xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
16 Gorffennaf 2013
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 100 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (Cychwyn Rhif 2, Darpariaethau Arbed a Throsiannol) 2013.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2); ac
ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
2. Y diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i rym yw 19 Gorffennaf 2013, i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym.
3. Yn ddarostyngedig i erthyglau 4 a 5 y diwrnod penodedig ar gyfer dod â’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2013 i rym yw 1 Hydref 2013—
(a)Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);
(b)Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);
(c)Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);
(d)Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);
(e)Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);
(f)Atodlen 2 (newid rheoleiddiedig);
(g)Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);
(h)paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);
(i)adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a
(j)Rhan 2 o Atodlen 5.
4. Er bod Penodau 2 a 6 o Ran 3 o Ddeddf 2013 a’r diddymiadau canlyniadol yn Rhan 2 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno yn dod i rym—
(a)bydd darpariaethau adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 ac Atodlenni 6 ac 8 iddi yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan yr adrannau hynny cyn 1 Hydref 2013;
(b)bydd darpariaethau adran 30 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;
(c)bydd darpariaethau adran 32 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfarwyddwyd a roddir o dan yr adran honno cyn 1 Hydref 2013; a
(d)bydd darpariaethau adran 33 o Ddeddf 1998 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â chynigion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 neu 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.
5. Hyd nes bod adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011(3) wedi cychwyn mae’r cyfeiriad at ysgol ffederal yn adran 78 o Ddeddf 2013 i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “federated school” yn adran 24(2) o Ddeddf Addysg 2002(4).
Huw Lewis
Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2013
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Dyma’r ail orchymyn cychwyn a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (“Deddf 2013”).
Mae’r Gorchymyn hwn yn cychwyn adrannau 38 a 39 o Ddeddf 2013 i’r graddau nad yw’r adrannau hynny eisoes mewn grym ar 19 Gorffennaf 2013.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 1 Hydref 2013 y darpariaethau a ganlyn:
(a)Pennod 2 o Ran 3 (cynigion trefniadaeth ysgolion);
(b)Pennod 3 o Ran 3 (rhesymoli lleoedd ysgol);
(c)Pennod 4 o Ran 3 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig);
(d)Pennod 5 o Ran 3 (cynigion i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth);
(e)Pennod 6 o Ran 3 (darpariaethau amrywiol ac atodol);
(f)Atodlen 2 (newidiadau rheoleiddiedig);
(g)Atodlen 3 (gweithredu cynigion statudol);
(h)paragraffau 1 i 7 a pharagraffau 9 i 39 o Atodlen 4 (gweithredu cynigion i newid categori ysgol);
(i)adran 99 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r diwygiadau a wneir gan Ran 2 o Atodlen 5; a
(j)Rhan 2 o Atodlen 5.
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn arbed amryw ddarpariaethau ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) mewn perthynas ag:
(a)ynigion trefniadaeth ysgolion a gyhoeddir o dan adrannau 28, 29, 31 a 35 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013;
(b)hysbysiad gan gorff llywodraethu i derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gyflwynir o dan adran 30 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013; ac
(c)cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol i ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig gael ei therfynu a roddir o dan adran 32 o Ddeddf 1998 cyn 1 Hydref 2013.
Mae erthygl 5 o’r Gorchymyn hwn yn darparu hyd nes bod adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 wedi cychwyn fod y cyfeiriad at ysgol ffederal yn adran 78 o Ddeddf 2013 i gael effaith fel pe bai’n gyfeiriad at “federated school” yn adran 24(2) o Ddeddf Addysg 2002.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
38, 39, 97 a 98 | 26 Ebrill 2013 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn ymwneud â gwneud a gosod y Cod Trefniadaeth Ysgolion | O.S. 2013/1000 (Cy.105) |
97 a 98 | 4 Mai 2013 yn llawn | O.S. 2013/1000 (Cy.105) |