- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
27 Tachwedd 2013
Yn dod i rym
27 Tachwedd 2013
Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 177 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 172(2)(d) o’r Mesur hwnnw ac mae wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 a daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 27 Tachwedd 2013.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Diwygir Deddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007(2) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn Atodlen 3 hepgorer paragraffau 23, 24 a 25.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991(3) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (ymwelwyr annibynnol) ym mharagraff (a)(i) hepgorer “, or a council manager of the local authority (within the meaning of section 11(4)(b) of the Local Government Act 2000 (local authority executives))”.
4.—(1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000(4) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 10 (atodol) ym mharagraff (2A) hepgorer “neu drefniadau amgen” a “neu Fwrdd” ac ym mharagraff (4) hepgorer y diffiniadau o “Bwrdd” a “trefniadau amgen”.
5.—(1) Diwygir Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(5) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer y diffiniadau o “bwrdd” a “trefniadau amgen”.
(3) Yn rheoliad 8 hepgorer paragraff (2).
(4) Yn rheoliad 9 hepgorer paragraff (2).
6.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001(6) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli Rhan II) hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”.
(3) Yn rheoliad 17 (y camau cyn y refferendwm)—
(a)ym mharagraff (7)(a), hepgorer “neu drefniadau amgen”;
(b)ym mharagraff 7(a)(i) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
(c)ym mharagraff (7)(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
(4) Yn rheoliad 20 (gofynion ynghylch cynigion)—
(a)ym mharagraff (3)(a), hepgorer “na threfniadau amgen”;
(b)ym mharagraff 3(a)(ii) hepgorer “na’r trefniadau amgen”; ac
(c)ym mharagraff 3(b), hepgorer “neu drefniadau amgen”.
(5) Yn rheoliad 24 (y camau os caiff cynigion refferendwm eu gwrthod)—
(a)ym mharagraff (1)(b) yn lle “os nad oes trefniadau amgen ar waith gan yr awdurdod bryd hynny na threfniadau gweithrediaeth” rhodder “os nad oes trefniadau gweithrediaeth ar waith gan yr awdurdod bryd hynny”;
(b)ym mharagraff (1)(c) hepgorer “neu tan y bydd wedi’i awdurdodi i weithredu trefniadau amgen yn lle ei drefniadau gweithrediaeth presennol”;
(c)hepgorer paragraff (1)(d);
(d)ym mharagraff (2)(b) hepgorer “neu’r trefniadau amgen”; ac
(e)ym mharagraff (4) hepgorer “neu drefniadau amgen”.
7.—(1) Diwygir Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(7) yn unol a’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a)hepgorer y diffiniad o “trefniadau amgen”; a
(b)yn y diffiniad o “pwyllgor trosolygu a chraffu addysg”, hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (a) a hepgorer paragraff (b).
(3) Hepgorer rheoliad 3 (trefniadau amgen).
(4) Hepgorer rheoliad 11 (cynrychiolwyr eglwysig).
8.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002(8) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) yn y diffiniad o “person perthnasol” hepgorer paragraff (b).
(3) Hepgorer rheoliad 5 (y pŵer i wneud trefniadau: gweithrediaethau maer a rheolwr cyngor).
(4) Yn rheoliad 12—
(a)hepgorer paragraff (2); a
(b)ym mharagraff (3)(c)(i) a (ii) yn lle “dwy ran o bump” rhodder “hanner”.
9.—(1) Nid yw’r Rhan hon yn effeithiol o ran awdurdod lleol os yw’r awdurdod lleol yn dal i ddefnyddio trefniadau amgen ar y diwrnod ac ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym, na chyhyd ag y bydd yn dal i ddefnyddio’r trefniadau hynny.
(2) Nid yw paragraff (1) yn effeithio ar ddyletswydd awdurdod lleol o dan adran 35 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.
10.—(1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007(9) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn Atodlen 1, yn ail golofn y tabl—
(a)yn lle “Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27D o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(10)”;
(b)yn lle “Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27F neu 27H o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”; ac
(c)yn lle “Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972” rhodder “Adran 27J neu 27L o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972”.
11.—(1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979(11) yn unol â’r erthygl hon.
(2) Yn rheoliad 4(2) (amrywio gorchmynion ynglŷn â grwpio plwyfi neu gymunedau) yn lle “or section 29” rhodder “section 27F or 27H”.
Lesley Griffiths
Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn gwneud addasiadau i ddeddfiadau y bernir eu bod yn briodol mewn cysylltiad â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaeth arbed sy’n ymddangos yn briodol mewn cysylltiad â’r Mesur.
Mae Rhan 3 o’r Mesur (trefniadau llywodraethu sydd ar gael) (adrannau 34 i 36) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau llywodraethu a ganiateir i awdurdodau lleol (cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) yng Nghymru. Mae adran 34 o’r Mesur yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) i ddileu model y weithrediaeth maer a rheolwr cyngor o blith y mathau o drefniadau gweithrediaeth sydd ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall. Mae adran 35 o’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru sy’n defnyddio trefniadau amgen roi’r gorau i wneud hynny a dechrau defnyddio math o drefniant gweithrediaeth a ganiateir yn eu lle a hynny yn unol â darpariaethau Atodlen 1. Mae adran 36 o’r Mesur yn gwneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth ac mae hefyd yn cynnwys darpariaethau arbed.
Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn hwn (trefniadau amgen a threfniadau gweithrediaeth: addasiadau a darpariaethau eraill) (Erthyglau 2 i 9) yn gwneud rhagor o ddarpariaeth ganlyniadol a darpariaeth arbed mewn cysylltiad â Rhan 3 o’r Mesur.
Mae erthygl 2 yn gwneud addasiadau canlyniadol i Ddeddf Llywodraeth Leol a Chynnwys y Cyhoedd mewn Iechyd 2007 er mwyn hepgor paragraffau 23, 24 a 25 o Atodlen 3 sy’n cynnwys cyfeiriadau at ddarpariaethau ynglŷn â threfniadau llywodraethu yn Neddf 2000 sydd wedi’u diddymu gan y Mesur.
Mae erthygl 3 yn gwneud addasiad canlyniadol i reoliad 2(a)(i) o Reoliadau Diffiniad Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991 er mwyn hepgor rheolwr cyngor o’r rhestr o bersonau y bernir eu bod yn gysylltiedig ag awdurdod lleol ac na fernir eu bod yn annibynnol ar yr awdurdod.
Mae erthygl 4 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliad 10 o Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.
Mae erthygl 5 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 8 a 9 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.
Mae erthygl 6 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 3, 17, 20 a 24 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Refferenda) (Deisebau a Chyfarwyddiadau) (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.
Mae erthygl 7 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 3 ac 11 o Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau amgen.
Mae erthygl 8 yn gwneud addasiadau canlyniadol i reoliadau 2, 5 a 12 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002 er mwyn hepgor darpariaeth ynglŷn â threfniadau gweithrediaeth maer a rheolwr cyngor a threfniadau amgen.
Mae erthygl 9 yn gwneud darpariaeth arbed ynglŷn ag awdurdodau lleol sy’n defnyddio trefniadau amgen ac y mae’n ofynnol o dan adran 35 o’r Mesur iddynt ddefnyddio yn hytrach fath o drefniadau gweithrediaeth sy’n cyd-fynd ag Atodlen 1 i’r Mesur. Effaith erthygl 9 yw caniatáu i unrhyw awdurdod sy’n defnyddio trefniadau amgen pan ddaw Rhan 2 o’r Gorchymyn i rym barhau i wneud hynny nes ei fod wedi cydymffurfio â’i ddyletswydd o dan adran 35 o’r Mesur.
Mae Rhan 7 o’r Mesur (cymunedau a chynghorau cymuned) yn gwneud newidiadau i’r fframwaith o ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â chymunedau a chynghorau cymuned, yn benodol drwy ddiwygio darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”). Mae Pennod 2 o Ran 7 (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau) yn gwneud newidiadau i’r trefniadau ynglŷn â threfnu cymunedau a’u cynghorau drwy ddiddymu adrannau 28 i 29B o Ddeddf 1972, mewnosod adrannau newydd 27A i 27M yn Neddf 1972, gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1972 a darpariaeth drosiannol.
Mae Rhan 3 o’r Gorchymyn (trefniadaeth cymunedau a’u cynghorau: addasiadau) (erthyglau 10 ac 11) yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i’r newidiadau a wnaed i Ddeddf 1972 gan Ran 7 o’r Mesur. Mae erthygl 10 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 er mwyn gosod cyfeiriad at adran 27D o Ddeddf 1972 yn lle cyfeiriad at adran 28, cyfeiriad at adran 27F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29 a chyfeiriad at adran 27J neu 27L yn lle cyfeiriad at adran 29A. Mae erthygl 11 yn diwygio erthygl 4(2) o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1979 er mwyn gosod cyfeiriad at adrannau 24F neu 27H yn lle cyfeiriad at adran 29.
O.S. 1991/892 a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/808 (Cy.89).
O.S. 2000/2993 (Cy.193) a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy. 140).
O.S. 2001/2283 (Cy.172) a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/362 (Cy. 48).
O.S. 2001/2292 (Cy.180) a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/398 (Cy. 55).
O.S. 2001/3711(Cy.307) a ddiwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101).
O.S. 2002/802 (Cy.87) a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/147 (Cy. 17).
O.S. 2007/399 (Cy.45) a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/1430, O.S. 2009/2983 (Cy. 260) ac O.S. 2010/630 (C.42).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys