Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gweithdrefnau a Ffioedd Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig. O dan Ran 2, rheoleiddir y weithdrefn sydd i'w dilyn ar gyfer y ceisiadau ac apelau (y cyfeirir atynt ar y cyd fel ceisiadau) a wneir i dribiwnlys eiddo preswyl (“tribiwnlys”) o dan Ddeddf Tai 2004 (“Deddf 2004”), Rhan 9 o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”), sy'n ymwneud â gorchmynion dymchwel, a Deddf Cartrefi Symudol 1983 (“Deddf 1983”). Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apelau a cheisiadau penodol i dribiwnlysoedd.

Mae rheoliad 1 o Ran 1 yn pennu'r achosion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 3 o Ran 2 yn pennu'r prif amcan o ymdrin yn deg a chyfiawn â cheisiadau, a'r gofyniad i gydweithredu.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â cheisiadau am estyn yr amser ar gyfer gwneud cais, mewn achosion pan fo Deddf 2004 neu Ddeddf 1983 yn rhoi'r pŵer i dribiwnlys ganiatáu estyniad o'r fath.

Mae rheoliad 5 yn darparu, pan fo cais gan berson o dan Ddeddf 1983 yn ymwneud â mwy nag un llain neu gartref symudol, y caiff y cais gyfeirio at un ddarpariaeth yn Neddf 1983 ac mai'r nifer mwyaf o leiniau neu gartrefi symudol y caiff unrhyw gais unigol ymwneud â hwy fydd 20.

Mae rheoliad 6 yn rhoi manylion am yr wybodaeth sydd i'w chynnwys gyda chais, ac yn pennu dogfennau ychwanegol ar gyfer ceisiadau penodol, fel y'u nodir yn is-baragraff (2) o bob paragraff o'r Atodlen i'r Rheoliadau.

Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer y gweithdrefnau sy'n gymwys pan drosglwyddir mater sy'n codi o dan Ddeddf 1983 o lys i dribiwnlys.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chydnabod cais sy'n cyrraedd y tribiwnlys, ac anfon copïau o'r dogfennau at yr ymatebydd, ynghyd â hysbysiad o'r dyddiad erbyn pryd y dylai'r ymatebydd ateb y tribiwnlys.

Mae rheoliad 9 yn ymdrin ag ymateb yr ymatebydd.

Mae rheoliad 10 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo Awdurdod Tai Lleol wedi gwneud cais am awdurdodi gorchymyn rheoli interim o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004, a phan yw'n ymddangos i'r tribiwnlys, ar sail yr wybodaeth a gyflwynir gyda'r cais, fod amgylchiadau eithriadol penodedig yn bodoli.

Mae rheoliad 11 yn caniatáu i'r tribiwnlys gynnal gwrandawiad llafar ar fyr rybudd pan fo ceisydd yn gofyn i dribiwnlys ymdrin â chais o dan baragraff 8(1E) o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, neu'n gofyn am benderfyniad perthynol o dan adran 4 o Ddeddf 1983, pan fo perchennog safle a ddiogelir, y lleolir cartref symudol arno, yn gwrthod cydsynio â gwerthu'r cartref symudol neu'i roi yn rhodd.

Mae rheoliad 12 yn disgrifio'r gweithdrefnau ychwanegol sy'n gymwys mewn perthynas â chais a wneir o dan baragraff 5A o Bennod 2 o Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf 1983, am i dribiwnlys benderfynu pa un a yw cartref symudol, o ystyried ei gyflwr, yn cael effaith niweidiol ai peidio ar amwynder y safle a ddiogelir.

Mae rheoliad 13 yn ymdrin â cheisiadau am gael ymuno fel parti i'r achos.

Mae rheoliad 14 yn pennu amgylchiadau pan ganiateir penderfynu dau neu ragor o geisiadau gwahanol ar y cyd, neu benderfynu ar y cyd faterion penodol sy'n codi mewn ceisiadau gwahanol.

Mae rheoliad 15 yn darparu, pan nad yw'r ffi ar gyfer cais wedi ei thalu o fewn 14 diwrnod, y dylid ystyried bod y cais wedi'i dynnu yn ôl onid oes sail resymol dros beidio â gwneud hynny.

Mae rheoliad 16 yn galluogi cyflawni'r ddyletswydd i gyflenwi dogfen drwy'i chyflenwi i gynrychiolydd parti neu i gynrychiolydd person â buddiant, os gofynnir am hynny mewn ysgrifen.

Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn sicrhau bod personau â buddiant yn cael eu hysbysu ynglŷn â chais, gydag esboniad o'r weithdrefn ar gyfer gwneud cais i ymuno fel parti yn yr achos.

Mae rheoliad 18 yn ymdrin â dosbarthu dogfennau perthnasol gan y tribiwnlys.

Mae rheoliadau 19 ac 20 yn ymdrin â phwerau'r tribiwnlys i orchymyn cyflenwi gwybodaeth a dogfennau, ac â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o'r fath.

Mae rheoliad 21 yn galluogi'r tribiwnlys i benderfynu cais heb gynnal gwrandawiad llafar. Rhaid rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r partïon o'r bwriad i weithredu felly. Mae hawl gan y partïon i ofyn am wrandawiad llafar. Caiff aelod cymwysedig unigol o'r panel benderfynu bod cynnal gwrandawiad llafar yn briodol.

Mae rheoliad 22 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorchmynion interim, ac eithrio wrth benderfynu cais o dan adran 102(4) neu (7) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 23 yn gwneud darpariaeth weithdrefnol mewn perthynas â chyfarwyddiadau o dan bŵer cyffredinol y tribiwnlys yn adran 230(2) o Ddeddf 2004.

Mae rheoliad 24 yn ymdrin ag archwilio'r fangre a'i chyffiniau.

Mae rheoliad 25 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi tystiolaeth arbenigol gerbron tribiwnlys.

Mae rheoliad 26 yn galluogi'r tribiwnlys i gynnal cynhadledd rheoli achos (a ddiffinnir fel cynhadledd sy'n cynnwys adolygiad cyn treial) ar ôl rhoi rhybudd o ddim llai na 7 diwrnod i'r partïon.

Mae rheoliad 27 yn rhoi manylion am weddill pwerau'r tribiwnlys o ran rheoli achosion. Mae rheoliad 27(1)(a) yn caniatáu i'r tribiwnlys leihau'r amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer y gwahanol gamau mewn achos, os yw'r partïon i gyd yn cydsynio i'r cwtogiad sydd dan sylw. Mae rheoliad 27(1)(b) yn caniatáu i'r tribiwnlys estyn yr amser a bennir yn y Rheoliadau ar gyfer gwahanol gamau mewn achos.

Mae rheoliad 28 yn ymdrin â rhoi hysbysiad sy'n pennu dyddiad, amser a lleoliad gwrandawiad, a rheoliad 29 yn rhoi pŵer i'r tribiwnlys ohirio gwrandawiad.

Mae rheoliad 30 yn pennu pwerau'r tribiwnlys yn ystod gwrandawiad, a rheoliad 31 yn gwneud darpariaeth ynghylch pryd y caniateir cynnal gwrandawiad yn breifat, fel eithriad i'r rheol gyffredinol y dylid ei gynnal yn gyhoeddus.

Mae rheoliad 32 yn nodi pwy sydd â hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat, ac yn ystod trafodaethau'r tribiwnlys wrth iddo benderfynu cais.

Mae rheoliad 33 yn galluogi tribiwnlys i fynd ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti a fethodd ag ymddangos.

Mae rheoliad 34 yn pennu sut a pha bryd y bydd y tribiwnlys yn rhoi ei benderfyniad.

Mae rheoliad 35 yn darparu na chaiff y tribiwnlys ddyfarnu costau o dan ei bwerau ym mharagraff 12 o Atodlen 13 i Ddeddf 2004 heb roi cyfle i'r parti dan sylw gyflwyno sylwadau.

Mae rheoliad 36 yn pennu sut y gellir tynnu cais yn ôl, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, ac yn pennu'r gofynion y mae'n rhaid eu bodloni mewn amgylchiadau penodol fel bod tynnu'r cais yn ôl yn cael effaith.

Mae rheoliad 37 yn darparu ar gyfer gorfodi penderfyniad tribiwnlys yn y llys sirol, gyda chaniatâd y llys.

Mae rheoliad 38 yn cynnwys darpariaethau ynglŷn â cheisiadau i dribiwnlys eiddo preswyl am ganiatâd i apelio i'r Uwch Dribiwnlys (Siambr Tiroedd).

Mae rheoliad 39 yn ei gwneud yn ofynnol bod tribiwnlys yn gwneud trefniadau priodol os oes angen gwasanaeth cyfieithu, dehongli, neu gymorth arall ar unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr achos, er mwyn ei alluogi i gyfranogi'n effeithiol yn yr achos.

Mae rheoliad 40 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r hyn sy'n gyfystyr â chyflenwi dogfen neu hysbysiad o dan y Rheoliadau. Mae'r ddarpariaeth yn cynnwys yr amgylchiadau pan yw'n dderbyniol cyfathrebu drwy ffacs, cyfathrebiad electronig neu wasanaeth dosbarthu preifat.

Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer unrhyw gyfnodau, a bennir yn y Rheoliadau hyn ar gyfer cyflawni unrhyw weithred, sy'n dod i ben ar benwythnos neu ŵyl gyhoeddus. Ystyrir y bydd y weithred wedi'i chyflawni mewn pryd os cyflawnir hi ar y diwrnod gwaith nesaf sy'n dilyn.

Mae rheoliad 42 yn rhoi pŵer i'r tribiwnlys wrthod, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, unrhyw gais a ystyrir yn wacsaw, yn flinderus neu rywfodd arall yn camddefnyddio proses y tribiwnlys, ar ôl rhoi rhybudd o 14 diwrnod o leiaf i'r ceisydd.

Mae rheoliad 43 yn datgan na fydd afreoleidd-dra ar ran y partïon yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn, yn ei hunan, yn peri bod achos yn ddi-rym.

Mae rheoliad 44 yn caniatáu atgynhyrchu llofnod yn fecanyddol neu rywfodd arall, ar yr amod yr ychwanegir enw'r person sy'n llofnodi o dan y llofnod, mewn modd sy'n caniatáu adnabod y person hwnnw.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn perthynas ag apelau a cheisiadau i dribiwnlysoedd eiddo preswyl, yn gymwys mewn perthynas ag apelau a cheisiadau o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yn rheoliadau 45, 46 a 47.

Mae rheoliadau 45 a 46 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi o £150 pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o ddarpariaethau Deddf 2004 neu Ddeddf 1985 a restrir yn y rheoliadau hynny.

Mae rheoliad 47 yn ei gwneud yn ofynnol talu ffi pan wneir cais i dribiwnlys o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn Neddf 1983 a restrir yn y rheoliad hwnnw. Mae'r ffi sy'n daladwy yn amrywio rhwng £150 a £500.

Mae rheoliadau 48 a 49 yn darparu mai'r person sy'n gwneud y cais sy'n atebol i dalu'r ffi, ac yn darparu ar gyfer hepgor y ffi os yw'r person hwnnw, neu bartner y person hwnnw, yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau a restrir yn rheoliad 49(2).

Mae rheoliad 50 yn pennu'r amgylchiadau pan gaiff y tribiwnlys orchymyn un o'r partïon i'r cais i ad-dalu unrhyw ffioedd a dynnwyd gan y parti arall o dan reoliad 45, 46 neu 47.

Mae'r Atodlen i'r Rheoliadau yn rhestru ceisiadau y caniateir eu gwneud i dribiwnlys ac yn pennu, mewn perthynas â phob math o gais, y dogfennau ychwanegol y mae'n rhaid eu cynnwys gyda'r cais, ac yn nodi'r personau y ceir eu henwi fel ymatebwyr i'r cais.

Mae'r Rheoliadau yn dirymu—

(a)Rheoliadau Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Ffioedd) (Cymru) 2006(1); a

(b)Rheoliadau Gweithdrefn Tribiwnlys Eiddo Preswyl (Cymru) 2006(2).

Ni pharatowyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n cael effaith sylweddol ar y sectorau preifat a gwirfoddol.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill