Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

Ceisiadau brys am awdurdodiad GRhI

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r ATLl yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais am awdurdodiad GRhI fel mater brys.

(2Os yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynwyd gyda'r cais, fod yr amgylchiadau eithriadol a grybwyllir ym mharagraff (3) yn bodoli, rhaid i'r tribiwnlys orchymyn cynnal gwrandawiad llafar (“gwrandawiad llafar brys”).

(3Yr amgylchiadau eithriadol yw'r canlynol—

(a)bod bygythiad di-oed i iechyd a diogelwch meddianwyr y tŷ neu i bersonau sy'n meddiannu, neu sydd ag ystad neu fuddiant mewn, unrhyw fangre yng nghyffiniau'r tŷ; a

(b)byddai gwneud y gorchymyn rheoli interim cyn gynted ag y bo modd (ynghyd, pan fo'n gymwys, â pha bynnag fesurau eraill y bwriada'r ATLl eu cymryd) yn galluogi'r ATLl i gymryd camau priodol yn ddi-oed i atal y bygythiad neu leihau'r bygythiad yn sylweddol.

(4Rhaid i'r tribiwnlys, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r partïon, a phob person â buddiant y mae ei enw a'i gyfeiriad yn hysbys i'r tribiwnlys, o'r canlynol—

(a)yr ymdrinnir â'r cais fel mater brys o dan y rheoliad hwn;

(b)y rhesymau pam y mae'n ymddangos i'r tribiwnlys fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli;

(c)unrhyw ofyniad sydd i'w fodloni gan barti cyn y gwrandawiad; ac

(ch)y dyddiad pan gynhelir y gwrandawiad llafar brys.

(5Ni chaiff dyddiad y gwrandawiad fod yn llai na 4 diwrnod, nac yn fwy na 10 diwrnod, ar ôl y dyddiad yr anfonir yr hysbysiad o'r gwrandawiad llafar brys.

(6Yn y gwrandawiad llafar brys, rhaid i'r tribiwnlys—

(a)os bodlonir y tribiwnlys, ar ôl clywed tystiolaeth, fod yr amgylchiadau eithriadol yn bodoli, penderfynu'r cais; neu

(b)os na fodlonir y tribiwnlys felly—

(i)gohirio'r gwrandawiad; a

(ii)rhoi pa bynnag gyfarwyddiadau a ystyrir yn briodol gan y tribiwnlys.

(7Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel—

(a)arfer y pŵer a roddir gan baragraff (2); a

(b)penderfynu dyddiad y gwrandawiad llafar brys.

(8Pan fo'r tribiwnlys yn gorchymyn cynnal gwrandawiad llafar brys o dan baragraff (2), nid yw'r darpariaethau hysbysu a gynhwysir yn y rheoliadau canlynol yn gymwys i'r cais—

(a)rheoliad 24(5) (hysbysu ynghylch archwiliad); a

(b)rheoliad 28(2) a (4) (hysbysu ynghylch gwrandawiad).