- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
22 Hydref 2013
Yn dod i rym
25 Hydref 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 18(1) a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) a pharagraff 5 o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2013 a daw i rym ar 25 Hydref 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn:
ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998(2).
2.—(1) Ar ôl y diffiniad o “the Act” yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn mewnosoder—
““Directive 2011/24/EU” means Directive 2011/24/EU of the European Parliament and of the Council of 9 March 2011 on the application of patients’ rights in cross-border healthcare(3);
“National Contact Point” means the National Contact Point that Member States are required to designate under article 6 of Directive 2011/24/EU;”.
3.—(1) Yn erthygl 3(2)(c) o’r prif Orchymyn, ar ôl y geiriau “paragraphs (a) and (b)” dileer yr atalnodi a ganlyn “.” a mewnosoder “; and”.
(2) Ar ôl erthygl 3(2)(c) o’r prif Orchymyn, mewnosoder—
“(d)to perform the functions of the National Contact Point in Wales for the purposes of Directive 2011/24/EU as set out in regulations 3 to 6 of the National Health Service (Cross-Border Healthcare) Regulations 2013(4).”.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 er mwyn diwygio swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Mae’r swyddogaethau wedi eu diwygio er mwyn rhoi’r swyddogaeth o gyflawni swyddogaethau’r Pwynt Cyswllt Cenedlaethol yng Nghyfarwyddeb 2011/24/EU o Senedd Ewrop a’r Cyngor ddyddiedig 9 Mawrth 2011 ar gymhwyso hawliau cleifion mewn gofal iechyd trawsffiniol (“y Gyfarwyddeb”) i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Yn unol â rheoliad 2(2) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Iechyd Trawsffiniol) 2013 (O.S. 2013/2269) (“Rheoliadau 2013”), mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru ddynodi, o ran Cymru, berson neu gorff addas i fod yn bwynt cyswllt cenedlaethol at ddibenion y Gyfarwyddeb. Mae rheoliadau 3 i 6 o Reoliadau 2013 yn gosod dyletswyddau ar y pwyntiau cyswllt cenedlaethol dynodedig yng Nghymru a Lloegr o ran yr wybodaeth y mae’n ofynnol iddynt ei rhoi ar gael i gleifion preswyl (h.y. mewn perthynas â pwynt cyswllt cenedlaethol Cymru, personau sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru) a chleifion ar ymweliad (h.y. y cleifion hynny nad oes ganddynt ymlyniad at y DU fel aelod-wladwriaeth) ac yn gosod dyletswyddau ar y pwyntiau cyswllt cenedlaethol dynodedig mewn perthynas â chydweithredu â phwyntiau cyswllt cenedlaethol eraill a’r Comisiwn Ewropeaidd ac ymgynghori â’r sefydliadau sy’n cynrychioli cleifion, darparwyr iechyd ac yswirwyr.
O.S. 1998/678, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/201 (Cy.26).
OJ Rhif L.88 4.4.2011 t.45.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys