Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

YR ATODLENDarpariaethau pellach am y Corff

Statws

1.—(1Nid yw'r Corff i'w ystyried yn was nac yn asiant i'r Goron neu'n un sy'n mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2Nid yw eiddo'r Corff i'w ystyried yn eiddo'r Goron neu'n eiddo sy'n cael ei ddal ar ran y Goron.

Aelodaeth

2.—(1Rhaid i'r Corff gynnwys—

(a)cadeirydd a benodir gan Weinidogion Cymru;

(b)dim llai na 5 na mwy nag 11 o aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru;

(c)y prif weithredwr (gweler paragraff 13); a

(d)dim llai na 2 na dim mwy na 4 o aelodau eraill a benodir gan y Corff.

(2Yn achos penodiadau cychwynnol i'r Corff, mae penodiadau o dan is-baragraff (1)(d) i'w gwneud gan yr aelodau a benodir o dan is-baragraff (1)(a) i (c), ac mae'r ymadrodd “y Corff” (“the Body”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3Ni chaniateir i'r cadeirydd a'r aelodau eraill a benodir gan Weinidogion Cymru o dan is-baragraff (1)(b) fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau anweithredol” (“non-executive members”).

(4Mae'r prif weithredwr a'r aelodau eraill a benodir gan y Corff o dan is-baragraff (1)(d) i fod yn gyflogeion i'r Corff a chyfeirir atynt yn yr Atodlen hon fel “aelodau gweithredol” (“executive members”).

(5Caiff Gweinidogion Cymru benodi un o'r aelodau anweithredol yn ddirprwy gadeirydd.

(6Wrth benodi person yn aelod, rhaid i Weinidogion Cymru neu'r Corff (yn ôl y digwydd) roi sylw i'r ffaith ei bod yn ddymunol—

(a)penodi person sydd â phrofiad o ddelio â mater sy'n berthnasol i arfer swyddogaethau'r Corff neu sydd wedi dangos gallu yn hynny o beth, a

(b)sicrhau bod amrywiaeth o sgiliau a phrofiad ar gael ymhlith yr aelodau.

Darpariaethau pellach yn ymwneud ag aelodaeth gychwynnol

3.  Ym mharagraff 2(6), mae'r cyfeiriad at swyddogaethau'r Corff yn cynnwys unrhyw swyddogaethau a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r Corff pe bai cynnig a wnaed gan Weinidogion Cymru ac sy'n dod o fewn erthygl 6(1) yn cael ei weithredu.

4.—(1Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un aelod o staff Llywodraeth Cynulliad Cymru yn aelod o'r Corff.

(2Ym mharagraff 2(1), mae'r cyfeiriad at aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru yn cynnwys aelod a enwebir o dan y paragraff hwn.

(3Bydd person a enwebir o dan y paragraff hwn yn peidio â bod yn aelod o'r Corff pan fydd yn peidio â bod yn gyflogedig gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a beth bynnag ar y dyddiad y trosglwyddir unrhyw swyddogaeth i'r Corff o ganlyniad i gynnig gan Weinidogion Cymru sy'n dod o fewn erthygl 6(1).

Deiliadaeth swydd

5.  Yn ddarostyngedig i baragraff 4(3) (pan fo'n gymwys) a pharagraffau 6 i 8—

(a)mae aelod yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau ei enwebiad neu ei benodiad;

(b)mae dirprwy gadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd honno yn unol â thelerau'r penodiad hwnnw.

6.—(1Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(2Caiff person ymddiswyddo o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Corff.

7.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo person o'i swydd fel aelod anweithredol, neu fel dirprwy gadeirydd, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.

(2Caiff y Corff ddiswyddo person o'i swydd fel aelod gweithredol drwy roi hysbysiad ysgrifenedig.

(3Ni chaniateir rhoi hysbysiad o dan y paragraff hwn ond i berson—

(a)a fu'n absennol o gyfarfodydd y Corff am gyfnod o fwy na 3 mis heb ganiatâd y Corff;

(b)sydd wedi methu â chydymffurfio â thelerau'r penodiad;

(c)sydd wedi mynd yn fethdalwr neu wedi gwneud trefniant gyda chredydwyr, y mae ei ystâd wedi ei secwestru yn yr Alban, neu sydd wedi ymuno â rhaglen trefnu dyledion o dan Ran 1 o Ddeddf Trefnu ac Atafaelu Dyledion (yr Alban) 2002 (dsa 17) fel y dyledwr neu sydd, o dan gyfraith yr Alban, wedi gwneud compównd neu drefniant gyda chredydwyr yr aelod, neu wedi rhoi gweithred ymddiriedaeth ar eu cyfer;

(d)sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, yn anaddas i barhau â'r penodiad oherwydd camymddygiad; neu

(e)sydd, ym marn y person sy'n rhoi'r hysbysiad, fel arall yn analluog, yn anaddas neu'n amharod i gyflawni swyddogaethau'r aelod.

8.—(1Bydd person yn peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd pan fydd yn peidio â bod yn aelod.

(2Bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol pan fydd yn dod yn gyflogai i'r Corff.

(3Bydd person yn peidio â bod yn aelod gweithredol pan fydd yn peidio â bod yn gyflogai i'r Corff.

9.—(1Caniateir i berson sy'n peidio â bod yn aelod, ac aelod sy'n peidio â bod yn ddirprwy gadeirydd, gael eu hailbenodi i'r swyddi hynny.

(2Ond ni chaniateir i berson sydd wedi ei ddiswyddo ar sail camymddygiad a nodir ym mharagraff 7(3)(d) gael ei ailbenodi.

Cydnabyddiaeth ariannol a phensiynau etc aelodau

10.—(1Rhaid i'r Corff dalu i'r aelodau anweithredol ac unrhyw ddirprwy gadeirydd y fath gydnabyddiaeth ariannol a'r lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud penderfyniadau gwahanol o dan yr erthygl hon mewn achosion gwahanol.

11.  Rhaid i'r Corff—

(a)talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef;

(b)talu'r fath symiau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw aelod anweithredol neu gyn-aelod anweithredol, neu mewn cysylltiad ag ef.

12.—(1Bydd yr erthygl hon yn gymwys—

(a)os bydd person yn peidio â bod yn aelod anweithredol, a

(b)os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod yna amgylchiadau arbennig sy'n ei gwneud yn briodol i'r person gael ei ddigolledu.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i'r Corff dalu i'r person y fath swm o ddigollediad ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

Staff

13.—(1Rhaid i'r Corff benodi person yn brif weithredwr.

(2Rhaid bod y person a benodwyd wedi ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru benodi'r prif weithredwr cyntaf.

(4Caiff y Corff benodi cyflogeion eraill.

14.—(1Caiff y Corff dalu i'w gyflogeion y fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir ganddo.

(2Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.

15.—(1Caiff y Corff—

(a)talu'r fath bensiynau neu arian rhodd ag a benderfynir ganddo i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef, a

(b)talu'r fath symiau ag a benderfynir ganddo tuag at ddarpariaeth ar gyfer talu pensiynau neu arian rhodd i unrhyw gyflogai neu gyn-gyflogai, neu mewn cysylltiad ag ef.

(2Dim ond gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru y caiff y Corff wneud penderfyniad o dan y paragraff hwn.

Gweithdrefn

16.—(1Caiff y Corff benderfynu ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm) a gweithdrefn ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau.

(2Caiff y Corff awdurdodi ei bwyllgorau a'i is-bwyllgorau i benderfynu eu gweithdrefn eu hunain (gan gynnwys cworwm).

(3Ond os yw penderfyniad o dan y paragraff hwn yn darparu ar gyfer cworwm unrhyw gyfarfod, ni ellir bodloni'r cworwm oni bai bod y rhan fwyaf o'r aelodau sy'n bresennol yn aelodau anweithredol.

17.  Ni chaiff unrhyw drafodyn gan y Corff neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor ei annilysu gan—

(a)swydd wag cadeirydd, na

(b)unrhyw ddiffyg ym mhenodiad unrhyw aelod.

Dirprwyo swyddogaethau

18.—(1Caiff y Corff awdurdodi un o'i bwyllgorau, ei is-bwyllgorau, ei aelodau neu ei gyflogeion i arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

(2Oni bai bod y Corff yn penderfynu fel arall, caiff un o bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o is-bwyllgorau, aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff wedi eu dirprwyo iddo.

(3Oni bai bod y Corff neu'r pwyllgor perthnasol yn penderfynu fel arall, caiff un o is-bwyllgorau'r Corff awdurdodi un o aelodau neu gyflogeion y Corff i arfer unrhyw un o swyddogaethau'r is-bwyllgor hwnnw, gan gynnwys swyddogaethau y mae'r Corff neu bwyllgor wedi eu dirprwyo iddo.

(4Caiff awdurdodiad o dan ddarpariaethau blaenorol y paragraff hwn fod yn gyffredinol neu'n benodol, a rhaid ei roi yn ysgrifenedig.

(5Rhaid i'r Corff anfon copi o'r awdurdodiad at Weinidogion Cymru.

(6Nid yw darpariaethau blaenorol y paragraff hwn yn atal y Corff (neu'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor, yn ôl y digwydd) rhag arfer y swyddogaeth o dan sylw.

Aelodaeth o bwyllgorau ac is-bwyllgorau

19.—(1Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Corff.

(2Caiff y Corff dalu'r fath gydnabyddiaeth ariannol a lwfansau ag a benderfynir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson—

(a)sy'n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor, ond

(b)nad yw'n aelod o'r Corff nac yn gyflogai iddo.

Gosod y sêl a phrofi dogfennau

20.—(1Rhaid i'r weithred o osod sêl y Corff gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)aelod o'r Corff sydd wedi ei awdurdodi (yn gyffredinol neu'n benodol) at y diben hwnnw, neu

(b)cyflogai sydd wedi ei awdurdodi felly.

(2Mae dogfen sydd i bob golwg wedi ei gweithredu'n briodol o dan sêl y Corff—

(a)i'w derbyn fel tystiolaeth, a

(b)i'w thrin fel pe bai wedi ei gweithredu felly oni ddangosir fel arall.

Cynllun Corfforaethol

21.—(1Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)llunio cynllun gan nodi sut y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol, a

(b)cyflwyno'r cynllun i Weinidogion Cymru ei ystyried.

(2Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, a

(b)blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar yr ail 31 Mawrth ar ôl i'r Corff gael ei sefydlu.

Adroddiad blynyddol

22.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)llunio adroddiad blynyddol ar sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

(b)anfon copi o'r adroddiad at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn honno.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o'r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Yn y paragraff hwn a pharagraff 23, ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth, ond blwyddyn ariannol gyntaf y Corff yw'r naill neu'r llall o'r canlynol—

(a)y cyfnod sy'n dechrau ar ddiwrnod sefydlu'r Corff ac sy'n dod i ben ar y 31 Mawrth nesaf, neu

(b)cyfnod arall, heb fod yn fwy na 2 flynedd, yn ôl cyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.

Cyfrifon

23.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i'r Corff—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â hwy, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon,

yn unol â chyfarwyddiadau Gweinidogion Cymru.

(2Rhaid i'r Corff gyflwyno'r datganiad o gyfrifon a gaiff ei lunio o dan y paragraff hwn i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid cyflwyno'r datganiad o gyfrifon ddim hwyrach na 31 Awst yn y flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn ariannol y mae'r datganiad yn ymwneud â hi.

(4Rhaid i gyfrifon a datganiadau o gyfrifon y Corff roi darlun gwir a theg o—

(a)amgylchiadau'r Corff ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a

(b)incwm a gwariant y Corff yn y flwyddyn ariannol.

(5Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru—

(a)archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrifon ac adrodd arno;

(b)rhoi copi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon, ynghyd â'i adroddiad arno, i'r Corff; ac

(c)heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl i'r datganiad o gyfrifon gael ei gyflwyno, gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r datganiad ardystiedig o gyfrifon a'r adroddiad.

Gwybodaeth

24.—(1Rhaid i'r Corff roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt yn ymwneud ag eiddo'r Corff neu â chyflawni ei swyddogaethau neu â'r ffordd y mae'n bwriadu cyflawni ei swyddogaethau.

(2Rhaid i'r Corff hefyd—

(a)caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru arolygu unrhyw gyfrifon, dogfennau neu gofnodion eraill y Corff (ar unrhyw ffurf), a gwneud copïau ohonynt, a

(b)rhoi unrhyw esboniad arnynt y mae ei angen ar y person hwnnw neu Weinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill