- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
23 Hydref 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
25 Hydref 2013
Yn dod i rym
15 Tachwedd 2013
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) (Diwygio) 2013 a deuant i rym ar 15 Tachwedd 2013.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn–—
“ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003(3).”.
2. Yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 (dehongli) yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—
“ystyr “credyd cynhwysol” (“universal credit”) yw credyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2012(4);”.
3. Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 2003 mewnosoder—
6. Yr amgylchiadau sydd wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 457(4)(b)(ai) o Ddeddf 1996(5) yw bod rhiant y disgybl yn cael credyd cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013.”
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
23 Hydref 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Peidio â Chodi Tâl sy’n Ymwneud â Theithiau Preswyl) (Cymru) 2003 er mwyn ychwanegu budd-dal neu lwfans ychwanegol sy’n rhoi’r hawl i blentyn hawlydd hawlio prydau bwyd a llety am ddim ar daith breswyl.
Mae cael Credyd Cynhwysol ar neu ar ôl 15 Tachwedd 2013 wedi ei ragnodi at ddibenion adran 457 o Ddeddf Addysg 1996.
1996 p.56. Mewnosodwyd is-adran (4)(b)(ai) o adran 457 gan Ddeddf Diwygio Lles 2012, adran 31, Atodlen 2, paragraffau 37, 38. Fe’i dygwyd i rym ar 29 Ebrill 2013: gweler O.S. 2013/983, erthygl 3(1)(b)(i). Yn rhinwedd adran 569 o Ddeddf Addysg 1996, ystyr “prescribed” yn adran 457 yw wedi ei ragnodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn rheoliadau.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac yna i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
O.S. 2003/860 (Cy.107) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/706 (Cy.109).
Ystyr “pupil” yn adran 457 yw’r person y penderfynir ar ei gymhwystra i beidio â chodi tâl arno.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys