Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Erthygl 4(2)

ATODLEN 5OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001

1.  Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2.—(1Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

(3Yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

(4Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

3.  Yn rheoliadau 3 i 7, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

4.  Yn Atodlen 1, ar ôl “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys mewn map drafft ffin â Lloegr)”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001

5.  Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

6.  Yn rheoliadau 10(2)(ch) a 15(9), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

7.—(1Mae rheoliad 17 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru (y Cyngor)” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru (CANC)”.

(3Yn is-baragraffau (b) ac (c), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002

8.  Mae Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Apelau) (Cymru) 2002(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

9.—(1Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”;

(b)yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

(3Ym mharagraff (2), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

10.  Yn rheoliadau 3(e), 6 i 10, 12 i 14, 16 a 19, yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau rheoliadau 7, 8 a 10), rhodder “CANC”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

11.—(1Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

(3Yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

(4Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002

12.  Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Dros Dro a Therfynol) (Cymru) 2002(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

13.—(1Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

(3Yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

(4Yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (ac eithrio yn y diffiniad o “y Cyngor”), rhodder “CANC”.

14.  Yn rheoliadau 3 i 10, yn lle “y Cyngor” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

15.  Yn Atodlen 1, ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Y Comisiwn Coedwigaeth” mewnosoder “(os oes gan dir sydd wedi ei gynnwys yn y map dros dro neu'r map terfynol ffin â Lloegr)”.

Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002

16.—(1Mae rheoliad 13(4) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002(6) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (d), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Hepgorer is-baragraff (dd).

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003

17.  Mae Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

18.  Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

19.—(1Mae rheoliad 4(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (b), yn lle “y Cyngor” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Hepgorer is-baragraff (ch).

Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003

20.  Mae Rheoliadau Mynediad i Cefn Gwlad (Gwahardd neu Gyfyngu Mynediad) (Cymru) 2003(8) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

21.—(1Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “y Cyngor”.

(3Yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

22.  Yn rheoliadau 12(1) a 14(7) a (9), yn lle “y Cyngor”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

Rheoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003

23.  Yn rheoliad 4(c) o Reoliadau Diogelu'r Arfordir (Hysbysiadau) (Cymru) 2003(9), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 2004

24.—(1Mae rheoliad 3(3) o Reoliadau'r Diwydiant Dŵr (Amodau Rhagnodedig) (Ymgymerwyr yng Nghymru yn Unig neu yn Bennaf) 2004(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle is-baragraff (b), rhodder—

(b)where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is wholly in Wales, the Natural Resources Body for Wales;.

(3Yn lle is-baragraff (c), rhodder—

(c)where the determination relates to an area that is the whole or part of an area of a water undertaker whose area is partly in Wales and partly in England, the Natural Resources Body for Wales and the Environment Agency;.

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

25.  Yn rheoliad 5 o Reoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004(11), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004

26.—(1Mae rheoliad 4 o Reoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004(12) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle paragraff (1) rhodder—

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas â phob cynllun neu raglen y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, mae pob un o'r cyrff canlynol yn gyrff ymgynghori—

(a)Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

(b)Cadw.

(3Ym mharagraff (2), yn lle “corff a grybwyllir ym mharagraff (1)” rhodder “Cadw”.

Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005

27.  Mae Rheoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

28.  Yn rheoliad 5(1), yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

29.  Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)CANC;.

30.  Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—

(a)rheoliad 21(1) a (2);

(b)rheoliadau 23 i 28;

(c)rheoliad 33(1);

(d)rheoliad 42(5)(a) a (6)(b)(ii);

(e)rheoliad 47(4)(b);

(f)rheoliad 49(5)(a) a (6);

(g)rheoliad 51(3) a (4)(b);

(h)rheoliad 53;

(i)rheoliad 55.

31.  Ym mhennawd Rhan 8, yn lle “Swyddogaethau'r Asiantaeth” rhodder “Swyddogaethau CANC”.

32.  Yn y darpariaethau a ganlyn, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”—

(a)rheoliad 56;

(b)rheoliad 58 (gan gynnwys y pennawd);

(c)rheoliad 60(1);

(d)rheoliadau 62 i 64 (gan gynnwys pennawd rheoliad 63).

33.  Yn rheoliad 65A(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.

34.  Yn rheoliadau 70 a 71(3), yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

35.—(1Mae Atodlen 7 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 4—

(a)yn is-baragraff (2)(a), yn lle “hysbysu'r Asiantaeth” rhodder “hysbysu CANC”;

(b)yn is-baragraff (3)(b), ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”;

(c)yn is-baragraff (4)—

(i)ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;

(ii)ar ôl “o Ogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (os traddodir y gwastraff o Loegr)”.

(3Ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (1), ar ôl “neu Ogledd Iwerddon” mewnosoder “neu Loegr”;

(b)yn is-baragraff (2)(a)(i), ar ôl “yng Ngogledd Iwerddon)” mewnosoder “neu'r Asiantaeth (pan fo'r gwastraff i'w draddodi i draddodai yn Lloegr)”.

36.  Yn Atodlen 10, yn Ffurf Hysbysiadau Cosbau Penodedig, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

37.—(1Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005(14) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “cyrff ymgynghori penodol”—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)hepgorer is-baragraff (b).

Rheoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006

38.  Yn rheoliad 18(2)(a) o Reoliadau Tir a Halogwyd yn Ymbelydrol (Addasu Deddfiadau) (Cymru) 2006(15), ar ôl “yr Asiantaeth” mewnosoder “, Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006

39.  Mae Rheoliadau Tir Halogedig (Cymru) 2006(16) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

40.  Yn rheoliadau 5(1), 7(1)(l) a 13(3)(b), ac yn Atodlen 3, ym mharagraffau 10(1) a 13, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007

41.—(1Yn yr Atodlen i Orchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007(17), mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y disgrifiad cyntaf o dir, yn y golofn gyntaf, yn lle “y Comisiynwyr Coedwigaeth” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007

42.  Yn rheoliad 7 o Reoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007(18), yn lle “Chyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

43.  Mae Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007(19) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

44.—(1Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o “cyrff ymgynghori” wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (a), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Hepgorer is-baragraff (b).

45.  Yn rheoliad 5(7)(ch), hepgorer “gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru”.

Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008

46.  Mae Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2008(20) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

47.—(1Mae rheoliad 6 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “yr Asiantaeth”.

(3Yn y man priodol mewnosoder—

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

48.  Yn rheoliadau 7(1)(a), 8(3) a 13A i 13CH, yn lle “yr Asiantaeth”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “CANC”.

49.  Yn rheoliad 49, yn lle “yr Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “CANC”.

50.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 19(1) a (2), yn lle “i'r Asiantaeth” rhodder “i CANC”.

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

51.  Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009(21) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

52.—(1Mae rheoliad 10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)cyn “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn y man cyntaf lle y mae'n ymddangos, mewnosoder “naill ai Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”;

(b)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, yn yr ail fan lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Ym mharagraff (3)(b)—

(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)ym mharagraff (iii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

53.—(1Mae rheoliad 11 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl, yn y drydedd golofn—

(a)yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

54.  Yn rheoliad 31(2), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009

55.  Yn erthygl 3(2)(a) o Orchymyn Strategaethau Troseddau ac Anhrefn (Disgrifiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2009(22), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009

56.—(1Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009(23) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y diffiniad o “y cyrff ymgynghori”, yn is-baragraff (b)—

(a)ym mharagraff (ii), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”;

(b)hepgorer paragraff (iii).

(3Yn y diffiniad o “ardal sensitif”, yn is-baragraff (e), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010

57.  Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010(24) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

58.—(1Mae rheoliad 2(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer y diffiniad o “Asiantaeth yr Amgylchedd”.

(3Yn y man priodol, mewnosoder—

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;.

59.  Yn rheoliadau 3(1)(c)(i) a 7 i 9, ac yn Atodlen 2, ym mharagraffau 5(1)(b) a 7, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” ac “Asiantaeth”, ym mhob man lle y maent yn digwydd, rhodder “CANC”.

Gorchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010

60.  Yn erthygl 2 o Orchymyn Sancsiynau Sifil Amgylcheddol (Cymru) 2010(25), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”(26).

Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010

61.  Mae Gorchymyn Rheilffordd Llangollen a Chorwen 2010(27) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

62.  Yn erthygl 9(8)(a) a phennawd erthygl 21, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

63.  Yn Atodlen 4, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd (gan gynnwys ym mhennawd yr Atodlen honno), rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010

64.  Yn erthygl 4(1)(a) o Orchymyn Pysgod Môr (Ardal Benodedig) (Gwahardd Offer Gosod) (Cymru) 2010(28), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru) 2011

65.  Mae Gorchymyn Trwyddedu Morol (Gweithgareddau Esempt) (Cymru 2011(29) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

66.  Yn erthyglau 18(1) ac 19(1), ar ôl “gan neu ar ran” mewnosoder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.

67.  Yn erthygl 25(1), yn lle “Gyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011

68.  Yn rheoliad 1(c)(ii) o Reoliadau Apelio ynghylch Gwybodaeth am Reoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (Cymru) 2011(30), ar ôl “Asiantaeth yr Amgylchedd” mewnosoder “a Chorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011

69.  Mae Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011(31) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

70.  Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “y system WasteDataFlow”, yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

71.  Yn rheoliad 3(1), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011

72.  Mae Gorchymyn Llifogydd ac Erydu Arfordirol Atodol (Cymru) 2011(32) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

73.  Yn erthygl 3(3), yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd” rhodder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru”.

74.—(1Mae erthygl 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (2)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “cyfeiriad yn adran 157(6)(a)” rhodder “cyfeiriadau yn adran 157(6)(a) a (7)(a)”;

(b)yn is-baragraff (c), ar ôl “i (e)” mewnosoder “a (7)(c)”.

(3Ym mharagraff (3), ar ôl “ei roi i” mewnosoder “Gorff Adnoddau Naturiol Cymru neu”.

75.—(1Mae erthygl 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

(b)yn is-baragraff (c)—

(i)yn y geiriau agoriadol, hepgorer “yn lle'r geiriau “the Agency””;

(ii)ym mharagraff (i), ar y dechrau mewnosoder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” in”;

(iii)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)yn lle'r geiriau “the Agency or, as the case may be, by the NRBW” in section 154(2);;

(iv)ym mharagraff (ii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW””;

(v)ym mharagraff (iii), yn lle “yn y man lle y maent yn ymddangos am yr ail a'r trydydd tro” rhodder “yn lle'r geiriau “the Agency or the NRBW” a “the Agency or, as the case may be, the NRBW””;

(c)ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder—

(d)bod adran 154(7) wedi ei hepgor.

(3Ym mharagraff (2)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “The Agency” mewnosoder “and the NRBW”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)ar ôl “the Agency” mewnosoder “or, as the case may be, the NRBW”;

(ii)hepgorer “a (6)”;

(c)yn is-baragraff (c), ar ôl “157(2)(b)” mewnosoder “a (6)”;

(d)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ca)bod y geiriau “the local authority” wedi eu rhoi yn lle'r geiriau “the NRBW” lle y maent yn ymddangos yn adran 157(7);;

(e)yn is-baragraff (ch), yn lle “157(6)(a)” rhodder “157(7)(a)”;

(f)yn is-baragraff (d), yn lle “157(6)(c) i (e)” rhodder “157(7)(c)”.

76.—(1Mae erthygl 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1)—

(a)yn is-baragraff (a)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;

(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer “am y tro cyntaf”;

(b)yn is-baragraff (b)—

(i)yn y geiriau agoriadol, ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

(ii)ym mharagraff (ii), hepgorer “am yr eildro”.

(3Ym mharagraff (2)—

(a)yn is-baragraff (a), ar ôl “Agency” mewnosoder “or by the NRBW”;

(b)yn is-baragraff (b), ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

(c)yn is-baragraff (ch), ar ôl “171(2)(b)” mewnosoder “a (6)”.

(4Ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (dd)—

(i)ar ôl “Agency” mewnosoder “or the NRBW”;

(ii)hepgorer “ac 8”;

(b)ar ôl is-baragraff (dd) mewnosoder—

(fa)bod y geiriau “or a local authority” wedi eu rhoi yn lle “, the Agency or the NRBW” ym mharagraff 8(1);.

77.  Yn erthygl 8, yn lle “Agency”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “appropriate agency”.

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012

78.  Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(33) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

79.—(1Mae erthygl 27(3) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (b), yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru” rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Hepgorer is-baragraff (c).

80.—(1Yn Atodlen 4, mae'r Tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle “Asiantaeth yr Amgylchedd”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(3Yn lle “Cyngor Cefn Gwlad Cymru”, ym mhob man lle y mae'n digwydd, rhodder “ Corff Adnoddau Naturiol Cymru”.

(10)

O.S. 2004/701 (Cy. 75) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/2035.

(12)

O.S. 2004/1656 (Cy. 170) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/1043.

(19)

O.S. 2007/2933 (Cy. 253), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/1043.

(26)

Mae Atodlen 7 yn cynnwys darpariaethau trosiannol sy'n ymwneud â'r Gorchymyn hwn.

(33)

O.S. 2012/801 (Cy. 110) fel y'i haddaswyd gan O.S. 2012/1659.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Instrument

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Instrument as a PDF

The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open yr Offeryn Cyfan

Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open Schedules only

Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill