- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Arbed Ynni, Cymru
Gwnaed
31 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Tachwedd 2013
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2013
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2013.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Tachwedd 2013 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011(3).
2. Mae’r prif Reoliadau wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 3.
3. Mae rheoliad 2 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(1) Yn lle’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar prawf modd” (“means-tested benefit”) rhodder—
“ystyr “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” (“means-tested benefit”) yw—
cymhorthdal incwm a budd-dal tai (pob un fel y diffinnir “income support” a “housing benefit” yn ôl eu trefn yn Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(4));
cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor (fel y diffinnir “council tax reduction scheme” yn Neddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(5));
credyd pensiwn y wladwriaeth (fel y diffinnir “state pension credit” yn Neddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(6));
credyd treth gwaith a chredyd treth plant (fel y diffinnir “working tax credit” a “child tax credit” yn ôl eu trefn yn Neddf Credydau Treth 2002(7)) cyn belled ag nad yw incwm y ceisydd yn y naill achos na’r llall yn uwch na’r trothwy incwm perthnasol;
lwfans cyflogaeth a chymorth yn seiliedig ar incwm (fel y diffinnir “income-related employment and support allowance” yn Neddf Diwygio Lles 2007(8)); ac
credyd cynhwysol (fel y diffinnir “universal credit” yn Neddf Diwygio Lles 2012(9));”
(2) Yn y diffiniad o “meddiannaeth breifat” (“private occupancy”) hepgorer “(gan gynnwys o dan drefniadau ecwiti a rennir)”.
Alun Davies
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru
31 Hydref 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2011 (O.S. 2011/656 (Cy. 94)).
Mae rheoliad 3 yn diwygio’r diffiniad o “budd-daliad sy’n dibynnu ar brawf modd” yn unol â diwygiadau i fudd-daliadau nawdd cymdeithasol i gynnwys Credyd Cynhwysol a gostyngiadau’r dreth gyngor, sy’n disodli cynllun budd-dal y dreth gyngor. Mae’r diffiniad o “meddiannaeth breifat” wedi ei ddiwygio i ganiatáu i’r rheini sydd o dan drefniadau ecwiti a rennir gael eu cynnwys yn y Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref.
1990 p. 27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53).
Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fod y swyddogaethau o dan adran 15 i fod yn arferadwy o ran Cymru ganGynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi (p. 32), mae’r swyddogaethau hynny’n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys