagraff (3), yn lle “regular firefighter” ym mhob man y digwydd rhodder “regular or retained firefighter”.

(3Yn rheol 2 (dyfarndaliad mwy ar gyfer priod neu bartner sifil), ym mharagraff (1), yn lle “regular firefighter” rhodder “regular or retained firefighter”.

Diwygiadau i Ran 4 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: plant)

4.—(1Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 1(1) (lwfans arbennig i blentyn) a rheol 2(1) (arian rhodd arbennig plentyn), yn lle “regular firefighter” ym mhob man y digwydd rhodder “regular or retained firefighter”.

(3Yn rheol 3(1) (lwfans neu arian rhodd arbennig plentyn: cyfyngiadau) yn lle “be a regular firefighter” rhodder “be either a regular or retained firefighter”.

Diwygiadau i Ran 5 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: darpariaethau ychwanegol)

5.  Yn Rhan 5, yn rheol 1(1) (pensiwn arbennig perthynas dibynnol sy’n oedolyn), rheol 2(1)(a) (arian rhodd perthynas dibynnol) a rheol 5(1)(a) (cynnydd o ran pensiynau a lwfansau yn ystod y 13 wythnos gyntaf), yn lle “regular firefighter” ym mhob man y digwydd rhodder “regular or retained firefighter”.

Diwygiadau i Ran 8 (achosion arbennig)

6.  Yn Rhan 8, yn rheol 2 (dyfarndaliad ar gyfer neu mewn perthynas â diffoddwr tân wrth gefn neu wirfoddol)—

(a)yn y pennawd i’r rheol hepgorer “retained or”;

(b)ym mharagraff (1)(a) hepgorer “retained firefighter or”; ac

(c)yn mharagraffau (5)(b) a (10)(a) a (b) hepgorer “retained or” ym mhob man y digwydd.

Diwygiadau i Ran 10 (dyfarndalu a darpariaethau ariannol)

7.—(1Mae Rhan 10 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheol 3 (atal dyblygu)—

(a)ym mharagraff (4) yn lle is-baragraff (a)(ii) rhodder—

(ii)under rule 1, 1A, 2 or 3 of Part 3 of the 2007 Scheme to an ordinary, special member’s ordinary, ill health or deferred pension, or; a

(b)ym mharagraff (6) yn lle “regular firefighter” rhodder “regular or retained firefighter”.

(3Yn rheol 4 (atal dyblygu: dyfarndaliadau anafiadau eraill i bersonau sy’n ddiffoddwyr tân rheolaidd ac wrth gefn)—

(a)ym mharagraff (2)—

(i)yn lle “both a regular firefighter and” rhodder “a volunteer firefighter and a retained firefighter or as a regular firefighter”;

(ii)hepgorer y geiriau yn is-baragraff (a);

(iii)yn is-baragraff (b)(i), ar ôl “regular firefighter” mewnosoder “or a retained firefighter”; a

(iv)yn is-baragraff (b)(ii) yn lle “retained firefighter” rhodder “volunteer firefighter”;

(b)ym mharagraff (3)—

(i)ar ôl “regular firefighter” mewnosoder “or a retained firefighter”; a

(ii)yn lle “retained firefighter” rhodder “volunteer firefighter”; ac

(c)ym mharagraff (4) yn lle “retained firefighter” rhodder “volunteer firefighter”.

(4Yn rheol 5 (atal dyblygu: dyfarndaliadau eraill ar gyfer priodau neu blant personau sy’n ddiffoddwyr tân rheolaidd ac wrth gefn), ar ddiwedd paragraff (3) mewnosoder—

(g)a survivor’s pension under rule 1 of Part 4 of the 2007 Scheme,

(h)a survivor’s bereavement pension under rule 4 of Part 4 of the 2007 Scheme,

(i)a child’s pension under rule 6 of Part 4 of the 2007 Scheme,

(j)a child’s bereavement pension under rule 9 of Part 4 of the 2007 Scheme,

(k)a death grant under rule 1 of Part 5 of the 2007 Scheme,

(l)a post-retirement death grant under rule 2 of Part 5 of the 2007 Scheme.

Diwygiadau i Atodlen 1 (dyfarndaliadau anafiadau a digolledu mewn perthynas â dyletswydd)

8.—(1Mae Atodlen 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Rhan 1 (cyfrifo dyfarndaliadau ar gyfer gwasanaeth llawn amser) hepgorer is-baragraff (2) o baragraff 1.

(3Yn Rhan 2 (cyfrifo dyfarndaliadau ar gyfer gwasanaeth rhan-amser)—

(a)ym mharagraff 1 hepgorer “by virtue of which his pensionable service is reckonable”; a

(b)ym mharagraff 2(1), yn y diffiniadau o “B”, “C” a “D”, yn lle “pensionable service” rhodder “relevant service” ym mhob man y digwydd y geiriau.

(4Yn Rhan 3 (cyfrifo dyfarndaliadau ar gyfer gwasanaeth wrth gefn neu wirfoddol) yn lle “paragraph 1(2)” rhodder “paragraph 1” ac yn lle “pensionable service” rhodder “relevant service”.

Diwygiadau i Atodlen 2 (dyfarndaliadau ar gyfer priodau a phartneriaid sifil)

9.  Yn Rhan 1 (pensiwn arbennig) o Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1 yn lle “Subject to paragraph 2” rhodder “Subject to paragraphs 2 and 3”;

(b)ym mharagraff 2, yn y diffiniadau o “B”, “C” a “D”, yn lle “pensionable service” rhodder “relevant service” ym mhob man y digwydd y geiriau; ac

(c)ar ôl paragraff 2 mewnosoder—

3.(1) Where the deceased was employed as a retained firefighter but not as a regular firefighter at the time of death, the amount of special pension must be calculated in accordance with the formula—

where—

A is the amount calculated under paragraph 1 as if the final pensionable pay was the pay which the deceased would have received had the deceased been a whole-time employee of a fire and rescue authority;

B is the period in years of the deceased’s pensionable retained service; and

C is the period in years of the deceased’s relevant service.

(2) Where the person was a member of the 2007 Scheme, neither B nor C is to exceed 40 years.

Diwygiadau i Atodlen 3 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: plant)

10.  Yn Rhan 1 (lwfans arbennig plentyn) o Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 1 yn lle “Subject to paragraph 4” rhodder “Subject to paragraphs 4 and 5”;

(b)ym mharagraff 4(1) hepgorer “which is reckonable as pensionable service,”; ac

(c)ar ôl paragraff 4 mewnosoder—

5.  Where the deceased was employed as a retained firefighter but not as a regular firefighter at the time of death, the amount of the special allowance must be calculated in accordance with the formula—

where—

A is the amount calculated under paragraphs 1 to 3 of this Part as if the final pensionable pay was the pay the deceased would have received had the deceased been a whole-time employee of a fire and rescue authority;

B is the period in years of the deceased’s pensionable retained service;

C is the period in years of the deceased’s relevant service.

Diwygiadau i Atodlen 4 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: darpariaethau ychwanegol)

11.  Yn Rhan 1 (pensiwn arbennig perthynas dibynnol sy’n oedolyn) o Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 1, yn lle “Subject to paragraphs 2 and 3” rhodder “Subject to paragraphs 2, 3 and 4”;

(b)ym mharagraff 3 hepgorer “which is reckonable as pensionable service,”; ac

(c)ar ôl paragraff 3 mewnosoder—

4.  Where the deceased was employed as a retained firefighter but not as a regular firefighter at the time of death, paragraphs 1 and 2 apply with the modification that for any reference to the deceased’s final pensionable pay there is to be be substituted the product of the formula—

where—

A is the amount of pay which the deceased would have received had the deceased been a whole-time employee of a fire and rescue authority;

B is the period in years of the deceased’s pensionable retained service;

C is the period in years of the deceased’s relevant service.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1073 (Cy. 111)) lle nodir y cynllun digolledu ar gyfer diffoddwyr tân a phobl sy’n ddibynnol ar ddiffoddwyr tân yng Nghymru (“y Cynllun Digolledu”).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn yn cynnwys darpariaethau trosiannol mewn perthynas â’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn a pharagraffau 6 a 7 o’r Atodlen iddo – maent yn darparu bod y Cynllun Digolledu, ar ei ffurf anniwygiedig, i barhau i fod yn gymwys mewn rhai amgylchiadau penodol.

Mae’r diwygiadau sydd wedi eu gwneud i reol 2 (dyfarndaliad ar gyfer neu mewn perthynas â diffoddwr tân wrth gefn neu wirfoddol) o Ran 8 (achosion arbennig) yn dileu, o 1 Ebrill 2014 ymlaen, hawl diffoddwr tân wrth gefn a oedd yn cael ei gyflogi fel diffoddwr tân wrth gefn cyn 6 Ebrill 2006 i ddyfarndaliad anaf wedi ei gyfrifo fel petai’n ddiffoddwr tân llawn amser. Mae’r newidiadau hyn yn ganlyniad i newidiadau i drefniadau pensiwn ar gyfer diffoddwyr tân wrth gefn sydd wedi eu gwneud gan Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2014 (O.S. 2014/3254 (Cy. 330)).

Mae’r diwygiadau i reol 6 (cyfrif gwasanaeth at ddiben dyfarndalu) a rheol 7 (anaf cymwys) o Ran 1 (darpariaethau cyffredinol) a’r rhai i reol 4 o Ran 10 yn ganlyniad i’r diwygiadau i reol 2.

Mae’r amrywiol ddiwygiadau sy’n rhoi “regular or retained firefighters” yn lle cyfeiriad at “regular firefighter” yn cywiro telerau cyffredinol y Cynllun Digolledu y bwriadwyd iddynt fod yn gymwys i ddiffoddwyr tân wrth gefn a ddechreuodd gael eu cyflogi fel diffoddwyr tân wrth gefn ar ôl 5 Ebrill 2006. Effaith y diwygiadau sydd wedi eu gwneud i reol 2 o Ran 8 gan y Gorchymyn hwn yw bod darpariaethau cyffredinol y Cynllun Digolledu yn gymwys i bob diffoddwr tân wrth gefn nad yw’n dod o fewn y darpariaethau trosiannol.

Mae’r diwygiadau i Ran 1 (pensiwn arbennig) o Atodlen 2 (dyfarndaliadau ar gyfer priodau a phartneriaid sifil), Rhan 1 (lwfans arbennig plentyn) o Atodlen 3 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: plant) a Rhan 1 (pensiwn arbennig perthynas dibynnol sy’n oedolyn) o Atodlen 4 (dyfarndaliadau ar farwolaeth: darpariaethau ychwanegol) yn mewnosod fformiwla i gyfrifo dyfarndaliad mewn cysylltiad â diffoddwyr tân wrth gefn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Gellir cael copïau o’r asesiad hwn oddi wrth: Is-adran Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ (ffôn 03000628219).

(1)

Breiniwyd pwerau o dan adrannau 34 a 60 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, mewn perthynas â Chymru, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 62 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.