- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Traffig Ffyrdd, Cymru
Gwnaed
2 Awst 2013
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
7 Awst 2013
Yn dod i rym
2 Tachwedd 2013
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2013 a daw i rym ar 2 Tachwedd 2013, ac mae’n gymwys o ran Cymru.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 2004” (“the 2004 Act”) yw Deddf Rheoli Traffig 2004;
ystyr “y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol” (“the General Provisions Regulations”) yw Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013(3); ac
ystyr “tramgwydd traffig ffyrdd” (“road traffic contravention”) o ran Cymru, yw unrhyw un o’r canlynol:
tramgwydd parcio fel y’i disgrifir ym mharagraff 4, Rhan 1 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004;
tramgwydd lôn fysiau fel y’i disgrifir yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004; neu
tramgwydd traffig symudol fel y’i disgrifir yn Rhan 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
2. Y canllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru o dan Ran 6 o Ddeddf 2004, i awdurdodau gorfodi wrth osod lefelau taliadau ar gyfer tramgwyddau traffig ffyrdd yw’r rhai hynny a nodir yn yr Atodlen.
3. Mae Gorchymyn Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Canllawiau ar Lefelau Taliadau) (Cymru) 2008(4) drwy hyn wedi ei ddirymu.
Edwina Hart
Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Awst 2013
Erthygl 2
1.—(1) Rhaid gosod taliadau cosb ar gyfer tramgwyddau traffig ffyrdd—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (2) yn un o’r bandiau yn Nhabl 1; a
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (3) yn y band a ddewisir ar gyfer tramgwyddau lefel uwch.
(2) Rhaid gosod y lefel disgownt ar gyfer taliad cosb a delir yn gynnar (hynny yw o fewn 21 o ddiwrnodau yn achos taliadau cosb a osodwyd ar sail cofnod a gynhyrchwyd gan ddyfais a gymeradwyir o dan reoliad 10 o’r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol a 14 o ddiwrnodau ym mhob achos arall)—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch, ar y lefel a bennir yng ngholofn (4);
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall, ar y lefel a bennir yng ngholofn (5),
yn y band sy’n pennu lefelau’r taliadau cosb.
(3) Rhaid gosod lefel gordal taliad o dâl cosb wedi i dystysgrif codi tâl gael ei dyroddi—
(a)ar gyfer tramgwyddau lefel uwch ar y lefel a bennir yng ngholofn (6);
(b)ar gyfer pob tramgwydd arall ar y lefel a bennir yng ngholofn (7),
yn y band sy’n pennu lefelau’r taliadau cosb.
(1) Band | (2) Tâl cosb lefel uwch | (3) Tâl cosb lefel is | (4) Tâl cosb lefel uwch a delir yn gynnar | (5) Tâl cosb lefel is a delir yn gynnar | (6) Tâl cosb lefel uwch a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl | (7) Tâl cosb lefel is a delir ar ôl cyflwyno tystysgrif codi tâl |
---|---|---|---|---|---|---|
1. | £60 | £40 | £30 | £20 | £90 | £60 |
2. | £70 | £50 | £35 | £25 | £105 | £75 |
(4) Caiff awdurdod gorfodi osod taliadau cosb yn unol â gwahanol fandiau yn y tabl mewn gwahanol rannau o’i ardal, cyn belled â bod pob taliad ym mhob rhan yn cael ei osod yn unol â’r un band.
(5) “Tramgwyddau lefel uwch” yw’r rhai hynny a restrir yn yr Atodiad.
2. Y rhai hynny a geir yn Nhabl 2 yw’r taliadau y mae’n rhaid eu codi am symud ymaith, storio a gwaredu cerbydau a ganfyddir mewn ardal orfodi sifil.
(1) Eitem | (2) Math o dâl | (3) Swm y tâl |
---|---|---|
1. | Y tâl am symud cerbyd ymaith | £105.00 |
2 | Y tâl am storio cerbyd | £12 ar gyfer pob diwrnod, neu ran o ddiwrnod, pan fydd y cerbyd yn cael ei gadw |
3. | Y tâl am waredu cerbyd | £50.00 |
3. Rhaid i’r tâl sy’n daladwy o dan reoliad 14(2)(b) o’r Rheoliadau Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer rhyddhau cerbyd o afael dyfais i’w rwystro rhag symud fod yn £40.
4. Nid oes dim yn y canllawiau hyn yn rhagfarnu nac yn effeithio ar bwerau Gweinidogion Cymru o dan baragraff 8(3) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i ganiatáu i awdurdod gorfodi i wyro oddi wrth y canllawiau hyn.
1. Tramgwydd yn ymwneud â chyflawni trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(b) (cyfyngiadau aros a llwytho) o Atodlen 7 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”).
2. Tramgwydd yn ymwneud â gadael y cerbyd mewn man parcio ar-y-stryd ac eithrio fel a awdurdodir gan unrhyw orchymyn yn ymwneud â’r man parcio yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn, neu oddi tano—
(a)heb fod yn dangos hawlen, taleb neu docyn talu ac arddangos;
(b)mewn man lle mae parcio wedi cael ei atal;
(c)pan fo’r cerbyd yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu;
(d)pan nad yw’r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
3. Tramgwyddo’r gwaharddiad a osodir gan adran 85 (parcio dwbl etc.) o Ddeddf 2004.
4. Tramgwyddo’r gwaharddiad a osodir gan adran 86 (troetffyrdd a ostyngwyd) o Ddeddf 2004.
5. Tramgwydd sy’n cynnwys cyflawni trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(h) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (troseddau sy’n ymwneud â llwybrau beiciau).
6. Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(g) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio Cerbydau Nwyddau Trymion ar leiniau ymyl, lleiniau canol neu droetffyrdd).
7. Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(c) (peri i gerbydau aros ar groesfannau i gerddwyr neu gerllaw iddynt) neu 4(2)(i)(i) (llinellau igam-ogam gerllaw croesfannau) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
8. Tramgwydd sy’n cynnwys trosedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(i)(ii) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (marciau safleoedd bysiau neu arosfannau bysiau).
9. Tramgwydd sy’n ymwneud â throsedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(e) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 (parcio mewn mannau llwytho).
10. Tramgwydd sy’n ymwneud â throsedd o’r math y cyfeirir ato ym mharagraff 4(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf 2004 mewn perthynas â man parcio oddi-ar-y-stryd ac yn cynnwys unrhyw un neu rai o’r canlynol pan fo gorchymyn yn eu gwahardd mewn perthynas â’r man parcio—
(a)defnyddio cerbyd mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau neu gynnig neu arddangos nwyddau i’w gwerthu;
(b)parcio mewn man cyfyngedig;
(c)parcio mewn cilfan hawlenni heb arddangos hawlen;
(d)parcio mewn man parcio i berson anabl heb arddangos yn gywir fathodyn dilys person anabl;
(e)parcio cerbyd mewn man pan nad yw’r cerbyd yn dod o fewn y dosbarth o gerbyd y caniateir iddo barcio yno.
11. Tramgwydd lôn fysiau fel y’i disgrifir yn Rhan 2 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
12. Tramgwydd traffig symudol fel y’i disgrifir yn Rhan 4 o Atodlen 7 i Ddeddf 2004.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae Rhan 3 (paragraffau 7 i 9) o Atodlen 9 i Ddeddf Rheoli Traffig 2004 yn gwneud darpariaeth i awdurdodau gorfodi y tu allan i Lundain Fwyaf osod lefelau taliadau o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno (gorfodi sifil ar dramgwyddau traffig) ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r lefelau hynny gyd-fynd â chanllawiau a roddir gan yr awdurdod cenedlaethol priodol, ac eithrio pan fo’r awdurdod hwnnw yn caniatáu i awdurdod gorfodi wyro oddi wrth y canllawiau hynny.
Drwy’r Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol ar gyfer Cymru, yn rhoi i awdurdodau gorfodi yng Nghymru y canllawiau ar daliadau am dramgwyddau traffig ffyrdd a nodir yn yr Atodlen.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys