xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 22(9) o Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gwrthodiad gan ATLl i gymeradwyo defnydd penodol o dan adran 22(4)).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)hysbysiad o benderfyniad yr ATLl i wrthod caniatáu defnydd penodol o'r cyfan neu ran o'r fangre.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
6.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 34(2) o Ddeddf 2004 (cais gan lesydd neu lesddeiliad am orchymyn yn terfynu neu'n amrywio les pan fo gorchymyn gwahardd wedi dod yn weithredol).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau;
(c)copi o'r les berthnasol; ac
(ch)datganiad o enw a chyfeiriad unrhyw barti arall i'r les ac enw a chyfeiriad unrhyw barti i les isradd.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r parti arall i'r les.
7.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan adran 7(1) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)os un o seiliau'r cais yw mai un o'r ffyrdd o weithredu a grybwyllir ym mharagraff 8(2) o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 yw'r ffordd orau o weithredu ynglŷn â'r perygl, datganiad yn nodi beth yw'r ffordd honno o weithredu a rhesymau'r ceisydd dros farnu mai honno yw'r ffordd orau.
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.
8.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gais o dan baragraff 9 o Atodlen 2 i Ddeddf 2004 (apêl yn erbyn penderfyniad ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu gorchymyn gwahardd).
(2) Y dogfennau penodedig yw—
(a)copi o'r gorchymyn gwahardd (gan gynnwys unrhyw atodlen iddo);
(b)y datganiad o resymau; ac
(c)copi o benderfyniad yr ATLl i amrywio neu wrthod amrywio neu ddirymu (gan gynnwys unrhyw ddogfennau a ddyroddwyd gan yr ATLl mewn cysylltiad â'i hysbysiad o benderfyniad).
(3) Yr ymatebydd penodedig yw'r ATLl.