Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014

TroseddLL+C

10.—(1Mae person yn euog o drosedd os yw’n methu â chydymffurfio—

(a)ag unrhyw rai o ddarpariaethau FIC a bennir ym mharagraff (2), fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3) a 6 ac is-baragraff cyntaf Erthygl 54(1)[F1;]

(b)â rheoliad 5(5) [F2; neu]

[F3(c)ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 828/2014 a bennir ym mharagraff (3).]

(2Y darpariaethau yn FIC yw—

(a)Erthygl 9(1)(c), fel y’i darllenir hefyd gydag Atodiad II;

(b)Erthygl 21(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 18(1) ac Atodiad II;

(c)ail is-baragraff Erthygl 21(1), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthyglau 9(1)(c) a 19(1) ac Atodiad II; a

(d)Erthygl 44(1)(a), fel y’i darllenir hefyd gydag Erthygl 9(1)(c) a rheoliad 5.

[F4(3) Y darpariaethau yn Rheoliad 828/2014 yw—

(a)Erthygl 3(1) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 1(3), 6, 7 ac 36(1) a (2) yn FIC ac Erthyglau 2 a 3(2) a (3) o Reoliad 828/2014 a’r Atodiad iddo;

(b)Erthygl 4 fel y’i darllenir gydag Erthygl 2.]