Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013

Trosedd torri gofynion yr UE ynghylch ychwanegion bwyd

3.  Mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw rai o ddarpariaethau Rheoliad 1333/2008 a bennir yng ngholofn gyntaf Tabl 1 o Atodlen 1, fel y’i darllenir gyda mesurau trosiannol a geir yn y Rheoliad hwnnw neu sydd i’w darllen gydag ef, neu sy’n defnyddio neu’n gosod ar y farchnad gynnyrch sy’n methu cydymffurfio ag unrhyw rai o’r darpariaethau hynny, yn cyflawni trosedd.