xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Diwygio) (Cymru) 2014.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Gorffennaf 2014.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009(1).

(1)

O.S. 2009/3019. Trosglwyddodd Gorchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 2009 swyddogaethau penodol a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Ddeddf Adeiladu 1984, neu oddi tani, i Weinidogion Cymru, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru. Darparodd erthygl 3(a) o’r Gorchymyn nad oedd swyddogaethau wedi eu trosglwyddo i’r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas ag adeilad ynni a eithrir fel y’i diffinnir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn.