Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2013 No. 3007 (Cy. 298)

Bwyd, Cymru

Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013

Gwnaed

27 Tachwedd 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Tachwedd 2013

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2013

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion yr adran honno mewn perthynas â mesurau sy’n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd(2) ac mewn perthynas â’r meysydd milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer amddiffyn iechyd y cyhoedd(3).

Fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(4), ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelwch Bwyd, Hylendid Bwyd a Rheolaethau Swyddogol (Hadau Egino) (Cymru) 2013.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004

2.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli) o Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004(5), yn lle’r diffiniad o “Regulation (EC) No 178/2002” rhodder y diffiniad a ganlyn—

“Regulation (EC) No 178/2002” means Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council laying down the general principles and requirements of food law, establishing the European Food Safety Authority and laying down procedures in matters of food safety, as read with Commission Implementing Regulation (EU) No 931/2011 on the traceability requirements set by Regulation (EC) No 178/2002 of the European Parliament and of the Council for food of animal origin(6), and with Commission Implementing Regulation (EU) No 208/2013 on traceability requirements for sprouts and seeds intended for the production of sprouts (7)..

Diwygio Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006

3.  Yn Atodlen 1 (diffiniadau o ddeddfwriaeth UE) i Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(8), ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 852/2004” ychwaneger y geiriau “a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor”(9).

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

4.—(1Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009(10) wedi eu diwygio yn unol â pharagraffau (2) a (3).

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn lle’r diffiniad o “y Darpariaethau Mewnforio” rhodder y diffiniad a ganlyn—

ystyr “y Darpariaethau Mewnforio” (“the Import Provisions”) yw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn, Erthyglau 15 i 24 o Reoliad 882/2004, Rheoliad 669/2009 a Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin;(11).

(3Yn rheoliad 41 (tramgwyddau a chosbau), ar ôl paragraff (1) mewnosoder y paragraff a ganlyn fel paragraff (1A)—

(1A) Bydd unrhyw berson sy’n mewnforio i Gymru neu’n rhoi ar y farchnad unrhyw egin neu hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer egino nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion ardystio Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin yn euog o dramgwydd..

Mark Drakeford

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

27 Tachwedd 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 (O.S. 2004/3279) (rheoliad 2), Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 (O.S. 2006/31 (Cy.5)) (rheoliad 3) a Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (O.S. 2009/3376 (Cy.298)) (rheoliad 4) er mwyn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliadau canlynol yr UE—

(a)Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 208/2013 ar y gofynion o ran y gallu i olrhain egin a hadau sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin (OJ Rhif L68, 12.3.2013, t.16);

(b)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 210/2013 ar gymeradwyo sefydliadau sy’n cynhyrchu egin yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 o Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L68, 12.3.2013, t.24); ac

(c)Rheoliad y Comisiwn (EU) Rhif 211/2013 ar ofynion ardystio mewnforion egin a hadau i’r Undeb sydd wedi eu bwriadu ar gyfer cynhyrchu egin (OJ Rhif L68, 12.3.2013, t.26).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o’r Asiantaeth Safonau Bwyd yn: Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Stryd Wood, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (2006 p.51) ac fe’i diwygiwyd gan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (2008 p.7) a’r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2005/1971. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p.32).

(4)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 596/2009 o Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC o ran y weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu: Addasiad i’r weithdrefn reoleiddiol ynghyd â chraffu - Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(6)

OJ Rhif L242, 20.9.2011, t.2.

(7)

OJ Rhif L68, 12.3.2013, t.16.

(9)

OJ Rhif L68, 12.3.1013, t.24.

(11)

O.J Rhif L68,12.3.2013, t.26.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill