Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2012 Rhif 321 (Cy.52)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012

Gwnaed

8 Chwefror 2012

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Chwefror 2012

Yn dod i rym

6 Mawrth 2012

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dod i ben

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 a deuant i rym ar 6 Mawrth 2012.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfnod treialu” (“pilot period”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 6 Mawrth 2012 ac yn dod i ben ar ddiwedd 30 Mehefin 2015;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010(3); ac

ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru.

Awdurdodau lleol ac ardaloedd penodedig

3.  At ddibenion adran 17(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009, awdurdodau lleol penodedig yw Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac ardaloedd penodedig yw eu hardaloedd.

Hawl Plentyn i apelio neu wneud hawliad i'r Tribiwnlys

4.  Yn ystod y cyfnod treialu—

(a)ni chaiff plentyn apelio i'r Tribiwnlys yn unol ag adran 322ZA o Ddeddf 1996 ond os yw awdurdod lleol penodedig yn gyfrifol am y plentyn;

(b)ni chaiff person wneud hawliad i'r Tribiwnlys yn unol â pharagraff 3A o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 bod corff sy'n gyfrifol am ysgol wedi mynd yn groes i Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ond os yw'r ysgol mewn ardal benodedig;

(c)nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan adrannau 332ZB, 332AA, 332BA a 332BB o Ddeddf 1996 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig; ac

(ch)nid yw'r dyletswyddau a osodir ar awdurdodau lleol gan baragraffau 6B, 6C a 6D o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 yn gymwys ond i'r awdurdodau lleol penodedig.

Gwybodaeth

5.  Rhaid i'r Tribiwnlys, awdurdod lleol penodedig a chorff sy'n gyfrifol am ysgol mewn ardal benodedig, cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ar ôl cael cais, roi unrhyw wybodaeth i Weinidogion Cymru y maent yn gofyn amdani er mwyn asesu, monitro a gwerthuso gweithrediad y darpariaethau sy'n cael eu treialu.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2012

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn a wnaed o dan adran 17(1) a (2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) yn dod i rym ar 6 Mawrth 2012.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i dreialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 fel y'u diwygiwyd gan Ran 1 o Fesur 2009.

Effaith y Rheoliadau hyn, o'u cymryd ynghyd â'r darpariaethau yn y Gorchymyn Cychwyn sy'n dod â Rhan 1 o Fesur 2009 i rym ar 6 Mawrth 2012, yw na fydd y darpariaethau hynny yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Gaerfyrddin a Wrecsam. Pan fydd y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith bydd y darpariaethau yn Rhan 1 o Fesur 2009 yn gymwys yn awtomatig i Gymru gyfan.

Mae rheoliad 2 yn diffinio'r cyfnod treialu.

Mae rheoliad 3 yn pennu mai Cyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a'u priod ardaloedd fydd yn treialu'r dyletswyddau a'r hawliau newydd.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth am yr hawl i wneud apêl anghenion addysgol arbennig neu wneud hawliad am wahaniaethu ar sail anabledd i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (“y Tribiwnlys”) yn ystod y cyfnod treialu ac mae'n pennu'r dyletswyddau a osodir ar Gyngor Sir Caerfyrddin a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn ystod y cyfnod treialu.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru wneud cais am wybodaeth oddi wrth y Tribiwnlys, neu Gyngor Sir Caerfyrddin, neu Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, neu gorff sy'n gyfrifol am ysgol yn Sir Gaerfyrddin neu Wrecsam.

(1)

2009 mccc 5 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2011/1651 (Cy.187).

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill