xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o ganlyniad i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (“y Ddeddf”), sy’n gwneud darpariaeth sy’n diwygio’r trefniadau archwilio cyhoeddus yng Nghymru.

Mae Rhan 1 o’r Ddeddf yn ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru (“yr Archwilydd Cyffredinol”). Mae Rhan 2 yn sefydlu corff corfforaethol newydd, sef Swyddfa Archwilio Cymru (“SAC”), ac mae’n nodi ei berthynas â’r Archwilydd Cyffredinol.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn darpariaethau penodol o’r Ddeddf i rym ar 4 Gorffennaf 2013, i alluogi i benodiadau penodol i SAC gael eu gwneud ac er mwyn i waith paratoi gael ei wneud cyn i swyddogaethau SAC ddod yn gyfan gwbl arferadwy ar 1 Ebrill 2014.

Mae holl ddarpariaethau eraill y Ddeddf yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2014 drwy erthygl 3, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym ar y dyddiad hwnnw. Mae erthygl 3 hefyd yn dwyn i rym ddiwygiadau canlyniadol penodol i is-ddeddfwriaeth ar 1 Ebrill 2014 i ddileu cyfeiriadau at archwilwyr a benodwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol, ac i gynnwys cyfeiriadau at SAC pan fo hynny’n briodol.

Mae erthygl 4 yn darparu, pan fo archwilydd corff llywodraeth leol wedi ei benodi gan yr Archwilydd Cyffredinol, y bydd darpariaethau’r rheoliadau a bennir yn parhau i gael effaith tan i benodiad yr archwilydd hwnnw ddod i ben, fel petai’r addasiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn heb gael eu gwneud.

Mae’n darparu, pan fo person wedi ei benodi yn archwilydd o dan adran 145B(5)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, y bydd y penodiad hwnnw yn parhau i gael effaith (yn ddarostyngedig i derfynu’n gynnar).

Mae hefyd yn darparu, pan ymrwymwyd i gontract o dan erthygl 4(2)(c)(v) o Orchymyn Hepgor Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, ar 31 Mawrth 2014 neu cyn hynny, y bydd y contract hwnnw yn parhau i gael effaith fel petai’r erthygl honno heb gael ei diwygio gan y Gorchymyn hwn.

Mae erthygl 5 yn gwneud darpariaeth arbed mewn perthynas â’r cyfrifon blynyddol y mae rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol eu paratoi. Mae paragraffau 13, 14 a 15 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi eu harbed at ddibenion y flwyddyn ariannol 2013-2014.